Crynodeb

Mae gan Gymru 2,700 km o arfordir. Mae'r ecosystem ymylon arfordirol yn cynnwys morfeydd heli, twyni tywod, clogwyni môr, graean a morlynnoedd halwynog. Dim ond 3% o gynefinoedd lled-naturiol Cymru y mae'n eu cynrychioli.

Fel arfer wedi'u cyfyngu i barth cul, mae'r cynefinoedd hyn yn cwmpasu'r newid rhwng y tir a'r môr. Yn hanesyddol, mae colledion sylweddol wedi digwydd oherwydd hawlio tir, amaethyddiaeth gynyddol ddwys a datblygu.

Yn naturiol ddeinamig, gall ymylon arfordirol symud neu newid wrth iddynt brofi erydiad, croniant (twf/cynnydd), drifft y glannau, newidiadau tymhorol a stormydd.

Gall patrymau cryf o wahanol gymunedau planhigion ddatblygu oherwydd gwahaniaethau o ran cysylltiad â chwistrell halen, llanw ac olyniaeth. Mae'r parth arfordirol yn fioamrywiol iawn ac fe'i nodweddir gan rywogaethau arbenigol sydd wedi addasu i amgylchiadau morol.

Dethlir arfordir Cymru am ei golygfeydd eiconig ac mae'n boblogaidd ar gyfer hamdden a thwristiaeth. Mae hyn yn dod â manteision i'r economi a lles personol.

Mae cynefinoedd ymylon arfordirol yn chwarae rhan bwysig wrth gyfrannu at amddiffyniad rhag llifogydd dros lawer o arfordir Cymru naill ai drwy weithredu fel rhwystr i lifogydd neu glustog drwy amsugno nerth tonnau.

Yn draddodiadol, mae cyfran uchel o gynefinoedd arfordirol wedi'u rheoli ar gyfer amaethyddiaeth (pori'n bennaf), sy'n aml yn bwysig ar gyfer cynnal cynefin o ansawdd da.

Erbyn hyn, mae ymylon arfordirol yn y rheng flaen o ran newid yn yr hinsawdd, maent yn cael eu bygwth gan gynnydd yn lefel y môr ac erydiad.

Ein hasesiad

Lawrlwytho SoNaRR2020: Pennod Ymylon Arfordirol (Saesneg PDF)

Mae'r bennod yn tynnu sylw at y pwysau amrywiol sy'n effeithio ar statws, maint, cyflwr ac amrywiaeth ecosystem yr ymylon arfordirol. Amlinellir y cyfleoedd i wella gwydnwch ymylon arfordirol a sicrhau manteision o ran lles.

Mae anghenion tystiolaeth y bennod ymylon arfordirol wedi'u cynnwys yn y tabl anghenion tystiolaeth cyffredinol.

Dogfennau cysylltiedig i'w lawrlwytho

Data, mapiau ac adroddiadau sy’n gysylltiedig â SoNaRR 2020

Archwilio mwy

Diweddarwyd ddiwethaf