Allyriadau nwyon tŷ gwydr yng Nghymru
Mae trydydd adroddiad blynyddol Llesiant Cymru (2019) yn rhoi'r manylion canlynol am y ddau sector yng Nghymru sy'n allyrru’r symiau mwyaf o nwyon tŷ gwydr, ynni a thrafnidiaeth:
Ynni
Ers 2005, mae 18% o ostyngiad yn y galw am drydan.
Daw oddeutu 22% o'r trydan a gynhyrchir yng Nghymru o ffynonellau adnewyddadwy. Mae maint y trydan adnewyddadwy a gynhyrchir gyfwerth â 48% o'r trydan a ddefnyddir yng Nghymru, sydd bum pwynt canran yn uwch na 2016.
Ar ddiwedd 2017, y capasiti a osodwyd ar gyfer ynni adnewyddadwy oedd 3,683 megawat. Mae hyn ddeg y cant yn uwch na'r flwyddyn flaenorol a mwy na theirgwaith yn uwch nag yr oedd yn 2012.
Casglwyd data arolwg newydd ar effeithlonrwydd ynni mewn cartrefi yng Nghymru yn 2017-18 am y tro cyntaf ers 2008. Er bod tystiolaeth fod cartrefi yng Nghymru'n dod yn fwy effeithlon o ran ynni, credir mai dim ond 47% o gartrefi yng Nghymru sydd â pherfformiad ynni digonol.
Trafnidiaeth
Fel y gwelir mewn rhannau helaeth eraill o'r DU, trafnidiaeth ffordd breifat sy'n parhau i fod y ffordd fwyaf poblogaidd o deithio. Gwneir y mwyafrif aruthrol o deithiau cymudo yng Nghymru mewn trafnidiaeth o'r fath.
Yn 2017, roedd 81% o gymudwyr yng Nghymru'n defnyddio car fel eu dull teithio arferol, sy'n ostyngiad bychan ers y ganran o 84% pan oedd ar ei huchaf yn 2013.
Mae mwy o gerbydau allyriadau isel iawn yn cael eu cofrestru, ond mae hyn o'i gymharu â phwynt cychwyn isel. Fel cyfran o'r holl gerbydau a gofrestrir yng Nghymru, ni sydd â’r gyfran isaf o unrhyw wlad neu ranbarth arall yn y DU.
Mae'r cyfrannau o bobl sy'n cerdded neu'n beicio i'r gwaith, yn teithio ar drên ac yn defnyddio bysys wedi parhau i fod yn sefydlog dros y 15 mlynedd diwethaf.