Ardaloedd Cymeriad Tirwedd Cenedlaethol (NLCA)

Mae tirweddau, a luniwyd dros amser gan natur a phobl, yn ffurfio’r mannau amgylcheddol lle rydym yn byw, yn gweithio ac yn mwynhau bywyd. Maent yn cyfrannu at ansawdd ein bywyd, at ein llwyddiant a’n lles. Drwy gydnabod cymeriad tirwedd, a’r adnoddau naturiol a’r dreftadaeth ddiwylliannol sy’n ei diffinio, mae’n bosibl inni gael gwell dealltwriaeth o sut i lunio ein dyfodol.

Ardaloedd Cymeriad Tirwedd Cenedlaethol

Diffinnir Ardaloedd Cymeriad Tirwedd Cenedlaethol ar raddfa tirwedd eang ledled Cymru. Mae’r proffiliau disgrifiadol ar gyfer y 48 ardal cymeriad unigol yn tanlinellu’r hyn sy’n gwahaniaethu rhwng y naill dirwedd a’r llall, gan gyfeirio at eu nodweddion naturiol ardal-benodol, eu nodweddion diwylliannol a chanfyddiadol. 

Mae’n well ystyried llawer o’r heriau cydnerthedd amgylcheddol a chynllunio yr ydym yn eu hwynebu ar ‘raddfa tirwedd’. Gall disgrifiadau polisi-niwtral yr NLCA gyfrannu at ddatblygu polisi, strategaeth neu ganllawiau cenedlaethol a rhanbarthol. Mae Datganiadau Ardal CNC yn ymgorffori gwybodaeth NLCA. 

Mae Ardaloedd Cymeriad Tirwedd Cenedlaethol yn cynnig:

  • darpariaeth sy’n cwmpasu Cymru gyfan
  • 48 ardal cymeriad ar raddfa eang
  • disgrifiad cryno a rhestr o nodweddion allweddol cysylltiedig â hunaniaeth ranbarthol
  • naratifau byrion sy’n crisialu dylanwadau gweledol, daearegol, cynefinol, hanesyddol a diwydiannol
  • yn ffurfio adnodd delfrydol ar gyfer gweithio ar lefel strategol ac yn darparu cyd-destun ehangach (graddfa 1:250,000)
  • yn darparu gwybodaeth allweddol ar gyfer hyrwyddo a dathlu tirweddau rhanbarthol
  • ac yn cynnig graddfa gydweddol ag Ardaloedd Cymeriad Tirwedd Cenedlaethol (NCAs) cyfagos yn Lloegr 

Ceir Ardaloedd Cymeriad Tirwedd Cenedlaethol eraill, mwy manwl ond ar raddfa lai yng Nghymru hefyd. Cyhoeddir y rhain gan awdurdodau lleol a gallent ffurfio rhan o’u Canllawiau Cynllunio Atodol.  

Mae pob asesiad cymeriad tirwedd yng Nghymru yn cychwyn drwy gyfeirio at LANDMAP, ein llinell sylfaen tystiolaeth tirwedd mwyaf manwl, ac oddi yma gallwn ddechrau ‘adeiladu’ ardaloedd cymeriad.

Lawrlwythiadau dogfennau cysylltiedig

NLCA01 Arfordir Môn PDF [1.2 MB]
NLCA02 Canol Môn PDF [1.2 MB]
NLCA03 Arfon PDF [1.3 MB]
NLCA04 Llŷn PDF [750.4 KB]
NLCA05 Bae Tremadog PDF [1.5 MB]
NLCA06 Eryri PDF [1.5 MB]
NLCA07 Dyffryn Conwy PDF [1.6 MB]
NLCA09 Y Rhos PDF [916.3 KB]
NLCA10 Mynydd Hiraethog PDF [684.1 KB]
NLCA11 Dyffryn Clwyd PDF [810.3 KB]
NLCA12 Bryniau Clwyd PDF [1.7 MB]
NLCA16 Y Berwyn PDF [1.6 MB]
NLCA19 Dyffryn Hafren PDF [2.9 MB]
NLCA25 Bro Ceredigion PDF [636.0 KB]
NLCA26 Blaenau Gwy PDF [1.4 MB]
NLCA28 Epynt PDF [2.8 MB]
NLCA31 Canol Sir Fynwy PDF [1.4 MB]
NLCA34 Morfa Gwent PDF [2.3 MB]
NLCA36 Bro Morgannwg PDF [1.8 MB]
NLCA37 Cymoedd y De PDF [1.6 MB]
NLCA38 Bae Abertawe PDF [2.2 MB]
NLCA39 Penrhyn Gŵyr PDF [1.8 MB]
NLCA40 Dyffryn Teifi PDF [3.0 MB]
NLCA41Dyffryn Tywi PDF [2.2 MB]
NLCA42 Bryniau Dyfed PDF [1.4 MB]
NLCA46 Mynydd Preseli PDF [1.5 MB]
NLCA47 Arfordir De Penfro PDF [933.4 KB]
NLCA48 Aberdaugleddau PDF [1.0 MB]
Diweddarwyd ddiwethaf