Prynu a gwerthu eogiaid a brithyllod y môr yng Nghymru: cadw o fewn y gyfraith

Mae yn erbyn y gyfraith prynu, gwerthu, cynnig gwerthu neu gyfnewid:

  • unrhyw eog gwyllt
  • brithyll y môr wedi'i ddal â gwialen a lein
  • brithyll y môr aflan
  • brithyll y môr a gymerwyd yn ystod y tymor caeedig

Mae'r troseddau hyn yn berthnasol ar gyfer pysgod cyfan a darnau o bysgod.

Nid oes yr un o'r troseddau hyn yn berthnasol ar gyfer eogiaid sy’n cael eu ffermio neu frithyllod y môr sy'n cael eu ffermio.

Adnabod brithyllod y môr a ddaliwyd yn gyfreithlon

Mae'n hawdd adnabod brithyllod y môr sydd wedi’u dal yn gyfreithlon (mewn rhwyd).

Bydd gan frithyllod y môr sy’n cael eu dal yn gyfreithiol â rhwyd yng Nghymru bob amser dag carcas Cyfoeth Naturiol Cymru wedi'i gysylltu trwy ei geg a'i dagellau. Yn Lloegr, bydd ganddynt dag carcas Asiantaeth yr Amgylchedd. 

Ni fydd gan frithyllod y môr sydd wedi'u dal yn anghyfreithlon dag carcas ac efallai y bydd ganddynt:

  • anafiadau gwaywffon neu fach (clwyfau trywanu)
  • marciau magl (cylch tywyll o amgylch bôn y gynffon)
  • marciau rhwyd ar y tagellau (llinellau tywyll nodedig o gwmpas neu ar draws corff y pysgod)

Adnabod pysgod aflan

Mae pysgodyn 'aflan' yn un sydd ar fin silio, sydd wrthi’n silio, neu sydd wedi silio yn ddiweddar a heb ddod ato’i hun eto.

Gall y pysgod hyn fod yn dywyll o ran lliw gyda smotiau coch ar gloriau eu tagellau. Gall eu hesgyll fod yn garpiog, a gall wyau neu leithon (sylwedd llaethog gwyn) lifo o'r fent. Nid yw pysgod aflan yn dda i'w bwyta.

Byddwch yn torri'r gyfraith os byddwch chi'n prynu neu'n gwerthu pysgod aflan.

Tymhorau caeedig

Mae gan wahanol rannau o Gymru a Lloegr dymhorau caeedig gwahanol.

Gwiriwch reolau pysgota â gwialen dŵr croyw (is-ddeddfau) Cymru.

Gwiriwch reolau pysgota â gwialen dŵr croyw (is-ddeddfau) Lloegr.

Gall pysgotwyr sy’n defnyddio rhwydi gymryd brithyllod y môr yn unig (rhwng mis Mai a Gorffennaf yng Nghymru).

Mae'n rhaid dychwelyd yr holl eogiaid sy'n cael eu dal mewn pysgodfeydd rhwydi a gwialen yng Nghymru yn fyw a heb niwed cyn gynted ag sydd bosibl. 

Prynu a gwerthu eogiaid a brithyllod y môr

Os ydych chi'n prynu ac yn gwerthu eog neu frithyll y môr wedi'i fewnforio sydd wedi ei ffermio a’i ddal â rhwyd, ni fydd ganddo dag carcas Cyfoeth Naturiol Cymru (neu Asiantaeth yr Amgylchedd). Ni ellir gwerthu eogiaid gwyllt o Gymru, Lloegr na'r Alban.  

Mae brithyllod y môr gwyllt yn dal yn cael eu glanio yng Nghymru a Lloegr a bydd ganddynt dag carcas.

Er mwyn cael prawf o ble daw’r pysgod hyn, gofynnwch i'r gwerthwr am dderbynneb wedi'i llofnodi sy'n dangos:

  • enw a chyfeiriad y gwerthwr
  • faint o bysgod a werthwyd, a rhifau adnabod eu tag
  • sut cafodd y pysgod eu dal
  • enw a rhif trwydded y person a ddaliodd y pysgodyn

Pryderon adrodd

Cysylltwch â'n llinell gymorth digwyddiadau os byddwch yn cael cynnig eogiaid neu frithyllod y môr yr ydych yn amau sydd wedi cael eu dal yn anghyfreithlon neu sy’n aflan.

Diweddarwyd ddiwethaf