Crynodeb Prosiect Adfywio Cyforgorsydd Cymru LIFE

Roedd Prosiect Adfywio Cyforgorsydd Cymru LIFE yn gynllun gwerth £5.2 miliwn, a ariannwyd gan gronfa LIFE yr UE gyda chymorth Llywodraeth Cymru, a fu’n weithredol am 6.5 mlynedd rhwng 1 Medi 2017 a 30 Mehefin 2024. Llwyddodd y prosiect i adfer mawndiroedd ar draws 6 safle cyforgors Ardal Cadwraeth Arbennig (ACA) yng Nghymru, a chafodd y prosiect ei reoli gan CNC, gyda chefnogaeth Parc Cenedlaethol Eryri.

  • ACA Cors Caron UK0014790
  • ACA Cors Fochno UK0014791
  • ACA Cors Goch Trawsfynydd UK0030075
  • ACA Rhos Goch UK0014792
  • SoDdGA Esgyrn Bottom (rhan o ACA Afonydd Cleddau) UK0030074
  • ACA Cernydd Carmel UK0030070

Yn anffodus, ni fu modd gwneud gwaith ar gyforgors Waun Ddu (rhan o ACA Safleoedd Ystlumod Wysg).

At ei gilydd, cafodd 998 hectar o gynefin cyforgors ei wella drwy gyflawni’r canlynol:

  • Dros 140,000m o fyndiau mawn a 150 o argaeau mawn, gan helpu i godi a sefydlogi lefelau dŵr ar y mawndir.
  • 676 hectar o waith rheoli prysgwydd, gan gynnwys bedw, helyg, conwydd, a rhododendron estron goresgynnol
  • Torri dros 100 hectar o wellt y gweunydd trwchus a dominyddol gan ddefnyddio’r peiriant Pisten Bully a brynwyd gan y prosiect.

Mae gwaith monitro lefelau dŵr wedi dangos cynnydd rhwng 4cm-10cm yn lefelau dŵr cymedrig blynyddol yn dilyn gwaith adfer, gan hybu llawer mwy o allu i wrthsefyll sychder yn yr haf yn y dyfodol a darparu amodau addas ar gyfer adfer cynefinoedd. Ac mae gwaith monitro nwyon tŷ gwydr yn dangos bod y gwaith wedi lleihau allyriadau carbon o safleoedd y prosiect.

Llwyddodd y prosiect i ymgysylltu â dros 25,000 o bobl dros y 6.5 mlynedd, gan wella ymwybyddiaeth a dealltwriaeth o fawndiroedd ledled Cymru, y DU ac Ewrop, trwy ddigwyddiadau, gweminarau a chynnwys ar-lein.

Am ragor o fanylion, ewch i gronfa ddata gyhoeddus EU LIFE i lawrlwytho adroddiadau a gwerthusiadau prosiect.

Dilynwch ni ar gyfryngau cymdeithasol

Twitter @WelshRaisedBog

Facebook @CyforgorsyddCymruWelshRaisedBogs

Instagram @welshraisedbog

Darllen ein newyddion

 

Cysylltu â ni

Am fwy o wybodaeth am y prosiect, e-bostiwch ni ar LIFEraisedbogs@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk. Byddai'n braf cael clywed gennych!

 snowdownia national park logo Welsh government logo

Diweddarwyd ddiwethaf