Gwiriwch eich risg o erydu arfordirol (map Rheoli Pergyl Erydu Arfordirol Cenedlaethol)

Perygl erydu arfordirol

Rydym yn dangos perygl erydu arfordirol fel tri band ar y map gyda gwahanol liwiau ar gyfer y canlynol:

  • y tymor byr, 2005 i 2025
  • y tymor canolig, 2005 i 2055
  • y tymor hir, 2005 i 2105

Gwiriwch y perygl o erydu arfordirol ar fap (map Rheoli Perygl Erydu Arfordirol Cenedlaethol):

Amcangyfrifon erydiad

Mae'r bandiau lliw yn dangos yr amrediad canol (hyder 50 canradd) ar gyfer amcangyfrif yr erydiad fel y tir sy'n cael ei golli mewn metrau ar gyfer pob cyfnod amser. Mae'r tir sy'n cael ei golli yn cael ei fesur o leoliad ymyl y clogwyn yn 2005.

Cliciwch ar y bandiau hefyd i weld yr amcangyfrifon isaf (hyder 95 canradd) i uchaf (hyder 5 canradd) mewn blychau testun.

Mae 'hyder canraddol' yn golygu pa mor sicr ydym y bydd erydiad yn cyrraedd man penodol erbyn pwynt penodol mewn amser.

Mae hyder o 95 canradd yn golygu ein bod 95% yn sicr y bydd erydiad yn cyrraedd y lleoliad hwn erbyn adeg benodol mewn amser. Mae hyder 5 canradd yn golygu ein bod 5% yn sicr y bydd erydiad yn cyrraedd y lleoliad hwn erbyn adeg benodol mewn amser.

Mae rhannau o arfordir ar y map lle nad oes unrhyw amcangyfrifon perygl erydu arfordirol yn bodoli:

  • yn gyffredinol, nid ydym yn cynnwys manylion ardaloedd daearegol gymhleth, a elwir yn 'clogwyni cymhleth'. Mae hyn oherwydd bod ansicrwydd ynghylch rhagweld amseriad a maint yr erydiad yn y lleoliadau hyn
  • lle mae'r arfordir yn wastad neu'n isel, perygl llifogydd o'r môr yw'r prif risg

Senarios erydiad

Gallwch newid rhwng dwy senario ar y map:

  • dim ymyrraeth weithredol. Mae hyn yn golygu'r perygl os nad oes buddsoddiad mewn amddiffynfeydd arfordirol a bod yr arfordir yn esblygu'n naturiol
  • dilyn polisïau’r Cynllun Rheoli Traethlin. Mae hyn yn golygu'r perygl wrth ddilyn polisïau'r Cynllun Rheoli Traethlin a ddangosir isod

Perygl llifogydd o’r môr

Mae’r map hefyd yn dangos eich perygl o lifogydd o’r môr.

Gallwch hefyd chwilio am gyfeiriad i wirio'r perygl o lifogydd o afonydd, y môr, dŵr wyneb a chyrsiau dŵr bach.

Rheoli perygl arfordirol

Mae perygl arfordirol yn golygu'r perygl o erydu arfordirol a llifogydd o'r môr. Mae ein map yn dangos sut mae'r peryglon hyn yn cael eu rheoli yn eich ardal chi.

Mae gan bob ardal arfordirol yng Nghymru un o bedwar polisi gwahanol ar gyfer rheoli’r arfordir. Gelwir y rhain yn bolisïau Cynllun Rheoli Traethlin:

  • Cynnal y Llinell: drwy gynnal neu newid y safon amddiffyn bresennol
  • Symud y Llinell: drwy adeiladu amddiffynfeydd newydd ar ochr y môr i’r amddiffynfeydd gwreiddiol (er nad yw enghraifft o hyn yng Nghymru)
  • Adlinio a Reolir: sy'n galluogi'r traethlin i symud yn ôl ac ymlaen, gyda gwaith rheoli i reoli neu gyfyngu’r symud
  • Dim Ymyrraeth Weithredol: lle nad oes buddsoddiad mewn amddiffynfeydd arfordirol a bod prosesau naturiol yn cael parhau i greu arfordir sy'n esblygu

Mae'r polisïau hyn yn cwmpasu'r tymor byr (2005–2025), y tymor canolig (2025–2055) a’r tymor hir (2055–2105).

Mewn rhai lleoliadau, bydd y dull o reoli’r draethlin yn newid dros amser – er enghraifft, yn newid o gynnal y llinell i adlinio a reolir neu ddim ymyrraeth weithredol.

Data Systemau Gwybodaeth Ddaearyddol

Gallwch lawrlwytho nifer o'r haenau map o MapDataCymru.

Ymwadiad ar gyfer y map perygl erydu arfordirol

Canllaw yn unig yw'r data yn y map hwn. Mae'n rhoi gwybodaeth am lefel y perygl ar gyfer ardal, nid ar gyfer eiddo unigol.

Mae'r data yn y map yn disgrifio'r amcangyfrifon amrediad uchaf ac isaf o'r perygl erydiad mewn lleoliad. Nid yw'r data yn rhoi amcan ar gyfer lleoliad absoliwt y morlin yn y dyfodol.

Darllenwch yr Ymwadiad ar gyfer ein gwasanaeth mapio perygl llifogydd ac erydu arfordirol sy'n berthnasol i'n map risg erydu arfordirol.

Diweddarwyd ddiwethaf