Canllaw Maes Cydnerthedd Ecosystemau
Ynglŷn â'r canllaw hwn
Pwrpas y canllaw hwn yw tynnu sylw at bwysigrwydd cydnerthedd ecosystemau ac annog camau ymarferol y gellir eu cymryd i'w adeiladu ledled Cymru. Mae'n cynnwys enghreifftiau o'r gweithredoedd niferus ac amrywiol y mae'n rhaid i ni wneud mwy ohonynt. Nid yw llawer o'r gweithredoedd a amlygwyd yn newydd. Ein her yw sicrhau bod gweithredoedd yn cael eu mabwysiadu ar y cyd yn hytrach nag yn unigol, a chynyddu arwynebedd y tir sy'n cael ei reoli gyda chydnerthedd mewn golwg yn gyflym. Po fwyaf o gamau a gymerwn, y mwyaf cydnerth y bydd ein hecosystemau yn dod, a'r mwyaf tebygol y bydd y gwasanaethau ecosystemau, yr ydym i gyd yn dibynnu arnynt am ein llesiant, yn cael eu sicrhau. O wneuthurwyr polisi a phenderfyniadau i reolwyr tir, cyrff cyhoeddus a deiliaid tai, mae gan bawb ran i'w chwarae.
Beth yw cydnerthedd ecosystemau a pham ei fod yn bwysig?
Mae ecosystemyn grŵp o organebau rhyng-gysylltiedig (anifeiliaid, planhigion a microbau) a'u hamgylchedd ffisegol a geir mewn ardal benodol – er enghraifft, mynyddoedd, afonydd neu goetiroedd. Cydnerthedd ecosystem yw gallu ecosystem i ddelio â phwysau a galwadau, naill ai trwy eu gwrthsefyll, adfer ar eu holau, neu addasu iddynt, wrth gadw ei gallu i ddarparu gwasanaethau a buddion ecosystemau yn awr ac at y dyfodol. Mae ecosystem gydnerth yn dangos lefel dda o'r canlynol:
- Amrywiaeth – amrywiaeth ar wahanol lefelau a graddfeydd, gan gynnwys amrywiaeth enetig, amrywiaeth o ran rhywogaethau, amrywiaeth o fewn a rhwng ecosystemau, ac amrywiaeth strwythurol er enghraifft.
- Ehangder – lle mae ei harwynebedd yn ddigon mawr i gynnal poblogaethau, cynnal prosesau ecolegol, ac ymdopi ag effeithiau ymyl negyddol fel ysglyfaethu.
- Cyflwr – lle mae effeithiau pwysau a galwadau’n cael eu rheoli'n gadarnhaol fel y gall yr amgylchedd ffisegol gynnal ystod gynhwysfawr o organebau a phoblogaethau iach.
- Cysylltedd – lle gall organebau symud o fewn a rhwng gwahanol ecosystemau, o chwilota am fwyd neu unigolion yn mudo, trwy wasgaru hadau a genynnau, i’r prif newidiadau i boblogaethau rhywogaethau i addasu i hinsawdd sy'n newid.
Daw cydnerthedd ecosystemau o ganlyniad i gydadweithio rhwng yr agweddau hyn, gan ganiatáu i ecosystemau addasu, adfer a gwrthsefyll pwysau a gofynion yn haws.
Pam dylen ni ofalu am gydnerthedd?
Mae ecosystemau cydnerth yn darparu llawer o wasanaethau ecosystemau yr ydym i gyd yn dibynnu arnynt am ein bodolaeth barhaus. Mae'r gwasanaethau hyn yn aml yn cael eu cuddio o'r golwg ond maent yn sail i'n llesiant, gan gynnwys ein ffyniant, ein hiechyd, ein diwylliant a'n hunaniaeth. Mae ecosystemau cydnerth yn cynnal llyfrgell enetig, yn cadw ac yn adfywio pridd, yn sefydlogi nitrogen, yn ailgylchu maethynnau, yn rheoli llifogydd, yn lliniaru sychderau, yn hidlo llygryddion, yn cymathu gwastraff, yn peillio cnydau, yn gweithredu'r cylch hydrolegol ac yn storio carbon.
Mae Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) a Deddf yr Amgylchedd (Cymru) yn cydnabod bod dyletswydd arnom i gynnal a gwella cydnerthedd ein hecosystemau ar gyfer ein bodolaeth barhaus ein hunain ac ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol. Adlewyrchir y ddyletswydd hon mewn llawer o bolisïau, gan gynnwys Polisi Adnoddau Naturiol Llywodraeth Cymru, Polisi Cynllunio Cymru a'r Cynllun Gweithredu Adfer Natur.
Pa mor gydnerth yw ecosystemau yng Nghymru?
Mae bioamrywiaeth – amrywiaeth yr holl fywyd ar y Ddaear – yn ddangosydd allweddol o iechyd a chydnerthedd ecosystemau ond mae wedi gweld gostyngiad cyffredinol o 60% mewn rhywogaethau ledled y byd ers 1970. Mae'r Cenhedloedd Unedig yn rhagweld y bydd miliwn o'r wyth miliwn o rywogaethau ar y blaned wedi diflannu erbyn 2039.
Mae'r Adroddiad ar Sefyllfa Adnoddau Naturiol, sy'n ofynnol o dan Ddeddf yr Amgylchedd (Cymru), yn darparu asesiad rheolaidd inni o'r graddau y mae cydnerthedd ecosystemau yn cael ei gyflawni yng Nghymru. Mae’r Adroddiad ar Sefyllfa Adnoddau Naturiol (2020) yn nodi'r canlynol am Gymru:
- Mae'r mwyafrif o gynefinoedd lled-naturiol wedi gweld gostyngiad mewn amrywiaeth dros y 100 mlynedd diwethaf, gyda chyfradd y dirywiad yn cynyddu o'r 1970au ymlaen.
- Dim ond 31% o'r wlad sy'n cynnwys cynefin lled-naturiol. Mae o leiaf 40% o gynefinoedd lled-naturiol Cymru wedi'u gwasgaru mewn darnau bach iawn sy'n awgrymu cydnerthedd isel.
- Ychydig iawn o gynefinoedd lled-naturiol yr adroddir eu bod mewn cyflwr da oherwydd gwahanol fathau o bwysau. Mae cynefinoedd dŵr croyw, er enghraifft, yn cael eu heffeithio yn bennaf gan orfaethu ac addasiadau ffisegol.
- Mae cysylltedd ar ei isaf mewn cynefinoedd lled-naturiol yn yr iseldir, lle mae'r dirwedd wedi'i symleiddio trwy golli cynefinoedd lled-naturiol ac mae tir sydd wedi'i reoli'n ddwys yn drechaf.
Mae’r Adroddiad ar Sefyllfa Adnoddau Naturiol hefyd yn dweud wrthym fod llesiant bodau dynol yng Nghymru, ac o amgylch y blaned, yn cael ei fygwth gan fethiant ecolegol ac amgylcheddol. Mae amser yn brin i ymateb i'r argyfwng hwn ac osgoi sefyllfa drychinebus i Gymru a'r byd. Mae angen i adeiladu cydnerthedd ecosystemau fod yn sail i ymateb cyflym ac uniongyrchol.
Beth sy'n effeithio ar gydnerthedd ecosystemau?
Mae ecosystemau a thirweddau Cymru yn lleoedd hardd a deinamig sydd wedi cael eu siapio gan aneddiadau dynol ac arferion rheoli dros gannoedd a miloedd o flynyddoedd. Mae ei hinsawdd, tirffurf, cynefinoedd a phriddoedd wedi’u haddasu gan ffactorau cydgysylltiedig, gan gynnwys arferion diwylliannol, angen cymdeithasau am fwyd a chynhyrchion pren, blaenoriaethau polisi’r llywodraeth, a grymoedd y farchnad.
Mae rhai o'r prif bethau sy'n effeithio ar gydnerthedd ein hecosystemau, fel y'u nodwyd yn yr Adroddiad ar Sefyllfa Adnoddau Naturiol, yn cynnwys y canlynol:
- Y newid yn yr hinsawdd, gan gynnwys stormydd a thywydd poeth amlach a mwy difrifol, gan arwain at fwy o lifogydd, erydiad arfordirol a phridd a sychder, gan arwain at ddirywiad yn amrywiaeth, cyflwr ac ehangder llawer o'n hecosystemau.
- Dwysáu amaethyddol, sydd wedi arwain at ostyngiad dramatig yng nghysylltedd, amrywiaeth ac ehangder llawer o ecosystemau wrth i fwy o dir gael ei ddefnyddio at ddibenion amaethyddol, ac wrth i’r rheolaeth o bori, maethynnau a chemegion ddwysáu.
- Llygredd aer o ddiwydiant, trafnidiaeth a rhai arferion ffermio sy'n achosi gorfaethu, yn bennaf o ganlyniad i allyriadau cyfansoddion nitrogen. Mae'r llygryddion hyn yn niweidio ansawdd pridd a dŵr, gan arwain at ddirywiad mewn cyflwr ac amrywiaeth ar draws nifer o ecosystemau.
- Llygredd dŵr a all ddigwydd o ollwng carthion a dŵr gwastraff, dŵr glaw yn fflysio llygryddion o adeiladau a ffyrdd, dŵr ffo o arferion rheoli tir gwael a gollyngiadau halogedig o fwyngloddiau, gan arwain at ddirywiad yng nghyflwr ac amrywiaeth ecosystemau dŵr croyw.
- Rheoli ecosystemau yn annigonol, er enghraifft glaswelltir lled-naturiol a rhai coetiroedd lled-naturiol sy'n dibynnu ar ddwysedd isel neu reolaeth draddodiadol i gynnal eu cyflwr a'u hamrywiaeth.
- Adeiladu amddiffynfeydd rhag llifogydd, carthu gwaddodion afonydd a sythu sianeli, sy'n datgysylltu afonydd o'u dalgylchoedd, gan gyfyngu ar eu prosesau naturiol a deinamig a lleihau eu cyflwr a'u hamrywiaeth.
- Datblygiad dynol ar ein harfordiroedd, sy'n newid eu prosesau naturiol a deinamig yn artiffisial ac yn lleihau eu ehangder, eu cyflwr a'u hamrywiaeth.
- Rhywogaethau, plâu a chlefydau estron goresgynnol sy'n fygythiad i lawer o ecosystemau, gan leihau eu hamrywiaeth a'u cyflwr. Mae hon yn broblem benodol mewn coetiroedd ac amgylcheddau dŵr croyw.
Adeiladu cydnerthedd ecosystemau yng Nghymru
Mae Cymru yn dechrau mynd i’r afael â’r pwysau niferus sy’n effeithio ar gydnerthedd ei hecosystemau trwy ddefnyddio’r nodau llesiant a’r ffyrdd o weithio o dan
Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru), ynghyd ag egwyddorion Rheoli Adnoddau Naturiol yn Gynaliadwy o Ddeddf yr Amgylchedd (Cymru), i fapio'r llwybr ymlaen. Bydd hyn yn golygu rheoli adnoddau naturiol ac ecosystemau Cymru i sicrhau bod y buddion y maent yn eu darparu ar gyfer ein llesiant cymdeithasol, economaidd, amgylcheddol a diwylliannol ar gael yn awr ac ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol.
Trwy gymryd camau unigol a chyfunol i wella cydnerthedd ein hecosystemau, o goedwigoedd, rhostiroedd, gwlyptiroedd ac afonydd i laswelltiroedd a thwyni tywod cyfoethog eu rhywogaethau, gallwn sicrhau y bydd ein tir yn parhau i weithredu er budd ein bywyd gwyllt, ein cnydau bwyd a phren, ac ansawdd ein bywyd ein hunain.
Mae'r adrannau canlynol o'r canllaw yn dangos sut olwg fyddai ar dirweddau yng Nghymru yn 2050 os cymerir camau yn awr i wella cydnerthedd eu hecosystemau. Dewiswyd y ffrâm amser deng mlynedd ar hugain hon i adlewyrchu'r isafswm amser y gall ei gymryd i adfer rhai ecosystemau i gyflwr gweithredol fel y gallech elwa o'r gwasanaethau y maent yn eu darparu.
Efallai y bydd angen cyfnodau llawer hirach o amser ar ecosystemau eraill i wneud hyn. Bwriad y lluniau a ddefnyddir yw arddangos y mathau o ymyriadau sydd ar gael mewn pedwar lleoliad tirwedd bras: “iseldir”, “ucheldir”, “arfordirol” a “threfol”. Er bod y lluniau hyn yn seiliedig ar ffotograffau o leoedd go iawn yng Nghymru, ni fwriedir iddynt gael eu hystyried yn argymhellion ar gyfer y lleoliadau penodol hyn, ond i ddangos yr hyn a allai fod yn bosibl ar gyfer y math o dirwedd gyffredinol a ddangosir.
Adeiladu cydnerthedd ecosystemau yn yr iseldiroedd
Mae iseldiroedd Cymru yn lleoedd lle mae llawer o bobl yn byw, a lle mae llawer o'n bwyd yn cael ei gynhyrchu. Ar wahân i dir fferm ac ardaloedd trefol, maent yn cynnwys ardaloedd pwysig, cyfoethog eu rhywogaethau, o laswelltiroedd, coetiroedd, rhosydd, afonydd, llynnoedd, pyllau a chynefinoedd gwlyptir. Mae pwysau penodol ar bob un o'r cynefinoedd hyn, ac felly mae angen cymryd ystod o gamau i helpu i gynyddu cydnerthedd cyffredinol ecosystemau yn yr iseldiroedd.
Mae angen i ni wneud mwy o'r camau canlynol fel blaenoriaeth i adeiladu cydnerthedd ecosystemau yn yr iseldiroedd:
- Rheoli safleoedd gwarchodedig, er enghraifft Safleoedd o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig, i gyflawni cyflwr ffafriol neu gyflwr adfer ffafriol, ac ardaloedd eraill sy'n cynnwys cynefinoedd â blaenoriaeth ac sy'n cynnal rhywogaethau â blaenoriaeth mewn ffordd debyg – mae hyn yn cynnal cyflwr llecynnau cyfoethog o ran bioamrywiaeth.
- Cynyddu maint safleoedd gwarchodedig a chynefinoedd â blaenoriaeth trwy adfer a chreu cynefinoedd – mae hyn yn cynyddu ehangder ac yn gwella sefydlogrwydd a dibynadwyedd llawer o wasanaethau ecosystemau.
- Plannu coetiroedd newydd, a lle bo hynny'n briodol, dod â mwy o goetiroedd yn ôl i reolaeth gynlluniedig – mae hyn yn cynyddu ehangder, amrywiaeth a chyflwr, yn lleihau perygl llifogydd, yn storio carbon, ac yn darparu cyfleoedd hamdden.
- Ailgysylltu afonydd â'u gorlifdiroedd – mae hyn yn gwella eu cyflwr, eu hamrywiaeth a’u cysylltedd, ac yn helpu i leihau peryglon llifogydd a sychder.
- Plannu coed i lenwi bylchau mewn gwrychoedd ac i greu gwrychoedd newydd – mae hyn yn gwella cysylltedd ac amrywiaeth cynefinoedd, yn storio carbon, yn amddiffyn priddoedd a dŵr, ac yn gwella arferion rheoli plâu.
- Plannu coed ar hyd cyrsiau dŵr – mae hyn yn gwella eu cyflwr, eu hamrywiaeth, eu hehangder a’u cysylltedd, yn amddiffyn ansawdd dŵr, ac yn storio carbon.
- Rheoli pridd i warchod deunydd organig ac atal neu adfer cywasgiad – mae hyn yn gwella cyflwr ac amrywiaeth ecosystem y pridd, yn gwella cynnyrch cnydau, ac yn lleihau costau ffermydd wrth leihau perygl llifogydd ar yr un pryd.
- Rheoli mewnbynnau maethynnau i'w hatal rhag rhedeg i mewn i nentydd ac afonydd – mae hyn yn gwella cyflwr ac yn lleihau costau ffermydd.
- Ffermio cynaliadwy, gan gynnwys defnydd cynyddol o systemau amaeth-goedwigaeth a chnydio cymysg, i gynnal cynhyrchu bwyd wrth gynnal a gwella ystod o wasanaethau ecosystemau eraill, megis bioamrywiaeth, rheoleiddio llifogydd a storio carbon.
Yr iseldir heddiw
Golygfa nodweddiadol o'r iseldir lle mae'r tir wedi'i rannu'n gaeau rheolaidd, wedi'i ffinio â gwrychoedd a rhai coed talach. Mae'r holl gaeau'n cael eu rheoli yn yr un modd, ar gyfer porfa. Yn y blaendir, mae afon droellog heb ffens. Yn y cefndir, mae bryniau mwyn a stribedi cul o goetir llydanddail.
Yr iseldir yn 2050
Mae golygfa'r iseldir wedi newid i gynnwys defnydd tir amrywiol iawn o fewn gwahanol gaeau; mae rhai o'r caeau'n dal i gynnwys glaswellt, ond mae eraill yn cynnwys gwahanol fathau o gnydau, gydag ymylon caeau yn darparu coridorau bywyd gwyllt. Plannwyd perllan fach, ac mae un cae yn cynnwys twneli polythen ar gyfer garddwriaeth. Mae'r gwrychoedd sy'n ffinio â'r caeau yn fwy ac yn brysurach oherwydd rheolaeth hamddenol. Plannwyd rhai coed caeau newydd, a chadwyd coed sydd wedi marw. Mae'r afon bellach wedi'i ffensio i ffwrdd o'r da byw, ac mae gwaith adfer cynefinoedd wedi digwydd ar hyd ymylon yr afon. Yn y cefndir, mae blociau o goetir llydanddail newydd wedi'u plannu.
Mwy o weithredoedd
Syml weithredoedd:
- Hau â dril ac amaethu cadwraeth
- profion pridd rheolaidd
- cynyddu’r gallu i storio slyri
- lleihau amlder torri gwrychoedd
- gwasgaru maethynnau yn ystod tywydd ffafriol yn unig
- creu ymylon caeau, lleiniau clustogi, a phyllau ar gyfer storio dŵr
- prynu bwyd a chynhyrchion pren sydd â labeli cynaliadwy
- ffermio manwl er mwyn gwasgaru maethynnau mewn ffordd dargededig iawn
Anturus weithredoedd:
- Rheolwyr tir yn gweithio ar y cyd i wella cysylltedd ac ehangder cynefinoedd
- cynyddu'r defnydd o gynhyrchion coedwig, er enghraifft wrth adeiladu
- addasu neu symud adeileddau peirianneg caled mewn afonydd, e.e. coredau ac amddiffynfeydd rhag llifogydd (lle bo hynny'n briodol)
- ailgyflwyno rhywogaethau allweddol
- darparu digon o le i afonydd symud yn ddeinamig
- datblygu cynlluniau ardystiedig ar gyfer gwasanaethau ecosystemau a marchnadoedd cysylltiedig
- cael gwared ar gemegion a phlaladdwyr yn raddol ar dir
- newid i arferion ffermio lle nad yw'r tir yn cael ei drin / yn cael ei drin yn llai ac amaeth-goedwigaeth
Taith yr iseldiroedd tuag at 2050
Plannu coed i arallgyfeirio incwm ffermydd a darparu cysgod i anifeiliaid pori, gan wella lles anifeiliaid a storio carbon; mae hyn yn cynyddu ehangder ac amrywiaeth cynefinoedd.
Rheoli coetiroedd i greu ystod amrywiol o oedrannau coed, rhywogaethau coed a mathau strwythurol o goed, gan wella cyflwr ac amrywiaeth cynefinoedd.
Adfer a chreu cynefinoedd iseldir, fel glaswelltiroedd lled-naturiol a gwlyptiroedd, i gynyddu amrywiaeth, cyflwr, ehangder a chysylltedd.
Mae gwrychoedd parhaus ac ymylon caeau yn darparu coridorau i fywyd gwyllt symud ar eu hyd, a storio carbon pan gânt eu rheoli'n ymatebol; mae hyn yn cynyddu cysylltedd cynefinoedd.
Mae model ffermio cymysg gyda chylchdroadau cnydau amrywiol, ynghyd â da byw, amaeth-goedwigaeth a pherllannau, yn cynnal bywyd gwyllt yn ogystal â chynnal ffrwythlondeb y pridd a rheoli plâu a chlefydau; mae hyn yn cynyddu amrywiaeth a chyflwr.
Mae plannu glan yr afon yn lleihau erydiad pridd a mewnbynnau gwaddod i gyrsiau dŵr, yn darparu cysgodi a maethynnau buddiol i gyrsiau dŵr, ac yn gwella cyflwr.
Mae ffensio cyrsiau dŵr yn creu llain glustogi i atal mynediad gan dda byw, gan leihau erydiad pridd a mewnbynnau gwaddod i gyrsiau dŵr, a gwella amrywiaeth a chyflwr.
Adeiladu cydnerthedd ecosystemau yn yr ucheldiroedd
Mae ucheldiroedd Cymru yn dirwedd werthfawr iawn sy'n derbyn llawer o ymwelwyr hamdden. Maent yn dirwedd fyw sydd â hanes hir o reoli, a heddiw mae cymunedau ffermio tir uchel yn chwarae rhan bwysig wrth gynnal y Gymraeg.
Mae’r ucheldiroedd yn cynnwys rhai o ecosystemau mwy cydnerth Cymru, sy’n bwysig am eu bioamrywiaeth a’u gallu i liniaru’r newid yn yr hinsawdd trwy ddal carbon. Mae'r ffordd y mae cynefinoedd yn yr ucheldiroedd yn cael eu rheoli yn effeithio'n sylweddol ar ardaloedd i lawr yr afon, yn benodol o ran ansawdd dŵr a pherygl llifogydd. Felly, gall cynyddu cydnerthedd ecosystemau yn yr ucheldiroedd ddarparu buddion i lawer o ecosystemau a chymunedau eraill a chymdeithas. Mae'r canlynol ymhlith y camau â blaenoriaeth y mae angen i ni wneud mwy ohonynt:
- Cynyddu amrywiaeth cyfundrefnau pori, i gynnwys defaid a gwartheg. Rheoli lefelau stocio i wella cyflwr ac amrywiaeth ecosystemau yn yr ucheldiroedd. Gallai hyn gynnwys naill ai gostyngiad neu gynnydd mewn pori o'r lefelau cyfredol.
- Rheoli safleoedd gwarchodedig, er enghraifft Safleoedd o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig, i gyflawni cyflwr ffafriol neu gyflwr adfer ffafriol, ac ardaloedd eraill sy'n cynnwys cynefinoedd â blaenoriaeth ac sy'n cynnal rhywogaethau â blaenoriaeth mewn ffordd debyg – mae hyn yn cynnal cyflwr llecynnau cyfoethog o ran bioamrywiaeth.
- Osgoi llosgi cylchdro, a brwydro yn erbyn tanau gwyllt a llosgi bwriadol er mwyn cynyddu ehangder a chyflwr rhostiroedd.
- Cynyddu gorchudd coed a rheoli llwybrau dŵr ffo mewn lleoliadau priodol, i wella amrywiaeth, cysylltedd a chyflwr cynefinoedd dŵr croyw, a lleihau'r risg o lifogydd.
Yr ucheldir heddiw
Golygfa o'r ucheldir yn cynnwys defaid yn pori yn y blaendir. Mae'r ardaloedd pori yn agored iawn eu cymeriad, gyda rhai gwrychoedd wedi torri a llinellau o goed. Mae dau floc hirsgwar mawr o blanhigfa gonwydd un rhywogaeth yn dominyddu'r ardal ganolog. Mae sbardunau sy'n cyd-gloi yn dynodi presenoldeb cwm afon. Mae'r bryn yn codi y tu ôl i'r goedwig; ar draws y copa, mae cynefin gweundir i'w weld. Mae sawl nant blaenddwr fach yn torri trwy ran fwyaf serth y llethr. Wedi'i amgylchynu gan redyn.
Yr ucheldir yn 2050
Mae golygfa'r ucheldir wedi newid i gynnwys mwy o amrywiaeth o anifeiliaid pori – gwartheg a defaid. Mae glastir y glaswelltir yn fwy garw ac yn fwy amrywiol, ac mae dau gerddwr yn bresennol, yn astudio'r ardal ag ysbienddrych. Mae gwrychoedd a oedd yn bodoli eisoes wedi cael eu hadfer fel eu bod yn barhaus ac yn fwy prysur; plannwyd gwrychoedd a lleiniau cysgodi newydd, gan gynnwys gwrych sydd wedi'i blannu’n groes i rediad y tir. Mae pwll wedi'i greu. Mae rhan o'r blanhigfa gonwydd wedi'i chwympo, ar ôl cyrraedd ei hoedran cynaeafu; ailblannwyd yr ardal gyda chymysgedd o rywogaethau llydanddail brodorol. Yn y cefndir, ar ben y bryn, mae'r gweundir wedi'i adfer, ac mae mwy o orchudd o rug. Plannwyd coed a chaniatawyd i adfywio naturiol ddigwydd ar y llethrau serth wrth ochr y nentydd blaenddwr.
Mwy o weithredoedd
Syml weithredoedd:
- Argaeau yn gollwng (adeileddau wedi'u gwneud o goed naturiol ar draws afonydd sy'n caniatáu rhywfaint o ddŵr drwodd) mewn blaenddyfroedd
- annog mwy o orchudd coed trwy adfywio naturiol lle bo hynny'n briodol
- pori gan bridiau cydnerth traddodiadol
- plannu gwrychoedd a lleiniau cysgodi
- blocio draeniau ar fawndir i adfer y cydbwysedd dŵr naturiol
Anturus weithredoedd:
- Datblygu cyfleoedd twristiaeth a hamdden cynaliadwy
- sefydlogi/adfer rwbel mwyngloddiau
- newid i goedwigaeth gorchudd parhaus, lle bo hynny'n briodol, gyda mwy o amrywiaeth o ran oedran coed a chyfansoddiad rhywogaethau
- datblygu cynlluniau ardystiedig ar gyfer gwasanaethau ecosystemau a marchnadoedd cysylltiedig
- rheolwyr tir yn gweithio ar y cyd i wella cysylltedd ac ehangder cynefinoedd
- cael gwared ar gemegion a phlaladdwyr yn raddol ar dir
- newid i arferion ffermio lle nad yw'r tir yn cael ei drin / yn cael ei drin yn llai ac amaeth-goedwigaeth.
Taith yr ucheldiroedd tuag at 2050
Adfer mawndir, gan gynnwys blocio draeniau; mae hyn yn cynyddu ehangder cynefinoedd, yn gwella cyflwr cynefinoedd, ac yn lleihau'r risg o lifogydd.
Rheoli coetiroedd yn unol â Safon Goedwigaeth y DU, gan gynnwys, lle bo hynny'n briodol, cynyddu cyfran y rhywogaethau coed llydanddail yn raddol; mae hyn yn cynyddu amrywiaeth, cyflwr ac ehangder.
Adfywio coed a rhostiroedd ar hyd blaenddyfroedd; mae hyn yn cynyddu amrywiaeth a chysylltedd cynefinoedd, ac yn lleihau llifoedd dros y tir a pherygl llifogydd i lawr yr afon.
Mae plannu lleiniau cysgodi a gwrychoedd yn cynyddu cysylltedd cynefinoedd a rheoleiddio llifogydd, yn lleihau erydiad pridd, yn gwella ansawdd dŵr, ac yn gwella lles da byw mewn tywydd poeth ac oer.
Pori gyda bridiau cydnerth traddodiadol ar lefelau sy'n gwella amrywiaeth y glastir; mae hyn yn gwella cyflwr cynefinoedd ac yn cefnogi cymunedau ffermio.
Creu pyllau ar gyfer storio dŵr; mae hyn yn cynyddu ehangder a chysylltedd cynefinoedd gwlyptir ac yn darparu gwell cyflenwad dŵr.
Adeiladu cydnerthedd ecosystemau ar yr arfordir
Mae ecosystemau arfordirol cydnerth yn lleoedd deinamig, yn newid yn gyson oherwydd prosesau erydu a dyddodi tywod a gwaddod naturiol, a datblygiad graddol cymunedau planhigion ac anifeiliaid.Ardaloedd arfordirol yw'r rhyngwyneb rhwng y tir a'r amgylchedd morol.
- Adfer twyni tywod, morfeydd heli a chynefinoedd arfordirol eraill i greu llain cynefin ehangach; mae hyn yn ailsefydlu trawsnewidiadau naturiol rhwng tir a môr, yn cynyddu ehangder, amrywiaeth, cyflwr a chysylltedd cynefinoedd, ac yn gwella amddiffynfeydd arfordirol a chyfleoedd hamdden.
- Cynyddu maint y cynefin morfa heli; mae hwn yn storio carbon ac yn darparu amddiffyniad naturiol rhag llifogydd.
- Gwneud addasiadau arfordirol i newid yn yr hinsawdd; mae hyn yn lleihau gwasgfa arfordirol – colli cynefinoedd y draethlin lle cânt eu hatal rhag symud tua'r tir gan amddiffynfeydd môr sefydlog wrth i lefel y môr godi – a pherygl llifogydd, ac yn galluogi cynefinoedd arfordirol i addasu'n naturiol i godiad yn lefel y môr ac erydiad.
- Rheoli lefelau stocio, gan gynnwys naill ai gostyngiad neu gynnydd mewn pori o'r lefelau cyfredol fel sy'n briodol – i wella cyflwr ac amrywiaeth cynefinoedd.
- Lleihau mewnbynnau maethynnau, cemegion a phathogenau ledled dalgylchoedd afonydd, o'u tarddiad i'r môr; mae hyn yn gwella ansawdd dŵr a chyflwr cynefinoedd.
- Rheoli rhywogaethau estron goresgynnol i leihau eu heffeithiau ar amrywiaeth, cyflwr ac ehangder.
- Adfer deinameg twyni tywod trwy stripio tyweirch a chrafu tywod, rhicio (tynnu gwaddod wrth droed twyn tywod yn fwriadol i gyflwyno ansefydlogrwydd), creu cwningaroedd artiffisial, a chlirio prysgwydd; mae hyn yn gwella cyflwr ac amrywiaeth.
Yr ardal arfordirol heddiw
Golygfa arfordirol yn cynnwys aber afon a thafod tywodlyd cul, yn gwahanu sianel droellog yr afon o'r môr. Ar un ochr i'r afon, mae fflatiau tywod ac ardal fach o forfa heli i'w gweld. Mae'r ochr arall wedi'i ffinio gyda chwrs golff a llystyfiant twyni tywod yn ymestyn ar draws rhan o'r tafod. Yn y cefndir, mae'r tir yn codi, a chwm afon arall yn cael ei nodi gan ffurf y bryniau. Mae'r arfordir yn gwyro o amgylch clogwyni caled. Rhennir y tir yn gaeau sy'n cael eu ffermio hyd at ymyl y clogwyn. Mae'r holl gaeau'n cael eu rheoli yn yr un modd, ar gyfer cynhyrchu glaswellt. Mae rhai gwrychoedd bach yn bresennol.
Yr ardal arfordirol yn 2050
Mae golygfa'r arfordir wedi newid i ddangos bod y forfa heli wedi ehangu ychydig ar draws y fflat tywod. Caniatawyd i ran o lan yr afon ar yr ochr arall erydu mewn ymateb i ddeinameg llif naturiol. Adferwyd y cynefin o dwyni ar y cwrs golff, ar yr ardal sy'n ffinio â'r cynefin twyni sydd eisoes yn bodoli. Yn y canol, mae coed wedi eu plannu ar hyd llethrau serth ail gwm yr afon. Mae adfer ac adfywio cynefinoedd wedi digwydd ar hyd ffin y clogwyni caled, i ffurfio coridor cynefin parhaus ar hyd ymyl y clogwyn, gyda’r parth a ffermir bellach yn symud ‘un cae yn ôl’. Mae mwy o amrywiaeth yn y dull o reoli'r caeau amaethyddol. Mae gwrychoedd wedi'u hadfer a'u plannu o amgylch ffiniau'r caeau.
Mwy o weithredoedd
Syml weithredoedd:
- adfer glaswelltir morol a rhostir
- ymestyn cynefinoedd un cae yn ôl o'r arfordir
- ailgyflwyno pori da byw priodol i ardaloedd lle mae pori wedi dod i ben
- ffermio manwl ar gyfer gwasgaru maethynnau mewn ffordd wedi’i thargedu.
Anturus weithredoedd:
- adlinio'r arfordir a reolir i greu morfa heli a chynefinoedd rhynglanwol eraill ac adnewyddu'r twyni
- ailgysylltu'r gorlifdir naturiol
- newid i arferion ffermio lle nad yw'r tir yn cael ei drin / yn cael ei drin yn llai ac amaeth-goedwigaeth
- adfer llygredd o fwyngloddiau segur.
Y daith arfordirol tuag at 2050
Mae ehangu ac adfer ardaloedd presennol o gynefinoedd arfordirol, gan gynnwys ‘un cae yn ôl’ o ymyl y clogwyn, yn cynyddu ehangder, cysylltedd, a'r gallu i addasu i newidiadau yn sgil prosesau erydu naturiol trwy greu lle iddynt symud tua’r tir.
Addasu amddiffynfeydd rhag llifogydd (y tu allan i ardaloedd lle mae amddiffynfeydd arfordirol yn hanfodol) i adfer prosesau erydu a dyddodi arfordirol naturiol y mae cynefinoedd twyni tywod, graean a morfa heli yn dibynnu arnynt; mae hyn yn cefnogi hyblygrwydd i addasu'r cynefinoedd hyn, sy'n chwarae rôl mewn creu amddiffynfeydd naturiol rhag llifogydd.
Gwella cyflwr cynefinoedd aberol trwy gymryd cyfuniad o gamau i fyny'r afon i atal maethynnau a chemegion rhag mynd i gyrsiau dŵr. Mae adfer cynefinoedd a phridd, plannu coed ar hyd glannau afonydd a chreu lleiniau clustogi ar hyd cyrsiau dŵr i gyd yn lleihau llifoedd dros y tir, wrth gynyddu ehangder, amrywiaeth a chysylltedd cynefinoedd.
Adeiladu cydn erthedd ecosystemau yn ein trefi a'n dinasoedd
Mae gan ein cartrefi, ein trefi a'n dinasoedd gysylltiad agos â'r byd naturiol. Gall fod yn hawdd anghofio bod ecosystemau trefol wedi'u cysylltu ag ecosystemau eraill, o fynyddoedd i'r arfordir, trwy eu defnydd o adnoddau tir a dŵr ymhell i ffwrdd ar gyfer cyflenwadau bwyd, ynni a dŵr, a thrwy allforio llygryddion i'r awyr a dyfrffyrdd, lle maen nhw'n cael eu gwasgaru dros ardal eang.
Felly, gall cynyddu cydnerthedd ecosystemau trefol fod â buddion ehangach i gydnerthedd ecosystemau sy'n gysylltiedig trwy gyfrwng daearyddiaeth neu gadwyni cyflenwi. Yn ogystal â hyn, mae cynefinoedd lled-naturiol a mannau gwyrdd mewn trefi a dinasoedd yn hanfodol i'n llesiant meddyliol a chorfforol. Mae'r canlynol ymhlith y camau â blaenoriaeth y mae angen i ni wneud mwy ohonynt:
- Defnydd effeithlon o ddŵr, ynni a bwyd; llai o wastraff, gan arwain at gostau cartref is, a llai o bwysau ar amrywiaeth, ehangder, cyflwr a chysylltedd ecosystemau.
- Cynyddu amrywiaeth a gwerth bywyd gwyllt glaswelltir amwynder ac ymylon ffyrdd, i gynnal mwy o flodau gwyllt a pheillwyr; mae hyn yn cynyddu amrywiaeth a chysylltedd cynefinoedd trefol.
- Darparu mannau gwyrdd a glas bioamrywiol mwy hygyrch, er enghraifft trwy strategaethau seilwaith gwyrdd; mae hyn yn gwella rheoleiddio llifogydd a thymheredd, yn cynyddu cyfleoedd hamdden, ac yn cynyddu cysylltedd, amrywiaeth ac ehangder cynefinoedd trefol.
- Cynyddu cyfleoedd ar gyfer teithio llesol ac integreiddio rhwydweithiau trafnidiaeth gynaliadwy fel llwybrau beicio, llwybrau cerdded a thrafnidiaeth gyhoeddus; mae hyn yn cynyddu cysylltedd ac ehangder, yn lleihau pwysau, gan gynnwys allyriadau carbon ac ocsid nitrig, ac yn gwella iechyd corfforol a meddyliol.
- Cynyddu'r defnydd o bren wrth adeiladu; mae hyn yn gwella cyflwr ac ehangder ecosystemau coetir ac yn lleihau allyriadau carbon.
- Arferion garddio bywyd gwyllt fel garddio’n organig, creu pyllau, gwestai pryfaid, priffyrdd i ddraenogod, blychau adar, gadael darnau gwyllt, a phlannu ar gyfer peillwyr a phryfed eraill; mae hyn yn cynyddu amrywiaeth, cyflwr, ehangder a chysylltedd ecosystemau trefol ac yn helpu i wella iechyd corfforol a meddyliol.
Yr ardal drefol heddiw
Golygfa drefol sy'n cynnwys yn bennaf ardal breswyl mewn tref fawr; mae tai ar hyd y strydoedd mewn cyfres o derasau, ac yng nghanol yr olygfa mae maes cymunedol wedi’i leinio â choed bach o amgylch yr ymylon, a llwybr palmantog yn rhedeg drwy’r canol. Yn y blaendir, mae gerddi siâp petryal arferol stryd o eiddo i'w gweld. Mae gan rai o'r gerddi laswellt, mae rhai'n cynnwys toreth o lwyni, ac mae siediau ac ardaloedd palmantog yn dominyddu rhai. Yn y cefndir, mae llain drwchus o goed aeddfed yn gwahanu'r strydoedd preswyl oddi wrth uned ddiwydiannol fawr y tu ôl. Mae'r coed yn leinio rhan o gefnffordd ar ochr chwith y llun; ar hyd y dde, nid yw'r gefnffordd wedi'i leinio â choed.
Yr ardal drefol yn 2050
Mae'r olygfa drefol wedi newid i ddangos bod gan lawer o'r tai, yn ogystal â'r uned ddiwydiannol fawr, baneli solar ar eu toeau. Mae hefyd nifer o doeau gwyrdd a waliau gwyrdd yn y parth preswyl. Yn y gerddi, mae rhai ardaloedd palmantog bellach â llystyfiant. Mae'r maes cymunedol bellach yn cynnwys gardd gymunedol a Baner Werdd. Erbyn hyn, mae gan lawer o'r strydoedd fannau gwefru. Yn y cefndir, mae un o'r unedau diwydiannol wedi'i symud, a rhandiroedd yn ei lle. Plannwyd coed ar hyd ochr dde'r gefnffordd, gan gysylltu â'r coed a oedd yn bodoli eisoes i greu coridor parhaus.
Mwy o weithredoedd
Syml weithredoedd:
- defnyddio casgenni dŵr a chompost heb fawn
- inswleiddio cartrefi a gweithleoedd
- gosod systemau draenio trefol cynaliadwy
- llacio cyfundrefnau torri gwair ar gyfer glaswelltir amwynder
- plannu blodau gwyllt a choridorau peillio
- amddiffyn coed stryd presennol
- plannu coed stryd newydd sy'n anelu at frigdwf o 20%
- ceisio gwobrau Baner Werdd am fannau agored cyhoeddus
- gerddi cymunedol a rhandiroedd
- defnyddio cerbydau allyriadau isel iawn a darparu mannau gwefru ar gyfer y rhain
- buddsoddi mewn bondiau a phensiynau gwyrdd
Y daith drefol tuag at 2050
Mae paneli solar a phympiau gwres o’r ddaear / ffynhonnell aer yn lleihau'r pwysau ar gynefinoedd wrth gynhyrchu ynni, gan gefnogi ehangder a chysylltedd ecosystemau. Maent yn lleihau biliau tanwydd i gartrefi ar gyfer gwresogi ac oeri.
Mae toeau gwyrdd yn lleddfu llifogydd dŵr wyneb, yn cadw adeiladau'n oerach, ac yn cynyddu ehangder a chysylltedd cynefinoedd.
Mae plannu coed stryd i ddarparu oeri yn yr haf yn gwella cysylltedd cynefinoedd ac ansawdd aer, ac yn lleihau'r risg o lifogydd.
Mae rhwydweithiau trafnidiaeth lesol fel llwybrau beicio, pontydd a llwybrau yn gwella ansawdd aer, gan wella cyflwr a hyblygrwydd cynefinoedd. Maent yn lleihau allyriadau nwyon tŷ gwydr, ac yn gwella iechyd a chysylltedd â'r amgylchedd naturiol.
Mae gerddi a rhandiroedd cymunedol yn lleihau'r pwysau ar gynefinoedd ar gyfer cynhyrchu bwyd (gan gefnogi ehangder a chyflwr cynefinoedd), yn cynyddu amrywiaeth y cynefinoedd trefol, ac yn cefnogi iechyd a llesiant corfforol a meddyliol.
Mae systemau draenio cynaliadwy yn lleddfu llifogydd a llygredd dŵr wyneb, yn gwella bioamrywiaeth a chysylltedd cynefinoedd, ac yn darparu mannau gwyrdd hygyrch.
Mae ymylon ffyrdd, mannau gwyrdd a glas cyhoeddus a gerddi preifat yn cael eu rheoli ar gyfer peillwyr a bioamrywiaeth eraill, gan wella cyflwr a chysylltedd cynefinoedd trefol, gyda chostau rheoli is.
Dychmygu dyfodol cydnerth
Bydd adeiladu ecosystemau mwy cydnerth yn dod â buddion i bobl ble bynnag maen nhw'n byw. Bydd gan ecosystemau mwy cydnerth amrywiaeth o fathau o ddefnyddiau tir a chynefinoedd, a reolir mewn ffordd gyfannol sy'n ystyried yr holl wasanaethau ecosystemau y mae'r tir yn eu darparu.
Bydd angen i'n llwybr at ddyfodol cynaliadwy gynnwys ymdrechion sylweddol uwch ym maes cadwraeth ac er mwyn adfer ein hecosystemau. Ar yr un pryd, bydd angen cymryd camau effeithiol sy'n mynd i'r afael â’r newid yn yr hinsawdd a phwysau eraill, ac i'n heconomi drosglwyddo i gynhyrchu cynaliadwy a phatrymau defnydd is.
Wrth inni symud tuag at 2050, bydd y ffordd yr ydym yn dewis defnyddio a rheoli tir yn cael ei seilio fwyfwy ar ei allu i ddarparu gwasanaethau ecosystemau niferus, nid un neu ddau yn unig – cnydau neu bren, er enghraifft. Ni fydd pob darn o dir yn addas ar gyfer darparu’r holl wasanaethau ecosystemau, ond bydd gan yr holl dir y potensial i ddarparu amrywiaeth o wasanaethau ecosystemau, a bydd effeithiolrwydd y gwasanaethau hyn yn dibynnu’n fawr ar amrywiaeth, ehangder, cyflwr a chysylltedd yr ecosystemau a geir yno.
Mewn ecosystemau mwy cydnerth, byddwn yn gweld tir ffermio a choedwigaeth gynhyrchiol gyda mwy o amrywiaeth o gnydau. Bydd ffermydd yn dod yn fusnesau mwy amrywiol a chydnerth, gan integreiddio cnydau â phori da byw, amaeth-goedwigaeth, hamdden a thwristiaeth. Bydd mwy o goed, gwrychoedd ac ymylon caeau ledled y dirwedd, gan gynyddu'r cysylltedd rhwng cynefinoedd, a chan ganiatáu i'r rhywogaethau y maent yn eu cefnogi addasu i’r newid yn yr hinsawdd wrth wella lles da byw ar yr un pryd. Bydd adfer cynefinoedd, rheoli maethynnau’n dda, a phori yn cynyddu amrywiaeth rhywogaethau ac yn gwella iechyd y pridd; bydd hyn yn lleihau costau peiriannau a gwrtaith, wrth gynnal cynnyrch i sicrhau cyflenwad bwyd digonol ac amrywiol.
Bydd trefi a dinasoedd yn llawer mwy gwyrdd, gyda mwy o goed stryd a mannau gwyrdd hygyrch, gan ddarparu mwy o gynefinoedd a fydd yn lleihau'r risg o lifogydd, ac yn darparu lleoedd i bobl fwynhau bod y tu allan yn yr awyr iach. Bydd tyfu bwyd cymunedol yn darparu ffynhonnell o fwyd rhad a lleol ac yn darparu cyfleoedd i bobl gymdeithasu a bod yn fwy egnïol, gan ddod â buddion i iechyd a llesiant.
Bydd adeiladau wedi'u hinswleiddio'n well, ac yn cael eu pweru gan ynni glân. Bydd cynlluniau lleol sy'n hyrwyddo effeithlonrwydd ynni a dŵr a llai o wastraff bwyd yn ffynnu. Bydd hyn yn lleihau biliau cartrefi am fwyd a chyfleustodau, ac yn lleihau'r pwysau a roddir ar ein hadnoddau naturiol, gan eu helpu i adfer eu bioamrywiaeth. Bydd y newid i ffwrdd o danwyddau ffosil yn gwella ansawdd aer, yn lleihau problemau iechyd, ac yn lliniaru’r newid yn yr hinsawdd.
Bydd rhwydweithiau trafnidiaeth lesol yn fwy cyffredin, gan ganiatáu i bobl wneud mwy o deithiau ar droed neu ar feic, gan wella iechyd a llesiant. Ar yr un pryd, bydd llai o draffig modur yn lleihau llygredd aer, gan ddod â buddion i gyflwr iechyd a chynefinoedd.
Mewn ecosystemau cydnerth, bydd ein safleoedd gwarchodedig a'n cynefinoedd â blaenoriaeth yn cael eu rheoli'n dda. Bydd cyflwr ecosystemau yn cael ei fonitro'n rheolaidd; bydd gan reolwyr tir y sgiliau a'r wybodaeth i gynorthwyo gyda hyn. Bydd gwyddoniaeth dinasyddion yn chwarae rhan bwysig wrth ailgysylltu pobl â natur, a gwneir y defnydd gorau o ddatblygiadau technolegol, gan gynnwys technegau synhwyro o bell ac eDNA. Bydd mwy o ardaloedd o gynefin yn cael eu hadfer a'u creu fel y gallant wrthsefyll, adfer ac addasu i bwysau.
Rydym yn gweld Cymru yn y dyfodol sydd ag ecosystemau cydnerth a fydd yn caniatáu i bawb, ble bynnag maen nhw'n byw, gysylltu â natur bob dydd, a lle mae rheolwyr tir yn cael pris teg am y bwyd maen nhw'n ei gynhyrchu ac am reoli ein hadnoddau naturiol mewn ffordd gynaliadwy, gan sicrhau bod gwasanaethau ecosystemau yn cael eu darparu'n barhaus er budd pawb.