Arhoswch tra bod ein crynodeb o rybuddion llifogydd yn llwytho.

Cofrestrwch i dderbyn rhybuddion llifogydd

Cofrestu am rybuddion llifogydd

Bydd angen y rhain arnoch chi:

  • y cyfeiriad neu leoliad rydych yn ei gofrestru 
  • rhif ffôn y gellir cysylltu â chi yn ystod y dydd neu’r nos
  • cyfeiriad e-bost

Mae'r gwasanaeth yn rhad ac am ddim.

 

Neu gallwch hefyd gofrestru drwy ffonio gwasanaeth 24 awr Floodline:

Gweld y ffioedd galwadau ffôn ar gov.uk

Diweddaru’ch manylion neu ganslo rhybuddion llifogydd

Os ydych wedi cofrestru i gael rhybuddion llifogydd, gallwch mewngofnodi i’ch cyfrif neu ffonio Floodline er mwyn:

  • diweddaru’ch manylion
  • canslo’ch cyfrif

Os ydych yn credu eich bod wedi cofrestru â’r gwasanaeth ond heb dderbyn rhybudd llifogydd neu neges llifogydd - byddwch yn barod, a fyddai’n bosibl ichi gysylltu â ni er mwyn i ni allu cadarnhau eich bod wedi cofrestru â’ch manylion cyswllt cyfredol.

Beth yw ein gwasanaeth rhybuddion llifogydd

Rydym yn monitro glawiad, lefelau afonydd a chyflyrau'r môr i gynnig rhagolygon llifogydd 24/7.

Mae hyn yn ein gadael ni i anfon rhybuddion llifogydd ledled rhan helaeth o Gymru. 

Ar ôl cofrestru i dderbyn rhybuddion llifogydd, byddwn yn eu hanfon atoch chi drwy neges testun, galwad ffôn a/neu ebost cyn gynted â'u bod nhw wedi'u cyhoeddi ar gyfer eich lleoliad.

Dylai hyn roi amser i chi baratoi ar gyfer llifogydd. 

Gallwch gofrestru ar gyfer mwy nac un lleoliad. Er enghraifft: 

  • eich cartref
  • busnes
  • adeilad arall sy'n eiddo i chi
  • unrhyw leoliadau eraill (er enghraifft tŷ perthynas)  

Mae ein gwasanaeth rhybuddio ar gael ar gyfer tua 90% o'r tai sydd mewn perygl o lifogydd o afonydd neu'r môr yng Nghymru, ac rydym bob amser yn gweithio ar ehangu y gwasanaeth hwn. 

Bydd ein gwasanaeth rhybuddio yn dangos: 

  • y math o rybudd llifogydd
  • y lleoliad 
  • yr amseriad  
  • canllawiau ar beth i'w wneud

Gallwch ffonio Floodline neu ddarllen sut i baratoi ar gyfer llifogydd.

Byw tu allan i'n ardaloedd rhybuddio llifogydd

Gallwch gofrestru ar gyfer yr ardal nesaf atoch chi lle rydyn ni'n cynnig rhybuddion llifogydd drwy chwilio am dref neu ddinas a dewis o'r rhestr.

Mae hyn yn helpu codi eich ymwybyddiaeth o amgylchiadau all effeithio arnoch chi. 

Ar gyfer rhai lleoliadau, byddwch dim ond yn derbyn negeseuon llifogydd - byddwch yn barod; nid y rhybuddion arferol.

Mae negeseuon llifogydd - byddwch yn barod ar gael ar gyfer ardaloedd eang ac maen nhw'n gallu rhoi rhybudd ymlaen llaw am bosibilrwydd llifogydd.

Rydym yn anfon negeseuon llifogydd - byddwch yn barod yn fwy aml na'r rhybuddion arferol. 

Y mathau o lifogydd rydyn ni'n rhybuddio amdanynt

Rydyn ni'n rhybuddio am lifogydd o afonydd a'r môr. 

Gallwch fod mewn pergyl o lifogydd nad ydyn ni'n rhybuddio amdanynt: 

  • dŵr wyneb
  • cyrsiau dŵr bach

Mae'r mathau hyn o lifogydd yn medru digwydd yn gyflym iawn ac yn aml maen nhw'n lleol iawn.

Mae hyn yn golygu bod dim amser i ni anfon negeseuon rhybuddio ymlaen llaw. 

Serch hynny, mae ffyrdd eraill o ddysgu mwy am y risg: 

Negeseuon Cymraeg

Gallwch ddewis i dderbyn rhybuddion a gohebiaeth yng Nghymraeg neu yn Saesneg.

Mewn argyfwng efallai fyddwn yn anfon rhybudd atoch yn Saesneg yn lle'r Gymraeg.

Sut yr ydym yn prosesu eich data

Mae’r System Rhybuddion Llifogydd yn cael ei rheoli gan Asiantaeth yr Amgylchedd.

Sut y mae eich data personol yn cael eu prosesu

Data personol cwsmeriaid yng Nghymru yn unig y gall Cyfoeth Naturiol Cymru ei brosesu. 

Byddwn yn defnyddio’r wybodaeth a ddarperir ar gyfer y gwasanaeth hwn yn unig er mwyn rhoi rhybuddion a gwybodaeth am lifogydd. I ddysgu mwy am y ffordd yr ydym yn prosesu eich data personol gweler ein Hysbysiad Preifatrwydd.

Diweddarwyd ddiwethaf