Fforwm Rheoli Tir Cymru
Pwrpas
Mae Fforwm Rheoli Tir Cymru yn cynnig cyfle i Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) a sefydliadau eraill sy’n aelodau o’r Fforwm rannu gwybodaeth, nodi materion sydd o ddiddordeb cyffredin a gweithio gyda’i gilydd mewn ffordd gydweithredol ar faterion rheoli tir strategol.
Y nod yw datblygu dull “dim byd annisgwyl” o ymdrin â materion strategol tra’n sicrhau bod modd ymdrin ag unrhyw ddatblygiadau lleol a chanddynt oblygiadau cenedlaethol mewn modd amserol.
Ymhellach, mae’r Fforwm yn archwilio cyfleoedd i ddatblygu, cefnogi a chyfathrebu negeseuon a rennir a/neu argymhellion ynghylch rheoli adnoddau naturiol yn gynaliadwy (SMNR).
Aelodaeth
Caiff holl gyfarfodydd Fforwm Rheol Tir Cymru eu cadeirio gan un o Aelodau Bwrdd CNC. Fel arfer, caiff sefydliadau rheoli tir sy’n cymryd rhan yn y Fforwm eu cynrychioli gan ddeiliad swydd etholedig ynghyd â’r arweinydd polisi perthnasol. Mae’r holl sefydliadau a gymer ran yn y Fforwm yn cynrychioli aelodau sy’n uniongyrchol gysylltiedig â rheoli tir. Mae’r rhain yn cynnwys:
- Undeb Cenedlaethol yr Amaethwyr Cymru (NFU Cymru)
- Undeb Amaethwyr Cymru (FUW)
- Cymdeithas Tir a Busnes Cefn Gwlad Cymru (CLA)
- Ffederasiwn Clybiau Ffermwyr Ifanc Cymru (CFfI Cymru)
- Cymdeithas y Ffermwyr Tenant (TFA)
- Confor
Bydd yr holl geisiadau i ymuno â Fforwm Rheoli Tir Cymru (fel y’u cyflwynir gan aelod-sefydliadau rheoli tir eraill ac fel y’u derbynnir gan y Cadeirydd) yn cael eu trafod yng nghyfarfod llawn nesaf y Fforwm.
Caiff y cyfarfodydd eu cynnal fel bo’r angen yn hytrach nag yn ôl amserlen benodol, ond yn gyffredinol byddant yn cael eu cynnal 2-3 gwaith y flwyddyn.
Agendâu a phapurau
Cofnodion cyfarfod mis Rhagfyr hyd yma ar gael ar gais drwy ebostio WLMF.subgroup@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk
2024
11 Mawrth 2024, Cyfarfod dros Microsoft Teams - Cofnodion
2023
11 Rhagfyr 2023, Cyfarfod dros Microsoft Teams - Cofnodion
18 Medi 2023, Cyfarfod dros Microsoft Teams - Cofnodion
5 Mehefin 2023, Cyfarfod dros Microsoft Teams - Cofnodion
13 Mawrth 2023, Cyfarfod dros Microsoft Teams - Cofnodion
2022
5 Rhagfyr 2022, Cyfarfod dros Microsoft Teams - Cofnodion
5 Medi 2022, Cyfarfod dros Microsoft Teams - Cofnodion
6 Mehefin 2022, Cyfarfod dros Microsoft Teams - Cofnodion
7 Mawrth 2022, Cyfarfod dros Microsoft Teams - Cofnodion
2021
22 Tachwedd 2021, Cyfarfod dros Microsoft Teams - Cofnodion
6 Medi 2021, Cyfarfod dros Microsoft Teams - Cofnodion
7 Mehefin 2021, Cyfarfod dros Microsoft Teams - Cofnodion
1 Mawrth 2021, Cyfarfod dros Microsoft Teams - Cofnodion
2020
7 Rhagfyr 2020, Cyfarfod dros Skype - Cofnodion
9 Medi 2020, Cyfarfod dros Skype - Cofnodion
11 Mai 2020, Cyfarfod dros Skype - Cofnodion
10 Chwefror 2020, Adeilad Llywodraeth Cymru, Aberystwyth - Cofnodion
2019
13 Rhagfyr 2019, Galwadau Skype - Cofnodion
16 Medi 2019 - Swyddfeydd CNC Aberystwyth - Agenda, Cofnodion
10 Mai 2019 – Swyddfeydd Cyngor Sir Ceredigion, Aberystwyth - Agenda, Cofnodion
6 Chwefror 2019, Tan y Bwlch, CNC, Aberystwyth - Agenda, Cofnodion
2018
11 Hydref 2018, Trawsgoed, CNC, Aberystwyth - Agenda, Cofnodion