Crynodeb Gweithredol

Croeso i'n hadroddiad blynyddol ar gyfer 2021–2022. Mae’r adroddiad hwn yn canolbwyntio ar sut rydym wedi gweithredu ein polisi Safonau’r Gymraeg a’r gwaith rydym wedi’i wneud i wella ein gwasanaethau Cymraeg yn ystod y cyfnod adrodd hwn.

Mae 24% o’n staff (555) yn siaradwyr Cymraeg rhugl ac mae’r nifer wedi cynyddu’n raddol dros y flwyddyn drwy ein gweithdrefnau recriwtio a’n staff sy’n datblygu eu sgiliau iaith drwy ein rhaglen hyfforddi. Mae gan y rhan fwyaf o’n timau o leiaf un siaradwr Cymraeg, ac mae rhai o dimau’r Gogledd-orllewin a’r Canolbarth i gyd yn siarad Cymraeg yn rhugl ac yn defnyddio’r iaith yn naturiol yn eu gwaith o ddydd i ddydd.

Mae’r rhaglen hyfforddiant Cymraeg wedi cefnogi 138 o’n staff i ddatblygu eu sgiliau yn wythnosol. Mae’r rhan fwyaf o’n dysgwyr wedi’u lleoli yng ngogledd orllewin Cymru a Gwent lle mae 73 aelod o’n staff yn dysgu yn yr ardaloedd hyn, mae 15% o’n dysgwyr (20) bron â bod yn siaradwyr Cymraeg rhugl.

Roeddem fel sefydliad yn falch iawn o glywed yn ddiweddar ein bod wedi ennill Cyflogwr Cymraeg Gwaith y Flwyddyn ar gyfer 2021-2022. Rhoddir y wobr flynyddol hon gan y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol i sefydliadau am eu cefnogaeth a’u hymrwymiad i helpu eu staff i ddysgu Cymraeg. Rydym yn cydnabod na fyddai’r wobr hon yn bosibl heb ymrwymiad ein staff sydd wedi parhau â’u dosbarthiadau trwy gyfnod anodd, rydym yn gwerthfawrogi’r ymrwymiad personol sydd ei angen i wneud hyn.

Er mwyn cefnogi’r busnes ymhellach i allu darparu a gwella ein gwasanaethau Cymraeg mae ein Tîm Cyfieithu bellach yn dîm o chwech i helpu i ddiwallu ein hanghenion Cymraeg mewnol, gwella ein gwasanaethau i’r cyhoedd a chefnogi ein staff ein hunain i ddefnyddio’r Gymraeg. Bydd hyn yn sicrhau mwy o gysondeb o ran terminoleg ac arddull yn ein gwaith.

Bu cynnydd yn nifer y cwynion a dderbyniwyd eleni gan aelodau o’r cyhoedd. Rydym wedi gweithio gyda’r achwynwyr i sicrhau bod y mater wedi'i ddatrys, rhoddwyd eglurhad o'r mater, neu rhoddwyd cynlluniau ar waith i ddatrys y mater a godwyd.

Gan weithio mewn partneriaeth gydag Asiantaeth yr Amgylchedd, gwnaed cynnydd i ddatblygu gallu dwyieithog y gwasanaeth “Prynu Trwydded Pysgota â Gwialen” ar .Gov yr adroddwyd nad oedd yn cydymffurfio â'n Safonau y llynedd. Mae ein Tîm Cyfieithu a’n Tîm Cyfathrebu Digidol wedi bod yn gweithio gydag Asiantaeth yr Amgylchedd i’w cefnogi i ddatblygu’r gwasanaeth hwn yn ddwyieithog. Gobeithiwn y bydd y gwasanaeth hwn ar waith rywbryd yn ystod 2022. Mae’r gwaith rydym wedi’i wneud i fynd i’r afael â’r mater hwn i’w weld yn yr adroddiad hwn.

Cymeradwywyd 'Gyda'n Gilydd – All Together' – Strategaeth Amrywiaeth a Chynhwysiant CNC 2021-25 gan y Bwrdd ym mis Ionawr 2022, ynghyd â Chynllun Gweithredu sy'n cynnwys drafftio Strategaeth Iaith Gymraeg y sefydliad. Ein nod yw cynyddu cyfleoedd i’n siaradwyr Cymraeg a’n dysgwyr ddefnyddio’r iaith bob dydd yn allanol yn ogystal ag yn fewnol, a bydd datblygu ein Strategaeth yn helpu i hwyluso hyn.

Cyflwyniad

Daeth safonau’r Gymraeg i rym ar gyfer CNC ar 25 Ionawr 2017, o dan Fesur y Gymraeg (Cymru) 2011, ac maent yn cael eu rheoleiddio gan Gomisiynydd y Gymraeg o dan Reoliadau Safonau'r Gymraeg (Rhif 2) 2016.

Nod y safonau yw:

  • Darparu gwasanaeth Cymraeg gwell a mwy cyson i siaradwyr Cymraeg.
  • Egluro'n glir i siaradwyr Cymraeg pa wasanaethau y gallant ddisgwyl eu derbyn yn Gymraeg.
  • Egluro'n glir i sefydliadau cyhoeddus beth yw eu dyletswyddau mewn perthynas â'r Gymraeg.
  • Sicrhau nad yw'r Gymraeg yn cael ei thrin yn llai ffafriol na'r Saesneg.

Mae'r adroddiad hwn yn dangos sut rydym wedi gweithredu'r safonau a'r gwaith rydym wedi'i gynnal i wella ein gwasanaethau Cymraeg yn ystod blwyddyn adrodd 2021/22.

Safonau'r Gymraeg

Mae'r safonau sy'n ofynnol inni gydymffurfio â nhw mewn pedwar categori:

  • Safonau gwasanaeth – y gwasanaethau Cymraeg rydym yn eu darparu ar gyfer y cyhoedd.
  • Safonau polisi – sicrhau bod y Gymraeg yn rhan o'r broses benderfynu trwy gynnal asesiadau o’r effaith ar gydraddoldeb er mwyn sicrhau bod y penderfyniad yn cael effaith gadarnhaol yn hytrach nag effaith niweidiol ar gyfleoedd i ddefnyddio'r Gymraeg neu ei fod yn cynyddu'r cyfleoedd i’w defnyddio.
  • Safonau gweithredol – hyrwyddo a hwyluso'r Gymraeg yn ein prosesau gweinyddol mewnol.
  • Safonau cadw cofnodion – cadw cofnodion er mwyn cydymffurfio â gofynion y safonau mewn meysydd fel sgiliau Cymraeg y staff, hyfforddiant, cwynion a recriwtio.

Llywodraethu a monitro ein safonau

Cynghorydd Polisi'r Gymraeg sy'n monitro cydymffurfedd â'n Safonau, amlygir unrhyw risgiau i'n Tîm Gweithredol i'w trafod â'r rheolwyr a'u hegluro yng nghyfarfodydd Grŵp Pencampwyr.

Bydd aelodau’r Grŵp Pencampwyr yn codi unrhyw faterion o ddiffyg cydymffurfio â chynghorydd polisi'r Gymraeg ac ym mhob cyfarfod.

Yn ystod ein cyfarfod gyda Chomisiynydd y Gymraeg yn 2021, gofynnwyd i ni gynnwys adran ar ein gwefan yn egluro’r broses sydd gennym ar gyfer hyrwyddo, hwyluso a goruchwylio cydymffurfedd â safonau cyflenwi gwasanaethau, safonau llunio polisïau a safonau gweithredol yn unol â gofynion Safon 151, 157 a 163.

Diweddarwyd tudalen we Safonau’r Gymraeg i gynnwys y gofyniad canlynol:

Sut rydym yn cydymffurfio ac yn monitro ein safonau.

Gweithredu a gwella ein safonau a gwasanaethau Cymraeg

Safonau gwasanaeth

Datblygu'r Tîm Cyfieithu

Yn ystod y flwyddyn ddiwethaf mae'r Gwasanaeth Cyfieithu wedi cael ei adnewyddu gyda'r nod o greu tîm sy'n gallu diwallu anghenion iaith Gymraeg y sefydliad fwyfwy yn fewnol, gan alluogi ein staff a'n cyfieithwyr i gydweithio mwy. Bydd hyn yn ein galluogi i wella cysondeb y derminoleg a'r arddull, darparu mwy o wasanaethau arloesol ac annog mwy o ddefnydd o’r Gymraeg yn ein gwaith. Mae hyn wedi golygu bod y tîm wedi cynyddu o un aelod i chwech.

Y nod yw mabwysiadu agwedd gyfannol a darparu gwasanaeth sy'n fwy na gwasanaeth cyfieithu syml. Y nod fydd darparu'r gwasanaethau canlynol:

  • Cyfieithu o'r Saesneg i'r Gymraeg ac o'r Gymraeg i'r Saesneg.
  • Prawf-ddarllen gwybodaeth sydd i gael ei dylunio neu ei hargraffu.
  • Gwirio testun dogfennau sydd wedi’u drafftio yn Gymraeg, i annog a chefnogi’r defnydd o’r Gymraeg.
  • Gwasanaeth ymgynghori – gwasanaeth newydd, pwysig a wnaed yn haws gan y defnydd cynyddol o offer ar-lein. Bydd y Tîm yn gweithio gyda thimau eraill i ddatrys problemau, ac yn cyfrannu at ddrafftio testun yn y ddwy iaith ar yr un pryd. Ceir enghraifft o’r dull rhagweithiol newydd hwn yn atodiad 1 o'r adroddiad hwn.
  • Cyfieithu ar y pryd – bydd y gwasanaeth hwn yn parhau i gael ei ddarparu gan ddarparwr allanol ond yn cael ei drefnu gan y Gwasanaeth Cyfieithu.

Canolfan Gofal Cwsmeriaid

Mae’r Ganolfan Gofal Cwsmeriaid yn delio â’r holl alwadau ffôn a ddaw i'n sefydliad. Yn ystod y flwyddyn adrodd hon deliodd y ganolfan â chyfanswm o 20,320 o alwadau, roedd 5.23% o'r galwadau (1064) yn alwadau cyfrwng Cymraeg. Roedd cyfanswm y galwadau yn Gymraeg 0.5% yn is na'r llynedd, fel oedd cyfanswm y galwadau ffôn yn gyffredinol, a oedd 4.4% (935) yn is eleni.

Er gwaethaf cynnig rhagweithiol y Gymraeg, mae nifer o siaradwyr Cymraeg yn parhau i ddewis ein gwasanaeth Saesneg i ddechrau, ond bydd yr alwad yn aml yn newid i'r Gymraeg pan ddeëllir bod yr asiant sy’n ateb yr ymholiadau yn siarad Cymraeg.

Oherwydd bod y cwsmer wedi dewis y gwasanaeth Saesneg i ddechrau mae'r galwadau hyn yn cael eu cofrestru fel galwadau cyfrwng Saesneg ar ein system er eu bod yn cael eu trin yn Gymraeg yn y pen draw.

Bwrdd gwasanaethau cyhoeddus Gogledd Orllewin Cymru – prosiect is-grŵp y Gymraeg

Er mwyn mynd i’r afael â’r ffaith nad yw cwsmeriaid yn dewis gwasanaethau Cymraeg, daw'r dystiolaeth sy’n cefnogi hyn ar draws y sector cyhoeddus yn gyffredinol, mae CNC yn rhan o is-grŵp y Gymraeg Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Gogledd Orllewin Cymru sydd wedi dechrau gweithio ar brosiect gyda Chwmni Iaith Cyf i geisio dod o hyd i'r rhwystrau sy'n atal pobl rhag defnyddio ein gwasanaethau Cymraeg.

Cyfarfodydd a digwyddiadau

Wrth i'r cyfyngiadau symud lacio, rydym wedi cymryd rhan mewn mwy o gyfarfodydd a digwyddiadau. Un enghraifft o’r fath yw Natur a Ni, sef y sgwrs genedlaethol a hwyluswyd gan CNC, gyda chefnogaeth Llywodraeth Cymru, i ddatblygu gweledigaeth gyfunol ar gyfer dyfodol ein hamgylchedd ar gyfer 2050, a’r camau sydd hangen eu gweithredu i'n harwain ni yno.

Roedd holl adnoddau, cyfathrebu, gwefan ac arolwg yr ymgyrch ar gael yn Gymraeg ac yn Saesneg, a chynhaliwyd nifer cyfartal o weminarau Cymraeg a Saesneg, lle'r oedd pobl yn gallu nodi eu dewis iaith wrth gofrestru ar gyfer gweithdai a grwpiau ffocws.

Roedd negeseuon yn y cyfryngau cymdeithasol a hysbysebion digidol yn mynd ati'n weithredol i dargedu cynulleidfaoedd a chymunedau Cymraeg eu hiaith gan ddefnyddio algorithmau cyfryngau cymdeithasol. Fe wnaethom hefyd ofyn yn uniongyrchol i grwpiau Cymraeg e.e., Cynllun Siarad, y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol, a’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol am eu cefnogaeth i hysbysebu’r sesiynau Cymraeg

Canlyniadau

Mae’r tabl isod yn crynhoi’r niferoedd a gwblhaodd yr arolwg a chofrestru ar gyfer digwyddiadau yn y ddwy iaith:

Dull Ymgysylltu Cymraeg Saesneg Cyfanswm
Arolwg 67 (2%) 3000 3067
Gweminar 24 (6%) 395 419
Gweithdy rhanddeiliaid 22 (13%) 142 164
Y grŵp ffocws 14 (5%) 256 270

 

  • Cynigwyd ystafelloedd trafod yn Gymraeg yn y gweithdai.
  • Sefydlwyd grwpiau ffocws bach o hyd at 10 aelod ar-lein yn rhanbarthol ledled Cymru. Roedd y nifer a ofynnodd am gael ymuno â’r grwpiau cyfrwng Cymraeg ym mhob rhanbarth yn isel, felly mewn ymateb fe wnaethom gynnal digwyddiad Cymraeg ar wahân.

Tîm addysg ac iechyd – digwyddiadau hyfforddiant

Yn ystod y flwyddyn adrodd hon cynhaliodd y Tîm Addysg ac Iechyd gyfanswm o 51 o gyrsiau fel a ganlyn:

  • 5 wyneb yn wyneb a 46 ar-lein
  • 15 trwy gyfrwng y Gymraeg
  • 2 wyneb yn wyneb yn ddwyieithog

Drwy weithio mewn partneriaeth â Thîm Cynghori'r Gymraeg, Cyngor Sir y Fflint, cyflwynodd y tîm gwrs wyneb yn wyneb ar gyfer athrawon Cymraeg Ail Iaith. Bwriad y diwrnod oedd rhoi syniadau a hyder i athrawon i addysgu yn yr awyr agored ac i ddefnyddio’r enwau a'r termau Cymraeg cywir.

Mae cylchlythyr misol Addysg a Dysgu a gynhyrchir yn ddwyieithog yn cael ei ddosbarthu i tua 5,500 o addysgwyr, ac mae'r niferoedd yn cynyddu bob mis, sy'n cynnwys arferion da gan grwpiau addysg ac addysgwyr o bob rhan o Gymru.

Mae adnoddau addysg dwyieithog newydd ar gael eleni ar ein tudalennau gwe ac ar Hwb (Dysgu Digidol Cymru) wedi cynnwys:

  • Cyflwyno Fframwaith Cymhwysedd Digidol trwy Ddysgu yn yr Awyr Agored
  • Cynllunio, datblygu, defnyddio a chynnal a chadw perllan ar gyfer dysgu
  • Argyfwng y Newid yn yr Hinsawdd – Nid oes Planed B!
  • Chwarae a hwyl i'r teulu ym myd natur!
  • Dull Hawliau Plant CNC

Enwau lleoedd ac arwyddion

Rydym wedi adolygu ein canllawiau arwyddion sy’n cyfeirio at Banel Safoni Enwau Lleoedd Cymru ac yn codi ymwybyddiaeth o bwysigrwydd defnyddio’r sillafiad safonol cywir sy’n aml yn gysylltiedig â’r dreftadaeth ac sy’n adlewyrchu sut y defnyddiwyd y tir yn y gorffennol.

Y cyfryngau cymdeithasol

Ym mis Medi 2021, lansiwyd saith cyfrif lleol newydd ar Twitter a Facebook. Gweithredir yr holl gyfrifon hyn yn ddwyieithog gan y Swyddogion Cyfathrebu rhwng 9 a 5 o'r gloch, o ddydd Llun i ddydd Gwener. Mae'r tudalennau'n rhoi mwy o gyfle i rannu newyddion lleol â chynulleidfaoedd lleol. Ar hyn o bryd mae tudalennau lleol Facebook yn denu mwy o ddilynwyr na Twitter sy'n profi poblogrwydd y wefan fel llwyfan sgwrsio. Byddwn yn canolbwyntio ar hyrwyddo'r tudalennau drwy ein cyfrifon corfforaethol a thrwy dagio partneriaid mewn postiadau perthnasol.

Gwasanaethau rhybuddio a hysbysu ynghylch llifogydd

Mae'r gwasanaeth rhybuddio am lifogydd yn cyhoeddi negeseuon llifogydd, rhybuddion llifogydd a rhybuddion llifogydd difrifol i'r cyhoedd a phartneriaid proffesiynol. Anfonir negeseuon dros y ffôn, SMS neu e-bost yn Gymraeg neu Saesneg, yn unol â chais y derbynnydd. Mae'r negeseuon rhybudd hyn yn cael eu hategu gan y gwasanaethau canlynol:

Mae pob un o'r gwasanaethau hyn ar gael yn Gymraeg neu yn Saesneg.

Llinell Llifogydd

  • Llinell Llifogydd 0345 988 1188 – gwasanaeth galwadau cyfradd leol lle gall galwyr wrando ar yr wybodaeth ddiweddaraf am lifogydd, gwrando ar gyngor sydd wedi'i recordio ymlaen llaw, a siarad ag asiant hyfforddedig ar y ffôn i roi gwybod am lifogydd neu gofrestru ar gyfer y gwasanaeth rhybuddion llifogydd

Ym mis Gorffennaf 2019, gwnaethom wella cynllun ffonio’r Llinell Llifogydd er mwyn ei gwneud yn haws i alwyr gael mynediad at ein gwasanaeth Cymraeg drwy gynnwys gwasanaeth asiant galwadau Cymraeg yn ystod y dydd yn ystod yr wythnos. Y tu allan i'r oriau hyn, neu os nad oes asiant galwadau sy'n siarad Cymraeg ar gael, caiff galwyr gynnig gadael neges i ofyn am alwad yn ôl yn Gymraeg, neu gellir eu cyfeirio at asiant galwadau sy'n siarad Saesneg.

Mae'r tabl isod yn dangos yn gyffredinol bod canrannau bach o gwsmeriaid Cymraeg a cheir cynnydd yn y galwadau i asiantiaid Llinell Llifogydd sy'n dewis y Gymraeg.

2019 - 2020

Galwyr i’r Llinell Llifogydd Cymraeg Saesneg
Dewis iaith 307 (3.1%) 9,652
Gwybodaeth fyw am rybuddion wedi'i recordio ymlaen llaw 95 (1.3%) 7,456
Galwadau i asiantau 25 (2%) 1,256


Nodyn: Mae data 2019-2020 o fis Gorffennaf 2019 yn unig.

2020-2021

Galwyr i’r Llinell Llifogydd Cymraeg Saesneg
Dewis iaith 244 (4.1%) 5,713
Gwybodaeth fyw am rybuddion wedi'i recordio ymlaen llaw 94 (2.4%) 3,789
Galwadau i asiantau 61 (5.3%) 1,067


2021-2022

Galwyr i’r Llinell Llifogydd Cymraeg Saesneg
Dewis iaith 176 (3.2%) 5,334
Gwybodaeth fyw am rybuddion wedi'i recordio ymlaen llaw 59 (1.6%) 3,567
Galwadau i asiantau 58 (7.4%) 729


Er bod cynnig rhagweithiol gwasanaeth Cymraeg yn parhau i fod ar waith, mae siaradwyr Cymraeg yn aml yn cael eu trosglwyddo i asiantiaid sy'n delio â galwadau Saesneg gan na all y gwasanaeth sicrhau y bydd siaradwr Cymraeg penodedig yn delio â'r galwadau cyfrwng Cymraeg. Gall galwyr cyfrwng Cymraeg hefyd ddewis terfynu'r alwad a chael galwad yn ôl gan asiant Cymraeg pan fydd un ar gael.

Er mwyn mynd i’r afael â’r mater hwn o ddiffyg cydymffurfio, mae’r tîm Rhybuddio a Hysbysu am Lifogydd wedi llunio ateb i wella’r gwasanaeth hwn drwy ddatblygu gwasanaeth asiant Cymraeg, a fyddai ar gael 24/7 drwy ddargyfeirio galwadau Cymraeg o Floodline UK i staff CNC yn ein Canolfan Cyfathrebu Digwyddiadau. Gellir dargyfeirio galwadau at yr asiantiaid Saesneg pe bai angen. Byddai hyn yn golygu y byddai siaradwyr Cymraeg sy’n ffonio Floodline UK yn cael gwasanaeth Cymraeg di-dor drwy Ganolfan Cyfathrebu Digwyddiadau CNC. Byddai hyn yn gyfartal â’r gwasanaeth Saesneg a byddai gan CNC reolaeth dros y gwasanaeth Cymraeg yn ogystal â gallu hyrwyddo’r gwasanaeth yn ehangach yma yng Nghymru.

Gwefan CNC – Rhybuddion llifogydd a gwasanaethau perygl llifogydd

Ym mis Hydref 2020, gwnaethom adnewyddu dyluniad ein gwefan i'w gwneud yn haws ac yn gynt i'w defnyddio, gan sicrhau bod y dyluniad yn hollol gydnaws â'r Gymraeg.

Gofynnir i ymwelwyr ein gwefan ddewis eu hiaith ddewisol ac mae'r tabl isod yn dangos y bu gostyngiad yn nifer yr ymwelwyr â'n tudalennau gwe rhybuddion llifogydd yn Gymraeg.

2019-2020

Tudalen we Ymweliadau Cymraeg Ymweliadau Saesneg
Rhybuddion Llifogydd 10,257 (0.95%) 1,067,767
Perygl llifogydd pum diwrnod ar gyfer Cymru 489 (0.73%) 66,570


2020-2021

Tudalen we Ymweliadau Cymraeg Ymweliadau Saesneg
Rhybuddion Llifogydd 6,771 (0.8%) 856,914
Perygl llifogydd pum diwrnod ar gyfer Cymru 570 (0.3%) 174,150


2021-2022

Tudalen we Ymweliadau Cymraeg Ymweliadau Saesneg
Rhybuddion Llifogydd 4,843 (0.5%) 1,024,179
Perygl llifogydd pum diwrnod ar gyfer Cymru 346 (0.1%) 336,933


Negeseuon a gwefan rhybuddion llifogydd

  • Tudalen we rhybuddion llifogydd – rydym yn darparu manylion pob rhybudd sydd mewn grym ynghyd â'r wybodaeth ddiweddaraf am lifogydd

Elfen allweddol o'n gwasanaeth yw darparu gwybodaeth amser real i helpu pobl i ddeall eu perygl llifogydd uniongyrchol. Mae hyn yn gofyn am y gallu i gyfieithu gwybodaeth yn gywir yn Gymraeg.

Rydym yn bwriadu archwilio opsiynau ar gyfer datblygu'r gallu hwn i gyfieithu fel y gallwn ddarparu gwybodaeth gyfoethocach a mwy defnyddiol – gan nodi nad oes lle i gamgymeriadau cyfieithu mewn gwasanaeth a allai achub bywyd. Ar ôl cwblhau'r gwelliannau i’r Llinell Llifogydd, rydym yn bwriadu cynnal gweithgareddau i hyrwyddo ein darpariaeth Gymraeg i gynyddu’r defnydd ohoni.

Gwefan

Dengys ein hystadegau y cafwyd 48,019 (2.13%) o ymweliadau â'n tudalennau Cymraeg dros y flwyddyn, sef cynnydd o 3,424 o ymweliadau ers y llynedd. Cafwyd 2,204,933 (97.87%) o ymweliadau â'r tudalennau Saesneg. Y dudalen a gyrchwyd fwyaf yn Gymraeg oedd ein tudalennau swyddi gweigion lle cafwyd 2,338 o ymweliadau.

Yn ystod y flwyddyn mae ein Tîm Digidol wedi cyflawni gwaith i wella gallu Cymraeg ein gwefan gan ystyried y Safonau Digidol a Safonau’r Gymraeg wrth ddatblygu gwasanaethau TGCh.

Mae’r Tîm Cyfathrebu Digidol wedi cyfarfod â’n swyddog cyswllt yn swyddfa Comisiynydd y Gymraeg i wirio a oes angen cyfieithu “data tablau priodoleddau” y map llifogydd ar gyfer cynllunio, a phorth data Mawndiroedd Cymru. Llwyddodd y cyfarfod hwn i'n helpu i sicrhau bod y gwasanaeth ar-lein yn cael ei ddatblygu yn unol â gofynion ein Safonau ond hefyd yn ystyried disgwyliadau'r rheini sy'n defnyddio'r gwasanaeth a'r cyfyngiadau o ran gallu diwygio rhywfaint o wybodaeth dechnegol.

Gellir dod o hyd i ragor o wybodaeth am y gwaith y mae’r Tîm wedi’i wneud i wella gallu dwyieithog y wefan a’r gwasanaethau sydd ar gael ynddo yn atodiad 2 yr adroddiad hwn.

Geiriadur rhywogaethau morol

Mae ein Tîm Datganiad Ardal Forol wedi gweithio gyda Phrifysgol Bangor i ddatblygu “Geiriadur Rhywogaethau Morol Cymru”. Rhestr o enwau rhywogaethau yn yr amgylchedd morol yw hon, sy'n cynnwys eu henwau cyffredin yn Saesneg, yn Gymraeg, a'u henwau gwyddonol. Mae wedi'i chyhoeddi ar Termau Cymru.

Mae cyhoeddi'r geiriadur hwn yn gyhoeddus yn sicrhau bod y derminoleg forol yn fwy hygyrch ar gyfer y rheini ym maes yr amgylchedd yn ogystal â'r cyhoedd. Mae ein Tîm Cyfieithu mewnol eisoes yn defnyddio'r geiriadur ar gyfer gohebiaeth dechnegol.

Ffonau Microsoft Teams

Ym mis Mawrth fe wnaethom symud i ddefnyddio ffonau Microsoft Teams sy'n galluogi staff i wneud a derbyn galwadau ffôn i rifau allanol o'u gliniaduron.

Er bod gan y system beiriant ateb awtomataidd yn Saesneg yn unig, rydym wedi cynnig hyfforddiant i'r holl staff a oedd yn cynnwys hyfforddiant i recordio neges ateb ddwyieithog a phwysleisio'r angen i wneud hynny. Mae canllawiau ar gyfer gohebiaeth Gymraeg dros y ffôn yn rhan o'r canllawiau ar ddefnyddio ffonau Microsoft Teams.

Codi ymwybyddiaeth o'r safonau

Diweddariadau rheolwyr

Bob mis mae rheolwyr yn cael gwybodaeth gorfforaethol i'w rhannu gyda'u tîm. Dros y flwyddyn ddiwethaf rydym wedi parhau i godi ymwybyddiaeth o bolisi'r Gymraeg ac felly gofynnwyd i reolwyr godi ymwybyddiaeth ac atgoffa eu timau i gyflawni'r canlynol:

  • Atgoffa staff o’n polisi iaith mewnol
  • Bod yn rhagweithiol wrth hyrwyddo a chynnig dewis iaith wrth gychwyn cyswllt ag eraill, gan gynnwys mewn cyfarfodydd ar-lein
  • Sicrhau bod llofnodion e-bost a negeseuon allan o'r swyddfa yn ddwyieithog
  • Asesu a chofnodi sgiliau iaith Gymraeg yn MyNRW
  • Hyrwyddo ein rhaglen hyfforddiant Cymraeg
  • Ystyried gofynion cyfieithu a'u trafod gyda'r Tîm Cyfieithu
  • Sicrhau bod testun yn cael ei brawf-ddarllen pan ddefnyddir offer cyfieithu awtomataidd

Grŵp Pencampwyr

Dros y flwyddyn ddiwethaf mae ein Grŵp Pencampwyr Iaith Gymraeg, a chynrychiolydd o bob un o’n Cyfarwyddiaethau wedi cyfarfod bedair gwaith ac mae'r aelodau wedi gwneud y canlynol:

  • Hyrwyddo systemau TGCh sydd ar gael i staff yn Gymraeg gan gynnwys defnyddio cefndir sydd â symbol “Cymraeg” yn Microsoft Teams, a datblygu arwydd “Dwi’n Dysgu Cymraeg” ar gyfer dysgwyr Cymraeg ar system e-bost Outlook i’w helpu i gyfathrebu’n anffurfiol yn Gymraeg â chydweithwyr drwy e-bost.
  • Mae pump wedi gwirfoddoli i Fentora a chefnogi un dysgwr yr un, i helpu dysgwyr i ymarfer eu sgiliau siarad.
  • Codi ymwybyddiaeth a hyrwyddo cyrsiau hyfforddiant Cymraeg ymhlith eu timau.
  • Wedi gweithio gyda Llywodraeth Cymru ar brosiectau ar y cyd, gan sicrhau eu bod yn cydymffurfio â gofynion ein Safonau.
  • Helpu i ddatblygu fideo Cymraeg a Saesneg ar wahân i helpu i ysbrydoli pobl i fynd allan i'r awyr agored.

Cymraeg 2050 – cynllun gweithredu Llywodraeth Cymru ar gyfer 2021/22

Drwy ein gwaith yn gweithredu ac yn gwella ein gwasanaethau Cymraeg, rydym wedi cyfrannu at Gynllun Gweithredu Strategaeth Cymraeg 2050 Llywodraeth Cymru ar gyfer 2021–22 drwy wneud y canlynol:

  • Recriwtio staff â sgiliau Cymraeg i rolau sy’n ymwneud â’r cyhoedd yn rheolaidd, gan sicrhau bod canran y siaradwyr Cymraeg yn uwch yn y cadarnleoedd Cymraeg eu hiaith.
  • Hyrwyddo a chefnogi ein staff i ddatblygu eu sgiliau iaith er mwyn helpu i gynyddu ein gallu i ddarparu gwasanaethau dwyieithog ar gyfer y dyfodol.
  • Hyrwyddo’r defnydd o Say Something in Welsh fel un o’r adnoddau a gynigir drwy ein rhaglen hyfforddiant Cymraeg.
  • Cyfrannu drwy sicrhau fod gan addysgwyr sgiliau a hyder i addysgu pynciau amgylcheddol drwy gyfrwng y Gymraeg yn defnyddio'r termau a'r enwau cywir, drwy ein cyrsiau hyfforddi a ddarperir gan y Tîm Iechyd ac Addysg gyda'r sector addysg.
  • Hyrwyddo diwylliant a digwyddiadau Cymraeg i gynulleidfa eang drwy weithredu ein cyfrifon cyfryngau cymdeithasol yn ddwyieithog, gan godi ymwybyddiaeth fod Cymraeg yn iaith fyw sy'n cael ei siarad.
  • Datblygu ein gwasanaethau i weddu i anghenion defnyddwyr, drwy wrando a gweithredu ar adborth, drwy fynd ati i hyrwyddo, hwyluso a chroesawu'r gwasanaethau Cymraeg a'u defnyddio ym mhob maes o’r busnes. 

Gweithredu ein safonau llunio polisi

Asesiadau o’r effaith ar gydraddoldeb

Mae'r angen i ystyried Asesiad o'r Effaith ar Gydraddoldeb wedi'i ymgorffori'n llawn ym mhroses a gweithdrefnau ein Swyddfa Rheoli Prosiectau ar gyfer ein prosiectau.

Wrth gynnal Asesiad, mae'n ofynnol i ni geisio adborth gan y rheini sy'n debygol o gael eu heffeithio cyn y gwneir penderfyniad, achos “wyddwn ni ddim beth wyddwn ni ddim” heb ofyn i'r rhai yr effeithir arnynt.

Dros y flwyddyn cynhaliwyd 27 o asesiadau, roedd rhai yn dangos bod angen gwneud mwy o waith i godi ymwybyddiaeth i ddeall anghenion siaradwyr Cymraeg o ran sut y gall y prosiect, polisi neu strategaeth effeithio ar y gallu i ddefnyddio’r iaith.

Mae Cynghorydd Polisi'r Gymraeg yn rhan o'r broses gymeradwyo ar gyfer pob Asesiad ac mae’n rhoi cyngor ar ystyriaethau mewn perthynas ag anghenion siaradwyr Cymraeg.

Polisi grant

Dros y flwyddyn ddiwethaf mae ein Tîm Grantiau wedi bod yn diweddaru eu polisïau a’u prosesau. Mae ystyriaethau'r Gymraeg wedi llunio rhan o'r broses. Lluniwyd dogfen gyngor a ddrafftiwyd ar gyfer y Tîm Polisi Grantiau ar ofyniad Safonau'r Gymraeg mewn perthynas â grantiau.

Mae canllawiau wedi'u drafftio hefyd i ymgeiswyr i'w helpu i ddeall ystyriaethau Cymraeg a sut i ddefnyddio a hyrwyddo'r Gymraeg fel rhan o'u gwaith prosiect a gyhoeddir yn y ddolen isod ar ein gwefan.

Ymgynghoriadau

Mae cwestiynau wedi’u cynnwys yn ein proses ymgynghori i gasglu adborth ar yr effeithiau y gallai’r penderfyniad polisi yr ymgynghorir arno ei gael ar y defnydd o’r Gymraeg wedi’u cynnwys yn ein “Ymgynghoriadau a Chanllaw Citizen Space” yn unol â gofynion Safonau 88 ac 89.

Bydd gofyn cwestiynau am y Gymraeg mewn ymgynghoriadau yn ein helpu i gael gwell dealltwriaeth o sut y gallai ein gwaith ar y defnydd o’r Gymraeg effeithio ar ein cwsmeriaid, partneriaid, y cyhoedd a'n staff. Bydd yr adborth hwn yn ein helpu i ddatblygu ein gwasanaethau a'n perthnasoedd i ddiwallu eu hanghenion.

Gweithredu ein safonau gweithredol

Cwrs sefydlu

Cynhaliwyd chwe chwrs ar-lein dros y cyfnod adrodd hwn i gyfanswm o 164 o bobl. Dywedodd adborth gan y rhai a oedd yn bresennol eu bod o'r farn bod yr wybodaeth a ddarparwyd yn ddefnyddiol i’w helpu i ddeall ein gofynion deddfwriaethol, rhaglen hyfforddiant Cymraeg a chefnogaeth ein Tîm Cyfieithu.

Mae'r cwrs sefydlu wedi bod yn llwyfan gwerth chweil i hyrwyddo'r rhaglen, a dangosodd nifer o staff newydd ddiddordeb mewn datblygu eu sgiliau iaith drwy ein rhaglen hyfforddi.

Rhaglen hyfforddiant Cymraeg

Hyd yma, mae 138 aelod o staff yn mynychu hyfforddiant Cymraeg ar wahanol lefelau. Mae hyn 23 yn llai na'r llynedd ond:

  • Mae'r rhan fwyaf o'n dysgwyr wedi'u lleoli yng ngogledd-orllewin Cymru 29% (40) a Gwent (24% (33)
  • Mae 15% o'n dysgwyr (20) yn siaradwyr Cymraeg rhugl neu bron iawn â bod yn rhugl
  • Os yw'r 14% (19) sy'n dysgu ar hyn o bryd ar lefel Ganolradd yn parhau i ddysgu Cymraeg, byddant yn siaradwyr Cymraeg rhugl ymhen tair neu bedair blynedd

O ganlyniad i COVID-19, dim ond arholiadau llafar a gynhaliwyd yn ystod haf 2021. Roedd y nifer a safodd y rhain yn isel iawn gan fod yn well gan y rhan fwyaf o ddysgwyr sefyll pob arholiad ar unwaith.

Unwaith y bydd cyfyngiadau'n parhau i lacio, bydd rhywfaint o hyfforddiant wyneb yn wyneb yn ailddechrau, mae'r math hwn o ddysgu yn gweddu'n well i rai o'n dysgwyr gan eu bod yn credu ei fod yn rhoi cyfle pellach iddynt atgyfnerthu'r hyn y maent yn ei ddysgu. Mae rhai dysgwyr eisoes wedi gwneud sylw fod symud cyrsiau ar-lein wedi darparu hyblygrwydd a llai o deithio, sydd yn well i'r amgylchedd. Mae rhagor o wybodaeth am ein rhaglen Hyfforddi ar gael yn atodiad 3 o'r adroddiad hwn.

Cyflogwr Cymraeg gwaith y flwyddyn 2021-22

Yn ddiweddar dyfarnwyd Cyflogwr Cymraeg Gwaith y Flwyddyn 2021-22 i ni. Mae hon yn wobr flynyddol a roddir gan y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol a ddywedodd “Cyfoeth Naturiol Cymru yw enillwyr teilwng y wobr hon ar gyfer 2021-22” oherwydd y gefnogaeth rydym yn ei darparu i staff wrth ddysgu Cymraeg fel a ganlyn:

  • Caniatáu i staff fynychu cyrsiau yn ystod oriau gwaith
  • Trefnu sesiynau adolygu cyn arholiadau os oes angen
  • Trefnu sesiynau ychwanegol ar gyfer dosbarthiadau yn ystod gwyliau’r haf
  • Absenoldeb astudio i'r rhai sy'n astudio ar gyfer arholiadau
  • Cynllun mentora

Recriwtio

Yn dilyn trafodaeth â Chomisiynydd y Gymraeg datblygwyd canllawiau newydd lle mae rheolwyr yn asesu lefelau iaith swyddi gwag.

Mae adborth gan reolwyr yn ystod yr arbrawf wedi bod yn gadarnhaol a chodwyd pwyntiau defnyddiol sydd wedi'u hymgorffori yn y canllawiau a'r ffurflen ddrafft, gan wneud y canllawiau'n haws eu defnyddio a'u deall.

Cynllun Kickstart

Cymerodd CNC ran ym mhrosiect Kickstart a ddarparodd leoliadau gwaith am chwe mis i bobl ifanc rhwng 16 a 24 oed ennill profiad i'w helpu i feithrin sgiliau ar gyfer y gweithle a chyflogaeth yn y dyfodol.

Fe wnaethom hysbysebu 50 o gyfleoedd lleoliad drwy'r cynllun, a llenwyd 25 o'r lleoliadau. Hysbysebwyd chwe lleoliad lle'r oedd angen siaradwr Cymraeg, a llenwyd tri o'r lleoliadau â siaradwr Cymraeg.

Hysbysebwyd pob rôl arall fel rhai oedd yn gofyn am sgiliau Cymraeg Lefel 1, i ddangos cwrteisi ieithyddol fel rhan o'r lleoliadau hyn.

Safonau cadw cofnodion

Mae ein Safonau yn mynnu ein bod yn cadw cofnodion fel a ganlyn:

Nifer y gweithwyr sydd â sgiliau Cymraeg ar ddiwedd y flwyddyn dan sylw ar sail y cofnodion a gedwir yn unol â Safon 145.

Rydym wedi gweld cynnydd cyson yn sgiliau iaith ein staff ar y mwyafrif o lefelau, ac mae’r ganran uchaf o’n siaradwyr Cymraeg yn rhugl yn y Gymraeg yn ysgrifenedig ac ar lafar ar Lefel 5. Mae’r rhan fwyaf o’n siaradwyr Cymraeg rhugl yn ein Cyfarwyddiaeth Gweithrediadau a’r mwyafrif wedi’u lleoli yng Ngogledd Cymru. Yn gyffredinol mae 730 o’n staff (32.4%) yn gallu trafod materion yn Gymraeg ac mae eraill ar Lefelau, 3, 4 a 5. Mae cyfanswm o 94.1% o’n staff yn gallu dangos cwrteisi ieithyddol wrth gyfarfod a chyfarch eraill.

Mae nifer y siaradwyr Cymraeg rhugl wedi cynyddu 21 yn eu nifer, drwy ein proses recriwtio. Nid yw'r cynnydd canrannol o'r llynedd yn adlewyrchu hyn o ganlyniad i’r cynnydd yn niferoedd cyffredinol ein staff.

Gweler sgiliau Cymraeg ein staff ym mis Mawrth 2022 isod:

  • Lefel 5 = 334 (14.8%)
  • Lefel 4 = 221 (9.8%)
  • Lefel 3 = 175 (7.8%)
  • Lefel 2 = 456 (20%)
  • Lefel 1 = 942 (41.75%)
  • Dim sgiliau = 88 (3.9%)

Mae 43 (2%) heb hunan-asesu eu sgiliau iaith hyd yma.

Mae dadansoddiad o’n siaradwyr Cymraeg rhugl yn dangos y canlynol:

  • Mae’r mwyafrif rhwng 30-39 oed (155)
  • Mae 126 rhwng 50-59 oed
  • Mae 45 yn 60 oed+
  • Mae 298 yn wrywod
  • Mae 60 yn ferched sy'n gweithio’n rhan-amser
  • Mae'r niferoedd uchaf ar Raddau 5 a 6 ond mae'r niferoedd isaf ar ein Graddau uwch o 9 ac uwch.
  • Mae 48 o staff newydd yn siaradwyr Cymraeg rhugl
  • Mae 44 o siaradwyr Cymraeg rhugl wedi gadael yn y flwyddyn adrodd hon

Gellir gweld rhagor o wybodaeth am sgiliau Cymraeg y staff yn atodiad 4 i’r adroddiad hwn.

Nifer y staff a fynychodd gyrsiau hyfforddi a gynigiwyd drwy'r Gymraeg yn ystod y flwyddyn, ar sail y cofnodion a gadwyd, yn unol â Safon 146. Os cynigiwyd fersiwn Gymraeg o gwrs yn ystod y flwyddyn, canran cyfanswm y staff a fynychodd y cwrs a fynychodd y fersiwn Gymraeg, ar sail y cofnodion a gadwyd, yn unol â Safon 124.

Yn ystod y cyfnod adrodd hwn ni chynigiwyd yr un o’r cyrsiau a restrir isod yn Gymraeg yn unol â Safon 146:

  • rheoli perfformiad – ar-lein gan ddefnyddio Microsoft Teams
  • recriwtio a chyfweld – ar-lein gan ddefnyddio Microsoft Teams
  • gweithdrefnau cwyno a disgyblu – ni chynhaliwyd unrhyw gyrsiau
  • rhaglen sefydlu – ar-lein gan ddefnyddio Microsoft Teams
  • delio â'r cyhoedd – ni chynhaliwyd unrhyw gyrsiau
  • iechyd a diogelwch – rhai wyneb yn wyneb

Mae mwyafrif ein cyrsiau wedi parhau ar-lein yn ystod y cyfnod hwn ar wahân i rai cyrsiau iechyd a diogelwch.

Nifer y swyddi newydd a gwag a hysbysebwyd yn ystod y flwyddyn a gawsant eu categoreiddio fel rhai lle mae sgiliau Cymraeg yn hanfodol, lle maent yn ddymunol, lle mae angen eu dysgu ar ôl cael eich penodi i'r swydd, neu lle nad oeddent yn angenrheidiol, ar sail y cofnodion a gadwyd ac yn unol â Safon 148.

Yn ystod y cyfnod adrodd hwn, rydym wedi hysbysebu cyfanswm o 586 o swyddi gwag, roedd 384 ohonynt yn symudiadau mewnol a hysbysebwyd 202 yn allanol.

Hysbysebir pob swydd yn gofyn am sgiliau Cymraeg Lefel 1 fel yr isafswm iaith, rhoddir hyfforddiant i staff sydd angen cyrraedd y lefel hon o ddealltwriaeth i ddangos cwrteisi ieithyddol.

Roedd nifer y swyddi a hysbysebwyd yn ystod y cyfnod adrodd hwn fel a ganlyn:

Lefel iaith Hanfodol Dymunol Angen dysgu Cymraeg
Lefel 5 – Rhugl yn y Gymraeg ar lafar ac yn ysgrifenedig 7 0 0
Lefel 4 – Rhugl yn y Gymraeg ar lafar 30 91 1
Lefel 3 – Y gallu i gyfathrebu yn y Gymraeg â hyder mewn rhai sefyllfaoedd gwaith 20 95 6
Lefel 1 – Y gallu i ynganu enwau, ymadroddion a chyfarchion Cymraeg sylfaenol 336 0 0


Mae dadansoddiad o’r ystadegau uchod a galluoedd ieithyddol staff a gawsant swyddi drwy ein proses recriwtio, yn fewnol ac yn allanol yn ystod y cyfnod adrodd hwn fel a ganlyn:

  • 65 yn siaradwyr Cymraeg ar Lefel 5
  • 39 yn siaradwyr Cymraeg ar Lefel 4
  • 31 yn siaradwyr Cymraeg ar Lefel 3
  • 76 yn siaradwyr Cymraeg ar Lefel 2
  • 360 yn siaradwyr Cymraeg ar Lefel 1
  • Nid oes gan 15 unrhyw sgiliau Cymraeg

Disgwylir i’r 15 nad ydynt yn bodloni’r isafswm lefel iaith Lefel 1 sy’n ofynnol gwblhau’r cwrs 10 awr ar-lein a ddarperir gan y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol. Bydd angen cwblhau'r cwrs hwn o fewn y cyfnod prawf i helpu i gyflawni'r lefel hon.

Nifer y cwynion a dderbyniwyd yn ystod y flwyddyn a oedd mewn perthynas â chydymffurfio â safonau 152, 156, 162 a 164, sef safonau y mae gennym ddyletswydd i gydymffurfio â nhw.

Yn ystod y cyfnod adrodd hwn derbyniwyd deg cwyn gennym, sef cynnydd o wyth ers y llynedd. Gwnaethom ymdrin â'r holl achwynwyr a ddaeth atom yn uniongyrchol ar bob achlysur i ddatrys y materion.

Roedd y cwynion a dderbyniwyd fel a ganlyn:

Problem:

Derbyniwyd tair cwyn oherwydd testun Cymraeg gwallus a ganfuwyd ar arwyddion CNC

Canlyniad:

Ymdriniwyd â'r achwynwyr yn uniongyrchol, cafwyd gwared â'r arwyddion, a gosodwyd arwyddion newydd a thestun cywir yn eu lle.

Atgoffwyd y timau cyfrifol i sicrhau bod y testun yn cael ei brawf-ddarllen wrth ddefnyddio offer cyfieithu awtomataidd. Amlygwyd hyn yn Managers Monthly.

Roedd pob achwynydd yn fodlon ar y camau a gymerwyd gennym i unioni'r gwallau.

Problem:

Derbyniwyd un gŵyn am ein defnydd o Afon Towy yn hytrach na Tywi yn y fersiwn Saesneg o Gylchlythyr Cyfoeth ein rhanddeiliad.

Canlyniad:

Ar ôl edrych ar ein defnydd ni ac eraill o sillafu Tywi, penderfynwyd mai Tywi yn unig a gaiff ei ddefnyddio yn ein deunydd cyfathrebu yn y dyfodol. Mae'r gofyniad hwn wedi'i ychwanegu at ein canllaw arddull cyfathrebu.

Roedd yr achwynydd yn fodlon ar y camau a gymerwyd.

Problem:

Derbyniwyd dwy gŵyn oherwydd ein defnydd o'r sillafiad Cwm Carn, yn gofyn ein bod yn newid ac yn defnyddio Cwmcarn i fod yn gyson â'r ffordd y mae'r pentref yn cael ei sillafu.

Canlyniad:

Wedi gofyn yn flaenorol am gyngor Panel Safoni Enwau Lleoedd Comisiynydd y Gymraeg, esboniwyd bod y defnydd o ddau air yn gwahaniaethu rhwng nodwedd dopograffig cwm ac anheddiad neu bentref.

Nid oedd pob achwynydd yn hapus â’n hesboniad dilynol, a throsglwyddwyd manylion cyswllt Comisiynydd y Gymraeg er gwybodaeth.

Problem:

Derbyniwyd un gŵyn ar ôl canfod anghysondebau ar sillafiadau Cwm Carn ar arwyddion ar y safle.

Canlyniad:

Mewn trafodaeth â’n Tîm Cyfieithu, er nad yw’r defnydd o’r term “Gyrfa” yn anghywir ar gyfer “Drive”, cytunwyd bod y term “Rhodfa” yn fwy priodol i ddisgrifio’r daith drwy’r coetir. Pan fydd yr arwyddion pren presennol sy'n dangos “Gyrfa” yn cael eu diweddaru, bydd “Rhodfa” yn cael ei ddefnyddio. Eglurwyd hyn i'r achwynydd.

Problem:

Derbyniodd Asiantaeth yr Amgylchedd gŵyn yn Gymraeg mewn perthynas â'r ffaith nad yw gwasanaeth Gov.uk  “Cael Trwydded Bysgota” yn caniatáu i'r defnyddiwr gwblhau'r ffurflen dal a rhyddhau ar-lein yn Gymraeg.

Canlyniad:

Roedd y gwall oherwydd problem meddalwedd technegol yn ystod proses argraffu’r cyflenwyr. Atgoffwyd y timau cyfrifol i sicrhau bod siaradwr Cymraeg rhugl yn prawf-ddarllen y testun wrth dderbyn arwyddion newydd.

Amlygwyd hyn yn Managers Monthly.

Penderfynodd y Comisiynydd i beidio ag ymchwilio i’r mater ymhellach.

Rydym hefyd yn derbyn cwynion gan ein staff ein hunain weithiau ar achosion o ddiffyg cydymffurfio â’n polisi iaith mewnol, er enghraifft mewn perthynas ag anfon negeseuon e-bost dwyieithog ac mewn perthynas â chyflwyniadau mewnol i grwpiau mawr o staff yn uniaith Saesneg.

Ymarfer monitro 2022

Cynhaliwyd ymarfer monitro gyda phump o'n Timau Trwyddedu, ein tair Canolfan Ymwelwyr, y Ganolfan Gofal Cwsmer, a'n Tîm Trafodiadau Ariannol. Gofynnwyd i’r timau lenwi ffurflen fonitro ar-lein fel rhan o’n gwaith i hunan-reoleiddio ein safonau mewn perthynas â’n Safonau Cyflenwi Gwasanaethau.

Amlygodd yr ymarfer hwn yr agweddau cadarnhaol a ganlyn:

  • Gwnaeth tîm Trwyddedu Coedwigaeth ymdrin â 22 cais yn Gymraeg yn 2021/22, gwnaeth y Tîm Cyflenwi Trwyddedau ymdrin ag un, ni dderbyniwyd unrhyw geisiadau yn Gymraeg gan y timau Trwyddedu eraill.
  • Mae gan bob tîm ar wahân i un o leiaf un neu fwy o siaradwyr Cymraeg ar Lefel 3, 4 neu 5, ac mae gan y tîm lle nad oes unrhyw siaradwr Cymraeg rhugl dri aelod o staff ar hyn o bryd yn datblygu eu sgiliau iaith ar Lefel 2 i feithrin sgiliau iaith tîm.
  • Mae pob aelod o staff y Canolfannau Ymwelwyr sy'n delio â'r cyhoedd yn siarad Cymraeg yn rhugl, ac mae'r derbynfeydd yn hyrwyddo'r defnydd o'r Gymraeg gyda phosteri “Cymraeg” a staff yn gwisgo laniardiau.
  • Mae ein Canolfan Cwsmeriaid a’n Tîm Trafodiadau Ariannol yn darparu dewis iaith rhagweithiol dros y ffôn i alwyr.
  • Mae pob ffurflen ar gael i'r cyhoedd yn Gymraeg (ffurflenni ar-lein a chopïau caled). Mae ein ffurflenni ar-lein yn cynnwys dolen uniongyrchol o'r ffurflen Saesneg i'r Gymraeg trwy dogl sy'n caniatáu i'r cwsmer ddewis ei llenwi yn Gymraeg.
  • Mae canllawiau, polisïau, a gweithdrefnau ar gael i’r cyhoedd yn Gymraeg i bob un o'r timau ar wahân i’n Tîm Trwyddedu Gosodiadau a Rheoleiddio Sylweddau Ymbelydrol oherwydd natur dechnegol y gwaith. Ar ôl dilyn ein harweiniad Cyfieithu mae'r tîm wedi asesu na fyddai'r rhai sy'n gwneud cais am drwyddedau yn disgwyl canllawiau a gweithdrefnau yn Gymraeg.

Fodd bynnag, mae angen sicrhau mwy o gysondeb, er enghraifft:

  • Sicrhau mwy o gysondeb wrth gadw cofnodion ynghylch ceisiadau yr ymdrinnir â nhw yn Gymraeg.
  • Nid Timau Caniatáu sy'n gwneud y cyswllt cychwynnol â rheini sy'n gwneud cais am drwydded a byddant yn gohebu yn yr iaith y derbynnir y cais. Wrth ymateb i geisiadau dylid cynnig dewis iaith rhagweithiol yn fwy cyson.
  • Monitro i sicrhau bod gan bob ffurflen ddatganiad ar y ffurflen Saesneg yn nodi ei bod hefyd ar gael yn Gymraeg.

Dyma arferion da a rannwyd gan dimau fel rhan o’n hymarfer monitro:

  • Bydd un Tîm Trwyddedu, wrth ymateb i gais am drwydded yn gofyn i'r un sy'n gwneud y cais am ei ddewis iaith waeth ym mha iaith y derbynnir y cais, mae hyn yn helpu i annog a hwyluso’r defnydd o'r Gymraeg.
  • Mae sgiliau iaith Gymraeg yn hanfodol yn y broses recriwtio ar gyfer staff y Ganolfan Ymwelwyr.
  • Cyfarch pob cwsmer yn ddwyieithog (yn bersonol a dros y ffôn). Mae arwydd “Cymraeg” yn cael ei arddangos wrth ddesg y dderbynfa, a'r staff yn gwisgo laniardiau “Cymraeg” a “Dwi'n Dysgu Cymraeg”. Mae arddangos y deunydd hwn a chlywed yr iaith yn cael ei siarad yn rhoi ymdeimlad o le i’r rheini sy’n ymweld ac mae’n helpu i hyrwyddo'r defnydd o’r iaith i'w groesawu.
  • Clwb dysgwyr Cymraeg i Ymwelwyr yng Nghoed y Brenin. 

Perygl diffyg cydymffurfio

Prynu trwydded bysgota ar Gov.uk

Yn ystod 2021/22 rydym wedi gwneud cynnydd o ran gweithio gydag Asiantaeth yr Amgylchedd, sy’n gweinyddu’r gwasanaeth Prynu Trwydded Bysgota ar ein rhan, i ddatblygu gallu’r Gymraeg ar y wefan. Ar hyn o bryd mae'r wefan yn uniaith Saesneg ac nid yw'n cydymffurfio â'n Safonau. Mae trwyddedau pysgota yn parhau i gael eu gwerthu mewn swyddfeydd post lleol; mae pob trwydded bysgota a werthir i godau post Cymraeg yn ddwyieithog.

Gyda chymorth cyllid a chyfieithu gan CNC, mae Asiantaeth yr Amgylchedd wedi dechrau ar y gwaith hwn, ac mae’n Tîm Cyfieithu yn darparu fersiynau Cymraeg o’r holl wybodaeth a gedwir gan y gwasanaeth prynu Trwyddedau Pysgota. Unwaith y bydd yr wybodaeth wedi'i lanlwytho, bydd y tîm yn ei phrawfddarllen er mwyn sicrhau bod yr holl wybodaeth yn y lle a'r fformat cywir a bydd yn profi'r wefan gyda'n Tîm Digidol cyn i'r gwasanaeth fynd ar waith ar Gov.uk. Y gobaith yw y bydd hynny yn ystod 2022.

Byddwn yn parhau i weithio gydag Asiantaeth yr Amgylchedd yn ystod y flwyddyn i sicrhau bod yr holl wybodaeth a weinyddir ganddynt ar ein rhan ar wefan Gov.uk yn ogystal â thrwy sianeli cyfathrebu eraill ar gael i gwsmeriaid yn Gymraeg a’i bod yn cydymffurfio â gofynion ein Safonau.

Mae Comisiynydd y Gymraeg yn cael ei hysbysu am y cynnydd hwn.

Floodline UK

Ni all gwasanaeth Floodline UK sicrhau bod siaradwr Cymraeg wedi'i neilltuo i ddarparu gwasanaeth sy’n cyfateb i’r gwasanaeth Saesneg a ddarperir, felly mae'n golygu nad yw’r gwasanaeth yn cydymffurfio â’n dyletswyddau cyfreithiol.

Mae'r tîm Rhybuddio a Hysbysu am Lifogydd wedi dod o hyd i ateb a allai liniaru'r mater o ddiffyg cydymffurfio. Mae achos busnes yn cael ei gyflwyno i'r Rhaglen Datblygu ac Arloesi ac yn cael ei gymeradwyo drwy broses y Swyddfa Rheoli Prosiect.

Hyrwyddo'r iaith Gymraeg a’i diwylliant

Ers mis Hydref 2021 rydym wedi bod yn hyrwyddo a chodi ymwybyddiaeth o’r iaith, digwyddiadau, traddodiadau diwylliannol Cymreig hanesyddol a chyfoes ar ein mewnrwyd, Yammer, a chyfrifon cyfryngau cymdeithasol. Mae'r rhain wedi bod yn boblogaidd ymhlith y staff a'r cyhoedd ac yn helpu i rannu hanes diwylliannol ac iaith Cymru.

Recordiodd ein côr staff ein hunain, Côr Cyfoeth, “Ar Lan y Môr” yn arbennig ar gyfer Dydd Gŵyl Dewi, a ddenodd lawer o bobl i'w hoffi ar ein mewnrwyd, Yammer, a sylwadau ar ein cyfrifon cyfryngau cymdeithasol. Mae’r recordiad nid yn unig yn dathlu Dydd Gŵyl Dewi ond yn dangos trwy ffotograffau a fideo ein gwaith yn helpu i ddiogelu a chadw cynefinoedd naturiol Cymru ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol ynghyd â dathlu’r degfed pen-blwydd Llwybr Arfordir Cymru eleni.

Rydym wedi hyrwyddo'r canlynol:

  • cyhoeddi Adroddiad Blynyddol ar yr Iaith Gymraeg ym mis Medi 2021
  • Diwrnod Shwmae/Su'mae rhwng 14 a 15 Hydref
  • dathlu Dysgu Cymraeg rhwng 11 a 15.10.21
  • Calan Gaeaf a Diwrnod Cyntaf y Gaeaf ar 1 Tachwedd
  • Diwrnod Hawliau Iaith Gymraeg rhwng 5 a 7 Rhagfyr
  • traddodiadau’r Nadolig a’r Flwyddyn Newydd yng Nghymru rhwng 15 a 17 Rhagfyr
  • Santes Dwynwen ar 25 Ionawr
  • Dydd Miwsig Cymru ar 4 Chwefror
  • Dydd Gŵyl Dewi ar 1 Mawrth
  • Diwrnod y Llyfr ar 3 Mawrth
  • Diwrnod Barddoniaeth y Byd ar 21 Mawrth

Cynllun gweithredu 2021–22

Roedd cyfanswm o 15 o gamau gweithredu gan y cynllun gweithredu ar gyfer 2021–22, ac, allan o'r camau hynny, cwblhawyd 11 ohonynt, mae tri ar waith ac un heb ei ddechrau. Mae rhai o'r camau sydd ar waith a heb eu cwblhau o ganlyniad i flaenoriaethau gwaith eraill a chyfyngiadau COVID-19. Mae cam gweithredu heb ei ddechrau yn rhan o’r Cynllun Gweithredu ar gyfer 2022 – 23.

Cynllun gweithredu 2022–23

Y blaenoriaethau yn ein cynllun gweithredu ar gyfer 2022-23 fydd y canlynol:

  • lansio’r broses newydd ar gyfer asesu sgiliau Cymraeg swyddi
  • parhau i weithio gydag Asiantaeth yr Amgylchedd i sicrhau bod yr holl wybodaeth ar Gov.uk ar gael yn Gymraeg a’i bod yn cydymffurfio â’n safonau Iaith Gymraeg
  • datblygu a cheisio cymeradwyaeth i weithredu'r ateb i liniaru'r risg o ddiffyg cydymffurfio o ran gwasanaeth gwybodaeth llifogydd Floodline UK i sicrhau ein bod yn cydymffurfio â'n Safonau Iaith Gymraeg
  • datblygu tudalen siop-un-stop ar gyfer gwasanaethau, cyngor, hyfforddiant ac adnoddau Cymraeg ar y fewnrwyd i staff
  • dechrau gwaith ar ddatblygu Strategaeth Iaith Gymraeg ac adolygu ein polisi iaith mewnol

Strategaeth y Gymraeg CNC

Cymeradwywyd Strategaeth Amrywiaeth a Chynhwysiant CNC 2021-25 'Gyda'n Gilydd – All Together' gan y Bwrdd ym mis Ionawr 2022, ynghyd â Chynllun Gweithredu Gweithredol sy'n cynnwys drafftio Strategaeth y Gymraeg ar gyfer y sefydliad. Ein nod yw cynyddu’r cyfleoedd i’n siaradwyr a’n dysgwyr Cymraeg ddefnyddio’r iaith yn feunyddiol, yn fewnol ac yn allanol yn ein hymwneud ag eraill fel rhan o’n gwaith o ddydd i ddydd. Bydd gwaith yn dechrau ar ddatblygu'r Strategaeth yn ystod y flwyddyn i ddod.

Bydd hyn yn helpu i sicrhau bod ein hanghenion busnes o safbwynt y Gymraeg yn cyfateb i'r gallu ym mhob gweithle ac yn ein helpu i fod yn sefydliad sy'n barod am y dyfodol yn unol ag uchelgais strategaeth Llywodraeth Cymru ar gyfer y Gymraeg, Cymraeg 2050.

Casgliad

Rydym yn falch o’r cynnydd yr ydym yn ei wneud wrth weithredu ein Safonau'r Gymraeg, ac o gofio bod nifer y staff sy’n siarad Cymraeg yn cynyddu, byddwn yn edrych am fwy o gyfleoedd i’n staff ddefnyddio’r iaith fel rhan o’u rôl o ddydd i ddydd.

Bydd datblygu ein Tîm Cyfieithu yn dîm o chwech i ddiwallu ein hanghenion iaith Gymraeg yn fewnol, yn arwain at wella ein gwasanaethau i’r cyhoedd a’n staff ein hunain,gan ganiatáu mwy o gysondeb o ran terminoleg ac arddull, a gwella profiad y defnyddiwr drwy gydweithio i greu cynnwys yn Gymraeg ochr yn ochr â'r cynnwys yn Saesneg. Dros amser, ein gobaith yw y bydd y dull hwn o ddatblygu ein gwasanaethau yn cynyddu'r niferoedd sy'n defnyddio ein gwasanaethau Cymraeg.

Wrth i’r cyfyngiadau COVID-19 lacio a’n bywydau arferol ddychwelyd yn araf bach, mae sawl aelod o staff wedi dangos diddordeb mewn ail-ddechrau eu dosbarthiadau Cymraeg ac maent yn edrych ymlaen at gael rhai dosbarthiadau wyneb yn wyneb gan eu bod yn teimlo bod y rhain yn rhoi’r cyfle iddynt atgyfnerthu'r hyn y maent yn ei ddysgu. Byddwn yn hyrwyddo ein hyfforddiant gyda'r nod o gynyddu nifer y staff sy'n dymuno datblygu eu sgiliau iaith.

Mae Ennill Gweithle Cymraeg Gwaith y Flwyddyn 2021-22 wedi golygu llawer i ni fel sefydliad, gan fod y gwaith rydym yn ei wneud i gefnogi ein staff i ddatblygu eu sgiliau iaith yn cael ei gydnabod. Gwerthfawrogwn ymrwymiad personol ein dysgwyr i ddatblygu eu sgiliau iaith ac rydym am sicrhau eu bod yn cael eu cefnogi wrth iddynt ddatblygu i fod yn siaradwyr Cymraeg hyderus yn y dyfodol.

Mae rhai gwasanaethau nad ydynt yn cydymffurfio â'n Safonau, ond rydym yn hyderus y bydd y gwaith yr ydym yn ei wneud i fynd i'r afael â'r meysydd hyn yn helpu i liniaru achosion o ddiffyg cydymffurfio â'n Safonau yn y flwyddyn i ddod.

Fel sefydliad rydym am i bobl ddefnyddio ein gwasanaethau Cymraeg a theimlo bod croeso iddynt eu defnyddio ym mhob maes o’n gwaith. Rydym yn croesawu’r adborth a dderbyniwyd a byddwn yn gwneud popeth o fewn ein gallu i ddatblygu a darparu gwasanaethau sy’n diwallu anghenion y defnyddwyr, drwy ddarparu dewis iaith go iawn i helpu i wella ein gwasanaethau, gyda’r nod o gynyddu eu defnydd dros amser. Bydd yr holl waith hwn yn cyfrannu at nod Llywodraeth Cymru yn Cymraeg 2050 a Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol yn ogystal â’n huchelgeisiau ein hunain fel sefydliad i ddefnyddio a chynyddu’r defnydd o’r iaith yn allanol yn ogystal ag yn fewnol.

Atodiad 1

Tîm Cyfieithu – Treialu dulliau newydd

Ym mis Chwefror 2022, gwahoddwyd y tîm Cyfieithu i gydweithio yn y broses creu cynnwys gyda’r tîm Digidol. Roedd y tîm Digidol eisoes wedi bod yn cydweithio i greu cynnwys sy'n canolbwyntio ar y defnyddiwr wrth weithio ar Gynllun Creu Coetir, a gwahoddodd ein Huwch Gyfieithydd i dreialu proses “ysgrifennu triawd” newydd. Proses yw hon sy'n cynnwys sbrintiau creadigol lle mae'r cyfieithydd yn ysgrifennu ochr yn ochr ag ymchwilydd defnyddiwr a dylunydd cynnwys. Nod y prosiect yw'r canlynol:

  • Creu a chyhoeddi cynnwys sy'n canolbwyntio ar y defnyddiwr am greu a rheoli coetiroedd
  • Rhoi ffyrdd newydd, cydweithredol o weithio ar waith
  • Adeiladu momentwm ar gyfer creu mwy o gynnwys sy'n canolbwyntio ar y defnyddiwr

Rhoddodd y sesiwn ysgrifennu triawd gyntaf y cyfle i ni gydweithio ar ddogfen Google doc yn fyw yn y Gymraeg a’r Saesneg. Galluogodd hyn i’r cyfieithydd feithrin gwell dealltwriaeth o’r cynnwys a chlywed am unrhyw faterion yr oedd yr ymchwilydd eisoes wedi dod ar eu traws o ran geirfa a thôn y llais. Yna cafodd y broses ei harddangos yn y Gymuned Ymarfer Ddwyieithog ym mis Mawrth.

Yn dilyn y dull ysgrifennu triawd cychwynnol, rydym hefyd wedi dechrau gweithio ar brosiect tebyg yn archwilio ffyrdd o greu cynnwys dwyieithog am wastraff peryglus sy’n canolbwyntio ar y defnyddiwr. Hyd yma, rydym wedi cymryd rhan mewn un sbrint ac wedi creu un darn o gynnwys sydd wedi datblygu i brototeip gyda'r nod o'i brofi gyda defnyddwyr dwyieithog. Mae'r gwaith yn mynd rhagddo.

Atodiad 2 - Gwella ein gwasanaethau gwefan

Gwasanaethau llifogydd ar-lein

  • Cynhaliwyd ymchwil mewn cyfweliadau gyda defnyddwyr y Gymraeg i ddatblygu prototeip ‘Gweld eich risg llifogydd’ ochr yn ochr yn Gymraeg ac yn Saesneg
  • Rydym wedi adolygu cyfieithiadau terfynol y gwasanaeth ‘Gweld eich risg llifogydd’ a ‘Map llifogydd ar gyfer cynllunio’ i sicrhau eu bod mor naturiol â phosibl yng nghyd-destun y gwasanaeth
  • Rydym wedi cyfieithu'r botymau, labelau a’r tablau ar gyfer y map rheoli cynlluniau traethlin er mwyn manteisio ar ein gwybodaeth o'r cyd-destun
  • Rydym wedi adolygu fersiwn Cymraeg o’n datganiad rheoli gwasanaeth 'cwcis', Cookiebot, i'w wneud yn fwy naturiol a dealladwy.
  • Rydym wedi symud yr hen fersiwn Saesneg yn unig o ‘Fap Asesu Perygl Llifogydd Cymru’ i blatfform newydd a fydd yn ddwyieithog. Rydym wedi ceisio creu fersiynau yn defnyddio Cymraeg bob dydd ar gyfer labelau'r map.
  • Wrth ddylunio gwasanaeth cofrestru newydd ar gyfer rhybuddion llifogydd byddwn yn profi'r fersiwn Cymraeg ochr yn ochr â'r fersiwn Saesneg.
  • Bydd pob arolwg ar-lein ar gyfer y gwasanaethau llifogydd yn cael eu cyhoeddi yn Gymraeg. Bydd yr ymchwilydd defnyddwyr yn creu’r fersiwn Cymraeg er mwyn cyfleu'r ystyr yn hytrach na chreu cyfieithiad caeth.
  • Yn y dyfodol, byddwn yn gweithio ar brosiect i ailwampio’r gwasanaeth Lefelau Afonydd. Byddwn yn cynnal cyfweliadau ymchwil i wirio'r fersiwn Cymraeg.

Dylunio cynnwys yn Gymraeg yn gynharach yn y broses

Rydym yn hyrwyddo'r arfer o brofi'r fersiwn Cymraeg ochr yn ochr â'r Saesneg, yn hytrach na dibynnu ar gyfieithu ar ddiwedd y broses llunio prosiectau.

Heblaw am y gwaith llifogydd uchod, rydym wedi cyflawni'r gwaith canlynol:

  • cynnal dau gyfweliad darganfod yn y Gymraeg ar gyfer prosiect y Ganolfan Gwasanaethau Cyhoeddus Digidol ar gyfer gwastraff peryglus
  • cynnal dau gyfweliad i brofi prototeip Cymraeg gyda'r prosiect uchod
  • cynnal nifer o gyfweliadau Cymraeg ar gyfer prosiect creu coedwig
  • bwriadwn gynnal cyfres o gyfweliadau yn Gymraeg ar gyfer rhes nesaf y prosiect uchod. Mae gan y rhain amryw o bwyntiau defnyddiol ar gyfer geirfa mewn gwasanaethau cofrestru

Ein rôl yn grŵp ymarfer y Ganolfan Gwasanaethau Cyhoeddus Digidol yn rhannu ac adeilad ar arferion da wrth ddylunio gwasanaethau dwyieithog yw'r canlynol:

  • Rydym yn cyfrannu at 'Adeiladu gwasanaethau dwyieithog' 'cymuned o arferion' bob wythnos y Ganolfan Gwasanaethau Cyhoeddus Digidol
  • Rydym wedi cyflwyno tair sesiwn i'r grŵp 'ma' i rannu ein gwaith, gan gynnwys profi deunyddiau yn Gymraeg yn gynnar yn y broses

Arall: Gwaith ar fapiau / pyrth mawn ac ati

  • Gwnaethom gyfarfod â swyddog o Swyddfa Comisiynydd y Gymraeg i wirio yr angen am gyfieithu 'data tablau priodoleddau' y map llifogydd ar gyfer cynllunio a phorth data mawndiroedd Cymru
  • Byddwn yn parhau i weithio gydag awduron i sicrhau bod cynnwys y we yn ddwyieithog lle bynnag y bo'n bosibl

Atodiad 3 - Gwybodaeth am ein rhaglen hyfforddiant Cymraeg

Nifer y dysgwyr sy'n mynychu pob lefel ddysgu

Cwrs Dysgwyr 2021/22 Canran
Mynediad 71 51%
Sylfaen 28 20%
Canolradd 19 14%
Uwch 19 14%
Hyfedredd 1 1%
Cyfanswm 138 100%

 

Rhanbarth Dysgwyr 2021/22 Canran
Caerdydd 8 6%
Sir Gaerfyrddin 9 6%
Ceredigion/Powys 13 9%
Morgannwg 1 1%
Gwent 33 24%
Y Gogledd-ddwyrain 9 6%
Y Gogledd-orllewin 40 29%
Sir Benfro 4 3%
Bae Abertawe 15 11%
Y Fro 1 1%
Nant Gwrtheyrn 5 4%
Cyfanswm 138 100%


Cynllun mentora

Ar hyn o bryd mae CNC yn cynnig cynllun Mentora a gynlluniwyd i ddarparu cymorth i ddysgwyr Cymraeg o fewn y sefydliad. Mae'r cynllun yn cynnwys aelodau o staff sy'n siaradwyr Cymraeg rhugl neu ddysgwyr ar lefel uwch yn gwirfoddoli hanner awr o'u hamser bob pythefnos i sgwrsio'n anffurfiol â'u partner sy'n dysgu Cymraeg.

Rydym wedi cael derbyniad gwych hyd yn hyn, gyda 35 mentor a 49 dysgwr yn cofrestru ar gyfer y cynllun. Mae hyn yn galonogol iawn, ac rydym wastad yn agored i fwy o bobl yn ymuno ac yn eu hannog i wneud hynny.

Say Something in Welsh

Bu sawl cais yn y gorffennol gan staff i gyflwyno Say Something in Welsh fel dewis arall a dull hyblyg o ddysgu. Mae gennym 20 o bobl yn treialu hyn ar hyn o bryd, a mwy yn cael eu hychwanegu bob dydd. Rydyn ni'n gweld bod hon yn ffordd dda o gael dechreuwyr llwyr i ddechrau dysgu wrth aros i gofrestru ar gwrs Dysgu Cymraeg.

Rydym yn cynnig y cwrs hwn i holl staff CNC; ond, mae’n ymddangos ei bod yn well ei anelu at staff ar gontractau tymor byr, staff y ganolfan ymwelwyr ac aelodau staff nad ydynt yn gallu ymrwymo i gwrs oherwydd amgylchiadau penodol (h.y. cyflyrau meddygol).

Atodiad 4 - Ystadegau sgiliau Iaith Gymraeg

Sgiliau Iaith Gymraeg staff

Dyddiad Heb gwblhau datganiad Dim dealltwriaeth o’r Gymraeg Gallu ynganu ymadroddion ac enwau Cymraeg sylfaenol Gallu llunio brawddegau Cymraeg sylfaenol Gallu trafod rhai materion gwaith yn hyderus Rhugl ar lafar yn y Gymraeg Rhugl yn y Gymraeg ar lafar ac yn ysgrifenedig
Mawrth 2022 43 (2%) 88 (3.9%) 942 (41.7%) 456 (20%) 175 (7.8%) 221 (9.8%) 334 (14.8%)
Chwefror 2021 109 (4.9%) 87(3.9%) 915( 40.9%) 438 (19.6%) 153 (6.8%) 225 (10%) 310 (13.9%)
Mawrth 2020 134 (6.5%) 63 (3.1%) 820 (40.0%) 412 (20.1%) 136 (6.6%) 211 (10.3%) 275 (13.4%)

 

Niferoedd ym mis Mawrth 2022 = 2259 – Nifer a chanran y siaradwyr Cymraeg ym mis Mawrth 2022 = 555 (24.6%)

Niferoedd ym mis Chwefror 2021 = 2237 – Nifer a chanran y siaradwyr Cymraeg ym mis Chwefror 2021 = 535 (24%)

Niferoedd ym mis Mawrth 2020 = 2051 – Nifer a chanran y siaradwyr Cymraeg ym mis Mawrth 2020 = 486 (23.7%)

Sgiliau Cymraeg yn ôl proffil oedran

Oedran Heb gwblhau datganiad Dim dealltwriaeth o’r Gymraeg Gallu ynganu ymadroddion ac enwau Cymraeg sylfaenol Gallu llunio brawddegau Cymraeg sylfaenol Gallu trafod rhai materion gwaith yn hyderus Fluency in spoken Welsh Rhugl yn y Gymraeg ar lafar ac yn ysgrifenedig Cyfanswm
22 - 29 7 15 80 23 14 18 66 223
30 - 39 9 17 192 102 43 56 99 518
40 - 49 13 23 307 158 52 75 70 698
50 - 59 9 24 286 137 52 52 74 634
60 plus 5 9 77 36 14 20 25 186
Cyfanswm 43 88 942 456 175 221 334 2259

Sgiliau Cymraeg fesul rhyw – Gweithwyr llawn amser/rhan amser

Rhyw
Llawn amser
Rhan amser
Heb gwblhau datganiad Dim dealltwriaeth o’r Gymraeg Gallu ynganu ymadroddion ac enwau Cymraeg sylfaenol Gallu llunio brawddegau Cymraeg sylfaenol Gallu trafod rhai materion gwaith yn hyderus Rhugl ar lafar yn y Gymraeg Rhugl yn y Gymraeg ar lafar ac yn ysgrifenedig Cyfanswm
Benyw 24 36 407 232 94 95 146 1034
Benyw llawn amser 17 30 311 168 65 70 111 772
Benyw rhan amser 7 6 96 64 29 25 35 262
Male 19 52 535 224 81 126 188 1225
Male llawn amser 19 49 498 207 76 116 182 1147
Male rhan amser   3 37 17 5 10 6 78
Cyfanswm 43 88 942 456 175 221 334 2259

Sgiliau Cymraeg fesul gradd

Gradd Heb gwblhau datganiad Dim dealltwriaeth o’r Gymraeg Gallu ynganu ymadroddion ac enwau Cymraeg sylfaenol Gallu llunio brawddegau Cymraeg sylfaenol Gallu trafod rhai materion gwaith yn hyderus Rhugl ar lafar yn y Gymraeg Rhugl yn y Gymraeg ar lafar ac yn ysgrifenedig Cyfanswm
G1 3   2 2   5 1 13
G2 7 9 27 11 7 11 15 87
G3 1 5 38 17 4 15 23 103
G4 11 9 135 48 21 37 67 328
G5 8 28 243 101 48 57 91 576
G6 6 18 251 160 45 49 69 598
G7 2 9 124 69 33 30 31 298
G8 2 3 82 28 9 9 20 153
G9 2 1 21 7 5 6 10 52
G10   2 9 9     1 21
G11 1 3 9 3 1 2 5 24
Gweithredol   1 1 1 2   1 6
Cyfanswm 43 88 942 456 175 221 334 2259

Sgiliau Cymraeg staff newydd a'r rhai sy'n gadael

Staff newydd/Staff sy’n gadael Heb gwblhau datganiad Dim dealltwriaeth o’r Gymraeg Gallu ynganu ymadroddion ac enwau Cymraeg sylfaenol Gallu llunio brawddegau Cymraeg sylfaenol Gallu trafod rhai materion gwaith yn hyderus Rhugl ar lafar yn y Gymraeg Rhugl yn y Gymraeg ar lafar ac yn ysgrifenedig Cyfanswm
Staff newydd 19 8 58 21 17 12 36 171
Staff sy’n gadael 10 7 55 24 12 15 29 152

Archwilio mwy

Diweddarwyd ddiwethaf