Cynllun Adnoddau Coedwig Mawddach ac Wnion – Cymeradwywyd 20 Mai 2024
Lleoliad a safle
Lleolir blociau Coedwig Mawddach ac Wnion (cyfanswm arwynebedd 751ha) yn bennaf ar hyd aber afon Mawddach, i'r gogledd o bentref Llanelltyd ac wedi'u gwasgaru ar hyd ac o amgylch yr Afon Wnion o amgylch tref Dolgellau a phentrefi Llanfachreth a Brithdir. Mae'r bloc mwyaf a mwyaf gweladwy uwchben Llanelltyd ond ardaloedd pwysig eraill yw'r Bont Ddu a Choed y Garth. Mae'r holl ardaloedd o fewn Parc Cenedlaethol Eryri. Mae’r ardaloedd hyn gyda’i gilydd yn ffurfio Cynllun Adnoddau Coedwig Mawddach ac Wnion:
Mae holl flociau Coedwig Mawddach ac Wnion wedi eu lleoli o fewn Eryri, Parc Cenedlaethol Eryri sydd hefyd yn Awdurdod Cynllunio perthnasol. Yn weledol, mae nifer ohonynt yn eithaf dominyddol a phwysig yn y dirwedd, bloc Llanelltyd yw'r pwysicaf yn weledol o bell ffordd ond hefyd mae Bont Ddu a Choed y Garth mewn mannau eithaf amlwg yn aber afon Mawddach. Mae gan yr holl flociau llai hefyd rywfaint o bwysigrwydd gweledol.
O ran y lleoliad lleol, mae'r goedwig i gyd o fewn dalgylch dŵr afon Mawddach, yn bennaf i'r gogledd a'r de o aber afon Mawddach ond hefyd yn agos at Afon Wnion yn agos at bentrefi Brithdir a Llanfachreth. Mae coetir Llanelltyd y tu ôl i bentref Llanelltyd ac yn codi hyd at gopaon y Garn a Foel Ispri, ac mae’n weladwy iawn o dref Dolgellau, prif gefnffordd yr A470, Cadair Idris a llawer o lwybrau cerdded a golygfannau eraill o bwys lleol o fewn ardal yr aber.
Map lleoliad
Map lleoliad Mawddach and Wnion
Crynodeb o'r amcanion
Cytunwyd ar yr amcanion rheoli canlynol er mwyn cynnal a gwella gwydnwch ecosystemau a'r manteision y maent yn eu darparu:
- Cynyddu amrywiaeth rhywogaethau, cyfansoddiad a strwythur oedran y goedwig o'r hyn a oedd yn bennaf yn gonwydd i rywogaethau coed brodorol yn bennaf a hefyd conwydd cymysg lle bo'n briodol. Bydd hyn yn cynyddu’r gallu i wrthsefyll plâu a chlefydau, wrth wella’r gallu i wrthsefyll y newid yn yr hinsawdd. Dylai rhywogaethau coed a ddefnyddir fod yn addas i'r hinsawdd nawr a newidiadau rhagweledig i'r hinsawdd yn y dyfodol.
- Lle bydd gwaith llwyrgwympo yn cael ei wneud ac mae gwaith plannu newydd i fod gyda rhywogaethau brodorol, dylid ystyried aildyfiant naturiol fel dewis cyntaf. Os oes angen plannu, dylid defnyddio tarddiad lleol i sicrhau addasrwydd y safle ac iechyd y goedwig yn y dyfodol.
- Teneuo cymaint â phosibl ar gnydau presennol lle bo modd. Bydd hyn yn gwella cydnerthedd ecolegol ac yn cynyddu opsiynau ar gyfer rheolaeth yn y dyfodol gan gynnwys y defnydd posibl o systemau coedamaeth bach eu heffaith. Bydd hyn hefyd yn mwyafu cynhyrchiant pren cymaint â phosibl ac yn caniatáu ar gyfer defnyddio aildyfiant naturiol coed ifanc.
- Edrych ar bob cyfle i gynyddu amrywiaeth strwythurol o fewn cellïoedd trwy ddefnyddio amrywiaeth o systemau coedamaeth bach eu heffaith lle bo'n briodol i amodau'r safle a'r rhywogaethau a ddefnyddir.
- Wrth lwyrgwympo, dylai'r goedwig barhau i wella amrywiaeth dosbarthiadau oedran o fewn dalgylchoedd ac ar draws ardal ehangach y goedwig. Lle bo hynny'n ymarferol ac yn briodol, bydd llennyrch llwyrgwympo yn cael eu defnyddio.
- Creu ecosystem a strwythur coedwig parhaol ac amrywiol sy'n cynnwys coetir ar lannau afon a choetir brodorol newydd, gwarchodfeydd naturiol, dargadwedd hirdymor, coetir dilyniadol a chlytwaith o gynefinoedd agored, gan gynnwys ffyrdd coedwig a rhodfeydd.
- Parhau i fonitro poblogaethau ceirw (a difa ceirw os oes angen) er mwyn sicrhau gwarchodaeth i ddatblygiad adfywio a phlannu coetir brodorol a hynafol newydd.
- Bydd ardal y conwydd cynhyrchiol yn lleihau mewn pwysigrwydd o fewn y coetiroedd yn y cynllun hwn oherwydd materion blaenoriaeth uchel eraill gan gynnwys adfer coetir hynafol, gwell cysylltedd cynefinoedd a mynd i'r afael â materion tirwedd. Lle bo'n briodol, bydd y gwaith cynhyrchu pren yn parhau.
- Parhau i archwilio'r potensial ar gyfer unrhyw brosiectau ynni adnewyddadwy o fewn ardal y goedwig.
- Chwilio am gyfleoedd i gefnogi busnesau lleol, marchnata pren lleol a chynnyrch/gweithgareddau eraill.
- Sicrhau bod y goedwig yn ffynhonnell cyflogaeth leol a bod hyn yn cael ei gynnal. Chwilio am fwy o gyfleoedd cyflogaeth, yn uniongyrchol neu'n anuniongyrchol mewn cynhyrchu pren a gweithgareddau eraill yn y goedwig.
- Ar hyn o bryd, nid oes gan sawl ardal arwyddocaol fynediad ar gyfer gweithrediadau cynaeafu. Mae angen buddsoddiad mewn seilwaith parhaol o ffyrdd a thraciau newydd i ardaloedd anhygyrch.
- Defnyddio’r ardaloedd coetir hynafol presennol, coetir brodorol newydd, cyrsiau dŵr a choetiroedd brodorol cyfagos (cynefinoedd coetir brodorol/hynafol preifat cyfagos) fel sail i strwythur coedwig parhaol, gan greu rhwydweithiau cynefinoedd mwy gyda chysylltiadau gwell â choetir hynafol.
- Diogelu a gwella amodau microhinsawdd ar gyfer cennau; dylai’r gwaith o reoli a gwella cynefinoedd cennau fod yn gysylltiedig â gwelliannau i rwydweithiau'r cynefinoedd, sy'n cynnwys rheoli coetir ar lannau afon, coetir hynafol a choetir brodorol newydd, blaenoriaethu'r ardaloedd hyn er mwyn eu gwella.
- Datblygu rhaglen wedi'i blaenoriaethu ar gyfer gwaredu rhywogaethau estron goresgynnol o barthau torlannol, cynefinoedd coetir brodorol a'r holl rannu eraill o Goedwig Mawddach ac Wnion. Mae'r prosiect Coedwig Law Geltaidd yn cael ei gynnig ar hyn o bryd fel cyllid i helpu i gael gwared ar y Rhododendron o sawl ardal o goetir hynafol.
- Rheoli maint yr holl lwyrgwympiadau o fewn dalgylchoedd. Bydd gwneud y defnydd mwyaf posibl o systemau coedamaeth bach eu heffaith yn lleihau'r effaith ar lifoedd dŵr (llifoedd brig) a llwythi critigol o fewn dalgylch sy'n sensitif i asid. Bydd cyfyngiadau ymarferol sylweddol i hyn ond defnyddir systemau coedamaeth bach eu heffaith lle bo modd.
- Creu neu wella mannau agored, coetir olynol neu frodorol, gerllaw ACA Cadair Idris. Sicrhau bod yr holl waith rheoli yn yr ardal gynlluniedig yn dod â budd cadarnhaol i bob safle dynodedig cyfagos.
- Gwarchod a gwella cyflwr pob safle coetir hynafol a gwella eu cysylltedd i'r cynefinoedd coetir brodorol ehangach o fewn ac o amgylch Coedwig Mawddach ac Wnion gyda sylw arbennig i ACA Coedydd Derw a Safleoedd Ystlumod Meirion. Mae Coed Dolgamedd o fewn yr ACA. Lle mae coetiroedd CNC yn ffinio â’r ACA sicrhau bod rheolaeth ar goetiroedd CNC yn gwella ac yn gwarchod nodweddion yr ACA ac ymhen amser yn darparu cynefin ychwanegol gwerthfawr a chysylltiadau gwell yn y rhwydweithiau cynefinoedd
- Lleihau effeithiau niweidiol posibl asideiddio trwy gynnal ansawdd dŵr da a gwell trwy gynefin torlannol a chysylltiadau gwell, tynnu ceuffosydd lle bo'n briodol (dileu, rhwystro draeniad diangen) ardal fwy o goetir brodorol a rhwydweithiau cynefinoedd gwell yn seiliedig ar y seilwaith torlannol.
- Rhywogaethau eraill sy'n nodedig y dylid eu hystyried wrth reoli yn y dyfodol yw'r Pathewod, Ystlumod, Llygod y Dŵr, Cudyllod Bach, Dyfrgwn, Gwiberod a Gylfinbraff; dylai amodau ar gyfer y rhywogaethau hyn gael eu gwella a'u diogelu ym mhob achos yn ystod unrhyw weithred.
- Mae gweithgareddau i leihau risgiau llifogydd yn cynnwys gwella cynefin torlannol, defnydd cynyddol o systemau coedamaeth bach eu heffaith lle bo'n briodol, lleihau ardaloedd llwyrgwympo cynlluniedig o fewn dalgylchoedd lle y bo’n bosibl, cynyddu teneuo, cynnal gorchudd y coetir ac ehangu'r ardal goetir frodorol.
- Mae'r coetiroedd hyn yn amlwg iawn yn eu hardal leol ac i gymunedau lleol ac maent o fewn Parc Cenedlaethol Eryri. Bydd y cynllun yn gwella amrywiaeth weledol y goedwig trwy gynyddu'r amrywiaeth strwythurol ac amrywiaeth rhywogaethau o fewn a rhwng cellïoedd, yn cael gwared ar goed lle maent yn ffurfio siapiau ac ymylon hyll a mwy o goetir brodorol a chynefinoedd glannau afon.
- Mae nifer o nodweddion hanesyddol, yn bwysicaf oll yn ymwneud â mwyngloddio hanesyddol am fetelau, nodweddion sy’n ymwneud ag Ystad Nannau sy’n cynnwys hen ffermydd, waliau cerrig ac ati. Mae angen gwarchod yr holl nodweddion ac, os yn bosibl, eu gwella gyda naill ai mannau agored neu ehangu coetir brodorol.
- Cynnal y cyfleusterau hamdden presennol i safon uchel, sydd hefyd yn cynnwys llwybrau cerdded answyddogol yng Nghoed y Garth a Llanelltyd. Ceisio datblygu cyfleoedd hamdden priodol yn y goedwig lle bo'n briodol.
- Cynnal nifer o Hawliau Tramwy Cyhoeddus swyddogol ac answyddogol a sicrhau eu bod yn cael eu hystyried yn ystod gweithgareddau gweithredol a gwneud yn siŵr bod unrhyw rwystrau’n cael eu hadfer yn ôl yr angen.
- Cynnal a gwella'r cysylltiadau presennol gyda chymunedau lleol i sicrhau bod lefelau mynediad a defnydd presennol yn unol ag anghenion lleol.
- Defnyddir sawl llwybr cerdded a marchogaeth answyddogol drwy'r goedwig. Mae'n bwysig bod unrhyw fynediad yn lleiaf rhwystrol, gan ddefnyddio dodrefn priodol fel gatiau yn hytrach na chamfeydd lle bynnag y bo modd.
Mapiau
- Map 1: Gweledigaeth hirdymor
- Map 2: Strategaeth rheoli coedwigoedd a chwympo
- Map 3: Mathau o goedwigoedd ac ailstocio
Sylwadau neu adborth
Os oes gennych sylwadau neu adborth, gallwch gysylltu â’r tîm Cynllunio Adnoddau Coedwig ar frp@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk.