Landlordiaid masnachol: amddiffynnwch eich hun rhag trosedd gwastraff

Os ydych yn lesio safleoedd masnachol, dylech gymryd camau i amddiffyn eich hun rhag trosedd gwastraff.

Gall troseddwyr gwastraff dargedu eich safle drwy storio gwastraff yno'n anghyfreithlon.  Gallent achosi difrod i'ch tir a'ch adeiladau a chreu amodau ar gyfer tanau gwastraff.

Gall y costau i chi, o ran atgyweirio a gwaredu, fod yn uchel. Gallech hefyd fod yn atebol yn droseddol am weithrediadau gwastraff anghyfreithlon eich tenant.

Gwnewch wiriadau ar eich darpar denantiaid

Cyn lesio eiddo neu dir, dylech wneud y canlynol:

  • gwirio hunaniaeth y tenant a'i gyfeiriad preswyl
  • croeswirio'r wybodaeth y mae’n ei darparu i chi am y busnes gyda gwybodaeth a gedwir gan Dŷ'r Cwmnïau
  • gwirio a yw'r swyddfa gofrestredig mewn lleoliad anarferol, nad yw'n amlwg ei fod yn gysylltiedig â busnes y tenant
  • gwirio a oes gan y cwmni – neu ei gyfarwyddwyr – unrhyw hanes o gamau gorfodi, erlyn neu ansolfedd, neu a yw'n gwmni newydd heb lawer o hanes credyd
  • cael gwybodaeth ynglŷn â'r hyn y mae'n cynllunio i'w wneud yn eich eiddo. Byddwch yn wyliadwrus os yw'n dweud ei fod am storio gwastraff dros dro cyn iddo gael ei ailgylchu – mae'n bosibl nad dyma yw ei fwriad
  • gwirio bod maint eich eiddo yn briodol ar gyfer yr hyn y mae'n bwriadu ei wneud
  • sicrhau eich bod yn gweld tystiolaeth o drwyddedau'r darpar denant. Gwiriwch y tenant drwy ddefnyddio ein cofrestr gyhoeddus

Gwiriwch delerau eich les

Ystyriwch a yw telerau eich les yn ei gwneud yn bosibl i chi reoli'r denantiaeth. Gallai eich les gynnwys telerau sy'n:

  • cynnwys rhwymedigaethau ar y tenant i wneud y canlynol:
    • darparu copïau o nodiadau trosglwyddo gwastraff
    • darparu copïau o adroddiadau cydymffurfiaeth yn dilyn ymweliadau â'r safle gan swyddogion CNC
  • ei gwneud yn bosibl i chi gynnal archwiliadau unrhyw bryd a heb rybudd
  • cynnwys bondiau ariannol neu warantau personol gan gyfarwyddwyr gweithrediadau gwastraff. Gallai hyn leihau'r tebygolrwydd y byddwch yn atebol am dalu costau neu ddirwyon mewn perthynas â gwastraff

Cynhaliwch archwiliadau yn rheolaidd

Sicrhewch eich bod yn deall yr hyn sy'n digwydd ar safle'ch  eiddo drwy gynnal archwiliadau yn rheolaidd. Dylech bob amser wirio bod yr hyn y mae'n ei wneud yn unol â'r trwyddedau amgylcheddol ar gyfer y gweithgaredd dan sylw. 

Byddwch yn effro i hysbysiadau ynglŷn â'r canlynol:

  • mwy o symudiadau lorïau nag y byddech yn ei ddisgwyl ar gyfer ei fath ef o fusnes
  • gweithgareddau'n cael eu cyflawni ar y safle ar bob adeg o'r dydd a'r nos
  • tystiolaeth o arogleuon amheus neu blâu
  • cwynion gan denantiaid cyfagos

Gallai'r rhain fod yn arwydd nad yw eich tenantiaid yn gweithredu yn unol â'r hyn y dywedon nhw wrthych.

Cymerwch gamau gweithredu ar unwaith

Os ydych yn darganfod problemau ar y safle, cymerwch gamau gweithredu ar unwaith. Rhaid i chi ddangos na fyddwch yn caniatáu i'r gweithgareddau hyn barhau.

Rhowch wybod i ni am broblemau ar unwaith drwy roi gwybod am ddigwyddiad (24 awr y dydd, saith diwrnod yr wythnos). 

Gwnewch hi'n glir i denantiaid nad ydych yn caniatáu i ragor o wastraff ddod ar eich safle. 

Eich cyfrifoldebau cyfreithiol

Mae'n drosedd caniatáu i wastraff a reolir gael ei gadw ar eich safle nad oes trwydded neu esemptiad priodol yn ei le ar ei gyfer. 

Fel landlord, nid oes rhaid i chi ymwneud yn uniongyrchol â'r gwastraff i fod yn atebol am gyflawni gweithgarwch troseddol.

Ni fydd gennych amddiffyniad os ydych yn dweud nad oeddech yn gwybod bod gweithgarwch gwastraff yn anghyfreithlon, ond eich bod yn gwybod ei fod yn digwydd a'ch bod wedi caniatáu iddo barhau.

Diweddarwyd ddiwethaf