Defnyddio rheolaeth addasol ar gyfer datblygiadau morol

Beth yw rheolaeth addasol ar gyfer datblygiadau morol?

Mae'r amgylchedd morol yn gymhleth ac yn ddeinamig, sy'n golygu bod yna lawer o bethau anhysbys am effeithiau datblygiadau ynddo, oddi tano ac uwch ei ben.

Mae rheolaeth addasol yn offeryn a all olygu bod datblygiadau’n cael caniatâd o bosibl pan nad oes dealltwriaeth dda o’r effeithiau amgylcheddol.

A chithau’n ddatblygwr morol, bydd deall rheolaeth addasol yn eich helpu i gyflwyno cais datblygu o ansawdd da i ni ac i reoleiddwyr eraill. 

Pam y dylid defnyddio rheolaeth addasol?

Yn achos rhai datblygiadau, fel ynni adnewyddadwy morol, gall rheolaeth addasol alluogi gwaith gosod drwy helpu i leihau risgiau sy'n gysylltiedig ag ansicrwydd gwyddonol. Gall hefyd wella ein dealltwriaeth o effeithiau datblygu ar yr amgylchedd.

Rhaid i osgoi effeithiau annerbyniol fod yn nod rheolaeth addasol. Mae'n ddull systematig ac ailadroddol o “ddysgu trwy wneud ac addasu wrth i chi ddysgu”.

Fodd bynnag, nid yw rheolaeth addasol yn briodol ar gyfer pob prosiect a rhaid penderfynu fesul achos.  

Gweithredu egwyddorion rheolaeth addasol

Ailadrodd drwy fonitro a dadansoddi

Proses yw rheolaeth addasol o wneud penderfyniadau ar sail y wybodaeth sydd ar gael. Mae’n ddull strwythuredig ac ailadroddol o gynnal asesiadau amgylcheddol, gan ganiatáu i’r dull o reoli prosiect gael ei addasu yn seiliedig ar yr hyn a ddysgir ar ôl i'r datblygiad gael ei osod neu ei adeiladu.

Rhaid i ganlyniadau penderfyniadau rheoli gael eu monitro a'u dadansoddi. Rhaid newid camau rheoli os yw'r canlyniadau'n wahanol i'r rhai a ragwelwyd. 

I’w ddefnyddio pan fo ansicrwydd

Dim ond er mwyn caniatáu i brosiectau symud ymlaen pan fo ansicrwydd o hyd er eu bod wedi cwblhau asesiad amgylcheddol cadarn, neu pan fo’r llinell sylfaen amgylcheddol yn debygol o newid, y dylid defnyddio rheolaeth addasol.

Mae rheolaeth addasol yn strategaeth tymor canolig i hir sy'n canolbwyntio ar effeithiau annerbyniol posibl prosiect. Dim ond ar ôl gwneud pob ymdrech resymol i gadarnhau a yw effaith yn debygol o ddigwydd a phan fo ansicrwydd sylweddol yn parhau y dylid ei mabwysiadu. 

Ystyriwch lefel y risg

Nid rheolaeth addasol yw'r dull cywir bob amser. Pan fo’r perygl realistig o effeithiau amgylcheddol yn parhau’n fawr ac nad ydym yn gwybod pa mor llwyddiannus fydd rheolaeth addasol, efallai y bydd caniatâd yn cael ei wrthod neu y gwyrir oddi wrth benderfyniadau arferol, er enghraifft o dan Erthygl 4 (7) o’r Gyfarwyddeb Fframwaith Dŵr neu Erthygl 6 (4) o'r Gyfarwyddeb Gynefinoedd.

Dysgu a lliniaru

Defnyddir rheolaeth addasol i ddysgu cymaint ag y bo modd am y cysylltiadau rhwng datblygiad a’r amgylchedd. Defnyddiwch fesurau lliniaru ymarferol sydd â thebygolrwydd uchel o lwyddo. Mae casglu gwybodaeth am effeithiolrwydd mesurau lliniaru yn helpu i greu pecyn cymorth o fesurau a brofwyd. 

Pryd y dylid gweithredu’r egwyddor ragofalus

Os yw gweithgaredd yn debygol o achosi effeithiau ar yr amgylchedd morol, defnyddir yr egwyddor ragofalus. Golyga hyn fod mesurau’n cael eu rhoi ar waith i leihau effaith y gweithgaredd i lefel dderbyniol. Pan na ellir cyflawni hyn, rhaid i'r gweithgaredd datblygu ddod i ben nes y gellir canfod datrysiad.

Datblygwch gynllun

Dylech ddiffinio’r rheolaeth addasol ofynnol yn glir mewn strategaeth neu gynllun, er enghraifft Cynllun Rheolaeth Amgylcheddol Addasol (AEMP), y bydd angen i’r partïon perthnasol gytuno arno. Gall y rhain gynnwys ni a rheoleiddwyr eraill, cynghorwyr a rhanddeiliaid eraill. 

Cynghorwn eich bod yn cyflwyno Cynllun Rheolaeth Amgylcheddol Addasol drafft gyda’ch cais am ganiatâd fel y gellir ei asesu a chytuno arno’n gynnar yn y broses ganiatáu.

Defnyddiwch sbardunau gweithredu ac amserlenni cyflawni

Gall rheolaeth addasol ddefnyddio sbardunau gweithredu, fel trothwyon, ac amserlenni cyflawni sy'n seiliedig ar safonau amgylcheddol cadarn fel y gellir gweithredu’r lefel gywir o ragofal i osgoi effeithiau annerbyniol. Rhaid cytuno ar y rhain a'u dogfennu yn eich Cynllun Rheolaeth Amgylcheddol Addasol.

Arsylwi a monitro

Bydd rheolaeth addasol yn cael ei llywio gan waith arsylwi effeithiol sydd wedi’i dargedu neu wybodaeth o waith monitro sy’n mesur effaith, neu newid i effaith, a sut y gellid effeithio ar y derbynnydd. Yna, gellir cymryd camau cyn i effaith annerbyniol ddigwydd neu drothwy gael ei gyrraedd.

Pan na ellir cymryd camau mewn pryd, er enghraifft os, erbyn canfod yr effaith, na ellir ei dad-wneud, ni ellir defnyddio rheolaeth addasol.

Dibynnwch ar ddata monitro cadarn 

Er mwyn i reolaeth addasol lwyddo, rhaid iddi ddibynnu ar ddata monitro cadarn, gwybodaeth, a - phan fo’n briodol - barn wyddonol arbenigol, er mwyn cyflawni, ariannu a gorfodi rheolaeth addasol.

Mae hyn yn cynnwys gwneud penderfyniadau ar fonitro, rheoli a chamau adferol. Rhaid i bob un ohonynt fod yn dechnegol bosibl ac yn realistig er mwyn osgoi effeithiau annerbyniol.

Gall Grŵp Cynghori Amgylcheddol sy'n cynnwys ystod o randdeiliaid, gan gynnwys chi’r datblygwr, ynghyd â rheoleiddwyr, cynghorwyr a rhanddeiliaid allweddol, fod yn ffordd ddefnyddiol o weithredu a rheoli Cynllun Rheolaeth Amgylcheddol Addasol y cytunwyd arno, a darparu llywodraethu priodol. Gall y broses o sefydlu Grŵp Cynghori Amgylcheddol gael ei thrafod yn ystod y broses ganiatáu.  

Ymrwymo a dod o hyd i adnoddau

Pan ddefnyddir rheolaeth addasol, rhaid i’r holl bartïon ymrwymo iddi a darparu adnoddau priodol ar ei chyfer drwy gydol y broses. 

Amodau caniatâd

Caiff rheolaeth addasol ei sicrhau gan amlaf drwy amodau caniatâd, fel ar drwydded forol.

Gall fod angen i reoleiddwyr gytuno ar fanylion rheolaeth addasol â chi ar ôl i ganiatâd gael ei roi, ond rhaid i hyn ddigwydd cyn y caiff y gwaith adeiladu ddechrau. Mae hyn yn rhoi sicrwydd i ni ac i reoleiddwyr eraill, i chi – y datblygwr – a rhanddeiliaid eraill y bydd dull rheolaeth addasol priodol yn cael ei weithredu.

Cymeradwyo prosiect

Dim ond os gellir sicrhau'r dull lliniaru priodol ar gyfer y senario gwaethaf posibl realistig, ac os yw’r dull lliniaru hwnnw’n ymarferol ac yn debygol iawn o lwyddo, y gellir cymeradwyo prosiect.

Pan ddefnyddir rheolaeth addasol i gydymffurfio â'r Gyfarwyddeb Gynefinoedd (Erthygl 6 (3)), rhaid iddi gynnwys camau clir i'w cymryd cyn y bydd effaith andwyol sylweddol ar nodwedd ar safle gwarchodedig Ewropeaidd. 

Asesiadau Effeithiau Amgylcheddol

Nid yw rheolaeth addasol yn cymryd lle Asesiadau Effeithiau Amgylcheddol (AEA).

Cyn mabwysiadu rheolaeth addasol, dylech ystyried pob asesiad arferol posibl fel rhan o'ch AEA a wneir cyn gwneud cais.

Mae hyn yn bwysig ar gyfer datblygiadau a fydd yn dod yn strwythurau seilwaith parhaol. Rhaid i reolaeth addasol fod yn ymarferol ac yn debygol iawn o lwyddo er mwyn osgoi effeithiau na ellir eu dad-wneud yn ddiweddarach.

Gwybodaeth bellach

Os hoffech ragor o wybodaeth am reolaeth addasol, cysylltwch â ni trwy ymholiadau@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk

Diweddarwyd ddiwethaf