Arolwg gwastraff adeiladu a dymchwel 2019

Rheolir yr arolwg gwastraff adeiladu a dymchwel ar gyfer Cymru gan Cyfoeth Naturiol Cymru ar ran Llywodraeth Cymru.

Gan redeg o fis Ebrill i fis Medi 2021, cofnododd yr arolwg y gwastraff a gynhyrchwyd gan 508 o fusnesau adeiladu a dymchwel yng Nghymru yn ystod 2019.

Roedd gofyn i’r gwaith arolygu:

  • nodi pa gyfleusterau ailgylchu a thrin gwastraff newydd y gallai fod eu hangen ledled Cymru
  • monitro perfformiad yn erbyn targedau'r Strategaeth Wastraff Genedlaethol gan gynnwys lleihau gwastraff, ailgylchu a dargyfeirio o safleoedd tirlenwi
  • cynhyrchu ystadegau at ddibenion adrodd statudol

Casglu data

Casglwyd data o 508 o safleoedd busnes o wahanol sectorau a meintiau ledled Cymru rhwng mis Ebrill 2021 a mis Medi 2021. Cafodd y data ei grosio gan ddefnyddio data poblogaeth i lefel ranbarthol a chenedlaethol yng Nghymru.

Cyflawnodd canlyniadau arolwg 2019 welliant sylweddol o ran cywirdeb arolygu gan ddarparu'r amcangyfrif mwyaf cywir o sgil-gynhyrchion gwastraff adeiladu a dymchwel cenedlaethol hyd yma.

Prif ganfyddiadau

  • Amcangyfrifir bod sectorau adeiladu a dymchwel Cymru wedi cynhyrchu tua 3.43 miliwn tunnell o wastraff yn 2019
  • Cynhyrchwyd y rhan fwyaf o wastraff adeiladu a dymchwel gan y sectorau Peirianneg Sifil (36%), Adeiladu Cyffredinol (16%) ac Adeiladau Domestig (16%), gyda'r chwe sector sy'n weddill yn cyfrif am lai na 10% yr un o gyfanswm y sgil-gynhyrchion gwastraff adeiladu a dymchwel
  • Roedd y canlyniadau'n dangos bod y sector adeiladu a dymchwel ar y trywydd iawn i gyflawni targedau atal, ailgylchu a thirlenwi gwastraff, sydd wedi’u pennu gan Lywodraeth Cymru

Math o wastraff

Y prif fathau o wastraff adeiladu a dymchwel a gynhyrchwyd oedd gwastraff cymysg a phridd, gan gyfrif am 45% a 38% yn y drefn honno. Roedd y gweddill yn agregau ar wahân (7%) a gwastraff nad yw'n fetelaidd (3%) yn bennaf.

Rheoli gwastraff

Mewn perthynas â sut y câi’r gwastraff hwn ei reoli, amcangyfrifwyd y canlynol:

  • Cafodd 2.5 miliwn tunnell neu 73% ei ailgylchu
  • Cafodd 511 mil tunnell neu 14.9% ei baratoi i’w ailddefnyddio oddi ar y safleoedd
  • Cafodd 213 mil tunnell neu 6.2% ei waredu mewn safleoedd tirlenwi
  • Cafodd 53 mil tunnell neu 1.6% ei anfon i’w adfer fel arall
  • Cafodd 52 mil tunnell neu 1.5% ei gompostio
  • Cafodd 19 mil tunnell neu 0.6% ei anfon i’w losgi
  • Cafodd 12 mil tunnell neu 0.3% ei anfon ar gyfer adfer tir
  • Cafodd y gweddill – 61 mil tunnell neu 1.7% - ei ddosbarthu fel ‘arall’

Y prif ddefnydd yr adroddwyd ei fod wedi'i anfon i safleoedd tirlenwi oedd pridd, sy'n dangos bod cyfleoedd pellach i wella'r broses o adfer y defnydd hwn yn y sectorau adeiladu a dymchwel.

Gwastraff peryglus

Amcangyfrifwyd bod 116 mil o dunelli o wastraff peryglus wedi'i gynhyrchu gan sectorau adeiladu a dymchwel yn 2019 allan o gyfanswm gwastraff a gynhyrchwyd o 3.4 miliwn tunnell (3%).

Yn ôl defnydd, roedd y rhan fwyaf o wastraff peryglus yn bridd (42%) a gwastraff agregau (41%), gan gyfrif am 49kt a 48kt yn y drefn honno.

Yn ôl is-sector, roedd Adeiladu Priffyrdd, Ffyrdd, Meysydd Awyr a Chyfleusterau Chwaraeon yn cyfrif am 63 kt (55%), gyda'r ail gyfran fwyaf o'r sector Adeiladu Peirianneg Sifil, gyda 24 kt (20%).

Yn ôl dull rheoli gwastraff, adroddwyd bod y rhan fwyaf o wastraff peryglus wedi'i Dirlenwi (52 kt).

Lawrlwythwch yr adroddiad

Arolwg gwastraff adeiladu a dymchwel 2019

Cyswllt John.fry@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk ar gyfer atodiadau technegol.

Mae cyfyngiadau o ran ansawdd yr amcangyfrifon a gynhyrchir yn berthnasol i ganlyniadau pob arolwg. Er nad yw'r cyfyngiadau hyn yn newid y canlyniadau na'r data ystadegol a gyflwynir yn yr adroddiad, dylai defnyddwyr y data eu cadw mewn cof.

Mae gwybodaeth am reoli gwastraff yn yr adroddiad yn ddibynadwy ar y cyfan ond mae cywirdeb y canlyniadau wedi'i gyfyngu i'r wybodaeth oedd ar gael i’r cynhyrchwyr a arolygwyd ar gyrchfannau terfynol eu gwastraff. Mae'r cywirdeb yn gyfyngedig oherwydd cymhlethdodau o ran llwybrau rheoli gwastraff ac anawsterau wrth gysylltu’r dynged derfynol yn ôl i'r ffynhonnell.

Diweddarwyd ddiwethaf