Troseddau dŵr
Deddf Draenio Tir 1991
Adran 24(3)
Trosedd ddiannod yn unig.
Peidio â chydymffurfio â hysbysiad o dan Adran 24 y Ddeddf Draenio Tir.
Mae ymatebion troseddol safonol ac ymatebion sy’n benodol i drosedd yn cynnwys:
- Rhybudd
- Rhybuddiad ffurfiol
- Erlyniad
Adran 25(6)(b)
Trosedd ddiannod yn unig.
Peidio â chydymffurfio â hysbysiad o dan Adran 25 y Ddeddf Draenio Tir
Mae ymatebion troseddol safonol ac ymatebion sy’n benodol i drosedd yn cynnwys:
- Rhybudd
- Rhybuddiad ffurfiol
- Erlyniad
Adran 53(2)
Methiant, heb esgus rhesymol, i gydymffurfio â hysbysiad sy’n gofyn am wybodaeth, neu, wrth ganlyn yr hysbysiad – (i) yn gwneud unrhyw ddatganiad mewn perthynas â'r wybodaeth sy'n ofynnol y mae'n gwybod ei fod yn anwir o safbwynt manylyn perthnasol; neu (ii) yn gwneud unrhyw ddatganiad yn ddiofal mewn perthynas â'r wybodaeth honno sy'n anwir o safbwynt manylyn perthnasol.
Trosedd ddiannod yn unig.
Mae ymatebion troseddol safonol ac ymatebion sy’n benodol i drosedd yn cynnwys:
- Rhybudd
- Rhybuddiad ffurfiol
- Erlyniad
Mae'r sancsiynau sifil y gellir eu gosod yn cynnwys:
- Cosb ariannol newidiol
Nid yw sancsiynau sifil ar gael ond am droseddau a ddigwyddodd ar ôl 15 Gorffennaf 2010 yng Nghymru.
Adran 64(6)
Rhwystro neu amharu’n fwriadol ar unrhyw unigolyn a awdurdodwyd gan CNC i weithredu grym mynediad o dan adran 64(1) Deddf Draenio Tir 1991.
Trosedd Ddiannod yn unig.
Mae ymatebion troseddol safonol ac ymatebion sy'n benodol i’r drosedd yn cynnwys:
- Rhybudd
- Rhybuddiad Ffurfiol
- Erlyniad
Adran 66(6)
Mynd yn groes i, neu beidio â chydymffurfio ag is-ddeddf a wneir o dan Adran 66.
Trosedd ddiannod yn unig.
Mae ymatebion troseddol safonol ac ymatebion sy’n benodol i drosedd yn cynnwys:
- Rhybudd
- Rhybuddiad ffurfiol
- Erlyniad
Deddf y Diwydiant Dŵr 1991
Adran 71(1)(a)
Achosi, neu adael i unrhyw ddŵr tanddaearol redeg i wastraff o unrhyw ffynnon, twll turio neu waith arall. Tynnu dŵr o unrhyw ffynnon, twll turio neu waith arall, sy’n ormodol o ran gofynion rhesymol.
Trosedd ddiannod yn unig.
Mae ymatebion troseddol safonol ac ymatebion sy’n benodol i drosedd yn cynnwys:
- Rhybudd
- Rhybuddiad ffurfiol
- Erlyniad
Nid yw sancsiynau sifil ar gael ar gyfer y drosedd hon.
Adran 120(9)
Lle mae ymgymerwr carthffosiaeth yn methu â chyfeirio unrhyw ymholiad at yr asiantaeth briodol, o fewn dau fis, ynghylch a ddylid gwahardd gollyngiadau o elifion o gategori arbennig, neu eu gwneud yn ddarostyngedig i amodau.
Mae ymatebion troseddol safonol ac ymatebion sy’n benodol i drosedd yn cynnwys:
- Rhybudd
- Rhybuddiad ffurfiol
- Erlyniad
Mae sancsiynau sifil y gellir eu gosod yn cynnwys:
- Hysbysiad cydymffurfio
- Hysbysiad adfer
- Cosb ariannol benodedig
- Cosb ariannol newidiol
Mae sancsiynau sifil y gellir eu cynnig yn cynnwys:
- Ymgymeriad gorfodi
Nid yw sancsiynau sifil ar gael ond am droseddau a ddigwyddodd ar ôl 15 Gorffennaf 2010 yng Nghymru.
Adran 130(7)
Lle mae ymgymerwr carthffosiaeth yn methu â chyfeirio unrhyw ymholiad at yr asiantaeth briodol ynghylch a ddylid gwahardd unrhyw weithrediadau at ddibenion, neu mewn cysylltiad â derbyn neu gael gwared ar elifiad o gategori arbennig, neu eu gwneud yn ddarostyngedig i amodau.
Mae ymatebion troseddol safonol ac ymatebion sy’n benodol i drosedd yn cynnwys:
- Rhybudd
- Rhybuddiad ffurfiol
- Erlyniad
Nid yw sancsiynau sifil ar gael ar gyfer y drosedd hon.
Mae sancsiynau sifil y gellir eu gosod yn cynnwys:
- Hysbysiad cydymffurfio
- Hysbysiad adfer
- Cosb ariannol benodedig
- Cosb ariannol newidiol
Mae sancsiynau sifil y gellir eu cynnig yn cynnwys:
- Ymgymeriad gorfodi
Nid yw sancsiynau sifil ar gael ond am droseddau a ddigwyddodd ar ôl 15 Gorffennaf 2010 yng Nghymru.
Adran 133(5)
Lle mae ymgymerwr carthffosiaeth yn methu ag arfer ei bwerau er mwyn sicrhau cydymffurfiaeth â darpariaethau hysbysiad a gyflwynwyd gan yr asiantaeth briodol o dan Adran 132 o Ddeddf y Diwydiant Dŵr.
Mae ymatebion troseddol safonol ac ymatebion sy’n benodol i drosedd yn cynnwys:
- Rhybudd
- Rhybuddiad ffurfiol
- Erlyniad
Mae sancsiynau sifil y gellir eu gosod yn cynnwys:
- Hysbysiad adfer
- Cosb ariannol newidiol
Nid yw sancsiynau sifil ar gael ond am droseddau a ddigwyddodd ar ôl 15 Gorffennaf 2010 yng Nghymru.
Adran 135A(2)(a)
Methu â darparu gwybodaeth
Mae ymatebion troseddol safonol ac ymatebion sy’n benodol i drosedd yn cynnwys:
- Rhybudd
- Rhybuddiad ffurfiol
- Erlyniad
Mae sancsiynau sifil y gellir eu gosod yn cynnwys:
- Cosb ariannol newidiol
Nid yw sancsiynau sifil ar gael ond am droseddau a ddigwyddodd ar ôl 15 Gorffennaf 2010 yng Nghymru.
Adran 165(3)
Methu â chymryd y camau angenrheidiol er mwyn sicrhau bod dŵr a ollyngir mor rhydd ag sy'n rhesymol ymarferol o sylweddau amrywiol (e.e. mwd, gwaddodion)
Trosedd ddiannod yn unig.
Mae ymatebion troseddol safonol ac ymatebion sy’n benodol i drosedd yn cynnwys:
- Rhybudd
- Rhybuddiad ffurfiol
- Erlyniad
Nid yw sancsiynau sifil ar gael ar gyfer y drosedd hon.
Adran 166(8)
Mynd yn groes i ofynion Adran 166 neu amod caniatâd, gan ymgymerwr dŵr.
Trosedd ddiannod yn unig.
Mae ymatebion troseddol safonol ac ymatebion sy’n benodol i drosedd yn cynnwys:
- Rhybudd
- Rhybuddiad ffurfiol
- Erlyniad
Nid yw sancsiynau sifil ar gael ar gyfer y drosedd hon.
Deddf Adnoddau Dŵr 1991
Adran 24
a.24(1) a 24(4)(a)
Tynnu dŵr heb drwydded, neu fel arall heb fod yn unol â thrwydded neu ganiatâd ymchwiliad dŵr daear (GIC), neu dynnu dŵr heb esemptiad dilys neu achosi neu ganiatáu i unrhyw unigolyn arall wneud hynny.
a.24(2) a 24(4)(a)
Adeiladu, ymestyn, gosod neu addasu unrhyw waith, cyfarpar neu beirianwaith at ddibenion tynnu dŵr daear heb drwydded, neu fel arall heb fod yn unol â thrwydded, caniatâd ymchwiliad dŵr daear neu esemptiad dilys, neu achosi neu ganiatáu i unrhyw unigolyn arall wneud hynny.
a.24(4)(b)
Methiant deiliad trwydded i gydymffurfio ag amodau eraill trwydded. Enghraifft: Amodau nad ydynt yn ymwneud yn uniongyrchol â thynnu dŵr, fel rhwymedigaeth i ollwng dŵr rywle arall, i fonitro ac ati.
Mae ymatebion troseddol safonol ac ymatebion sy’n benodol i drosedd yn cynnwys:
- Rhybudd
- Rhybuddiad ffurfiol
- Erlyniad
Mae sancsiynau sifil y gellir eu gosod yn cynnwys:
- Hysbysiad cydymffurfio
- Hysbysiad adfer
- Cosb ariannol benodedig
- Cosb ariannol newidiol
- Hysbysiad stop
Mae sancsiynau sifil y gellir eu cynnig yn cynnwys:
- Ymgymeriad gorfodi
Nid yw sancsiynau sifil ar gael ond am droseddau a ddigwyddodd ar ôl 15 Gorffennaf 2010.
Adran 25
a.25(1)(a) a 25(2)(a)
Dechrau adeiladu neu addasu gwaith cronni dŵr heb drwydded, neu achosi neu ganiatáu i unrhyw unigolyn arall wneud hynny.
a.25(1)(b) a 25(2)(a)
Cronni dŵr heb drwydded, neu achosi neu ganiatáu i unrhyw unigolyn arall wneud hynny.
25(2)(b):
Methiant deiliad trwydded i gydymffurfio ag amodau trwydded cronni dŵr.
Mae ymatebion troseddol safonol ac ymatebion sy’n benodol i drosedd yn cynnwys:
- Rhybudd
- Rhybuddiad ffurfiol
- Erlyniad
Mae sancsiynau sifil y gellir eu gosod yn cynnwys:
- Hysbysiad cydymffurfio
- Hysbysiad adfer
- Cosb ariannol benodedig
- Cosb ariannol newidiol
- Hysbysiad stop
Mae sancsiynau sifil y gellir eu cynnig yn cynnwys:
- Ymgymeriad gorfodi
Nid yw sancsiynau sifil ar gael ond am droseddau a ddigwyddodd ar ôl 15 Gorffennaf 2010.
Adran 25C
Methiant i gydymffurfio â hysbysiad gorfodi a gyflwynwyd o dan Adran 25A Deddf Adnoddau Dŵr 1991.
Mae ymatebion troseddol safonol ac ymatebion sy’n benodol i drosedd yn cynnwys:
- Rhybudd
- Rhybuddiad ffurfiol
- Erlyniad
Mae sancsiynau sifil y gellir eu gosod yn cynnwys:
- Cosb ariannol newidiol
Nid yw sancsiynau sifil ar gael ond am droseddau a ddigwyddodd ar ôl 15 Gorffennaf 2010.
Adran 80
a.80(1)
Tynnu a/neu gronni dŵr yn groes i orchymyn neu drwydded sychder.
a.80(2)
Methiant i adeiladu, cynnal a chadw neu sicrhau mynediad i archwilio unrhyw gyfarpar neu gofnodion ar gyfer mesur llif y dŵr sy'n ofynnol o dan orchymyn neu drwydded sychder.
Mae ymatebion troseddol safonol ac ymatebion sy’n benodol i drosedd yn cynnwys:
- Rhybudd
- Rhybuddiad ffurfiol
- Erlyniad
Mae sancsiynau sifil y gellir eu gosod yn cynnwys:
- Hysbysiad cydymffurfio
- Hysbysiad adfer
- Cosb ariannol benodedig
- Cosb ariannol newidiol
- Hysbysiad stop
Mae sancsiynau sifil y gellir eu cynnig yn cynnwys:
- Ymgymeriad gorfodi
Nid yw sancsiynau sifil ar gael ond am droseddau a ddigwyddodd ar ôl 15 Gorffennaf 2010.
Adran 91B(3)
Methiant i roi hysbysiad ynghylch gadael cloddfa yn segur.
Mae ymatebion troseddol safonol ac ymatebion sy’n benodol i drosedd yn cynnwys:
- Rhybudd
- Rhybuddiad ffurfiol
- Erlyniad
Nid oes sancsiynau sifil ar gael ar gyfer y drosedd hon.
Adran 107(3)
Peidio â chydymffurfio â hysbysiad o dan Adran 107(3) y Ddeddf Adnoddau Dŵr (hysbysiad sy'n gofyn am adfer prif afon er mwyn sicrhau llif priodol).
Trosedd ddiannod yn unig.
Mae ymatebion troseddol safonol ac ymatebion sy’n benodol i drosedd yn cynnwys:
- Rhybudd
- Rhybuddiad ffurfiol
- Erlyniad
Nid yw sancsiynau sifil ar gael ar gyfer y drosedd hon.
Adran 161D(1)
Methiant i gydymffurfio â hysbysiad gwaith gwrthlygredd.
Mae ymatebion troseddol safonol ac ymatebion sy’n benodol i drosedd yn cynnwys:
- Rhybudd
- Rhybuddiad ffurfiol
- Erlyniad
Mae sancsiynau sifil y gellir eu gosod yn cynnwys:
- Cosb ariannol newidiol
Nid yw sancsiynau sifil ar gael ond am droseddau a ddigwyddodd ar ôl 15 Gorffennaf 2010 yng Nghymru.
Adran 173 ac Atodlen 20, Paragraff 7
Rhwystro swyddog Cyfoeth Naturiol Cymru rhag arfer ei bwerau mynediad
Mae ymatebion troseddol safonol ac ymatebion sy’n benodol i drosedd yn cynnwys:
- Rhybudd
- Rhybuddiad ffurfiol
- Erlyniad
Mae sancsiynau sifil y gellir eu gosod yn cynnwys:
- Cosb ariannol newidiol
Nid yw sancsiynau sifil ar gael ond am droseddau a ddigwyddodd ar ôl 15 Gorffennaf 2010.
Adran 173 ac Atodlen 20, Paragraff 7
Rhwystro swyddog Cyfoeth Naturiol Cymru rhag arfer ei bwerau mynediad
Mae ymatebion troseddol safonol ac ymatebion sy’n benodol i drosedd yn cynnwys:
- Rhybudd
- Rhybuddiad ffurfiol
- Erlyniad
Mae sancsiynau sifil y gellir eu gosod yn cynnwys:
- Cosb ariannol newidiol
Nid yw sancsiynau sifil ar gael ond am droseddau a ddigwyddodd ar ôl 15 Gorffennaf 2010.
Adran 174
Dynwared unigolyn sydd ag awdurdod i gael mynediad i safle
Mae ymatebion troseddol safonol ac ymatebion sy’n benodol i drosedd yn cynnwys:
- Rhybudd
- Rhybuddiad ffurfiol
- Erlyniad
Nid yw sancsiynau sifil ar gael ar gyfer y drosedd hon.
Adran 176
Ymyrryd â chyfarpar Cyfoeth Naturiol Cymru.
Trosedd ddiannod yn unig.
Mae ymatebion troseddol safonol ac ymatebion sy’n benodol i drosedd yn cynnwys:
- Rhybudd
- Rhybuddiad ffurfiol
- Erlyniad
Nid yw sancsiynau sifil ar gael ar gyfer y drosedd hon.
Adran 199
a.199(1) a 199(4)
Methiant i hysbysu'r asiantaeth briodol am gynnig i adeiladu neu ymestyn ffynhonnell dŵr daear at ddibenion chwilio am fwynau neu weithrediadau dad-ddyfrio.
a.199(2) a 199(4)
Methiant i gydymffurfio â hysbysiad cadwraeth a roddwyd er mwyn rheoli gweithgareddau'n ymwneud â chwilio am fwynau.
Mae ymatebion troseddol safonol ac ymatebion sy’n benodol i drosedd yn cynnwys:
- Rhybudd
- Rhybuddiad ffurfiol
- Erlyniad
Mae sancsiynau sifil y gellir eu gosod yn cynnwys:
- Cosb ariannol newidiol
Nid yw sancsiynau sifil ar gael ond am droseddau a ddigwyddodd ar ôl 15 Gorffennaf 2010 yng Nghymru.
Adran 201(3)
Methiant i ddarparu gwybodaeth sy'n ofynnol gan hysbysiad o dan Adran 201 y Ddeddf Adnoddau Dŵr
Mae ymatebion troseddol safonol ac ymatebion sy’n benodol i drosedd yn cynnwys:
- Rhybudd
- Rhybuddiad ffurfiol
- Erlyniad
Mae sancsiynau sifil y gellir eu gosod yn cynnwys:
- Cosb ariannol newidiol
Nid yw sancsiynau sifil ar gael ond am droseddau a ddigwyddodd ar ôl 15 Gorffennaf 2010 yng Nghymru.
Adran 202(4)
Methiant i ddarparu gwybodaeth sy’n ofynnol gan hysbysiad o dan adran 202.
Mae ymatebion troseddol safonol ac ymatebion sy’n benodol i drosedd yn cynnwys:
- Rhybudd
- Rhybuddiad ffurfiol
- Erlyniad
Mae sancsiynau sifil y gellir eu gosod yn cynnwys:
- Cosb
Nid yw sancsiynau sifil ar gael ond am droseddau a ddigwyddodd ar ôl 15 Gorffennaf 2010 yng Nghymru.
Adran 206
a.206(1)
Gwneud datganiadau sy'n anwir yn eu hanfod, yn fwriadol neu'n ddi-hid. Enghraifft: Wrth wneud cais am drwydded.
a.206(3)
Newid, neu ymyrryd â mesurydd, medrydd neu offeryn arall sy'n ofynnol o dan ddarpariaethau trwydded yn fwriadol.
a.206(3A)
Cofnodi gwybodaeth anwir yn fwriadol mewn unrhyw gofnod y mae'n ofynnol ei gadw o dan drwydded tynnu dŵr.
a.206(4)
Gwneud unrhyw ddatganiad sy'n anwir o safbwynt manylyn perthnasol, yn fwriadol neu'n ddi-hid, y mae’n ofynnol ei gadw neu ei ddarparu o dan Adran 198 neu 205 y Ddeddf Adnoddau Dŵr.
Mae ymatebion troseddol safonol ac ymatebion sy’n benodol i drosedd yn cynnwys:
- Rhybudd
- Rhybuddiad ffurfiol
- Erlyniad
Mae sancsiynau sifil y gellir eu gosod yn cynnwys:
- Cosb ariannol newidiol
Nid yw sancsiynau sifil ar gael ond am droseddau a ddigwyddodd ar ôl 15 Gorffennaf 2010 yng Nghymru.
Adran 211(3)
Torri unrhyw is-ddeddf sy'n ymwneud â physgodfeydd
Trosedd ddiannod yn unig.
Mae ymatebion troseddol safonol ac ymatebion sy’n benodol i drosedd yn cynnwys:
- Rhybudd
- Rhybuddiad ffurfiol
- Erlyniad
Nid yw sancsiynau sifil ar gael ar gyfer y drosedd hon.
Adran 211(4)
Torri unrhyw is-ddeddf at ddibenion amddiffyn rhag llifogydd a draenio
Trosedd ddiannod yn unig.
Mae ymatebion troseddol safonol ac ymatebion sy’n benodol i drosedd yn cynnwys:
- Rhybudd
- Rhybuddiad ffurfiol
- Erlyniad
Nid yw sancsiynau sifil ar gael ar gyfer y drosedd hon.
Adran 217(1)
Atebolrwydd troseddol cyfarwyddwyr, rheolwyr ac ysgrifenyddion mewn perthynas â throseddau y mae eu cwmni (corff corfforedig) yn euog ohonynt ac y profwyd eu bod wedi'u chyflawni gyda chaniatâd ac ymoddefiad y bobl dan sylw neu y gellir eu priodoli i'w hesgeulustod.
Mae ymatebion troseddol safonol ac ymatebion sy’n benodol i drosedd yn cynnwys:
- Rhybudd
- Rhybuddiad ffurfiol
- Erlyniad
Nid yw hyn yn ei gwneud hi'n ofynnol cymryd camau gorfodi yn erbyn y parti cyntaf, a gellir rhoi ymateb gwahanol i bob un. Dylid cyfeirio, felly, i'r ffactorau budd y cyhoedd.
Nid yw sancsiynau sifil ar gael am y drosedd hon ond lle maent ar gael ar gyfer y drosedd y mae'r corff corfforedig yn euog ohoni.
Adran 217(2)
Atebolrwydd aelodau o gorff corfforedig lle maent yn rheoli materion y busnes.
Mae ymatebion troseddol safonol ac ymatebion sy’n benodol i drosedd yn cynnwys:
- Rhybudd
- Rhybuddiad ffurfiol
- Erlyniad
Nid yw hyn yn ei gwneud hi'n ofynnol cymryd camau gorfodi yn erbyn y parti cyntaf, a gellir rhoi ymateb gwahanol i bob un. Dylid cyfeirio, felly, i'r ffactorau budd y cyhoedd.
Nid yw sancsiynau sifil ar gael am y drosedd hon ond lle maent ar gael ar gyfer y drosedd y mae'r corff corfforedig yn euog ohoni.
Adran 217(3)
Atebolrwydd trydydd partïon am droseddau o dan ddarpariaethau llygredd dŵr.
Mae ymatebion troseddol safonol ac ymatebion sy’n benodol i drosedd yn cynnwys:
- Rhybudd
- Rhybuddiad ffurfiol
- Erlyniad
Nid yw hyn yn ei gwneud hi'n ofynnol cymryd camau gorfodi yn erbyn y parti cyntaf, a gellir rhoi ymateb gwahanol i bob un. Dylid cyfeirio, felly, i'r ffactorau budd y cyhoedd.
Nid yw sancsiynau sifil ar gael am y drosedd hon ond lle maent ar gael ar gyfer y drosedd y mae'r corff corfforedig yn euog ohoni.
Deddf Dŵr 2003
Methiant i gydymffurfio â hysbysiad gwaith cronni dŵr a gyflwynwyd o dan Adran 4(1) WA 2003.
Mae ymatebion troseddol safonol ac ymatebion sy’n benodol i drosedd yn cynnwys:
- Rhybudd
- Rhybuddiad ffurfiol
- Erlyniad
Mae sancsiynau sifil y gellir eu gosod yn cynnwys:
- Cosb ariannol newidiol
Nid yw sancsiynau sifil ar gael ond am droseddau a ddigwyddodd ar ôl 15 Gorffennaf 2010.
Deddf Rheoli Llifogydd a Dŵr 2010
Adran 15(3)
Methiant i gydymffurfio â hysbysiad gorfodi a gyflwynwyd o dan Adran 14(1), sy'n gofyn am wybodaeth gan unigolyn mewn cysylltiad â swyddogaethau rheoli perygl llifogydd ac erydu arfordirol Cyfoeth Naturiol Cymru.
Mae'r cosbau sifil sydd ar gael yn cynnwys:
- Os yw'r unigolyn yn methu â darparu'r wybodaeth hon, yna gall Cyfoeth Naturiol Cymru roi hysbysiad gorfodi o dan Adran 15(1);
- Os yw'r unigolyn yn methu â chydymffurfio â'r hysbysiad gorfodi, yna, o dan Adran 15(3), gall Cyfoeth Naturiol Cymru osod hysbysiad cosb nad yw’n fwy na £1,000.
Dyddiadau cychwyn perthnasol: 6 Ebrill 2011
Adran 30 ac Atodlen 1 paragraff 11(4)
Methiant i gydymffurfio â hysbysiad gorfodi mewn perthynas ag ased dynodedig.
Mae ymatebion troseddol safonol ac ymatebion sy’n benodol i drosedd yn cynnwys:
- Rhybudd
- Rhybuddiad ffurfiol
- Erlyniad
Dyddiadau cychwyn perthnasol: 1 Awst 2012
Nid oes sancsiynau sifil ar gael.
Adran 30 ac Atodlen 1 paragraff 13(5)
Rhwystro swyddog Cyfoeth Naturiol Cymru sy'n arfer pwerau mynediad at ddibenion penderfynu a ellir dynodi strwythur neu nodwedd yn ased llifogydd.
Mae ymatebion troseddol safonol ac ymatebion sy'n benodol i'r drosedd yn cynnwys:
- Rhybudd
- Rhybuddiad ffurfiol
- Erlyniad
Dyddiadau cychwyn perthnasol: 1 Awst 2012
Nid oes sancsiynau sifil ar gael.
Rheoliadau Adnoddau Dŵr (Asesu Effeithiau Amgylcheddol) (Cymru a Lloegr) 2003
Rheoliad 9(4)
Cychwyn 'prosiect perthnasol' o dan y Rheoliadau Asesu Effeithiau Amgylcheddol heb ganiatâd dilys gan Cyfoeth Naturiol Cymru, neu fel arall heb fod yn unol â thelerau'r caniatâd hwnnw.
- Rhybudd
- Rhybuddiad ffurfiol
- Erlyniad
Rheoliadau Adnoddau Dŵr (Rheoli Llygredd) (Silwair a Slyri) (Cymru) 2010
Rheoliad 10(1) a 3(1)
Methiant i sicrhau bod silwair yn cael ei wneud a'i storio yn unol â Rheoliad 3(1).
Mae ymatebion troseddol safonol ac ymatebion sy’n benodol i drosedd yn cynnwys:
- Rhybudd
- Rhybuddiad ffurfiol
- Erlyniad
Nid yw sancsiynau sifil ar gael ar gyfer y drosedd hon.
Rheoliad 10(1), 3(1) a 3(4)
Storio, agor neu dynnu deunydd lapio bwrn o silwair o fewn 10 metr i ddŵr croyw mewndirol neu ddŵr arfordirol y gallai elifion silwair redeg iddo.
Mae ymatebion troseddol safonol ac ymatebion sy’n benodol i drosedd yn cynnwys:
- Rhybudd
- Rhybuddiad ffurfiol
- Erlyniad
Nid yw sancsiynau sifil ar gael ar gyfer y drosedd hon.
Rheoliad 10(1) a 4(1)
Methiant i sicrhau bod slyri yn cael ei storio yn unol â Rheoliad 4(1).
Mae ymatebion troseddol safonol ac ymatebion sy’n benodol i drosedd yn cynnwys:
- Rhybudd
- Rhybuddiad ffurfiol
- Erlyniad
Nid yw sancsiynau sifil ar gael ar gyfer y drosedd hon.
Rheoliad 10(1) a 7(5)
Methu â chydymffurfio â gofynion “Hysbysiad yn gofyn am waith” o dan Reoliad 7(1).
Mae ymatebion troseddol safonol ac ymatebion sy’n benodol i drosedd yn cynnwys:
- Rhybudd
- Rhybuddiad ffurfiol
- Erlyniad
Nid yw sancsiynau sifil ar gael ar gyfer y drosedd hon.
Rheoliad 10(1) a 9
Methiant i hysbysu ynghylch adeiladu seilo, man storio slyri, neu fan storio olew tanwydd, neu gynyddu ei faint yn sylweddol neu wneud gwaith ailadeiladu sylweddol arno, yn unol â Rheoliad 9.
Trosedd ddiannod yn unig.
Mae ymatebion troseddol safonol ac ymatebion sy’n benodol i drosedd yn cynnwys:
- Rhybudd
- Rhybuddiad ffurfiol
- Erlyniad
Nid yw sancsiynau sifil ar gael ar gyfer y drosedd hon.
Rheoliadau Atal Llygredd Nitradau (Cymru) 2013
Rheoliad 49
Torri amodau unrhyw un o ddarpariaethau'r rheoliadau
Mae ymatebion troseddol safonol ac ymatebion sy’n benodol i drosedd yn cynnwys:
- Rhybudd
- Rhybuddiad ffurfiol
- Erlyniad
Rheoliadau Adnoddau Dŵr (Rheoli Llygredd) (Storio Olew) (Cymru) 2016
Rheoliad 9
Mynd yn groes i reoliad 4 (gofynion cynwysyddion storio olew ), 5(1) (gofynion systemau cyfyngu eilaidd), 6(1) (gofynion tanciau sefydlog), 7(1) (gofynion pibau tanddaearol sy'n gysylltiedig â thanciau sefydlog) neu 8(1) (gofynion bowserau symudol).
Mae ymatebion troseddol safonol ac ymatebion sy’n benodol i drosedd yn cynnwys:
- Rhybudd
- Rhybuddiad ffurfiol
- Erlyniad
Mae sancsiynau sifil y gellir eu gosod yn cynnwys:
- Hysbysiad adfer
- Cosb ariannol benodedig
- Cosb ariannol newidiol
- Hysbysiad stop
Mae sancsiynau sifil y gellir eu gosod yn cynnwys:
- Ymgymeriad gorfodi
Gweler Rheoliad 1 ar gyfer gweithrediad graddol y rheoliadau hyn. Yn gyffredinol, daw'r rheoliadau hyn i rym ar 15 Mawrth 2016. Fodd bynnag, noder:
- Mewn perthynas ag unrhyw gynhwysydd a fu'n storio olew ar 15 Mawrth 2016, bydd y rheoliadau'n gymwys o 15 Mawrth 2020.
- Mewn perthynas ag unrhyw gynhwysydd a fu'n storio olew ar 15 Mawrth 2016 ac sydd wedi'i leoli llai na 10 metr i ffwrdd o unrhyw ddŵr croyw mewndirol neu ddŵr arfordirol neu lai na 50 metr i ffwrdd o ffynnon neu dwll turio, bydd y rheoliadau'n dod i rym ar 15 Mawrth 2018.
Rheoliadau Adnoddau Dŵr (Rheoli Llygredd Amaethyddol) (Cymru) 2021
Rheoliad 46
Torri unrhyw ddarpariaethau o'r Rheoliadau sydd mewn grym ar hyn o bryd.
Mae ymatebion troseddol safonol ac ymatebion sy'n benodol i'r drosedd yn cynnwys:
- Rhybudd
- Rhybuddiad Ffurfiol
- Erlyniad
Mae'r troseddau sydd mewn grym ar hyn o bryd fel a ganlyn:-
(a) Rheoli'r lledaeniad o wrtaith nitrogen
- Rheoliad 12
- Mae'n rhaid i feddiannydd sydd yn bwriadu i ledaenu gwrtaith nitrogen gynnal archwiliad cae i ddechrau er mwyn ystyried y risg o nitrogen yn mynd i mewn i ddŵr wyneb.
- Ni chaiff unigolyn ledaenu gwrtaith nitrogen ar y tir hwnnw os oes risg sylweddol o nitrogen yn cael i mewn i ddŵr wyneb gan ystyried y ffactorau a restrir o dan Reoliad 12(2).
- Ni chaiff unigolyn ledaenu gwrtaith nitrogen os yw'r pridd yn ddyfrlawn, dan ddŵr oherwydd llifogydd, wedi'i orchuddio gan eira, wedi rhewi neu wedi rhewi am fwy na 12 awr yn y 24 awr flaenorol.
- Rheoliad 13
- Ni chaiff unigolyn ledaenu gwrtaith nitrogen wedi'i weithgynhyrchu o fewn dau fetr i ddŵr wyneb.
- Rheoliad 14
- Ni chaiff unigolyn ledaenu tail organig o fewn 10 metr i ddŵr wyneb (oni bai eu bod yn defnyddio offer lledaenu manwl gywir, yn yr achos hwnnw ni chaiff unigolyn ledaenu tail organig o fewn chwe metr i ddŵr wyneb)
- Ni chaiff unigolyn ledaenu tail organig o fewn 50 metr i dwll turio, tarddell neu ffynnon.
(b) Ymgorffori tail
- Rheoliad 16
- Mae'n rhaid i unrhyw unigolyn sy'n rhoi tail organig ar wyneb pridd gwag neu sofl sicrhau ei fod wedi’i ymgorffori o fewn 24 awr.
(c) Cyfnodau caeedig ar gyfer lledaenu gwrtaith nitrogen wedi'i weithgynhyrchu
- Rheoliad 22
- Ar laswelltir; o 15 Medi hyd at 15 Ionawr
- Ar dir âr; o 1 Medi hyd at 15 Ionawr
(d) Storio tail a silwair
- Rheoliad 23
- Rhaid i feddiannydd daliad sy’n storio unrhyw dail organig (ac eithrio slyri) neu unrhyw sarn sydd wedi ei halogi ag unrhyw dail organig ei storio fel y rhagnodir yn Rheoliad 23
- Rheoliad 24
Gofynion ar gyfer storio tail a silwair
- Rheoliad 27
- Ni chaiff safle dros dro bod mewn cae sy’n agored i lifogydd neu’n mynd yn ddyfrlawn, o fewn 50 metr i dwll turio, pistyll neu ffynnon, neu o fewn 10 metr i ddŵr wyneb neu ddraen tir, mewn unrhyw leoliad unigol am fwy na 12 mis yn olynol, neu yn yr un man ag un cynharach a adeiladwyd o fewn y ddwy flynedd ddiwethaf.
- Rhaid i unrhyw dail dofednod solet, nad oes sarn yn gymysg ag ef ac sy'n cael ei storio ar safle dros dro mewn cae, gael ei orchuddio â deunydd anhydraidd
- Ni chaniateir symud uwchbridd o’r tir lle y bwriedir adeiladu safle dros dro mewn cae, ni chaiff safle dros dro mewn cae bod o fewn 30 metr i gwrs dŵr ar dir a nodir ar y map risg, a rhaid cadw'r arwynebedd mor fach ag y bo'n rhesymol ymarferol er mwyn lleihau effeithiau trwytholchi gan ddŵr glaw
(e) Rheoliad 32
(f) Taenu tail organig
- Rheoliad 5
- Rhaid i feddiannydd daliad sicrhau, mewn unrhyw gyfnod o 12 mis, na fydd cyfanswm y nitrogen mewn tail organig a daenir ar unrhyw hectar penodol ar y daliad yn fwy na 250kg.
(g) Cynllunio'r modd y taenir gwrtaith nitrogen
- Rheoliad 6
- Rhaid i feddiannydd daliad sy’n bwriadu taenu gwrtaith nitrogen gyfrifo faint o nitrogen yn y pridd sy’n debygol o fod ar gael i’r cnwd ei amsugno yn ystod y tymor tyfu, cyfrifo’r maint optimwm o nitrogen y dylid ei daenu ar y cnwd, a llunio cynllun ar gyfer taenu gwrtaith nitrogen yn y tymor tyfu hwnnw.
(h) Cofnodi gwybodaeth ychwanegol
- Rheoliad 7
- Y gofynion penodol ar gyfer y cofnodion i'w cadw gan feddiannydd
(i) Cyfanswm taeniad nitrogen ar ddaliad
- Rheoliad 8
- Nid yw cyfanswm y nitrogen yn fwy na’r terfynau a bennir yn Rheoliad 10 mewn unrhyw gyfnod o 12 mis
(j) Cyfrifo maint y nitrogen sydd ar gael i'r cnwd ei amsugno o dail organig
- Rheoliad 9
- Rhaid i'r meddiannydd gadarnhau cyfanswm y nitrogen mewn tail da byw at ddibenion Rheoliad 8
(k) Terfynau nitrogen uchaf fesul cnwd
- Rheoliad 10
- Cyfanswm y nitrogen y caniateir ei daenu ar unrhyw gnwd a restrir
Rheoliad 32
(k) Cyfrifiadau a Chofnodion
- Rheoliad 35
- Cyn 30 Ebrill bob blwyddyn, rhaid i feddiannydd daliad sydd â da byw gofnodi, am y cyfnod storio blaenorol, nifer a chategori’r anifeiliaid mewn adeilad neu ar lawr caled yn ystod y cyfnod storio a chofnodi y safleoedd a ddefnyddiwyd ar gyfer tomenni mewn caeau a dyddiadau eu defnyddio.
- Rheoliad 36
- Cyn y dyddiad perthnasol bob blwyddyn, rhaid i’r meddiannydd wneud cofnod o nifer a chategori’r anifeiliaid ar y daliad yn ystod y cyfnod blaenorol o 12 mis a nifer y diwrnodau a dreuliodd pob anifail ar y daliad.
- Rhaid i’r meddiannydd gyfrifo faint y nitrogen sydd yn y tail a gynhyrchwyd gan yr anifeiliaid ar y daliad yn ystod y flwyddyn honno a gwneud cofnod o’r cyfrifiadau a'r modd y cyrhaeddwyd at y ffigurau terfynol.
- Rheoliad 37
- Rhaid i feddiannydd sy’n dod â thail da byw i ddaliad gofnodi, o fewn un wythnos, y math a swm o dail da byw, y dyddiad y daethpwyd ag ef i’r daliad, maint y nitrogen sydd ynddo, ac, os yw’n hysbys, enw a chyfeiriad y cyflenwr
- Rhaid i feddiannydd sy’n anfon tail da byw o ddaliad gofnodi, o fewn un wythnos, y math a swm o dail da byw, y dyddiad y'i hanfonwyd o'r daliad, maint y nitrogen sydd ynddo, ac enw a chyfeiriad y derbynnydd a manylion y cynllun wrth gefn sydd i’w ddefnyddio pe bai cytundeb i berson dderbyn y tail da byw yn methu.
- Os nad yw maint y nitrogen yn hysbys pan ddygir tail da byw i ddaliad, rhaid i’r meddiannydd ganfod y maint hwnnw cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol wedi i'r tail gyrraedd a'i gofnodi o fewn un wythnos o'i ganfod.
- Rheoliad 38
- Rhaid i unrhyw berson sy'n defnyddio samplu a dadansoddi i ganfod maint y nitrogen mewn tail organig gadw'r adroddiad gwreiddiol gan y labordy
- Rheoliad 39
- Rhaid i feddiannydd sy’n bwriadu taenu gwrtaith nitrogen gofnodi, o fewn wythnos i hau cnwd, y cnwd a heuwyd, a dyddiad ei hau
- Rheoliad 40
- O fewn un wythnos i daenu tail organig, rhaid i’r meddiannydd gofnodi’r rhan y taenwyd y tail organig arni, faint a daenwyd, y dyddiad(au), y dulliau o'i daenu, cyfanswm y nitrogen sydd ynddo, a maint o nitrogen oedd ar gael i’r cnwd.
- O fewn un wythnos i daenu gwrtaith nitrogen a weithgynhyrchwyd, rhaid i'r meddiannydd gofnodi dyddiad ei daenu a maint y nitrogen a daenwyd
- Rheoliad 41
- Rhaid i feddiannydd sydd wedi defnyddio gwrtaith nitrogen gofnodi’r cynnyrch a gafwyd o gnwd âr o fewn wythnos i’w ganfod.
- Cyn 30 Ebrill bob blwyddyn, rhaid i feddiannydd gofnodi sut y cafodd unrhyw laswelltir ei reoli yn y flwyddyn galendr flaenorol.
- Rheoliad 42
- Rhaid i feddiannydd gadw copi o unrhyw gyngor gan berson sy’n aelod o’r Cynllun Ardystio a Hyfforddi Cynghorwyr am Wrteithiau ac y dibynnwyd arno at unrhyw ddiben o dan y Rheoliadau am bum mlynedd
- Rheoliad 43
- Rhaid i unrhyw berson y mae'n ofynnol iddo wneud cofnod o dan y Rheoliadau gadw'r cofnod hwnnw am bum mlynedd
Trosedd Ddiannod yn unig
Mae'n rhaid i unigolyn sy'n gyfrifol am, neu sy’n rheoli silwair neu slyri sydd i'w gadw mewn stôr newydd neu well roi hysbysiad o leiaf 14 diwrnod cyn i'r gwaith adeiladu gychwyn – (mae'r newid hwn yn berthnasol o 28 Ebrill 2021).
Gorchymyn Dynodi Parth Diogelu Dŵr (Dalgylch Afon Dyfrdwy) 1999
Erthygl 5
Achosi neu ganiatáu’n fwriadol i reolau parth diogelu gael eu torri
Ymatebion troseddol safonol ac ymatebion sy’n benodol i drosedd yn cynnwys:
- Rhybudd
- Rhybuddiad Ffurfiol
- Erlyniad
Dyddiadau dechrau perthnasol yw: 21 Rhagfyr 1999
Nid yw sancsiynau sifil ar gael