Ymchwil Rheoli Perygl Llifogydd ac Erydiad Arfordirol

Llifogydd yw un o’r peryglon naturiol mwyaf sy’n effeithio ar bobl, yr economi, a’r amgylchedd yng Nghymru. Disgwylir i newid hinsawdd gynyddu'r risgiau hyn, gan gynyddu amlder a dwyster digwyddiadau tywydd gan arwain at fwy o lifogydd ac erydu arfordirol.

Rydym wedi cyhoeddi ein Cynllun Rheoli Perygl Llifogydd ar gyfer 2023 i 2029 sy’n nodi ein blaenoriaethau ar gyfer lleihau’r perygl o lifogydd ac effeithiau llifogydd a’n dulliau o addasu a lliniaru effeithiau newid hinsawdd.

Wrth fwrw ymlaen â’r blaenoriaethau hyn, mae angen inni sicrhau bod ein penderfyniadau, ein gweithrediadau a'r cyngor yr ydym yn ei roi i'r Llywodraeth ac i eraill yn cael eu hategu gan wyddoniaeth a thystiolaeth gadarn o ansawdd sicr.

Byddwn yn defnyddio’r dystiolaeth orau sydd ar gael i gyfarwyddo ein penderfyniadau, er mwyn sicrhau ein bod yn ymateb i effeithiau llifogydd ac erydu arfordirol nawr ac yn y dyfodol.

Rhaglen Ymchwil a Datblygu Rheoli Perygl Llifogydd ac Erydu Arfordirol

Er mwyn helpu i ddiwallu ein hanghenion ymchwil a thystiolaeth, rydym yn cydweithio â Llywodraeth Cymru, Asiantaeth yr Amgylchedd a Defra ar y rhaglen Ymchwil a Datblygu Rheoli Perygl Llifogydd ac Erydu Arfordirol (FCERM).

Mae'r rhaglen yn cwmpasu Cymru a Lloegr a'i nod yw gwasanaethu anghenion yr holl awdurdodau rheoli perygl llifogydd ac arfordirol yng Nghymru a Lloegr.  Mae'r rhaglen yn cael ei rheoli a'i darparu gan Asiantaeth yr Amgylchedd a Defra.  Mae gan CNC rôl weithredol a phwysig o helpu i lunio’r rhaglen a phrosiectau unigol i ddiwallu ein hanghenion tystiolaeth.

Meysydd o Ddiddordeb i Ymchwil

Rydym wedi gweithio gydag Asiantaeth yr Amgylchedd, Defra a Llywodraeth Cymru i nodi’r meysydd hyn o ddiddordeb ar gyfer y rhaglen ymchwil a datblygu Rheoli Perygl Llifogydd ac Erydu Arfordirol (FCERM).  Defnyddir y meysydd hyn o ddiddordeb i ymchwil i ganolbwyntio gweithgareddau ymchwil ac ymgysylltu ar draws y rhaglen i sicrhau bod tystiolaeth yn cael ei chynhyrchu lle mae ei hangen fwyaf.

Mae'r meysydd ymchwil hyn yn

  • rhestrau o faterion ymchwil dybryd a chanlyniadau y mae angen i ni eu cyflawni
  • ffordd o fynegi i eraill ble rydym am grynhoi ymchwil sydd eisoes yn bodoli mewn rhai pynciau.

Meysydd o ddiddordeb i ymchwil hyd at 2028

Dyma’r meysydd o ddiddordeb o ran ymchwil hyd at 2028, wedi’u grwpio’n wyth pwnc.

  1. Deall perygl llifogydd ac erydu arfordirol yn y dyfodol

Mae angen inni ddeall yn well beth yw tebygolrwydd ac effaith llifogydd ac erydu arfordirol heddiw, yfory a hyd at y flwyddyn 2100.

  1. Gwydnwch ac addasu i lifogydd a newid arfordirol

Mae angen i’n gwaith ymchwil helpu pobl i gynllunio ar gyfer llifogydd, eu diogelu’n well, ymateb yn well i lifogydd ac adfer yn well yn dilyn llifogydd, a newid arfordirol.

  1. Cyllid a buddsoddiad

Ein nod yw denu ffynonellau ariannu a chyllid arloesol newydd ar gyfer rheoli perygl llifogydd ac erydu arfordirol yng Nghymru a Lloegr. Rydym hefyd yn awyddus i sicrhau fod gan ein buddsoddiadau fanteision lluosog a’u bod yn addas ar gyfer y dyfodol.

  1. Rheoli digwyddiadau llifogydd

Gall ymchwil wella’r ffordd y mae awdurdodau rheoli risg yn paratoi ar gyfer digwyddiadau llifogydd yng Nghymru a Lloegr ac yn ymateb iddynt.

  1. Rheoli asedau

Gall asedau rheoli perygl llifogydd ac erydu arfordirol fod yn unrhyw adeiledd neu nodwedd naturiol neu o waith dyn, megis waliau, adeiladau, argloddiau pridd, marianau neu ardaloedd o dir sydd wedi'u codi. Mae angen inni ddeall sut y gellir eu dylunio a'u gweithredu orau.

  1. Technoleg ddigidol

Gall technolegau digidol newydd sy’n dod i’r amlwg ein helpu i ddeall ac ymateb yn well i lifogydd ac erydu arfordirol a darparu cyfleoedd newydd i reoli llifogydd ac erydu arfordirol. 

  1. Sero net a chynaliadwyedd

Mae rheoli llifogydd ac erydu arfordirol yn cefnogi targedau’r llywodraeth, h.y. bod allyriadau’r DU yn cyrraedd sero net erbyn 2050, lliniaru unrhyw golledion amgylcheddol, a gwella cyfalaf naturiol.

  1. Canlyniadau integredig

Mae rheoli perygl llifogydd ac erydu arfordirol yn rhyngddisgyblaethol a gall ddarparu canlyniadau lluosog ac integredig i gymdeithas, i’r economi ac i'r amgylchedd. 

Ceir rhagor o wybodaeth ar wedudalen y rhaglen ar y cyd.

Os hoffech gysylltu â’r rhaglen i rannu gwybodaeth am sut mae eich gwaith yn berthnasol, neu os hoffech glywed gan dîm y rhaglen pan fydd gweithgaredd ymchwil newydd yn dechrau, defnyddiwch y ffurflen meysydd o ddiddordeb ymchwil

Os dymunwch wneud cais am gymorth gan y rhaglen ar gyfer partneriaeth ymchwil, dilynwch y cyfarwyddiadau ar sut i wneud cais am gymorth ymchwil

Cysylltu â Ni

Os hoffech gysylltu â CNC yn uniongyrchol, defnyddiwch y manylion isod.

FloodRiskManagement.Strategic@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk

academia@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk  

Diweddarwyd ddiwethaf