Adolygiad strategol o godi tâl
Cyflwyno ffioedd newydd
Bydd newidiadau i faint rydym yn ei godi am geisiadau am drwyddedau newydd a diwygiedig, ar gyfer y cynlluniau codi tâl canlynol, ar ôl 00:00 ar 1 Gorffennaf 2023:
- rhywogaethau
- rheoleiddio diwydiant
- gwastraff ar safleoedd
- ansawdd dŵr
- adnoddau dŵr
- cydymffurfiaeth cronfeydd dŵr
Ymateb i adborth yr ymgynghoriad
Cynhaliwyd ymgynghoriad cyhoeddus 12 wythnos rhwng mis Hydref 2022 a mis Ionawr 2023, yn gofyn i bobl rannu eu barn a rhoi sylwadau ar ein cynlluniau i ddiweddaru ein ffioedd ar gyfer rhai o'n trwyddedau.
Yn dilyn adolygiad o adborth yr ymgynghoriad, rydym wedi cytuno ar sawl diwygiad i'r cynlluniau codi tâl arfaethedig, y gallwch eu gweld yn ein ymateb i'r ymgynghoriad ar Citizen Space.
Dull gweithredu ar gyfer ein hadolygiad o ffioedd rheoleiddiol
Rydym am sicrhau ein bod yn codi'r ffioedd cywir yn y mannau cywir ac mewn ffordd deg a phriodol. Bydd hyn yn ein galluogi i gyflawni ein gwaith rheoleiddio gan hefyd gadw at ein hegwyddorion arweiniol ar gyfer Rheoli Arian Cyhoeddus Cymru a chyflawni ein cynllun corfforaethol.
Er mwyn sicrhau bod pawb sy'n cael eu heffeithio gan yr adolygiad yn cael lleisio eu barn, gwnaethom ymgysylltu â’r Grŵp Ymgynghorol Talwyr Taliadau, sy'n cynnwys cynrychiolwyr o wahanol sectorau a allai gael eu heffeithio gan unrhyw newidiadau posibl i'n strwythur codi tâl.
Ymgynghoriad ar yr offeryn newydd i ddisodli OPRA ar gyfer ffioedd gosod
Yn dilyn adborth ein hymgynghoriad ar ein hofferyn arfaethedig i fandio risg ar gyfer ceisiadau am drwyddedau gosodiadau, rydym bellach wedi lansio ymgynghoriad ar wahân i ddarparu gwybodaeth ychwanegol ar gyfer y maes hwn (trwyddedau pwrpasol haen 3).
Mae’r ymgynghoriad yn dechrau ar 21 Awst 2023 ar yr offeryn newydd i ddisodli OPRA ar gyfer ceisiadau am drwyddedau gosodiadau ac mae’n parhau tan 12 Tachwedd 2023. Am ragor o fanylion, gweler ein hymgynghoriad.
Gwybodaeth bellach
Datganiad i'r wasg: Lansio ymgynghoriad ar gynllun mwy teg a syml i godi tâl am reoleiddio amgylcheddol
Blog: Pam mae angen i ni adolygu ein taliadau rheoleiddiol
Os oes gennych unrhyw gwestiynau, anfonwch e-bost atom ar SROC@naturalresourceswales.gov.uk