Deddfwriaeth cadwraeth fertebratau morol yng Nghymru

Mae'r canllawiau hyn wedi'u cyfeirio'n bennaf at unrhyw un sy'n gwneud cais i gynnal datblygiadau neu weithgareddau yn nyfroedd Cymru.

Byddant yn eich helpu i ddeall statws cadwraeth cyfreithiol rhywogaethau penodol, er mwyn llywio'ch ceisiadau a'ch asesiadau.

Mae'r nodyn canllaw hwn yn crynhoi deddfwriaeth cadwraeth, fel y mae'n gymwys yng Nghymru, ar gyfer y rhywogaethau canlynol:

  • Teulu'r morfil (morfilod, dolffiniaid a llamhidyddion)
  • Morloi
  • Dyfrgi Ewropeaidd (ardaloedd arfordirol yn unig)
  • Crwbanod Môr
  • Stwrsiwn Cyffredin
  • Heulgwn, corgwn môr a maelgwn

Mae'n cynnwys gwybodaeth am safleoedd arbennig yng Nghymru sydd wedi'u dynodi er mwyn eu diogelu.

Nid yw'r canllawiau yn cwmpasu adar morol nac ystlumod na physgod eraill.

Canllawiau ar gyfer datblygwyr am ddeddfwriaeth cadwraeth fertebratau morol yng Nghymru. (PDF Saesneg in unig)

Diweddarwyd ddiwethaf