Adroddiad data gollyngiadau gorlifoedd stormydd – 2022

Ym mis Gorfennaf 2022, lansiwyd Tasglu Gwella Ansawdd Afonydd Cymru gan Julie James, y Gweinidog Newid Hinsawdd. Mae’r tasglu’n dod â phrif chwaraewyr at ei gilydd o Lywodraeth Cymru, Cyfoeth Naturiol Cymru, Dŵr Cymru, Hafren Dyfrdwy ac Ofwat, gyda chyngor annibynnol gan Afonydd Cymru a’r Cyngor Defnyddwyr Dŵr. 

Mae’r tasglu wedi datblygu cynlluniau gweithredu ar y cyd i gasglu mwy o dystiolaeth o effaith gorlifoedd stormydd ar ein hafonydd, i leihau eu heffeithiau, i wella rheoleiddio ac i addysgu’r cyhoedd ar gamddefnyddio carthffosydd.

Yn unol â chamau CNC a nodir yn y cynlluniau gweithredu ar gyfer gorlifoedd stormydd, rydym wedi nodi ein sefyllfa reoleiddio bresennol ar ddata gollyngiadau gorlifoedd stormydd ar gyfer 2022. Rydym hefyd yn cynnwys manylion y camau gweithredu cyfredol ac yn y dyfodol o ran rheoleiddio gorlifoedd stormydd.

Darllenwch yr Adroddiad data gollyngiadau gorlifoedd stormydd 2022.

Gallwch ddarllen mwy am waith Tasglu Gwella Ansawdd Afonydd Cymru ar wefan Llywodraeth Cymru.

Diweddarwyd ddiwethaf