Addysg a sgiliau: dod o hyd i gyrsiau hyfforddi

BETA: Mae hwn yn wasanaeth newydd — rhowch adborth i'n helpu i'w wella

Cyrsiau hyfforddi trawsgwricwlaidd am ddim wedi’u cysylltu â’r Cwricwlwm i Gymru ar gyfer addysgwyr, myfyrwyr ac arweinwyr grwpiau.

Gweminarau

Ymunwch â’n gweminarau am syniadau i fynd â’ch addysgu neu eich arweinyddiaeth allan i’r amgylchedd naturiol.

Cyrsiau wyneb yn wyneb

Mae ein cyrsiau hyfforddi yn cynnig gweithgareddau ymarferol, syniadau a mynediad at adnoddau dysgu. Byddant yn eich helpu i feithrin hyder ac i rwydweithio ag eraill.



Ymchwiliwch i drosedd amgylcheddol

Mae’r cwrs hwn yn gwahodd cyfranogwyr i ddod yn Swyddogion yr Amgylchedd dan hyfforddiant am y diwrnod. A allwch chi ymchwilio, casglu tystiolaeth, a chreu achos i fynd â’r troseddwr i’r llys?

6 Mehefin 2024, Fferm Fforest, Caerdydd – cyflwynir yn Saesneg

 

Diogelu neu ddatblygu ardal naturiol

Mae’r cwrs hwn yn archwilio manteision ac anfanteision cais cynllunio a sut gallai effeithio ar y dirwedd. A allwch chi gyflwyno eich canfyddiadau i gefnogi neu wrthwynebu’r cais?

25 Mehefin 2024 yn Abergele, Conwy – cyflwynir yn Gymraeg

26 Mehefin 2024 yn Abergele, Conwy – cyflwynir yn Saesneg

Diweddarwyd ddiwethaf