Rheoliadau hygyrchedd: asesiad baich anghymesur

Mae'r asesiad baich anghymesur hwn yn rhan o ddatganiad hygyrchedd ein gwefan.

Chwilio safleoedd dynodedig

Mae gan ardal chwilio safleoedd dynodedig ein gwefan gasgliadau o gynlluniau rheoli a dogfennau ategol.

Mae dros 1,400 o'r safleoedd hyn ac mae'r llyfrgell o ddogfennau wedi'i hadeiladu dros nifer o flynyddoedd. Bellach mae dros 10,000 o ddogfennau yn y llyfrgell chwilio safleoedd dynodedig.

Byddai'r rhan fwyaf ohonynt naill ai'n anodd eu trawsnewid neu na ellid eu newid gan eu bod yn ddogfennau wedi'u harwyddo sydd wedi’u llunio i gefnogi cymhwyso'r statws dynodedig a ffurfio'r cynllun rheoli.

Er bod y rhan fwyaf o'r dogfennau hyn yn dyddio cyn 23 Medi 2018, rydym yn dosbarthu'r rhain fel dogfennau canllaw ac mae angen i ni gefnogi mynediad hygyrch.

Ein hasesiad 

Fel rhan o'n hasesiad ar gyfer baich anghymesur mewn perthynas â chasglu 10,000 o ddogfennau ar gyfer safleoedd dynodedig, rydym wedi nodi dau weithgaredd y credwn y byddent yn angenrheidiol er mwyn cydymffurfio â'r gofynion hygyrchedd:

1. Cost dadansoddiad llawn a chyflawn

Byddai angen i ni adolygu'r holl ddogfennau trwy adolygiad gweledol â llaw, er mwyn deall a oedd modd trosi'n llawn i fersiwn hygyrch yn seiliedig ar gynnwys. Byddai hyn yn ein galluogi i ddiffinio set o gamau gweithredu ar gyfer pob dogfen i sicrhau bod naill ai fersiwn hygyrch newydd neu nodiadau esboniadol priodol i sicrhau bod darpariaeth lawn ar gyfer defnyddwyr hygyrch.

Amser/cost

  • byddai un unigolyn ychwanegol yn adolygu dau safle bob dydd (gan dybio bod chwe dogfen ar gyfer pob safle ar gyfartaledd) yn cymryd 700 diwrnod gwaith i'w cwblhau
  • byddai angen o leiaf tri unigolyn ychwanegol i gyflawni'r dadansoddiad hwn mewn blwyddyn
  • byddai angen o leiaf chwe unigolyn ychwanegol i gyflawni'r dadansoddiad hwn mewn chwe mis
  • byddai'r gost o leiaf £83,000 (yn seiliedig ar raddfa gyflog briodol CNC)

2. Cost gweithredu yn dilyn y dadansoddiad cyflawn

Amser/cost

  • byddai un unigolyn ychwanegol yn diweddaru dwy ddogfen y dydd yn cymryd o leiaf 21 mlynedd (yn seiliedig ar ddiweddaru neu ddarparu testun amgen ar gyfer pob un o'r 10,000 o ddogfennau)
  • byddai angen o leiaf 21 unigolyn ychwanegol i gyflawni hyn mewn blwyddyn
  • byddai angen o leiaf 42 unigolyn ychwanegol i gyflawni hyn mewn chwe mis
  • byddai'r gost o leiaf £580,000 (yn seiliedig ar raddfa gyflog briodol CNC)

Sylwer: Nid ydym yn ymwybodol o unrhyw geisiadau am fformatau hygyrch sy'n ymwneud ag unrhyw un o'r dogfennau hyn ac rydym yn priodoli hyn i'r gyfradd lawrlwytho isel a welwn ar gyfer y mwyafrif o ddogfennau safleoedd dynodedig.

Crynodeb

Mae cost gyfun y gweithgaredd uchod yn uchel ac mae'r buddion cymharol i ddefnyddwyr yn fach. Mae angen i ni barhau i ganolbwyntio ar ddogfennau defnydd uchel a ffurflenni cais, yn enwedig y rhai a fyddai'n fwy buddiol ar unwaith i'n cwsmeriaid sydd ag anghenion hygyrchedd.

Mae CNC wedi ymrwymo i gefnogi anghenion hygyrch cymaint â phosibl a byddwn yn ymateb i bob cais gan ddefnyddwyr sy'n ymwneud â'r safleoedd dynodedig hyn i'w cefnogi nhw â'u hanghenion.

Yn ôl at ddatganiad hygyrchedd CN

 

Diweddarwyd ddiwethaf