Gynllun Adnodd Coedwig Alwen - Cymeradwywyd 12 Gorffennaf 2023
Lleoliad a safle
Mae gan Gynllun Adnodd Coedwig Alwen arwynebedd o 1,382 ha i gyd, sy’n cynnwys conwydd yn bennaf. Mae coedwig Alwen yn rhannol o fewn SoDdGA Mynydd Hiraethog ac mae’r rhan fwyaf ohoni yn swatio rhwng ffordd B4501 a ffordd A543 (Pentrefoelas i Ddinbych). Mae cronfa ddŵr Alwen yn ffurfio nodwedd amlwg ar y dirwedd ac wedi’i lleoli ym mhen deheuol y goedwig gyda Llyn Brenig, (cronfa ddŵr ac atyniad i ymwelwyr) yn union i’r dwyrain o derfyn y Cynllun Adnodd Coedwig. Mae’r ddau gorff dŵr a’r seilwaith cysylltiedig yn eiddo i Dŵr Cymru, sydd hefyd yn eu rheoli.
Mae cynefin o amgylch blociau Cynllun Adnodd Coedwig Alwen yn cynnwys tir pori amaethyddol a rhostir agored, blociau o goedwigoedd conwydd masnachol, sy’n dominyddu’r tiroedd uchaf a choetiroedd conwydd/llydanddail ar y llethrau isaf ac ar lannau’r afonydd.
Mae rhannau o goedwig Alwen wedi’u neilltuo ar gyfer mynediad agored ar droed dan Ddeddf Cefn Gwlad a Hawliau Tramwy, ac mae’r goedwig hefyd yn cynnwys cyfres o lwybrau troed, llwybrau cerdded a llwybr beicio. Caniateir mynediad i geffylau a beiciau ar ffyrdd y goedwig gyda chaniatâd.
Mae Coedwig Alwen yn perthyn i saith dalgylch afon gwahanol fel sy’n cael ei ddiffinio gan y Gyfarwyddeb Fframwaith Dŵr sydd, yn ei dro, o fewn dalgylchoedd mwy Dyfrdwy, Clwyd a Chonwy.
Crynodeb o'r amcanion
Cytunwyd ar yr amcanion rheoli canlynol er mwyn cynnal a gwella gwydnwch ecosystemau a'r manteision y maent yn eu darparu:
- Cynyddu amrywiaeth strwythurol a chadwraeth Gwiwerod Cochion drwy warchodfeydd naturiol, a Choedwigaeth Gorchudd Parhaus.
- Cynyddu’r ardaloedd sy’n cael eu rheoli fel mawndir corslyd drwy drawsnewid coedwig gonwydd ac ail-wlychu ardaloedd agored.
- Parhau i gynhyrchu cyflenwad cynaliadwy o bren drwy gynllunio gwaith cwympo a dewis pa rywogaethau sy’n cael eu hailstocio.
- Rhagor o ardaloedd o goetiroedd olynol / torlannol er mwyn gwella cydnerthedd cynefinoedd a chysylltiadau cynefinoedd ar raddfa tirwedd.
- Nodi a diogelu nodweddion treftadaeth pwysig, gan gynnwys yr amgylchedd naturiol hanesyddol.
- Parhau i nodi ac adfer nodweddion safleoedd coetir hynafol ac ardaloedd o ddiddordeb cadwraethol.
- Cynnal a gwella profiad ymwelwyr drwy ddarparu amgylchedd amrywiol sy’n ddiogel ac yn rhoi mwynhad.
Mapiau
- Map lleoliad
- Gweledigaeth hirdymor
- Strategaeth rheoli coedwigoedd a chwympo
- Mathau o goedwigoedd ac ailstocio
Sylwadau neu adborth
Os oes gennych sylwadau neu adborth, gallwch gysylltu â’r tîm Cynllunio Adnoddau Coedwig ar frp@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk.