Y Fforwm Mynediad Cenedlaethol i Gymru, yr Is-grŵp Mynediad at Ddŵr
Pwrpas
Gweithiodd yr is-grŵp hwn rhwng mis Tachwedd 2019 a mis Mawrth 2021 i flaenoriaethu materion dyfroedd mewndirol ac i drin mynediad at ddŵr fel mater ar wahân fel rhan o Raglen Diwygio Mynediad Llywodraeth Cymru Raglen Diwygio Mynediad Llywodraeth Cymru, gyda’r aelodau yn cymryd rhan yn agored ac yn cydweithio i ganfod ateb pragmatig ar gyfer Cymru.
Cyhoeddodd Llywodraeth Cymru hefyd ei Bwriad Polisi Amlinellol ynghylch Mynediad at Ddyfrffyrdd Mewndirol i gynorthwyo’r Fforwm Mynediad Cenedlaethol.
Gofynnwyd i Fforwm Mynediad Cenedlaethol Cymru (NAFW) adrodd ar ganlyniadau trafodaethau ei is-grŵp, a chasgliadau ac argymhellion cysylltiedig erbyn mis Mawrth 2021.
Yn dilyn etholiad y Senedd, cafodd yr adroddiad hwn ei ailgyflwyno i Lee Waters AS, y Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd, gan Gadeirydd Fforwm Mynediad Cenedlaethol Cymru ym mis Gorffennaf 2021.
Mae’r Dirprwy Weinidog wedi cadarnhau eu bod, o dan Raglen Lywodraethu newydd Llywodraeth Cymru, yn canolbwyntio ar fesurau i ddynodi dyfroedd mewndirol Cymru ar gyfer hamdden. Cangen polisi dŵr Llywodraeth Cymru sy’n cychwyn y gwaith yma. Mae’r Dirprwy Weinidog wedi nodi canfyddiadau adroddiad yr is-grŵp, a bydd yn eu hanfon ymlaen at y gangen polisi dŵr fel y gall ystyried y dystiolaeth honno.
Aelodaeth
Mae aelodau’r is-grŵp yn aelodau o NAFW ac yn dethol eu hunain. Mae’n cynnwys rhanddeiliaid allweddol sy’n cynrychioli perchnogaeth glannau afon, yn ogystal â diddordebau genweirio a chwaraeon padlo (hamdden a masnachol).
Cadeirydd yr is-grŵp yw Dave MacCallum, Cynghorydd Arbenigol: Mynediad i Ddŵr a Hamdden, Tîm Mynediad a Hamdden Awyr Agored, Cyfoeth Naturiol Cymru.
Dyddiadau Cyfarfodydd
Fel gyda is-grwpiau eraill, yn unol â chylch gwaith NAFW, ni chynhelir cyfarfodydd yr is-grŵp yn gyhoeddus:
- 5 Tachwedd 2019
- 3 Mawrth 2020
- 29 Ebrill 2020
- 9 Mehefin 2020
- 15 Hydref 2020
Cofnodion
Llythyrau
Cysylltu
Ebostiwch National.Access.Forum@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk i gael rhagor o wybodaeth.