Prosiect Adfywio Cyforgorsydd Cymru LIFE - Gwerthusiad o effeithiau economaidd-gymdeithasol

Rydym wedi edrych ar sut mae prosiect Cyforgorsydd Cymru LIFE wedi effeithio ar bobl a'r economi. Mae’r adroddiad ‘economaidd-gymdeithasol’ yn edrych ar effeithiau economaidd a chymdeithasol o ddechrau’r prosiect rhwng Ionawr 2018 a Chwefror 2022. Mae hefyd yn cynnwys gwariant ychwanegol yr ymrwymwyd iddo hyd at fis Mawrth 2023 a gwariant a ragwelir yn y dyfodol hyd at fis Mehefin 2024.

Mae’r adroddiad yn dangos bod y prosiect wedi:

  • rhoi hwb i economi Cymru
  • wedi cyfrannu buddion cymdeithasol sylweddol i gymunedau lleol
  • creu swyddi yng Nghymru
  • codi ymwybyddiaeth o safleoedd y prosiect
  • helpu i gynyddu'r defnydd o safleoedd prosiect ar gyfer hamdden

Crynodeb Gweithredol

Effaith economaidd

Amcangyfrifir y bydd cyfanswm yr effaith uniongyrchol (o gyflogaeth uniongyrchol y prosiect a’r gwariant nad yw ar staff) ar yr economi leol tua 24.67 blwyddyn waith a £981,530 o Werth Ychwanegol Gros dros gyfnod y prosiect, yn seiliedig ar gyfanswm gwariant lleol o £1,372,710. Mae defnyddio lluosydd o 1.2, i gynnwys effeithiau anuniongyrchol ac ysgogedig, yn rhoi amcangyfrif o gyfanswm yr effaith ar yr economi leol o tua 29.61 blwyddyn waith a £1,177,836 o Werth Ychwanegol Gros dros gyfnod y prosiect.

Cyfanswm yr effaith uniongyrchol (o gyflogaeth uniongyrchol y prosiect a gwariant nad yw ar staff) ar economi Cymru (gan gynnwys yr economïau lleol a rhanbarthol) oedd tua 36.08 blwyddyn waith a £1,462,572 o Werth Ychwanegol Gros dros gyfnod y prosiect, yn seiliedig ar gyfanswm gwariant o £2,192,848 yng Nghymru. Mae defnyddio lluosydd o 1.6, i gynnwys effeithiau anuniongyrchol ac ysgogedig, yn rhoi amcangyfrif o gyfanswm yr effaith ar economi Cymru o tua 57.73 blwyddyn waith a £2,340,115 o Werth Ychwanegol Gros dros gyfnod y prosiect.

Amcangyfrifir mai’r ffigurau cyfatebol ar gyfer effaith flynyddol gyfartalog y prosiect dros gyfnod y prosiect yw creu 7.12 blwyddyn waith a £283,133 o Werth Ychwanegol Gros yn yr economi leol, a 13.88 blwyddyn waith a £562,528 o Werth Ychwanegol Gros yn economi Cymru (sy’n cynnwys yr economïau lleol a rhanbarthol).

Pan gaiff elfennau ychwanegol (gan gynnwys gwaith presennol gan gontractwyr yr ymrwymwyd iddo, cyflogaeth a gwaith a ddisgwylir yn y dyfodol) eu cynnwys, mae cyfanswm yr effaith ar yr economi leol yn cynyddu i 47.67 blwyddyn waith Cyfwerth ag Amser Llawn a £1,925,807 o Werth Ychwanegol Gros. Cyfanswm yr effaith ar economi Cymru, gan gynnwys elfennau ychwanegol, yw 93.96 blwyddyn waith Cyfwerth ag Amser Llawn a £3,854,691 o Werth Ychwanegol Gros.

Cyfrifir mai’r gwariant prosiect uniongyrchol (staff ac nad yw ar staff) a wariwyd y tu allan i Gymru yw £1,315,278 (27% o’r cyfanswm). Bydd y gwariant hwn yn cefnogi busnesau a swyddi mewn rhannau eraill o wledydd Prydain, ond nid yw’r effeithiau hyn wedi’u modelu fel rhan o’r astudiaeth hon.

Effaith economaidd-gymdeithasol

Mae effaith amlwg wedi bod o ran mwy o ymwybyddiaeth o’r safleoedd a’u pwysigrwydd amrywiol ymhlith rhai cymunedau, gyda’r gwaith adfer hyd yn oed yn ysbrydoli grwpiau lleol, artistiaid, storïwyr a ffotograffwyr. Serch hynny, roedd rhywfaint o ddryswch ynghylch a oedd y prosiect yn dymuno annog mwy o ymwelwyr hamdden i’r corsydd. Er bod rhai cymunedau yn dal i fod yn ansicr pa waith oedd yn digwydd ar y corsydd a pham, roedd ymdrech glir i godi ymwybyddiaeth drwy weithgareddau fel stondinau gwybodaeth mewn digwyddiadau ac ymweliadau tywys â’r corsydd ar gyfer perchnogion tir cyfagos a chynrychiolwyr lleol (e.e. aelodau o’r cyngor lleol).

Roedd gwaith ymgynghori’n awgrymu bod rhai safleoedd prosiect wedi gweld cynnydd yn nifer yr ymwelwyr oherwydd y prosiect, yn enwedig y safleoedd mwy o faint (Cors Caron a Chors Fochno), lle mae’r rhan fwyaf o’r gwaith wedi bod yn digwydd. Roedd yr ymwelwyr hefyd yn dueddol o ymweld â’r safleoedd fel rhan o daith ehangach, a hefyd yn ymweld neu’n aros mewn ardaloedd cyfagos, sy’n bwydo i’r economïau lleol. Wrth ystyried effaith y prosiect ar nifer yr ymwelwyr, mae’n bwysig ystyried effaith pandemig COVID-19 hefyd, a sut dylanwadodd ar ymddygiad a chanfyddiadau pobl o natur.

Mae’r rhan fwyaf o effeithiau cymdeithasol canfyddedig y prosiect wedi bod yn gadarnhaol. Gwelwyd yn gyffredin well dealltwriaeth a gwybodaeth am gyforgorsydd, eu hanes a bywyd gwyllt, a mwy o werthfawrogiad o werth cyforgorsydd. Ymhlith yr effeithiau cymdeithasol ehangach roedd gwell addysg a dysgu am y corsydd a’u gwerth cadwraeth. Hefyd gwelwyd mwy o ymwybyddiaeth a dealltwriaeth ymhlith y cyhoedd, yn ogystal â mwy o ymdeimlad o le a/neu falchder o le mewn cymunedau. Serch hynny, adroddodd rhai grwpiau cymunedol fawr ddim neu ddim effeithiau cymdeithasol o’r prosiect, gyda rhai ddim yn llwyr ddeall y prosiect a’r gwaith adfer sy’n digwydd.

Serch hynny, adroddwyd manteision economaidd tymor byr i dymor canolig gan y rhan fwyaf o ymgyngoreion. Roedd hyn yn bennaf oherwydd cyfleoedd gwaith uniongyrchol, penodi contractwyr, a chyflenwad deunyddiau ar gyfer y gwaith adfer. Cydnabuwyd y bydd cyfranogiad parhaus, ar ôl i’r gwaith ddod i ben, yn lleihau i gapasiti cynnal a chadw yn y blynyddoedd i ddod, ac felly mae yna lai o effeithiau economaidd hirdymor canfyddedig. Er nad oedd yn glir i bob ymgynghorai ai contractwyr a chyflenwyr lleol oedd yn elwa ar y gwaith adfer, adroddwyd cynnydd bach mewn lefelau canfyddedig o wariant mewn economïau lleol. Ni welwyd unrhyw effeithiau economaidd negyddol i’r ardaloedd lleol o gwmpas y safleoedd.

Cyflogaeth uniongyrchol a chyflogau

Rhwng mis Ionawr 2018 a mis Chwefror 2022, cyflogodd Cyfoeth Naturiol Cymru 12 unigolyn fel rhan o dîm prosiect LIFE+, gan gynnwys gweithwyr llawn amser a rhan amser. Roedd yr holl weithwyr wedi’u lleoli un ai yn swyddfeydd Cyfoeth Naturiol Cymru, gartref a/neu ar y safle. Cyfanswm y gwariant uniongyrchol ar staff dros gyfnod y prosiect oedd £951,226 (gan gynnwys taliadau cymdeithasol a chostau statudol cymwys).

Roedd cyfanswm y gyflogaeth ar y prosiect yn dod i 22.9 blwyddyn waith Cyfwerth ag Amser Llawn dros gyfnod o 4 mlynedd a 2 fis (4.16 mlynedd), neu gyfartaledd o 5.5. Swydd Gyfwerth ag Amser Llawn y flwyddyn, ar gyfer economi Cymru. Cyfrannodd y gyflogaeth hon £951,226 yn uniongyrchol i Werth Ychwanegol Crynswth Cymru dros y cyfnod o 4.16 mlynedd, sef £228,659 y flwyddyn ar gyfartaledd.

Amcangyfrifir y bydd £310,000 ychwanegol yn cael ei wario yn uniongyrchol ar staff rhwng mis Mawrth 2022 a mis Mawrth 2023, a £360,000 arall rhwng mis Ebrill 2023 a mis Mehefin 2024.

Mae’r holl wariant uniongyrchol ar staff - £1,621,226 - wedi’i wario, neu’n mynd i gael ei wario, yng Nghymru.

Gwariant uniongyrchol nad yw ar staff

Rhwng mis Ionawr 2018 a mis Chwefror 2022, daeth y gwariant nad yw ar staff gan Cyfoeth Naturiol Cymru i gyfanswm o £2,019,919. O’r cyfanswm hwn, gwariwyd £651,839 (32%) yn yr economi leol (o fewn 10 milltir i safle) gyda £589,783 (29%) arall yn cael ei wario yn yr economi ranbarthol (>10 milltir ond yng Nghymru). Daeth y gyfran unigol fwyaf o nwyddau a gwasanaethau (39%) o’r tu allan i’r economi ranbarthol, hynny yw y tu allan i Gymru.

Adlewyrchir y gwariant hwn mewn newidiadau uniongyrchol yn nhrosiant (cynnyrch gros) busnesau lleol a rhanbarthol. Amcangyfrifir y bydd yn cyfrannu tua £260,660 o Werth Ychwanegol Gros a 6.70 blwyddyn waith yn yr economi leol, a £250,686 o Werth Ychwanegol Gros a 6.49 blwyddyn waith yn yr economi ranbarthol. Mae hyn yn dod i gyfanswm o £511,346 o Werth Ychwanegol Gros a 13.19 blwyddyn waith yn economi Cymru.

Mae hyn yn dod i gyfanswm o £298,467 o wariant, £122,920 o Werth Ychwanegol Gros a 3.17 blwyddyn waith yn economi Cymru yn ystod pob blwyddyn o’r prosiect.

Mae’r gwariant ychwanegol yr ymrwymwyd iddo o fis Mawrth 2022 hyd ddiwedd mis Mawrth 2023 yn dod i gyfanswm o £789,808 gan gynnwys: yr economi leol £252,437 (32%); yr economi ranbarthol £305,492 (39%); a’r tu allan i Gymru £231,878 (29%).

Amcangyfrifir y bydd y gwariant yn y dyfodol, pe bai’r prosiect yn cael ei ymestyn tan fis Mehefin 2024, yn dod i £399,103. Yn seiliedig ar ragdybiaethau rhesymol o leoliad tebygol cyflenwyr, disgwylir i’r gwariant hwn yn y dyfodol gael ei rannu fel a ganlyn: yr economi leol £31,000 (8%); yr economi ranbarthol £63,000 (16%); a’r tu allan i Gymru £305,104 (76%).

Amcangyfrifir bod cyfanswm y gwariant uniongyrchol nad yw ar staff yn £3,208,830; mae 59% wedi neu’n mynd i gael ei wario yng Nghymru, a 41% y tu allan i Gymru.

Sut wnaethom asesu’r effaith

Roedd yr asesiad o effaith economaidd prosiect Adfywio Cyforgorsydd Cymru LIFE yn cynnwys:

  • casglu a dadansoddi data;
  • adolygu llenyddiaeth;
  • diffinio’r economi leol a rhanbarthol ar gyfer yr asesiad;
  • dadansoddi gwariant y prosiect a data cyflogaeth mewn perthynas â’r economi leol a rhanbarthol;
  • a chyfrifo dangosyddion economaidd a defnyddio lluosyddion er mwyn asesu cyfanswm yr effeithiau economaidd ar economïau lleol a rhanbarthol o ran swyddi Cyfwerth ag Amser Llawn neu flynyddoedd swyddi a Gwerth Ychwanegol Gros.

Cafodd y dulliau a ddefnyddiwyd yn yr asesiad hwn eu llywio gan y fethodoleg gwerthuso a ddatblygwyd ar gyfer Prosiect LIFE+ Mawndiroedd Humberhead yn 2019.

Yn yr asesiad, diffiniwyd yr ‘economi leol’ i gynnwys ardal o fewn radiws o 10 milltir i safleoedd y prosiect. Roedd yr asesiad hefyd yn ystyried yr effeithiau ar economi ehangach na 10 milltir ond sydd yng Nghymru, y cyfeirir ati fel yr ‘economi ranbarthol’ yn yr adroddiad hwn. Diffiniwyd ‘economi Cymru’ i gynnwys yr economïau lleol a rhanbarthol. Defnyddiwyd lluosyddion o 1.2 a 1.6 i asesu effeithiau anuniongyrchol ac ysgogedig y prosiect ar yr economi leol ac ar economi Cymru yn y drefn honno.

Roedd yr asesiad o effeithiau economaidd-gymdeithasol yn cynnwys casglu a dadansoddi data gan ddefnyddio’r dulliau canlynol:

  • cyfweliadau ffôn gyda rhanddeiliaid allweddol Cors Fochno, Cors Caron a rhanddeiliaid sydd â throsolwg Cymru gyfan o holl safleoedd y prosiect;
  • a holiaduron ar-lein a rannwyd yn Gymraeg a Saesneg â rhanddeiliaid a’r cyhoedd drwy e-bost a chyfrifon cyfryngau cymdeithasol Adfywio Cyforgorsydd Cymru LIFE.

Cynhaliwyd adolygiad a dadansoddiad hefyd o arolygon blaenorol a gynhaliwyd gan Cyfoeth Naturiol Cymru yn ystod digwyddiadau ymgysylltu yng Nghors Fochno a Chors Caron.

Pwy ysgrifennodd yr adroddiad

Ysgrifennwyd yr adroddiad gan Cumulus Consultants, sef ymgynghoriaeth annibynnol sy’n darparu ymchwil, dadansoddiad a mewnwelediad i’r sectorau tir ac amgylchedd, ar y cyd â TACP, sef ymgynghoriaeth amgylcheddol amlddisgyblaethol sydd wedi’i lleoli yng Nghymru.

Gofyn am gopi o'r adroddiad

I ofyn am gopi llawn o’r adroddiad ebostiwch LIFEraisedbogs@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk

Diweddarwyd ddiwethaf