Cloddio am agregau morol
Agregau morol
Mae agregau morol, fel tywod a graean, yn adnodd cyfyngedig y mae'n rhaid ei reoli'n gynaliadwy er mwyn sicrhau y bydd cyflenwad ar gael o hyd ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol. Gellir defnyddio agregau morol fel deunydd adeiladu, ar gyfer gwaith adfer tir neu ar gyfer ailgyflenwi traethau. Mae'r rhan fwyaf o’r gwaith cloddio'n digwydd ym Môr Hafren, yn Aber Afon Hafren a ger arfordir gogledd Cymru.
Gall gwaith cloddio am agregau morol gael effaith ar yr amgylchedd, gan gynnwys ar ecoleg fenthig a physgod. Mae cynllunio a lleoli safleoedd yn ofalus yn hanfodol er mwyn osgoi a lleihau effeithiau.
Canllawiau, Tystiolaeth a Data
Dewch o hyd i gyngor, data a thystiolaeth ar gyfer eich gwaith codi agregau o’r môr.
Canllawiau ar roi caniatâd ac asesiadau
Dewch o hyd i ddata a thystiolaeth ar gyfer eich gweithgarwch tynnu agregau morol:
- Gwybodaeth a chanllawiau ar gyfer trwyddedau morol a chyflwyno cais o’n gwasanaeth trwyddedu
- Canllawiau ar ddefnyddio rheolaeth addasol ar gyfer datblygiadau morol
- Canllawiau ar gwmpasu Asesiad o’r Effaith Amgylcheddol ar gyfer datblygiadau morol
- CNC ac Asesiadau Amgylcheddo
- Canllawiau ar ein data ar gynefinoedd a rhywogaethau morol a’i ddefnyddio mewn datblygiadau
- Canllawiau ar ddeddfwriaeth cadwraeth ar gyfer fertebratau morol yng Nghymru
Canllawiau ar gyfer derbynyddion
- Canllawiau ar sut i gynnal asesiadau ar gynefinoedd benthig
- Canllawiau ar brosesau ffisegol morol ac AEA
Canllawiau ar ddata ar gyfer asesiadau
Blaenoriaethau, ymchwil ac adroddiadau tystiolaeth CNC
Cysylltwch â ni
Os ydych yn ystyried gwneud gwaith cloddio am agregau morol yn nyfroedd Cymru, cysylltwch â ni yn gynnar yn eich cynlluniau drwy e-bost marine.area.advice@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk