Cynllun Adnoddau Coedwig Maesyfed - Cymeradwywyd 19 Awst 2019
Lleoliad a safle
Mae Cynllun Adnoddau Coedwig Maesyfed (FRP) yn ymestyn dros 1603 Ha ac yn cynnwys prif adran Maesyfed, Glog Hill, The Whimble, Smatcher a Choed Cwningar. Lleolir adrannau Maesyfed i’r de o’r A488 Y Groes i ffordd Drefyclo ac ychydig i’r gogledd o’r A44. Mae’r coedwigoedd yn ffurfio cefnlen i gymunedau Maesyfed, Kinnerton, Bleddfa a Monaughty.
Mae’r cynefin amgylchynol yn gymysgedd o dir fferm heb ei wella a gweundir yr ucheldir. Ar lwyfandir â maes tanio’r Weinyddiaeth Amddiffyn.
Lleolir Cynllun Adnoddau Coedwig Maesyfed o fewn ffin Cyngor Sir Powys.
Crynodeb o’r amcanion
Cytunwyd ar yr amcanion rheoli er mwyn cynnal a gwella gwydnwch ecosystemau a’r manteision maent yn eu darparu:
- Cael gwared â’r coed llarwydd gam wrth gam cyn y bydd yna ragor o haint Phytophthora ramorum , yn unol â Strategaeth Lleihau Coed Llarwydd. Ymgysylltu â chymunedau lleol yn ystod y broses hon.
- Cynyddu amrywiaeth strwythurol drwy reoli System Goedamaeth Fach ei Heffaith (LISS) mewn coed sy’n sefyll dynodedig.
- Cynyddu’r ardaloedd nodwyd i’w teneuo o fewn cynllun teneuo 5 mlynedd, er mwyn galluogi rheolwyr i reoli ac adfer Planhigfeydd ar Safleoedd Hynafol.
- Parhau i gynnal cyflenwad cynaliadwy o goed i'w cynhyrchu drwy gynllunio'r gwaith o dorri coed ac ailstocio gyda dewis o rywogaethau.
- Amrywio cyfansoddiad rhywogaethau coedwig er mwyn cynyddu'r gallu i wrthsefyll plâu a chlefydau wrth dyfu coedwig gadarn ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol.
- Cadw llain glustogi heb ei phlannu o 30m lle mae'r goedwig yn cwrdd â SoDdGA coedwig Maesyfed (adeg ailstocio).
- Parhau i weithio gyda ‘Forest Research’ i hwyluso safleoedd arbrofol.
- Parhau i gynnal ac ymestyn y seilwaith ar gyfer rheoli ceirw yn y goedwig, gan alluogi'r boblogaeth i reoli a darparu cysylltedd â chynefinoedd.
- Defnyddio cyfleoedd i leoli coetir llydanddail er mwyn cysylltu cynefinoedd gwrychoedd a gwella gwydnwch.
- Cynnal y llwybrau a hyrwyddir a chadw'r llinellau gweld a'r golygfannau’n glir. Ystyried rhodfeydd/ymylon ar hyd y llwybr, gyda'r potensial i gadw'r llwybr mor agored â phosibl.
- Monitro lefelau tresmasu oddi ar y ffordd anghyfreithlon.
Sylwadau neu adborth
Os oes gennych sylwadau neu adborth yn ymwneud â Chynllunio Adnoddau Coedwigoedd, gallwch gysylltu â’r tîm Cynllunio Adnoddau Coedwigoedd ar frp@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk