Pont Pantyscallog

Beth ydyn ni'n ei wneud

Mae Prosiect Pedair Afon LIFE yn brosiect adfer afonydd uchelgeisiol, ar raddfa fawr, i wella cyflwr pedair o brif afonydd Cymru: Teifi, Cleddau, Tywi ac Wysg.

Mae'r pedair afon hyn yn cael eu hystyried yn Ardaloedd Cadwraeth Arbennig (ACA) sy'n golygu eu bod o bwysigrwydd rhyngwladol oherwydd eu bywyd gwyllt a’u planhigion e.e. eog yr Iwerydd, y llysywen bendoll, gwangod, dyfrgwn a chrafanc y dŵr.

Mae'r pedair afon mewn cyflwr anffafriol ar hyn o bryd o ganlyniad i bwysedd lluosog.

Dros y pedair blynedd nesaf bydd cyfanswm o 776km o afonydd yn cael eu gwella yng nghanolbarth a de Cymru. Nod y prosiect fydd adfer yr afonydd i gyflwr gwell.

Mae’r afonydd yn cynnal nifer o gynefinoedd a rhywogaethau, o gorsydd a gorlifdiroedd i bysgod, dyfrgwn, misglod perlog dŵr croyw a llyriad arnofiol y dŵr. Mae’r cynefinoedd a’r rhywogaethau hyn i gyd dan fygythiad, ac mae rhai yng Nghymru mewn perygl o ddiflannu.

Bydd y prosiect yn defnyddio atebion tymor hir sy’n seiliedig ar natur i wella ansawdd ecolegol y pedair afon, er enghraifft, gwella hygyrchedd ar gyfer pysgod mudol, gwella strwythur cynefin a swyddogaeth, a gwella ansawdd y dŵr.

Y Darlun LLAWNACH: Mae'r Undeb Ewropeaidd wedi ymrwymo i adfer 25,000km o afonydd erbyn 2030; at ei gilydd bydd y prosiect hwn yn gwella 776km o afonydd, gan gyfrannu 2% o'r cyfanswm hwn.

Drwy weithio gyda sefydliadau partner, ffermwyr, tirfeddianwyr, cymunedau lleol a chontractwyr ein nod yw:

  • Gwella amodau ar gyfer poblogaethau eogiaid, llysywod pendoll, gwangod, pennau lletwad a physgod eraill sydd wedi gostwng yn sylweddol yn y blynyddoedd diwethaf. 
  • Cael gwared ar gyfyngiadau ar fudo pysgod - gwella llwybrau pysgod mewn 12 safle, mynd i'r afael â rhwystrau mewn afonydd megis coredau a strwythurau eraill. 
  • Ail-naturioli afonydd ac adfer prosesau naturiol – ailgyflwyno clogfeini, deunydd pren a graean. Ail-ddolennu, ac ailgysylltu gorlifdir ar hyd 5km o afon ac adfer cynefinoedd dŵr croyw a gwlyptir ar 136 hectar o orlifdir. 

  • Plannu 50,000 o goed brodorol (a gyflenwir gan Coed Cadw) ar hyd glannau’r afon er mwyn creu cynefin, cynyddu cysgod a chreu lleiniau clustogi gyda 100km o ffensys, gyda buddion cysylltiedig o ran ansawdd dŵr a sefydlogrwydd glannau. 
  • Lleihau effaith rhywogaethau estron goresgynnol megis Jac y Neidiwr, pidyn y gog Americanaidd, clymog Japan a'r efwr enfawr. Treialu ffwng y gawod ar 8 safle i leihau Jac y Neidiwr, a gweithio gyda chontractwyr a gwirfoddolwyr i leihau presenoldeb y planhigyn mewn 15 o is-ddalgylchoedd. 
  • Gwella arferion rheoli tir - lleihau mewnbwn maetholion a gwaddodion o dir amaethyddol drwy weithio gyda ffermwyr a pherchnogion tir i hyrwyddo’r technegau ffermio gorau gyda’r nod o ymgysylltu â 350 o ffermydd 
  • Gwella dros 15km o gynefin ar gyfer y fisglen berlog sydd mewn perygl difrifol



Pam bod afonydd yn bwysig?

I fywyd gwyllt

Mae cynefinoedd dŵr croyw yn cyfrif am rywfaint o'r fioamrywiaeth gyfoethocaf yn y byd, ac mae afonydd yn ecosystem hanfodol, fywiog i lawer o rywogaethau.

Mae afonydd yn gartref i doreth o rywogaethau sy’n dibynnu ar ddŵr sy’n rhedeg yn barhaol e.e. eogiaid a physgod eraill sydd angen graean glân i silio arnynt, pryfed fel pryfed y cerrig a phryfed Mai sy’n dibynnu ar lefelau ocsigen uchel cyson a dŵr oerllyd, mwsoglau afonydd, adar, ac mewn rhai o’r afonydd gorau Misglen Berlog Dŵr Croyw.

Ond yn y DU, mae ein hafonydd yn wynebu bygythiadau lluosog – ac mae hyn yn rhoi pwysau cynyddol ar y bywyd gwyllt amrywiol sy’n ystyried ein hafonydd hardd yn gartref.

I’r amgylchedd

Gall afonydd iach hefyd helpu yn y frwydr yn erbyn perygl llifogydd a newid hinsawdd, ac maen nhw’n gallu gweithredu fel ateb seiliedig ar natur i’r pwysau o du tywydd eithafol.

Gall arafu’r llif ac ail-droelli rhai rhannau o afonydd, yn ogystal â chysylltu’r afonydd ag ardaloedd o orlifdir, leihau’r perygl o lifogydd ymhellach i lawr yr afon.

Gall plannu coed wrth ymyl afonydd helpu i sicrhau bod ein hafonydd yn fwy gwydn yn wyneb yr hinsawdd trwy ddarparu cysgod a thymheredd dŵr oerol ar gyfer bywyd gwyllt pwysig.

Nod atebion sy'n seiliedig ar natur yw gwella strwythurau afonydd a gweithio gyda chynefinoedd a nodweddion naturiol er mwyn darparu ystod o fuddion i bobl a'r amgylchedd.

Ar gyfer pobl

Mae ein cymunedau yng Nghymru yn dibynnu ar afonydd ar gyfer eu ffordd o fyw a’u bywoliaeth. O bysgota i amaethyddiaeth a gweithgareddau awyr agored, caiff y ffordd rydym yn rheoli ein hafonydd effaith uniongyrchol ar fywydau pobl. 

Mae dŵr ffres, glân yn hanfodol i bobl allu goroesi. Mae afonydd yn ffynonellau gwerthfawr o ddŵr yfed ffres i bobl, felly pan fydd afonydd mewn cyflwr afiach neu’n cael eu heffeithio’n negyddol gan arferion rheoli dŵr gwael, gall gael effaith negyddol ar iechyd. 

Beth yw'r pwysedd sy'n wynebu afonydd?

Newid hinsawdd

Hafau cynhesach a sychach a gaeafau cynhesach a gwlypach yw’r amcanestyniad cyffredinol ar gyfer Cymru. Mae cryn ansicrwydd, ond er hynny mae materion pwysig yn dod i'r amlwg e.e. cynnydd yn nhymheredd dŵr wyneb a'i effeithiau ar eogiaid.

Cafodd eogiaid eu disgrifio fel un o'r rhywogaethau sydd fwyaf agored i newid yn yr hinsawdd; yn eu hanfod maent yn rhywogaeth dŵr oer ac mae hyn yn rheoli eu dosbarthiad daearyddol.

Diraddio cynefinoedd

Mae arferion hanesyddol rheoli tir wedi arwain at gynnydd mewn lefelau maetholion oddi mewn i’r afonydd gan fygu rhai o'r rhywogaethau llai goddefgar sydd o’u mewn. Ar y cyd ag amrywiaeth o ffactorau eraill, gall y cynnydd hwn mewn llygredd greu effeithiau dinistriol – yn enwedig ar rywogaethau pysgod.

Rhwystrau ymfudo

Mae mudo rhwng yr afon a’r môr yn rhan allweddol o gylchred bywyd eogiaid, gwangod a llysywod pendoll yr afon a’r môr, ond mae’n daith sy’n cael ei gwneud hyd yn oed yn fwy heriol gan y rhwystrau niferus fel coredau, argaeau, neu geuffosydd sy’n rhwystro neu’n atal eu llwybr.

Hyd yn oed gyda llwybrau pysgod a hawddfreintiau yn eu lle i'w helpu i symud o gwmpas y rhwystrau hyn, mae oedi mudol yn digwydd yn aml gan achosi risg o fethu mudo i ardaloedd cynefin pwysig.

Ansawdd dŵr

O ran yr amgylchedd, mae dŵr o ansawdd gwael yn achos cydnabyddedig o ddirywiad rhywogaethau dŵr croyw, mae’n effeithio arnynt yn uniongyrchol (wrth iddyn ddod i gysylltiad â chemegau a dyfroedd asidaidd) ac yn anuniongyrchol (drwy ddŵr ffo) sy’n peri bod afon gyfan, neu rannau ohoni, yn cael eu gorlethu â mwynau a maetholion.

Bydd gwelliannau yn ansawdd dŵr afonydd yn golygu y gall cwmnïau dŵr ddefnyddio llai o gemegau a llai o ynni i gynhyrchu dŵr yfed glân ac iach, sy’n newyddion da i gwsmeriaid dŵr ac i’r amgylchedd.

Rhywogaethau ymledol

Mae cryn dipyn o dystiolaeth o effeithiau negyddol rhywogaethau ymledol ar rywogaethau a chynefinoedd dŵr croyw, gyda chynnydd cyffredinol i’w weld ar draws y byd o ran cyflwyno a lledaenu planhigion ac anifeiliaid anfrodorol ac ymledol (e.e. Cimwch yr Afon a chanclwm Japan). Gallai’r pwysedd hwn ddod yn bwysicach fyth yn y dyfodol yn sgil newid yn yr hinsawdd, cystadleuaeth gynyddol, ysglyfaethu ac afiechyd.

Ein gwaith gyda chymunedau

Y cymunedau sy'n byw ar hyd y pedair afon fydd wrth galon y prosiect. Byddwn yn gweithio’n agos gyda thrigolion lleol er mwyn sicrhau eu bod yn deall gwerth ecolegol, amgylcheddol, cymdeithasol ac economaidd y cynefinoedd a’r rhywogaethau, yr afon a’r ardal gadwraeth arbennig, a hynny o ran eu pwysigrwydd hanesyddol a’u pwysigrwydd heddiw. 

Byddwn hefyd yn annog ac yn cefnogi ffermwyr a rheolwyr tir i ddefnyddio eu gwybodaeth a’u profiad i ddod o hyd i atebion sydd o fudd i’n hafonydd, tra’n gwella effeithlonrwydd a phroffidioldeb ffermydd. 

Ein gobaith yw y byddan nhw’n teimlo mwy o ymdeimlad o berchnogaeth gymunedol a chyfrifoldeb dros y pedair afon ac yn sicrhau bod gwaddol y prosiect yn parhau am flynyddoedd i ddod. 

Byddwn yn annog pobl i gymryd rhan gymaint â phosibl drwy gynnal dros 40 o ddigwyddiadau yn ystod oes y prosiect; bydd y rhain yn cynnwys teithiau cerdded ar hyd yr afon a sgyrsiau ynghyd â mynychu digwyddiadau mawr sefydledig yn agos at yr afonydd. 

Byddwn hefyd yn gweithio gyda rhanddeiliaid sydd wedi helpu i lunio’r prosiect; byddwn yn ymgysylltu ag ymddiriedolaethau afonydd, ynghyd â grwpiau amaethyddiaeth a bywyd gwyllt lleol, a chlybiau pysgota a grwpiau hanes lleol, i enwi dim ond rhai. 

Os hoffech i ni ymwneud â’ch cymuned leol drwy roi sgwrs neu gyflwyniad, os gwelwch yn dda, e-bostiwch  4RiversforLIFE@naturalresourceswales.gov.uk

 



Dysgu mwy am ein prosiect

Dilynwch ni ar y cyfryngau cymdeithasol

Chwiliwch am @4AfonLIFE ar Facebook, Twitter ac Instagram neu cliciwch ar y dolenni isod

Cylchlythyrau

Cofrestrwch yma er mwyn derbyn ein cylchlythyr chwe-misol

Cysylltu â ni

I gael mwy o wybodaeth, neu i gysylltu ag aelod o'r tîm 4RiversforLIFE@naturalresourceswales.gov.uk  

Ariannu

Mae cyllid gwerth cyfanswm o £9miliwn ar gyfer Prosiect Pedair Afon ar gyfer LIFE wedi’i roi i Cyfoeth Naturiol Cymru o grant rhaglen LIFE yr UE, gyda chymorth gan Lywodraeth Cymru a Dŵr Cymru (LIFE20/NAT/UK/000100).

Arweinir y prosiect gan Cyfoeth Naturiol Cymru mewn partneriaeth ag Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog, y Ganolfan Adfer Afonydd, Canolfan Ymchwil Amaethyddol Coleg Sir Gâr a Choed Cadw.

Diweddarwyd ddiwethaf