Y Cod Defnyddwyr Llwybrau

Rhannwch y lle

Mae Cymru’n frith o lwybrau, lonydd a ffyrdd heb balmant. Bydd y llwybrau hyn yn mynd â chi o garreg eich drws i’r rhannau mwyaf anghysbell o gefn gwlad ac yn cael eu defnyddio’n rheolaidd ar gyfer gwaith, gorffwys a chwarae.

Pa un ai ydych yn teithio ar olwynion, ar droed neu ar gefn ceffyl, mwynhewch yr awyr agored, a chofiwch:

1. Rhannwch y lle: arafwch – parchwch bobl eraill sy’n defnyddio’r llwybr, yn enwedig y rhai sy’n llai abl.

2. Olwynion, Cerdded, Carnau – dylai beiciau a cherbydau ildio i gerddwyr, a dylai pawb sicrhau eu bod yn gadael digon o le wrth fynd heibio i farchogion a gyrwyr cerbydau ceffyl, a dangos eu bod yno.

3. Cymerwch ofal - byddwch yn weladwy, yn glywadwy, ac yn ddiogel.

4. Dilynwch y llwybrau, arwyddion ffordd a mapiau.

5. Peidiwch ag achosi erydiad neu ddifrod drwy grwydro oddi ar y llwybr.

6. Mwynhewch natur ond gofalwch beidio â tharfu ar fywyd gwyllt.

7. Gadewch gatiau fel y daethoch o hyd iddynt a pheidiwch â gadael unrhyw olion yn sgil eich ymweliad.

8. Cadwch eich cŵn o dan reolaeth effeithiol a defnyddiwch y ffordd fwyaf diogel o gwmpas anifeiliaid fferm yn enwedig os ydyn nhw gyda’u hanifeiliaid bach.

9. Byddwch yn ymwybodol o beryglon o wneuthuriad dyn a pheiriannau – ufuddhewch i arwyddion sy’n rhybuddio bob amser.

10. Gofynnwch ganiatâd gan dirfeddianwyr os ydych chi’n trefnu gweithgaredd neu ddigwyddiad ar gyfer grŵp mawr.

Gwybod ble i fynd bob amser

Mae’r symbolau canlynol yn dangos y math o fynediad a ganiateir ar lwybrau, traciau a ffyrdd heb darmac.

Efallai bod cyfyngiadau lleol ar rai llwybrau neu rannau sy’n croesawu defnyddwyr eraill.

Nid yw hawl cyfreithlon neu ganiatâd yn angenrheidiol yn golygu y bydd y llwybr mewn cyflwr addas i bob defnyddiwr.

Llwybrau Troed Cyhoeddus

Saeth felen

Ar agor i gerddwyr a phobl sy’n defnyddio offer symud.

Wedi eu cyfeirbwyntio â saeth felen.

Llwybrau Ceffyl

Saeth las

Ar agor i gerddwyr, pobl sy’n defnyddio offer symud, beicwyr a phobl sy’n marchogaeth ceffylau.

Wedi eu cyfeirbwyntio â saeth las.

Cilffyrdd Cyfyngedig

Saeth borffor

Ar agor i gerddwyr, pobl sy’n defnyddio offer symud, beicwyr, pobl sy’n marchogaeth ceffylau a cherbydau sy’n cael eu tynnu gan geffylau.

Wedi eu cyfeirbwyntio â saeth borffor.

Cilffyrdd sydd ar Agor i bob Traffig

Saeth goch

Ar agor i gerddwyr, pobl sy’n defnyddio offer symud, beicwyr, pobl sy’n marchogaeth ceffylau, cerbydau sy’n cael eu tynnu gan geffylau a cherbydau modur.

Wedi eu cyfeirbwyntio â saeth goch.

Llwybrau Cenedlaethol

Mesen

Ar agor i gerddwyr a phobl sy’n defnyddio offer symud. Mae rhai rhannau hefyd yn addas i feicwyr a phobl sy’n marchogaeth ceffylau.

Wedi eu cyfeirbwyntio â mesen.

Llwybr Arfordir Cymru

Cragen wen

Ar agor i gerddwyr a phobl sy’n defnyddio offer symud. Mae rhai rhannau hefyd yn addas i feicwyr a phobl sy’n marchogaeth ceffylau.

Wedi ei gyfeirbwyntio â chragen wen.

Tir Mynediad Agored

Ffigwr brown

Ar agor i gerddwyr a phobl sy’n defnyddio offer symud.

Wedi ei gyfeirbwyntio â ffigwr brown.

Tir Mynediad Cyhoeddus yw mynyddoedd, rhostir, gweundir, twyndir a thir comin sydd wedi ei gofrestru (ac wedi ei fapio o dan Ddeddf Cefn Gwlad a Hawliau Tramwy 2000) sydd ar gael i’w ddefnyddio heb orfod aros ar lwybrau.

Diwedd y Tir Mynediad Agored

Ffigwr wedi’i groesi

Mae’n nodi diwedd mynediad at ardal, er bod hawliau eraill efallai’n bodoli – e.e. hawliau tramwy cyhoeddus.

Wedi ei gyfeirbwyntio â ffigwr brown wedi’i groesi.

Llwybrau Caniataol

Dilynwch gyngor ar arwyddion lleol gan fod perchnogion tir yn darparu mynediad i'r llwybrau hyn yn wirfoddol ac yn dewis pwy all eu defnyddio.  Mae rhai ardaloedd mynediad agored hefyd ar gael yn yr un modd.

I roi gwybod am ddigwyddiad amgylcheddol, ffoniwch ni ar 0300 065 3000 (24 awr).

Archwilio mwy

Diweddarwyd ddiwethaf