Bod yn berchen ar gwrs dŵr
Edrych i weld a ydych yn berchen ar gwrs dŵr
Fel arfer, rydych yn berchen ar ddarn o gwrs dŵr sy’n:
- rhedeg ar neu o dan eich tir
- ar ffin eich tir, hyd at ei ganol
Edrychwch ar weithredoedd eich eiddo os nad ydych yn sicr o ran perchnogaeth.
Os ydych yn rhentu’r tir, dylech gytuno ar bwy fydd yn rheoli’r hawliau a’r cyfrifoldebau hyn gyda’r perchennog.
Gall cwrs dŵr fod yn:
- afon
- nant
- ffos
- melin
- cwlfer (strwythur o dan y ddaear y gall dŵr lifo drwyddo)
Rhoi gwybod am ddigwyddiad
Cysylltwch â ni ynglŷn â digwyddiadau ar ‘brif afonydd’. Fel arfer, mae prif afonydd yn afonydd neu nentydd mwy o faint.
Rhowch wybod am ddigwyddiad ar-lein neu ar y ffôn i ddweud wrthym am:
- lifogydd
- prif afonydd sydd wedi blocio, a allai achosi llifogydd
- llygredd
- glannau sydd wedi syrthio neu sydd wedi’u difrodi
- newidiadau anarferol o ran llif yr afon
Eich cyfrifoldebau
Gadewch i ddŵr lifo'n naturiol
Rhaid i chi adael i ddŵr lifo drwy eich tir heb unrhyw rwystr, llygredd na dargyfeiriad.
Gadewch le o amgylch y cwrs dŵr ar gyfer mynediad, rhag ofn y bydd angen cynnal a chadw neu archwilio.
Rhwystrau mewn afonydd
Rhaid i chi gadw'ch afon a'ch glannau'n glir o unrhyw beth a allai rwystro’r llif neu gynyddu perygl llifogydd. Er enghraifft, sbwriel neu goed sydd wedi cwympo mewn amgylcheddau trefol. Ni ddylech storio deunyddiau nac adeiladu ar lan yr afon, oherwydd gall hyn gynyddu’r perygl o lifogydd ac erydiad.
Gadewch yr holl goed, canghennau a llwyni eraill. Gallant helpu i atal llifogydd, lleihau erydiad a gwella cynefin yr afon.
Cadwch unrhyw strwythurau, fel ceuffosydd, sgriniau sbwriel, coredau a giatiau melinau, yn glir o falurion.
Peidiwch â mynd i mewn i geuffos oherwydd gallech gael eich dal neu eich gwenwyno gan nwyon. Os oes angen ei glirio neu ei atgyweirio, cysylltwch â'ch awdurdod rheoli risg am gyngor.
Gwarchod bywyd gwyllt
- Peidiwch ag achosi rhwystrau a fyddai’n atal pysgod rhag pasio
- Rhaid i unrhyw waith gyd-fynd â’r afon naturiol ac ni ddylai niweidio bywyd gwyllt
- Peidiwch â tharfu ar rywogaethau gwarchodedig na’u cynefinoedd
- Peidiwch â tharfu ar adar na’u nythod
- Rhaid ichi reoli rhywogaethau estron goresgynnol fel clymog Japan
Atal llygredd
Peidiwch â llygru'r dŵr. Peidiwch â defnyddio glannau afonydd i waredu gwastraff gardd, dŵr gwastraff, cemegion, nac unrhyw beth arall a allai achosi llygredd.
Dylech:
- glirio unrhyw sbwriel o’r glannau
- symud carcasau anifeiliaid o’r sianel a’r glannau, hyd yn oed os na ddaethant o’ch tir chi
Dysgwch am y rheolau cyfreithiol ar ddefnyddio chwynladdwyr.
Lleihau erydiad
Chi sy'n gyfrifol am ddiogelu glannau afonydd rhag erydu. Edrychwch ar y canllawiau isod i weld a oes angen trwydded arnoch cyn dechrau unrhyw waith.
Cysylltwch â'ch awdurdod rheoli risg os ydych yn pryderu bod yr erydiad yn effeithio ar amddiffynfa rhag llifogydd.
Cael cyngor ar fod yn berchen ar gwrs dŵr
I gael cyngor ar yr hyn y dylech ei wneud os ydych yn berchen ar ran o gwrs dŵr, cysylltwch â’ch awdurdod rheoli risg.
Os yw’n ymwneud â:
- phrif afon neu ardal draenio mewnol, ni yw eich awdurdod rheoli risg a dylech gysylltu â ni
- unrhyw gwrs dŵr arall, eich awdurdod rheoli risg yw eich awdurdod llifogydd lleol
Rheoli eich perygl llifogydd
Os ydych yn berchen ar gwrs dŵr, rydych yn gyfrifol am weld beth yw eich risg llifogydd. Gallwch:
Amddiffynfeydd rhag llifogydd neu strwythurau eraill ar eich tir
Gall strwythurau ar eich tir, fel wal neu gwlfer, fod yn bwysig er mwyn atal llifogydd. Os oes strwythur amddiffyn rhag llifogydd yn rhedeg drwy eich eiddo, byddech yn berchen arno o'r man lle mae’n mynd i mewn i'ch tir i'r man lle mae'n ei adael. Efallai mai chi sy'n gyfrifol am atgyweirio neu gynnal a chadw’r strwythur neu’r adeiledd.
Edrychwch i weld a oes gennych strwythur amddiffyn rhag llifogydd ar eich tir.
Cael caniatâd i wneud gwaith mewn cwrs dŵr neu o’i amgylch
Mae angen i chi edrych i weld pa hawliau a thrwyddedau sydd eu hangen arnoch cyn gwneud unrhyw waith mewn cwrs dŵr neu o'i amgylch. Mae hyn yn cynnwys:
- Carthu
- newid glan yr afon
- amddiffyn rhag erydiad
- tynnu silt
Mae hyn er mwyn sicrhau nad ydych yn ymyrryd â'n hasedau rheoli perygl llifogydd nac yn niweidio'r amgylchedd, pysgodfeydd neu fywyd gwyllt lleol.
Gallech fod yn torri’r gyfraith os byddwch yn cychwyn gwaith heb gael y caniatâd sydd ei angen arnoch.
Gweithio ar brif afon
Mae angen trwydded gweithgaredd perygl llifogydd arnoch, a elwid gynt yn ganiatâd amddiffyn rhag llifogydd, os ydych am wneud gwaith:
- ar neu’n agos at brif afon
- ar neu’n agos at strwythur amddiffyn rhag llifogydd
- ar neu’n agos at amddiffynfa forol
- mewn gorlifdir
Edrychwch i weld a oes angen i chi wneud cais am drwydded gweithgaredd perygl llifogydd.
Gweithio ar gwrs dŵr cyffredin
Nid oes angen trwydded arnoch i weithio ar gwrs dŵr cyffredin – afonydd, nentydd a ffosydd bach fel arfer. Ond dylech gysylltu â'ch awdurdod lleol cyfrifol i wneud cais am ganiatâd cwrs dŵr cyffredin.
Os yw’r gwaith rydych yn ei gynllunio mewn Ardal Draenio Mewnol (ADM) bydd rhaid i chi wneud cais am ganiatâd draenio tir.
Cysylltwch â ni os nad ydych yn siŵr a yw’r cwrs dŵr yn brif afon, cwrs dŵr cyffredin, neu ran o Ardal Draenio Mewnol.
Cyrsiau dŵr llanwol
Edrychwch i weld a oes arnoch angen trwydded forol cyn cynnal gwaith ar gwrs dŵr y mae’r llanw’n effeithio arno.
Caniatâd cynllunio
Cysylltwch â’ch awdurdod lleol i weld a oes arnoch angen caniatâd cynllunio cyn cychwyn unrhyw waith.
Melinau a choredau
Mae melinau a choredau’n strwythurau sy’n gallu rheoli llifoedd a lefelau afonydd. Bydd arnoch angen trwydded cronni dŵr i roi argae mewn cwrs dŵr neu adeiladu cored.
Cysylltwch â'ch awdurdod rheoli risg os ydych am adeiladu cored, llifddor neu strwythur rheoli arall, neu os hoffech addasu strwythur sy'n bodoli eisoes.
Gwaith sy’n effeithio ar safleoedd a rhywogaethau gwarchodedig
Rhaid i chi wneud cais am drwydded os ydych yn cynnal unrhyw weithgaredd sy’n effeithio ar rywogaeth warchodedig neu safle gwarchodedig.
- gwneud cais am drwydded rhywogaethau gwarchodedig
- edrych i weld a yw eich safle ar neu’n agos at safle gwarchodedig
Gollwng dŵr
Os ydych am ollwng i ddŵr wyneb (er enghraifft, afon, ffrwd, aber neu’r môr) neu i ddŵr daear (yn cynnwys trwy system ymdreiddio) efallai y bydd angen i chi wneud cais am drwydded amgylcheddol.
Pysgota
Os ydych chi’n 13 oed neu’n hŷn, mae arnoch angen trwydded ddilys ar gyfer pysgota â gwialen i bysgota ar gyfer eogiaid, brithyllod, pysgod dŵr croyw, brwyniaid neu lysywod yng Nghymru. Mae’n bwysig edrych i weld beth yw eich hawliau, oherwydd gall hawliau pysgota gael eu gwerthu neu eu prydlesu.