Cryodeb

Mae pridd Cymru a'i ryngweithio â'r hinsawdd yn pennu sut y gellir defnyddio tir yn gynaliadwy. Mae cymdeithas yn rhoi pwysau ar bridd a'i wasanaethau ategol (ffurfio pridd, cylchu maetholion) drwy ddefnyddio tir a thrwy newid yr amgylchedd.

Ar hyn o bryd amaethyddiaeth sy'n gyfrifol am yr ardal defnydd tir fwyaf yng Nghymru (o gwmpas 80%), ac yna coedwigaeth a choetiroedd (o gwmpas 15%) ac yna'r amgylchedd adeiledig (wedi'i wneud gan bobl). Mae'r defnydd a'r math o orchudd tir yn cael eu hintegreiddio.

Defnyddir tir ar gyfer amaethyddiaeth mewn pedair ecosystem wahanol:

  • Ffermdir caeedig
  • Glaswelltir lled-naturiol
  • Ymylon arfordirol
  • Mynyddoedd, gweunydd a rhosydd

Ein hasesiad 

Lawrlwytho SoNaRR2020: Pennod defnydd tir a phriddoedd (Saesneg PDF)

Mae'r bennod yn asesu i ba raddau y mae adnoddau naturiol yn cael eu rheoli'n gynaliadwy drwy ystyried y pwysau a'r bygythiadau i briddoedd oherwydd y modd y defnyddir tir mewn amaethyddiaeth, coetiroedd a sefyllfaoedd trefol.

Mae hefyd yn archwilio'r gwasanaethau ecosystemau a ddarperir a chyfleoedd i reoli tir a phriddoedd yn fwy cynaliadwy. Bydd hyn yn cefnogi'r ymateb i argyfyngau'r hinsawdd a natur ac yn cyfrannu at wydnwch a lles.

Mae'r pwysau, yr effeithiau a'r cyfleoedd ar gyfer gweithredu a nodir gan y bennod defnydd tir a phriddoedd i'w gweld yn y cofrestrau adnoddau naturiol ar gyfer yr ecosystemau.

Mae anghenion tystiolaeth y bennod ar ddefnydd tir a phriddoedd wedi'u cynnwys yn y tabl anghenion tystiolaeth cyffredinol.

Archwilio mwy

Diweddarwyd ddiwethaf