Mae hyn yn golygu gweithredu mewn modd sy’n ceisio sicrhau bod anghenion y presennol yn cael eu hateb heb gyfaddawdu â gallu cenedlaethau’r dyfodol i gyfarfod â’u hanghenion eu hunain.

Yn atgyfnerthu, ac yn ategu hyn, mae Deddf Amgylchedd (Cymru) 2016, sy’n datgan bod yn rhaid inni:

(a)   ddilyn nod o reoli cynaliadwy ar ein hadnoddau naturiol mewn perthynas â Chymru, a

(b)   chymhwyso egwyddorion rheoli cynaliadwy adnoddau naturiol,

wrth weithredu ei swyddogaethau, cyn belled a bo hyn yn gyson ag ymarfer priodol.

Mewn ymateb i hyn, rydyn ni wedi cynhyrchu “Ein dull rheoleiddio i gefnogi rheoli adnoddau naturiol – Ein Hegwyddorion Rheoleiddio”.

Dyma’r egwyddorion hynny:

  • Cyflawni deilliannau
  • Bod yn ddeallus
  • Yn barod i herio

Defnyddio’r holl ystod o ddulliau gweithredu sydd ar gael

  • Bod yn hyblyg
  • Dod â’r sgiliau / arbenigedd iawn at ei gilydd
  • Bod yn effeithlon ac yn effeithiol
  • Bod yn glir ynglŷn â’r hyn rydyn ni’n ei wneud a pham

Er mwyn cyflawni dyheadau rheoli cynaliadwy adnoddau naturiol, ein cred ydy bod:

  • Rheoleiddio’n fwy na gweithredu’r gyfraith;
  • Gall rheoleiddio ffurfiol (wedi’i ategu gan y gyfraith) gyfrannu tuag at gyflenwi rheoli cynaliadwy adnoddau naturiol a llesiant, ond mae’r pwysedd ar ein hamgylchedd naturiol yn dangos nad dyma’r ateb cyflawn;
  • Yr ateb ydy gwneud rhywbeth – ymyrryd a rheoleiddio gweithredoedd ac ymddygiad, ac mae’n golygu gwneud pethau ac edrych ar broblemau mewn ffyrdd gwahanol;
  • Mae’n rhaid inni ddeall effaith ein hymddygiad, yn ogystal â deall ymddygiad eraill, ac
  • Mae’n rhaid inni gydnabod y cyfyngiadau sydd arnon ni, a gwerthfawrogi’r lles ddaw o gydweithio i gyflenwi a chyflawni’r amcanion ehangach i Gymru – dydy hyn ddim yn unig ynglŷn ag edrych ar yr hyn a allen ni, CNC, ei wneud – ond yn hytrach, yr hyn allen ni, Cymru, yn ei chyflawni

Rydyn ni’n defnyddio ein Hegwyddorion Rheoleiddio i arwain ein dull rheoleiddio i gefnogi rheoli adnoddau naturiol ac i gyflenwi deilliannau llesiant. Rheoleiddio ydy gwneud rhywbeth, ‘ymyriad’ clir sy’n gwneud gwahaniaeth. Yng nghyflawniad hyn, rydyn ni’n parhau wedi’n hymrwymo i weithredu egwyddorion rheoleiddio da, ac i’n hymrwymiadau o dan y Cod Rheoleiddwyr.

Os oes gynnoch chi unrhyw sylwadau neu’n dymuno trafod ein Hegwyddorion Rheoleiddio gyda ni, mae croeso ichi gysylltu â ni trwy: regulatory.principles@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk

Diweddarwyd ddiwethaf