Cofrestru neu ddadgofrestru eich offer biffenyl polyclorinedig (PCB)
Erbyn 31 Gorffennaf bob blwyddyn, mae'n rhaid i chi gofrestru neu ddadgofrestru unrhyw offer yng Nghymru sy'n cydymffurfio â’r diffiniad cyfreithiol o offer halogedig PCB.
Cofrestru offer PCB
Mae'n rhaid i chi roi'r wybodaeth ganlynol i ni:
- rhestr gyfoes o offer halogedig PCB rydych chi'n gyfrifol amdano
- cyfeiriad a chyfeirnod grid lleoliad yr offer
- union leoliad yr offer ar y safle
- maint y sylwedd
- crynodiad y sylwedd
- math o offer
- cyfeirnod neu rif cyfresol unigryw
- dogfen yn amlinellu eich cynlluniau i waredu offer PCB halogedig
Dadgofrestru eich offer PCB
Mae angen i chi wneud y canlynol:
- rhoi gwybod i ni am unrhyw ddull gwaredu
- dangos bod yr holl hylif wedi'i halogi â PCB wedi'i dynnu o'r offer. Os nad oes modd gwneud hyn, efallai y byddwn yn gofyn i chi gymryd sampl o'r hylif newydd yn yr offer i ddangos nad yw wedi'i halogi â hylif sy'n cynnwys PCB gweddilliol
- darparu manylion am unrhyw berchennog newydd y safle
- rhoi gwybod i ni am unrhyw leoliadau rydych chi wedi symud PCB iddynt a beth rydych chi'n bwriadu ei wneud ag ef
- math o offer
- cyfeirnod neu rif cyfresol unigryw
- dogfen yn amlinellu eich cynlluniau i waredu offer PCB halogedig
Mae angen i chi ddarparu tystiolaeth i ni fel rhan o’r broses ddadgofrestru, er enghraifft:
- nodiadau llwythau gwastraff peryglus
- adroddiadau labordy ar gyfer offer sy'n dangos bod ganddo grynodiad PCB llai na 0.0005% yn ôl pwysau
- dogfennau perchennog newydd, gan gynnwys manylion cyswllt
Ni chodir tâl i ddadgofrestru offer halogedig PCB.
Cysylltu â ni
Os oes angen cyngor arnoch, cysylltwch â PCB-Registrations@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk
Diweddarwyd ddiwethaf