Strategaeth hamdden: sut yr ydym yn rheoli mynediad i natur ar y tir yn ein gofal 2024-2030

Cyflwyniad

Mae cymdeithas iach, hapus a chyfoethog yn un sy’n fwy tebygol o ofalu am fyd natur a chymryd camau cadarnhaol ar gyfer ei ddyfodol.

Yn ein cynllun corfforaethol, rydym yn nodi lle rydym yn y sefyllfa orau i wneud gwahaniaeth gyda’r adnoddau sydd gennym - ond rydym yn nodi hefyd lle bydd angen inni addasu sut a ble rydym yn gweithio a lle bydd angen inni arloesi a chydweithio i sicrhau newid sy’n deg, yn gyfiawn, ac yn sicrhau nad oes neb yn cael ei adael ar ôl.

Mae’r strategaeth hon yn canolbwyntio ar hamdden awyr agored ar y tir sydd yn ein gofal, lle gallwn wneud gwahaniaeth - a lle rydym yn y sefyllfa orau i wneud hynny - drwy alluogi eraill i sicrhau cysylltiad â natur a sbarduno canlyniadau cadarnhaol.

Bydd y strategaeth yn symud o ddefnyddio ein hadnoddau i greu cyfleoedd ar gyfer hamdden egnïol, i alluogi mwy o fynediad at natur i’r rhai sydd ei angen er mwyn ffynnu, gan gefnogi’r gwaith o reoli adnoddau naturiol yn gynaliadwy, a chefnogi’n hamcanion llesiant.

Gallai hyn gynnwys, er enghraifft:

  • Galluogi trydydd partïon i gamu i mewn a darparu gweithgaredd dwys yn seiliedig ar dwristiaeth.
  • Cael mynediad anffurfiol beunyddiol, o ansawdd uwch, yn y mannau cywir, gyda llai fyth o rwystrau i ystod amrywiol o ddefnyddwyr.
  • Diwygio ein proses ar gyfer rhoi caniatâd i eraill gyflwyno digwyddiadau a gweithgareddau sy’n gwella iechyd meddwl a lles corfforol ein cymunedau, gan sicrhau eu bod yn digwydd yn y lle iawn ac ar yr amser iawn.

I wneud hyn byddwn yn gweithio ar y cyd ar draws ein timau, gyda chynrychiolwyr y sector, trydydd partïon, a thrwy’r Byrddau Gwasanaethau Cyhoeddus i wneud y gorau o gyfleoedd a datblygu partneriaethau ystyrlon i ysgogi’r newid trawsnewidiol sydd ei angen arnom.

Drwy weledigaeth a blaenoriaethau’r strategaeth, byddwn yn cefnogi cyfiawnder cymdeithasol ac amgylcheddol ac yn canolbwyntio ar degwch a chynhwysiant fel y gallwn greu dyfodol lle mae byd natur a phobl yn wirioneddol ffynnu gyda’i gilydd mewn ffordd sy’n gynaliadwy ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol.

 

Cyd-destun

Roedd ein cynllun corfforaethol cyntaf yn 2014 yn nodi diben, sef sicrhau bod amgylchedd ac adnoddau naturiol Cymru yn cael eu cynnal, eu gwella a’u defnyddio’n gynaliadwy - nawr ac yn y dyfodol - gan ddefnyddio pum rhaglen ‘Da’ (Da ar gyfer gwybodaeth, yr amgylchedd, pobl, busnes a’r sefydliad).

Crëwyd ‘Cynllun Galluogi Hamdden a Mynediad Awyr Agored 2015 – 2020’ i gefnogi’r uchelgeisiau yn y cynllun hwn, yn enwedig o ran integreiddio cyfleoedd hamdden gyda darparwyr eraill, cynnal atebolrwydd, adeiladu ar waith presennol a nodi cyfleoedd busnes newydd.

Ers hynny, mae’r cyd-destun yng Nghymru - ac yn wir yn y byd yn ehangach - wedi newid yn aruthrol. Yn anad dim yr argyfwng costau byw, yr argyfwng ynni, a’r argyfyngau hinsawdd a natur. Rydym wedi teimlo effeithiau pandemig Covid-19 hefyd, a welodd newid enfawr yn y ffordd mae pobl yn defnyddio mannau awyr agored ac ymdrech i gysylltu fwyfwy â natur er budd iechyd a lles.

Yn 2023, cyhoeddom gynllun corfforaethol newydd hyd at 2030, sef ‘Byd Natur a Phobl yn Ffynnu gyda’n Gilydd’ , gan ddatblygu ar y profiad a’r hyn a ddysgwyd dros y degawd diwethaf, a chanolbwyntio
ar yr argyfyngau natur, hinsawdd a llygredd.

Law yn llaw â’r cynllun corfforaethol, mae strategaeth fasnachol newydd wedi’i chyhoeddi, a’i hadolygu’n ddiweddar, sy’n pennu gweledigaeth i gynhyrchu incwm i CNC drwy weithgarwch masnachol cynaliadwy, fel y gallwn wneud mwy ar gyfer llesiant amgylcheddol, cymdeithasol, economaidd a diwylliannol Cymru. Yn fwy penodol, mae’n cryfhau ein gallu i fynd ati’n rhagweithiol i gael mwy o gyfleoedd a gweithgareddau hamdden yn cael eu cyflawni gan eraill ar y tir sydd yn ein gofal.

Ar hyn o bryd rydym yn adolygu’r hyn rydym yn ei stopio, ei ohirio, neu’n ei wneud yn wahanol, er mwyn cyflawni’r cynllun corfforaethol o fewn y cyfyngiadau a’r ansicrwydd ariannol y mae pob rhan o’r sector
cyhoeddus yn gorfod delio â nhw, ac mae hyn yn cynnwys darpariaeth hamdden a mynediad.

Crëwyd y strategaeth hon ar y cyd â staff a rhanddeiliaid drwy broses ymgysylltu drylwyr. Mae’n gosod cyfeiriad strategol ar gyfer hamdden awyr agored ar dir rhydd-ddaliadol a phrydlesol sydd yn ein gofal, a’r Gwarchodfeydd Natur Cenedlaethol yr ydym yn eu rheoli.

Nid yw’n cwmpasu safleoedd lle nad oes gennym reolaeth uniongyrchol, na’n hasedau llifogydd.

Yn ogystal â gosod gweledigaeth a blaenoriaethau ar gyfer sut y bydd hamdden awyr agored yn cael ei reoli a’i hyrwyddo ar y tir sydd yn ein gofal dros y 25 mlynedd nesaf, mae hefyd yn nodi meysydd ffocws dros y pum mlynedd nesaf i sicrhau bod hamdden awyr agored yn cael ei reoli o fewn cyfyngiadau adnoddau. gan wneud y gorau o’r buddion cymdeithasol ac amgylcheddol a all ddod yn ei sgil.

 

Ar gyfer pwy mae’r strategaeth hon?

Er bod y strategaeth hon wedi’i datblygu a’i chyhoeddi gennym ni, gyda’r prif nod o helpu ein staff i reoli a gwneud penderfyniadau am hamdden awyr agored, mae’n berthnasol i bawb sy’n ymwneud â rheoli a darparu gweithgareddau hamdden awyr agored sy’n effeithio ar dir sydd yn ein gofal.

 

Beth ydyn ni’n ei olygu wrth hamdden awyr agored?

Yn gyffredinol, diffinnir hamdden awyr agored fel gweithgaredd rydych chi’n ei wneud yn yr amgylchedd naturiol i gael hwyl, pleser neu i ymlacio pan nad ydych chi’n gweithio.

Ar gyfer y strategaeth hon mae cwmpas hamdden awyr agored wedi’i ddiffinio o dan y categorïau canlynol:

  • Gweithgareddau awyr agored cyffredinol - fel gwylio bywyd gwyllt, gwersylla, mynd am bicnic
  • Gweithgareddau creadigol - fel celf, ffotograffiaeth a cherddoriaeth
  • Iechyd neu ymlacio - fel cerdded, rhedeg, mynd â’r ci am dro, marchogaeth, beicio, ymgolli yn ein coedwigoedd
  • Gweithgareddau egnïol - fel canŵio, dringo creigiau, a beicio mynydd
  • Digwyddiadau a gweithgareddau a gynhelir yn fasnachol
  • Gweithgareddau a rhaglenni addysgol
  • Gwirfoddoli

 

Manteision a buddion hamdden awyr agored

Gall hamdden awyr agored cynaliadwy a reolir yn dda gynnig manteision a buddion enfawr i’r amgylchedd, i gymdeithas ac i’r economi. Mae’r rhain yn cynnwys:

Gwella iechyd a lles

Mae lefelau anweithgarwch corfforol, deiet a gordewdra yn faich sylweddol o ran ffactorau risg clefydau yng Nghymru. Mae tystiolaeth a gasglwyd yn ystod y cyfnod clo COVID-19 a oedd ar gyfer y Deyrnas Unedig gyfan, yn dangos mai’r rhai sy’n byw mewn amgylcheddau trefol - lle mae mynediad i fannau gwyrdd a glas
yn gyfyngedig - oedd wedi’u heffeithio fwyaf o safbwynt iechyd corfforol a meddyliol.

Mae cyfleoedd hamdden, dysgu a gwirfoddoli awyr agored i gyd yn hwyluso lefelau uwch o weithgarwch corfforol. Yn 2021, roedd manteision iechyd yn sgil hamdden yn y DU werth £445 biliwn, ac yng Nghymru, hwn oedd y gwasanaeth â’r gwerth blynyddol uchaf o ran gwasanaethau ei ecosystem.

Ennyn diddordeb pobl i weithredu ac eirioli dros natur a’r hinsawdd

Er bod llawer o bobl Cymru yn mwynhau, yn gwerthfawrogi ac yn deall byd natur eisoes, mae heriau sylweddol o ran cysylltu pobl â natur o hyd. Mae pobl sy’n teimlo’n agosach at natur yn hapusach ac yn fwy bodlon gyda bywyd - ac yn fwy tebygol o gymryd camau sy’n helpu bywyd gwyllt a’r amgylchedd.

Tyfu’r economi leol

Er y gellir cyflawni rhai gweithgareddau’n ddi-dâl, mae hamdden yn dal i gael effaith ariannol sylweddol - ac mae cryn dipyn o orgyffwrdd rhwng hamdden awyr agored a thwristiaeth.

Mae miloedd o bobl yn cael eu cyflogi yn y diwydiannau hamdden a thwristiaeth, a’u hadnodd allweddol yw amgylchedd naturiol Cymru a’r cyfleoedd i wneud ymarfer corff, mwynhau ac ymlacio y mae’n eu cynnig. Mae twristiaeth yn cyfrannu’n allweddol at yr economi yng Nghymru - ac yn ei sbarduno.

 

Ein gweledigaeth

Rydym am weld dyfodol lle mae pob person, waeth beth yw ei gefndir, yn gallu cael mynediad at dir yn ein gofal er mwyn meithrin cysylltiad â byd natur.

Wrth i ni hyrwyddo arferion cynaliadwy a meithrin ymdeimlad o gyfrifoldeb, ein nod yw Cymru lle mae unigolion, cymunedau a natur yn ffynnu gyda’n gilydd.

Byddwn yn gwneud hyn drwy:

Arwain y ffordd

Fel rheolwr tir enghreifftiol ac ymgynghorydd mynediad statudol, byddwn yn arwain y ffordd wrth osod y safonau uchaf i ni ein hunain ac eraill, fel gwarcheidwaid yr amgylchedd, a sicrhau bod ein camau’n cyd-fynd â’n gwerthoedd bob amser ac o fewn yr adnoddau sydd ar gael gennym.

Gwarchod ein lleoedd arbennig

Gyda dull cadarnhaol a beiddgar, ein nod yw meithrin ymdeimlad o ymgysylltiad â natur ymhlith pawb sy’n ymweld â’n lleoedd, gan ysgogi hefyd ymdeimlad o gyfrifoldeb ar y cyd i ofalu am fyd natur, a’i warchod.

Mynediad i bawb

Bydd ein hymrwymiad i hygyrchedd a chynwysoldeb yn helpu pawb, waeth beth fo’u cefndir neu allu, i brofi grym gweddnewidiol natur.

 

Ein hegwyddorion

Byw o fewn ein gallu

Rhaid i ni flaenoriaethu lle rydym yn canolbwyntio ein hymdrechion i sicrhau’r budd mwyaf posibl o bob punt a wariwn. Canolbwyntio ar yr hyn y gallwn ni ei wneud, a’r gwahaniaeth y gallwn ei wneud, er mwyn sicrhau bod hamdden awyr agored yn cael ei reoli o fewn adnoddau cyfyngedig wrth wneud y gorau o’r buddion cymdeithasol ac amgylcheddol y gall eu cynnig.

Byddwn yn gwneud hyn drwy:

  • Chwilio am gyfleoedd i gynyddu effeithiolrwydd a sicrhau’r budd mwyaf posibl
  • Cydweithio â phartneriaid i rannu adnoddau a chynhyrchu incwm
  • Gwneud penderfyniadau beiddgar ar sail tystiolaeth am yr hyn y byddwn yn ei ddarparu a’r hyn na fyddwn yn ei ddarparu gyda llai o adnoddau

Y gweithgaredd iawn yn y lle iawn

Mae’n rhaid i ni ddefnyddio tystiolaeth i wneud penderfyniadau gwybodus er budd natur a phobl, a hynny er mwyn sicrhau bod pobl yn cael y cyfleoedd i gysylltu’n llawn â natur i wella eu lles, ond bod hyn wedi’i gydbwyso â’r angen i ddiogelu lles natur hefyd.

Byddwn yn gwneud hyn drwy:

  • Defnyddio model parthau i gynllunio sut rydym yn defnyddio ein hadnoddau ac yn diogelu ein lleoedd arbennig
  • Cyflawni ein cyfrifoldebau statudol ar gyfer mynediad cyhoeddus
  • Defnyddio pob math o dystiolaeth a data, mewnol ac allanol, i wneud penderfyniadau a chyfleu’r rhesymau drostyn nhw.

Galluogi eraill i wneud mwy

Rydym am ei gwneud hi mor hawdd â phosibl i gymunedau a sectorau eraill wneud mwy lle na allwn ni wneud hynny. Os gall rhywun arall wneud gwaith gwell am lai o gost i ni, yna dylem adael iddyn nhw dddefnyddio eu sgiliau a’u harbenigedd.

Byddwn yn gwneud hyn drwy:

  • Symleiddio ein prosesau fel y gall eraill wneud mwy i’n helpu i reoli’r tir yn ein gofal
  • Gweithio gyda chymunedau i feithrin gallu fel y gallant ysgwyddo’r cyfrifoldeb dros reoli mynediad yn lleol, o ddyd i dydd
  • Cefnogi prosiectau a chyfleoedd y gellir eu cyflawni a’u rheoli gan gymunedau neu sectorau eraill (gan gynnwys rheoli etifeddiaeth ac atebolrwydd)

 

Ein blaenoriaethau

Mae cysylltu pobl â natur yn hollbwysig i gynnal iechyd corfforol, lles meddyliol, ac annog agweddau ac ymddygiad sydd o blaid cadwraeth natur a’r amgylchedd.

Mae Cyfoeth Naturiol Cymru’n cefnogi’r cysylltiad hwn drwy’r cyfleoedd mynediad y mae’n eu darparu, drwy’r gweithgareddau y mae’n eu hwyluso, a thrwy’r ffordd y mae’n ennyn diddordeb pobl.

Ffyrdd o weithio

Er mwyn helpu i ddiffinio’r gweithgaredd yn y meysydd ffocws o dan bob blaenoriaeth, ceir wyth ffordd o weithio sy’n deillio o’r pum ffordd o weithio yn Neddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol ac egwyddorion rheoli adnoddau naturiol yn gynaliadwy:

Mynediad: Rydym yn darparu mynediad sy’n ddiogel ac yn gynhwysol ac yn blaenoriaethu defnyddio natur i wella lles.

Atal: Rydym yn diogelu ein tirweddau a’n cynefinoedd yn well trwy gael y gweithgaredd cywir yn y lle cywir ar yr adeg gywir.

Integreiddio: Rydym yn gweithio’n effeithiol ar draws ein sefydliad i sicrhau bod ein darpariaeth yn gyson ac yn cyflawni ein nodau.

Tystiolaeth: Rydym yn defnyddio data a gwybodaeth i gynyddu ein gwybodaeth a’n dealltwriaeth i sicrhau ein bod yn gwneud penderfyniadau sy’n seiliedig ar dystiolaeth.

Cydweithio a chydweithredu: Rydym yn cydweithio â phartneriaid a chymunedau i rannu gwybodaeth ac arbenigedd, ac rydym yn datblygu canllawiau i gefnogi cydweithredu.

Cynnwys pobl: Rydym yn cynnwys pobl wrth wneud penderfyniadau ac yn creu ymdeimlad o le sy’n adlewyrchu amrywiaeth yr ardal.

Ymwybyddiaeth: Rydym yn hyrwyddo profiadau sy’n meithrin perthynas agosach â natur ac yn annog agweddau ac ymddygiad sydd o blaid cadwraeth natur a’r amgylchedd.

Y Tymor Hir: Rydym yn sicrhau, drwy bopeth a wnawn, fod ein hadnoddau naturiol yn cael eu rheoli’n gynaliadwy ac yn croesawu cyfleoedd, lle nad oes gennym yr adnodd, i ddatblygu cynhyrchion a mentrau arloesol drwy bartneriaeth.

 

Blaenoriaeth 1: Darparu mynediad cynhwysol, diogel a chroesawgar

Byddwn yn darparu mynediad sy’n seiliedig ar egwyddorion tegwch a chynhwysiant, ac yn creu awyrgylch cadarnhaol sy’n sicrhau bod pob math o bobl yn teimlo’n ddiogel a’u bod yn cael croeso.

Mynediad: Dylai ein rhwydwaith llwybrau ag arwyddbyst geisio bod yn addas i’r diben, yn gynaliadwy yn amgylcheddol ac yn ariannol, a darparu profiad pleserus i bawb.

Integreiddio: Darparu seilwaith a chyfleusterau o’r radd flaenaf drwy gymhwyso safonau mewnol clir ac egwyddorion y Grŵp Diogelwch Ymwelwyr yn gyson ar draws y tir sydd yn ein gofal.

Tystiolaeth: Defnyddio tystiolaeth a data presennol i ddeall mynediad o ran y canlynol: rhwystrau, cymhellion, hyder, hygyrchedd, ymwybyddiaeth a phrofiad.

Cynnwys poblCynnwys pobl: Cynnwys defnyddwyr a chyrff cynrychioliadol, yn enwedig y rhai sy’n cynrychioli cymunedau lleiafrifol, i’n helpu i wneud safleoedd yn ddiogel ac yn groesawgar.

Ymwybyddiaeth: Darparu mwy o wybodaeth am hygyrchedd llwybrau, gan ddefnyddio’r dull cywir ar gyfer y gynulleidfa sy’n eu galluogi i wneud penderfyniadau.

Blaenoriaeth 2: Gwella mynediad cynaliadwy

Byddwn yn gwella mynediad cynaliadwy a chysylltedd safleoedd i gysylltu pobl â natur ac annog ymddygiad sydd o blaid cadwraeth natur.

Mynediad: Defnyddio model parthau i nodi ardaloedd i’w blaenoriaethu ar gyfer mynediad lleol, dydd-i-ddydd.

Tystiolaeth: Defnyddio dadansoddiad gofodol a demograffig o gymunedau i lywio pa welliannau i fynediad fyddai’n cael yr effaith fwyaf.

Cydweithio a chydweithredu: Gweithio gyda phartneriaid i archwilio cyfleoedd teithio cynaliadwy a dulliau gwell i gynnal mynediad cyhoeddus, fel y rhwydwaith hawliau tramwy cyhoeddus.

Ymwybyddiaeth: Gweithio gyda phartneriaid i hyrwyddo mynediad lleol, beunyddiol ac annog ymddygiad sydd o blaid cadwraeth natur.

Blaenoriaeth 3: Creu naws am le

Byddwn yn cynllunio mannau mewn cydweithrediad ag eraill er mwyn ennyn diddordeb pobl yn hanes, diwylliant, natur a threftadaeth gyfoethog Cymru.

Mynediad: Defnyddio’r ‘pum llwybr at gysylltiad natur’* fel fframwaith i ddylunio gweithgareddau, llwybrau
a mentrau i helpu pobl i feithrin perthynas agosach â threftadaeth a natur.

Cydweithio a chydweithredu: Gweithio mewn partneriaeth â chyrff celfyddydol, diwylliannol a threftadaeth i adrodd hanes ein tirwedd.

Cynnwys pobl: Cynnwys y gymuned leol wrth ddylunio mannau sy’n gweithio iddyn nhw, adlewyrchu eu hamrywiaeth, a dehongli eu treftadaeth.

Ymwybyddiaeth: Cysylltu pobl â diwylliant Cymru, a threftadaeth hanesyddol a naturiol Cymru trwy ddulliau dehongli sydd yn y lle cywir, yn arloesol ac wedi’u harwain gan dystiolaeth.

Blaenoriaeth 4: Cydbwysedd rhwng pobl a natur

Byddwn yn ceisio adfer y cydbwysedd rhwng natur a phobl er mwyn sicrhau ei waddol am genedlaethau i ddod.

Atal: Defnyddio model parthau ac egwyddorion rheoli adnoddau naturiol yn gynaliadwy i lywio’r gweithgaredd cywir, yn y y lle cywir, ar yr amser cywir.

Integreiddio: Defnyddio gwybodaeth, arbenigedd a data staff arbenigol i sicrhau bod gennym bopeth sydd ei
angen arnom i wneud penderfyniadau ar sail tystiolaeth.

Tystiolaeth: Deall effaith hamdden ar natur ynghyd â’r manteision i bobl, a defnyddio data i’n helpu i ddeall tueddiadau ac anghenion y dyfodol.

Y Tymor Hir: Sicrhau bod rheoli adnoddau naturiol yn gynaliadwy wrth wraidd unrhyw beth rydym yn ei gyflawni, neu’n ei ganiatáu.

Blaenoriaeth 5: Hyrwyddo ymddygiad cyfrifol

Byddwn yn defnyddio dull seiliedig ar ddealltwriaeth i ddylanwadu ar ymddygiad ymwelwyr, gan gynnwys sut i gael mynediad i’r awyr agored yn ddiogel, a hyrwyddo’r cyfrifoldeb o ddiogelu a gwella ein hadnoddau naturiol.

Tystiolaeth: Defnyddio ymchwil a data sy’n canolbwyntio ar ymddygiad dynol i ddylunio ymyriadau a gwerthuso newidiadau mewn ymddygiad.

Cydweithio a chydweithredu: Gweithio gydag eraill i ddeall ymddygiad ymwelwyr ar y tir sydd yn ein gofal a sut i ddylanwadu ar hyn.

Cynnwys pobl: Cynnwys y gymuned leol a grwpiau defnyddwyr fel llysgenhadon i hyrwyddo diogelwch a lleihau gwrthdaro rhwng defnyddwyr.

Ymwybyddiaeth: Gwella dulliau cyfathrebu a dehongli er mwyn lleihau achosion o ymddygiad negyddol gan ymwelwyr, a’u heffaith ar yr amgylchedd naturiol.

Blaenoriaeth 6: Meithrin gwaith partneriaeth

Byddwn yn gweithio mewn partneriaeth ag eraill i rannu arbenigedd ac adnoddau, ac archwilio cyfleoedd i wella ein cynnig drwy ddarpariaeth trydydd parti.

Integreiddio: Datblygu ein dull sefydliadol o weithio mewn partneriaeth i’w gwneud yn haws i eraill ymgysylltu â ni.

Cydweithio a chydweithredu: Cyflwyno ffyrdd gwell o gydweithio â phartneriaid a thrydydd partïon drwy gytundebau ffurfiol.

Tystiolaeth: Defnyddio amrywiaeth o ffynonellau data a chyfleoedd gyda phartneriaid i werthuso ein cynnig a defnyddio hyn er mwyn helpu i wneud penderfyniadau.

Y Tymor Hir: Defnyddio model parthau i nodi lle rydym yn datblygu ein cynnig drwy ddarpariaeth trydydd parti a buddsoddiad masnachol i’w wneud yn hyfyw gydol y flwyddyn.

Blaenoriaeth 7: Hwyluso cyfleoedd iechyd, lles a dysgu

Byddwn yn hwyluso gweithgareddau a digwyddiadau dan arweiniad eraill sy’n gwella iechyd meddwl a lles corfforol ein cymunedau, ac yn cynyddu dealltwriaeth o natur.

Tystiolaeth: Defnyddio data i sicrhau’r bod y digwyddiadau a’r gweithgareddau rydym yn eu hwyluso yn targedu amrywiaeth eang o alluoedd, ac yn cyfrannu at wella naill ai iechyd meddwl, lles corfforol a/neu wybodaeth am natur.

Integreiddio: Sicrhau bod y gweithgareddau rydym yn eu hwyluso’n cefnogi’r strategaeth, y Datganiadau Ardal a’r Byrddau Gwasanaethau Cyhoeddus.

Ymwybyddiaeth: Hyrwyddo’r cyfleoedd sydd gennym i gael mynediad at natur ar gyfer gwella naill ai iechyd meddwl a lles corfforol, a/neu wybodaeth am natur.

Cydweithio a chydweithredu: Gweithio gyda chyrff cynrychioliadol, y sector cyhoeddus, y sector preifat
a’r trydydd sector a gwella prosesau i gefnogi’r gwaith o ddarparu digwyddiadau a gweithgareddau.

Blaenoriaeth 8 Galluogi pobl i weithredu

Byddwn yn grymuso pob math o bobl i gymryd mwy o ran mewn gwaith rheoli mynediad a meithrin cyfrifoldeb ar y cyd i ofalu am natur a’i warchod.

Cynnwys pobl: Cydlynu ac arwain yn well ar gyfer pobl sydd am gefnogi ein gwaith drwy gyfrannu’n weithredol at ei reoli neu wneud penderfyniadau am ei ddyfodol.

Cydweithio a chydweithredu: Sefydlu partneriaethau cryf rhwng cymunedau, mudiadau gwirfoddol a chyrff
cynrychioliadol i ddatblygu cyfleoedd iddyn nhw arwain mwy o waith gwirfoddol ar y tir sydd yn ein gofal.

Ymwybyddiaeth: Gwella sut rydym yn hysbysebu ac yn hyrwyddo cyfleoedd, gan gynnwys defnyddio partneriaethau a llwyfannau sy’n bodoli eisoes.

Y Tymor Hir: Sicrhau bod prosiectau newydd yn cael eu harwain gan dystiolaeth ac yn gynaliadwy.

 

Monitro ac adrodd

O fewn chwe mis i gyhoeddi’r strategaeth hon byddwn yn cynhyrchu fframwaith monitro ac adrodd.

Bydd hyn yn cynnwys:

  • Set o ganlyniadau ac allbynnau i fonitro sut rydym yn cyflawni’r strategaeth
  • Amserlen a dull adrodd

Bydd ffynonellau data ar gyfer canlyniadau’n cynnwys (ond nid yn gyfyngedig i):

Yn ogystal, byddwn yn monitro canlyniadau sy’n cefnogi camau’r Cynllun Corfforaethol a nodau Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol hefyd

  • Adroddiad ar Sefyllfa Adnoddau Naturiol
  • Fframwaith Gwerthuso Stiwardiaeth Tir

Blaenoriaeth 1: Darparu mynediad cynhwysol, diogel a chroesawgar

Sicrhau cyfiawnder cymdeithasol ac amgylcheddol, tegwch a chynhwysiant, gan lywio a chryfhau ein penderfyniadau ar gyfer adferiad natur drwy adolygu dulliau cyfredol a datblygu canllawiau.

Yn cefnogi nodau Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol:

  • Cydnerth
  • Mwy cyfartal
  • Cymunedau cydlynus
  • Diwylliant bywiog

Blaenoriaeth 2: Gwella mynediad cynaliadwy

Sicrhau bod cymunedau lleol yn elwa ar fynediad teg i fannau gwyrdd a glas ac yn gweithredu’n gyfrifol, drwy ddarparu cymorth ac arweiniad, gweithio ar y cyd â phartneriaid strategol fel Croeso Cymru ac awdurdodau lleol.

Yn cefnogi nodau Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol:

  • Cydnerth
  • Yn gyfrifol ar lefel fyd-eang
  • Cymunedau cydlynus

Blaenoriaeth 3: Creu naws am le

Ysbrydoli pobl i weithredu, a grymuso a thrawsnewid eu perthynas â natur trwy weithio gyda’r diwydiannau creadigol a’r sector diwylliannol.

Yn cefnogi nodau Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol:

  • Cymunedau cydlynus
  • Diwylliant bywiog

Blaenoriaeth 4: Cydbwyso natur a phob

Sicrhau amddiffyniad a rheolaeth effeithiol ar gyfer o leiaf 30% o dir, dŵr croyw a môr ar gyfer natur trwy nodi cyfleoedd i ehangu a chysylltu’r gyfres o Safleoedd o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig (SoDdGA) yn well.

Yn cefnogi nodau Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol:

  • Cydnerth
  • Llewyrchus
  • Yn gyfrifol ar lefel fyd-eang

Blaenoriaeth 5: Hyrwyddo ymddygiad cyfrifol

Cynnwys cymunedau a sectorau gwahanol yn ein gwaith, trwy ddefnyddio dealltwriaeth ymddygiadol i lywio ein dulliau gweithredu.

Yn cefnogi nodau Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol:

  • Cydnerth
  • Yn gyfrifol ar lefel fyd-eang

Blaenoriaeth 6: Meithrin gwaith partneriaeth

Nodi cyfleoedd i wneud y gorau o gydweithredu ac effaith y sector cyhoeddus drwy ddefnyddio SoNaRR a Datganiadau Ardal i weithio gyda’r byrddau gwasanaethau cyhoeddus, awdurdodau iechyd cyhoeddus ac awdurdodau lleol.

Yn cefnogi nodau Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol:

  • Cydnerth
  • Mwy cyfartal
  • Cymunedau cydlynus

Blaenoriaeth 7: Hwyluso cyfleoedd iechyd, lles a dysgu

Ymgysylltu â phobl i weithredu, creu cyfleoedd, dysgu a dod yn eiriolwyr dros natur a’r hinsawdd, trwy weithio gyda’r sectorau addysg, gweithgarwch corfforol ac iechyd.

Yn cefnogi nodau Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol:

  • Iachach
  • Diwylliant bywiog
  • Mwy cyfartal

Blaenoriaeth 8: Galluogi pobl i weithred

Sicrhau bod pob math o bobl yn gweithredu dros natur drwy rannu gweledigaeth a chanlyniadau Natur a Ni i ehangu ein rhwydweithiau a chynyddu cyfranogiad.

Yn cefnogi nodau Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol:

  • Cydnerth
  • Llewyrchus
  • Mwy cyfartal
  • Cymunedau cydlynus

Cynefin

T lle rydyn ni’n teimlo ein bod ni’n perthyn, lle mae’r bobl a’r dirwedd o’n cwmpas yn gyfarwydd, a’r golygfeydd a’r synau yn gysurus i’w hadnabod - Diffiniad yn y Cwricwlwm i Gymru.

Archwilio mwy

Diweddarwyd ddiwethaf