Adnabod, rhoi gwybod am blâu ac afiechydon coed a’u rheoli
Adnabod plâu ac afiechydon
Pa un ai eich bod yn weithiwr coedwigaeth proffesiynol neu’n ymwelydd i’r goedwig, dewch o hyd i wybodaeth a fydd yn eich cynorthwyo i adnabod plâu ac afiechydon ar wefan Forest Research.
Rhowch wybod!
Rhowch gymaint o wybodaeth a phosib ynglŷn â’r hyd rydych wedi’i weld, ym mha le a’r rhywogaeth sydd wedi’i heffeithio.
Dyletswydd gweithwyr proffesiynol i roi gwybod am bryderon
Mae gan weithwyr coedwigaeth proffesiynol yn enwedig ddyletswydd statudol i adrodd am rai plâu a chlefydau dan Orchymyn Iechyd Planhigion (Coedwigaeth) 2005.
Os oes unrhyw amheuaeth gennych chi ynglŷn ag adrodd am eich pryderon, byddwch cystal â chysylltu â ni ar treehealth@naturalresourceswales.gov.uk
Rhybudd cynnar am blâu ac afiechydon: Observatree
Er mwyn ceisio atal sefydliad a lledaeniad plâu ac afiechydon ar draws y DU, sefydlwyd system rhybudd cynnar i goed o’r enw Observatree.
Mae’n annog gweithwyr coedwigaeth proffesiynol a phobl sydd ynghlwm a choed i gadw golwg ar, a rhoi gwybod am unrhyw bla neu afiechyd posib cyn gynted â phosib.
Mae’n brosiect gwyddoniaeth y dinesydd cydweithredol, wedi’i arwain gan Forestry Research mewn cydweithrediad ag eraill, gan gynnwys Cyfoeth Naturiol Cymru. Nod y rhaglen yw :
- Hyrwyddo’r mwy o gadw golwg am blâu ac afiechydon coed
- Annog pobl i roi gwybod am unrhyw bryderon trwy Tree Alert (TreeCheck yng Ngogledd Iwerddon)
- Darparu rhwydwaith DU o dros 200 o wirfoddolwyr sydd wedi’u hyfforddi
- Rhannu gwybodaeth ac adnoddau ar blâu ac afiechydon coed allweddol
- Ymchwilio i systemau iechyd coed Ewropeaidd tebyg er mwyn rhannu arfer da
Gwirfoddolwyr
Mae’r prosiect wedi sefydlu rhwydwaith craidd o dros 200 o wirfoddolwyr Observatree wedi’u hyfforddi sy’n cefnogi swyddogion a gwyddonwyr iechyd coed trwy ymgymryd ag ystod eang o waith arolwg a chynorthwyo gyda phrosesu a dilysu adroddiadau iechyd coed.
Darganfyddwch mwy
Darganfyddwch mwy am Observatree a chofrestrwch i dderbyn diweddariadau.
Gall bawb helpu
Mae arolygwyr Cyfoeth Naturiol Cymru, y Comisiwn Coedwigaeth a'r Asiantaeth Iechyd Anifeiliaid a Phlanhigion (APHA), sydd wedi cael hyfforddiant pwrpasol, yn cynnal arolygon yn rheolaidd ac ar frys. Maen nhw'n chwilio coedydd, porthladdoedd, meithrinfeydd coed a lleoliadau eraill ledled Cymru am arwyddion o blâu a chlefydau.
Ond gall unrhyw un a phawb ein helpu i gadw golwg ar fygythiadau - ac i ymateb iddyn nhw'n brydlon - trwy adnabod symptomau clefydau a rhoi gwybod i ni am unrh