Sut rydym yn blaenoriaethu anghenion tystiolaeth newydd
Sicrhau ei fod yn angen hanfodol
Y nod yw pennu a oes tystiolaeth debyg yn bodoli eisoes, a yw'n briodol i'w defnyddio wrth asesu'r gwaith o reoli adnoddau naturiol yn gynaliadwy, ac yw'n ddigon cadarn i seilio penderfyniadau arni.
Mae hefyd yn cwestiynu datrysiad gofodol a thros dro'r dystiolaeth sy'n bodoli a'r datrysiad sydd ei angen arnom i gynnal asesiad.
Mae'r cwestiwn hwn yn ymddwyn fel hidlwr i sicrhau mai dim ond anghenion hanfodol sy'n cael eu blaenoriaethu.
Asesu a yw'r angen yn gyflawnadwy
Mae hyn yn ymwneud â'r amser y bydd ei angen i wneud y gwaith er mwyn diwallu'r angen hwn.
Mae'r tymor byr ar gyfer Mai 2020 i'w ddefnyddio yn Adroddiad ar Sefyllfa Adnoddau Naturiol 2020, y tymor canolig erbyn Mai 2025 i'w ddefnyddio yn Adroddiad ar Sefyllfa Adnoddau Naturiol 2025, neu'r hirdymor, ar gyfer ar ôl Mai 2025, i'w ddefnyddio mewn adroddiadau yn y dyfodol.
Ystyried cyfraniadau at raglen dystiolaeth strategol
Mae hyn yn ystyried y mesurau a'r nodau llesiant o ran rheoli adnoddau naturiol yn gynaliadwy y mae'r angen am dystiolaeth yn ymwneud â nhw.
Ystyried gwerth ychwanegol
Mae ‘casglu unwaith, ei ddefnyddio at ddibenion eraill' yn ystyried y prosiectau eraill y gallai'r dystiolaeth gael ei defnyddio ar eu cyfer a pha sbardunwyr anuniongyrchol ac uniongyrchol y mae’n ymwneud â nhw.
Er enghraifft, mae'n bosibl y gallem ddefnyddio'r dystiolaeth mewn Datganiadau Ardal, adroddiadau corfforaethol neu yn ein dyletswyddau statudol eraill.
Ystyried effeithiau cynyddol
Rydym yn pennu'r risgiau o beidio â diwallu'r angen am dystiolaeth o ran ansawdd y dystiolaeth a'r asesiad y gellir ei gynnal o lesiant, yr economi ac ein henw da.
Mae hyn yn ein helpu i ddeall pa mor sylweddol yw'r risg hon.
Mae'r atebion i'r cwestiynau hyn yn ein helpu i flaenoriaethu'r anghenion sydd bwysicaf ar gyfer asesu'r gwaith o reoli adnoddau naturiol yn gynaliadwy ac mewn faint o amser y gallent fod ar gael.