Argyfwng y newid yn yr hinsawdd - Does dim Planed B!
Ydych chi eisiau ennyn diddordeb eich dysgwyr...
Pixabay
Bydd yr adnoddau ar y wefan hon yn cefnogi eich dysgwyr i ymchwilio i’r achosion a deall effaith tanau gwyllt ar yr amgylchedd, bywyd gwyllt, cymunedau a’r economi leol.
Bydd ein gweithgareddau a’n hadnoddau tanau gwyllt yn helpu eich dysgwyr i fod yn ddinasyddion moesegol a gwybodus, ac yn unigolion iach a hyderus sy’n barod i fyw bywydau llawn fel aelodau gwerthfawr o gymdeithas.
Bydd yr holl weithgareddau a gemau ar y dudalen hon yn eich helpu i alluogi eich dysgwyr i wneud cynnydd yn y ffyrdd a ddisgrifir ym mhedair diben y Cwricwlwm i Gymru. Cynhwysir dolenni i’r cwricwlwm yn y dogfennau a bydd pob gweithgaredd yn gymorth i chi gyflawni sawl agwedd o’r Fframwaith Llythrennedd a Rhifedd Cenedlaethol (LRC) a’r Fframwaith Cymhwysedd Digidol.
Mae ein nodyn gwybodaeth yn egluro beth yw tân, sut y gall nodweddion tanwydd effeithio ar ymddygiad a phatrwm tân, a sut mae pobl wedi defnyddio tân dros amser.
Oeddech chi’n gwybod bod gwahanol fathau o danau gwyllt? Mae’r nodyn gwybodaeth hwn yn archwilio sut mae tanau gwyllt yn dechrau, eu heffaith ar yr amgylchedd naturiol, eiddo a bywyd dynol, a sut maent yn cael eu rheoli.
Nodyn gwybodaeth - Tanau gwyllt
Gan ganolbwyntio ar ddefnydd o dân yn y gorffennol ac effaith tanau gwyllt ar bobl a’r amgylchedd, gellir defnyddio’r gweithgaredd hwn fel gêm cwis ‘cywir neu anghywir’, mewn parau i wirio gwybodaeth a dealltwriaeth neu i gasglu barn.
Cynllun gweithgaredd - Tanio'r dychymyg
Taflen datganiadau ac atebion - Tanio'r dychymyg
Cardiau adnoddau - Tanio'r dychymyg
Mae’r gweithgaredd hwn yn canolbwyntio ar sut y gall tanau gwyllt effeithio ar ein bywydau a’r amgylchedd naturiol, a’r sylw a roddir iddynt yn y cyfryngau. Bydd dysgwyr yn cymryd rhan mewn gweithgaredd chwarae rôl, yn archwilio ac yn trafod penawdau am danau gwyllt ledled y byd.
Cynllun gweithgaredd - Pynciau llosg yn y cyfryngau
Cardiau adnoddau - Pynciau llosg yn y cyfryngau
Her ar gyfer grwpiau sy’n edrych ar achosion a chanlyniadau tanau gwyllt, a sut y gallwn drechu’r effaith ar iechyd dynol a’r amgylchedd.
Cynllun gweithgaredd – ABC tanau gwyllt
Cardiau adnoddau – ABC tanau gwyllt (Saesneg yn unig)
Senario – Mae tân gwyllt wedi ymledu drwy’r ardal leol. Mae’r gweithgaredd hwn yn galluogi dysgwyr i archwilio effeithiau uniongyrchol a pharhaus y tân gwyllt ar y gymuned leol.
Cynllun gweithgaredd – Effeithiau tanau gwyllt
Cardiau adnoddau - Effeithiau tanau gwyllt
Beth fyddai eich dysgwyr yn ei wneud er mwyn dianc rhag tanau gwyllt? Gan ddefnyddio senario o drychineb tân gwyllt, gofynnwch i’ch dysgwyr greu eu cynllun gwacau penodol i helpu i’w diogelu nhw ac eraill mewn achosion o dân gwyllt.
Cynllun gweithgaredd – Cynllun cilio rhag tanau gwyllt
Bydd y gweithgaredd hwn yn annog dysgwyr i weithio fel tîm, datrys problemau a meddwl yn feirniadol er mwyn tywys ‘creaduriaid’ drwy gynefin sydd dan fygythiad gan danau gwyllt.
Cynllun gweithgaredd – Dihangfa o danau gwyllt
Mae’r cynllun gweithgaredd hwn yn canolbwyntio ar yr effaith emosiynol sy’n cael ei deimlo gan aelodau cymuned yn ystod ac ar ôl profi achos o dân gwyllt. Bydd dysgwyr yn ystyried eu teimladau eu hunain ynglŷn â’r mater ac yn cydymdeimlo gydag unigolion a grwpiau eraill yn y gymuned leol.
Cynllun gweithgaredd – Ffawd yn y fflamau
Cardiau adnoddau – Ffawd yn y fflamau
Gadewch i’ch dysgwyr gymryd rôl ymchwiliwr tanau gwyllt i weld os allant ddilyn y cliwiau i ganfod y person sy’n gyfrifol! Mae’r cynllun gweithgaredd hwn yn canolbwyntio ar pam bod tanau gwyllt yn cael eu cynnau’n fwriadol a’r canlyniadau i unigolion, cymunedau a’r amgylchedd naturiol.
Nodyn gwybodaeth – Ymchwilio i achosion tanau gwyllt
Cynllun gweithgaredd – Taclo’r taniwr
Cardiau adnoddau – Scenario: Taclo’r taniwr
Mae gan bob un ohonom gyfrifoldeb i ddiogelu ein cefn gwlad a'n mannau agored ar gyfer cenedlaethau'r presennol a'r dyfodol. Dilynwch y cyngor hwn o’r Cod Cefn Gwlad i osgoi cynnau tanau gwyllt.
Ffilm - Byddwch yn ofalus gyda barbeciws, tanau a sigaréts
Mae rhagor o wybodaeth ar gael ar wefan Teulu’r Cod Cefn Gwlad.
Cymerwch olwg ar ein gwefan am weithgareddau ac adnoddau sy’n cefnogi addysgu sgiliau ar gyfer tanio, rheoli a diffodd tân gwersyll yn ddiogel.
Os nad ydych yn gallu dod o hyd i beth rydych yn chwilio amdano, neu os hoffech help neu wybodaeth bellach, cysylltwch â ni yn: