Arolygon adar ar y môr ar gyfer datblygiadau morol: pryd y mae angen i chi gynnal arolwg
Mae angen arolygon o adar ar y môr ar gyfer rhai ceisiadau am drwyddedau morol.
Mae pedwar cam i’r broses o benderfynu a yw’n debygol y bydd angen arolygon ar y môr sy’n brosiect-benodol:
- Nodi llwybrau effaith posib
- Pennu band y drwydded forol a deall risg cydsynio
- Nodi a yw parth dylanwad y gweithgaredd arfaethedig yn gorgyffwrdd ag ardaloedd sy’n cael eu gwarchod neu sy’n bwysig ar gyfer adar ar y môr
- Pennu addasrwydd y data sy’n bodoli eisoes
Byddem yn cynghori unrhyw ddatblygwyr sy'n cynllunio arolygon i gysylltu â ni cyn dechrau. Bydd hyn yn helpu i osgoi gorfod oedi rhaglen gyffredinol y prosiect. Os yw arolygon yn bellach na 12 milltir fôr o’r lan, dylai datblygwyr hefyd ofyn am gyngor gan y Cyd-bwyllgor Cadwraeth Natur (JNCC) sy'n gynghorydd statudol ar gyfer dyfroedd y môr mawr.
Llwybrau effaith posib
Dyma’r llwybrau effaith posib ar gyfer adar ar y môr:
- effeithiau aflonyddu a dadleoli oherwydd:
- sŵn yn yr awyr ac o dan y dŵr
- a/neu ysgogiadau gweledol o ganlyniad i weithgarwch pobl e.e. yn ystod gwaith adeiladu neu gynnal a chadw
- dadleoli o ganlyniad uniongyrchol i strwythurau anthropogenig
- gwrthdaro â strwythurau sy’n symud uwchben ac o dan y dŵr
- colli cynefin a newid o ran cynefin, gan gynnwys newidiadau o ran faint o ysglyfaethau sydd ar gael
- newidiadau o ran tyrfedd oherwydd crynodiadau uwch o waddod mewn daliant
Band y drwydded a risgiau cydsynio
Trwyddedau a gweithgareddau Band 1
Ni fydd angen arolygon adar ar y môr sy’n brosiect-benodol ar gyfer:
- gweithgareddau heb lwybrau effaith sy’n effeithio ar adar ar y môr, neu lle nad yw’r llwybrau effaith yn rhai sylweddol
- gweithgareddau trwyddedu morol Band 1 sy’n rhai ar raddfa fach gyda risg cydsynio isel
Trwyddedau Band 2
Yn gyffredinol, ystyrir bod gan y gweithgareddau hyn risg cydsynio isel i adar ar y môr ac mae'n annhebygol y bydd arnynt angen arolygon ar y môr.
Efallai y bydd rhai achosion lle mae angen arolygon ar y môr, fel:
- gwaith carthu cynnal a chadw ar raddfa fwy mewn ardaloedd lle ceir gwaith carthu cyfyngedig
- mannau sy’n gorgyffwrdd â safleoedd gwarchodedig a/neu sydd â chysylltiadau swyddogaethol
Darllenwch fwy am weithgareddau trwyddedu morol Band 2 a Band 3.
Trwyddedau Band 3
Mae trwyddedau Band 3 yn unrhyw geisiadau sy'n gofyn am Asesiad o'r Effaith Amgylcheddol (AEA) a benderfynir drwy broses sgrinio, neu brosiectau dros £1 miliwn - datblygiadau ar raddfa fwy fel arfer.
Ystyrir bod gan rai gweithgareddau Band 3 risg cydsynio isel i gymedrol ar gyfer adar ar y môr gan gynnwys:
- dyframaeth
- agregau
- ceblau
- prosiectau sy’n gysylltiedig â phiblinellau
Yn gyffredinol, ystyrir bod tebygolrwydd isel y bydd angen arolygon prosiect-benodol ar y gweithgareddau hyn. Ond, os yw parth dylanwad prosiect yn ymestyn i safleoedd gwarchodedig a/neu ardaloedd â chysylltiadau swyddogaethol - a lle mae'r data presennol ar gyfer yr ardaloedd hyn yn cael ei ystyried yn annigonol - mae'r tebygolrwydd o orfod cynnal arolygon yn cynyddu.
Mae gweithgareddau Band 3 yr ystyrir bod ganddynt risg cydsynio uchel ar gyfer adar ar y môr yn cynnwys:
- prosiectau ynni adnewyddadwy ar y môr
- datblygiadau arfordirol mwy gyda gwaith morol helaeth
- datblygiadau ynni niwclear gyda gwaith morol
Yn gyffredinol, ystyrir ei bod yn debygol iawn y bydd angen arolygon prosiect-benodol ar y gweithgareddau hyn.
Lle mae’r parth dylanwad yn gorgyffwrdd
Ystyrir bod y posibilrwydd o orfod cynnal arolygon adar môr yn cynyddu ar gyfer gweithgareddau Band 3 ac, yn llai arferol, ar gyfer gwaith carthu cynnal a chadw ar raddfa fwy (gweithgaredd Band 2) os yw'r parth dylanwad:
- yn gorgyffwrdd yn uniongyrchol â safle dynodedig ar gyfer adar morol (AGA, Ramsar, Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig (SoDdGA))
- yn gorgyffwrdd ag ardal bwysig gydnabyddedig sydd â chysylltedd/perthynas swyddogaethol â'r safle dynodedig (fel ardal fforio ar gyfer AGA neu SoDdGA a ddynodwyd ar gyfer adar môr sy'n bridio)
Addasrwydd data presennol
Ar gyfer gweithgareddau Band 3 yr ystyrir bod ganddynt risg cydsynio uwch, fel arfer bydd angen i ddata arolygu presennol ddarparu amcangyfrifon cadarn o ran dosbarthiad a helaethrwydd o fewn parth dylanwad penodol y prosiect (yn seiliedig ar ddefnyddio technegau arolygu priodol).
Bydd angen i'r data fod yn gyfredol hefyd. Gallai data sy'n hŷn na 5 mlynedd ddarparu gwybodaeth gyd-destunol ddefnyddiol. Fel arfer, mae angen data mwy diweddar i ddarparu amcangyfrifon cywir o ran dosbarthiad a helaethrwydd at ddibenion nodweddu.
Ar gyfer gweithgareddau Band 2 a gweithgareddau Band 3 sydd â risg cydsynio is, mae data arolygon a gesglir ar lefel prosiect yn llai tebygol o fod yn ofynnol. Gallai data sy’n bodoli eisoes a gasglwyd dros raddfa ehangach fod yn addas at ddibenion nodweddu.
Darllenwch fwy am weithgareddau trwyddedu morol Band 2 a Band 3.
Dyluniad yr arolwg, dulliau a dadansoddi
Os penderfynir bod angen arolygon prosiect-benodol - ar gyfer arolygon sylfaenol ac ôl-gydsyniad - lawrlwythwch ein canllawiau manwl ar arolygon adareg ar y môr.
Ceir gwybodaeth am:
- ffactorau i'w hystyried er mwyn helpu i nodi'r technegau arolygu mwyaf priodol
- yr hyn y mae angen i ni ei weld i asesu addasrwydd y gwaith arolygu a monitro arfaethedig