Gwneud cais am Drwydded Amgylcheddol i waredu dip defaid gwastraff i'r tir
Sut i wneud cais am Drwydded Amgylcheddol i waredu dip defaid gwastraff i'r tir
I wneud cais am Drwydded Amgylcheddol i waredu dip defaid gwastraff i'r tir, bydd angen i chi gwblhau ein ffurflen gais ar-lein
Ffioedd
Ffioedd ymgeisio
Y ffi ymgeisio ar gyfer y Drwydded Amgylcheddol hon yw £3,840.
Yn ogystal â'r ffi ymgeisio untro, codir ffi flynyddol i gynnal y drwydded. Ar gyfer y rhan fwyaf o ddeiliaid trwydded y tâl hwn yw £178 y flwyddyn.
Darllenwch fwy am ffioedd yn ein cynllun codi tâl am drwyddedau amgylcheddol.
Ffi Asesiadau Cynefinoedd
Os yw eich gollyngiad yn agos at safle cynefin Ewropeaidd cydnabyddedig bydd angen i ni gynnal Asesiad Rheoliadau Cynefinoedd fel rhan o’r gwaith o asesu eich cais am drwydded. Bydd hyn yn golygu ffi ychwanegol o £1,721
Ceisiadau heb ddigon o fanylion i fwrw ymlaen
Os byddwn yn dychwelyd eich cais oherwydd diffyg manylion ac felly'n methu bwrw ymlaen heibio'r
cam lle derbynnir y cais, byddwn yn cadw 10% o'r ffi ymgeisio. Dim ond ar ôl rhoi cyfle i chi ddarparu gwybodaeth goll y byddwn yn dychwelyd cais.
Os byddwch yn penderfynu tynnu eich cais am drwydded yn ôl
Os byddwch yn penderfynu tynnu eich cais am drwydded yn ôl ar ôl i ni ei dderbyn, byddwn yn cadw 100% o’r ffi ymgeisio. Os byddwch yn penderfynu tynnu'n ôl cyn i ni symud ymlaen o'r cam lle derbynnir y cais, byddwn yn cadw 10% o’r ffi ymgeisio.