Troseddau cemegion
Rheoliadau Diogelu'r Amgylchedd (Gwaredu Biffenylau Polyclorinedig a Sylweddau Peryglus Eraill) (Cymru a Lloegr) 2000
Rheoliad 13(1)
Cadw cyfarpar halogedig sydd heb ei gofrestru, oni bai fod hynny er mwyn ei ddihalogi neu gael gwared arno.
Mae ymatebion troseddol safonol ac ymatebion sy’n benodol i drosedd yn cynnwys:
- Rhybudd
- Rhybuddiad ffurfiol
- Erlyniad
Mae sancsiynau sifil y gellir eu gosod yn cynnwys:
- Hysbysiad cydymffurfio
- Cosb ariannol benodedig
- Cosb ariannol newidiol
Mae sancsiynau sifil y gellir eu cynnig yn cynnwys:
- Ymgymeriad gorfodi
Sancsiynau sifil o 15 Gorffennaf 2010.
Rheoliad 13(2)(a)
Cadw biffenylau polyclorinedig gan dorri Rheoliad 4(1).
Mae ymatebion troseddol safonol ac ymatebion sy’n benodol i drosedd yn cynnwys:
- Rhybudd
- Rhybuddiad ffurfiol
- Erlyniad
Mae sancsiynau sifil y gellir eu gosod yn cynnwys:
- Hysbysiad cydymffurfio
- Cosb ariannol benodedig
- Cosb ariannol newidiol
Mae sancsiynau sifil y gellir eu cynnig yn cynnwys:
- Ymgymeriad gorfodi
Sancsiynau sifil o 15 Gorffennaf 2010.
Rheoliad 13(2)(b)
Methu â chael gwared ar biffenylau polyclorinedig neu gyfarpar a ddefnyddir ar gyfer gwaith ymchwil neu ddadansoddi, cyn gynted â phosibl pan na fydd eu hangen mwyach ar gyfer gwaith dadansoddi neu ymchwil yn unol â Rheoliad 4(2)(b).
Mae ymatebion troseddol safonol ac ymatebion sy’n benodol i drosedd yn cynnwys:
- Rhybudd
- Rhybuddiad ffurfiol
- Erlyniad
Mae sancsiynau sifil y gellir eu gosod yn cynnwys:
- Cosb ariannol benodedig
- Cosb ariannol newidiol
Mae sancsiynau sifil y gellir eu cynnig yn cynnwys:
- Ymgymeriad gorfodi
Sancsiynau sifil o 15 Gorffennaf 2010.
Rheoliad 13(2)(c)(ia)
Methu dadlygru neu waredu offer y gellir eu cadw yn unol â rheoliad 4(3A) hyd at ddiwedd ei oes ddefnyddiol, cyn gynted â phosibl wedi diwedd ei oes ddefnyddiol.
Ymatebion troseddol safonol ac sy'n benodol i’r drosedd
- rhybudd
- rhybuddiad ffurfiol
- erlyniad
Mae sancsiynau sifil y gellir eu gosod yn cynnwys
- cosb ariannol benodedig
- cosb ariannol newidiol
Mae sancsiynau sifil y gellir eu cynnig yn cynnwys
- ymgymeriad gorfodi
Rheoliad 13(2)(c)(ib)
Methu dadlygru neu waredu offer y gellir eu cadw yn unol â rheoliad 4(3C) hyd at 31 Rhagfyr 2025, cyn gynted â phosibl ar ôl 31 Rhagfyr 2025.
Ymatebion troseddol safonol ac sy'n benodol i’r drosedd
- rhybudd
- rhybuddiad ffurfiol
- erlyniad
Mae sancsiynau sifil y gellir eu gosod yn cynnwys
- cosb ariannol benodedig
- cosb ariannol newidiol
Mae sancsiynau sifil y gellir eu cynnig yn cynnwys
- ymgymeriad gorfodi
Rheoliad 13(2)(c)(iii)
Methu dadlygru neu waredu offer mewn achos y mae paragraff (9) o reoliad 4 yn berthnasol (cydrannau), cyn gynted â phosibl wedi diwedd oes ddefnyddiol y darn arall o offer mae'n rhan ohono.
Ymatebion troseddol safonol ac sy'n benodol i’r drosedd
- rhybudd
- rhybuddiad ffurfiol
- erlyniad
Mae sancsiynau sifil y gellir eu gosod yn cynnwys
- cosb ariannol benodedig
- cosb ariannol newidiol
Mae sancsiynau sifil y gellir eu cynnig yn cynnwys
- ymgymeriad gorfodi
Rheoliad 13(3)
Methiant gan unigolyn sy’n cadw trawsnewidydd dihalogedig neu gyfarpar halogedig i labelu'r cyfarpar fel y nodir yn Rheoliad 4(4d) a 5.
Mae ymatebion troseddol safonol ac ymatebion sy’n benodol i drosedd yn cynnwys:
- Rhybudd
- Rhybuddiad ffurfiol
- Erlyniad
Mae sancsiynau sifil y gellir eu gosod yn cynnwys:
- Cosb ariannol benodedig
- Cosb ariannol newidiol
Mae sancsiynau sifil y gellir eu cynnig yn cynnwys:
- Ymgymeriad gorfodi
Sancsiynau sifil o 15 Gorffennaf 2010.
Rheoliad 13(4)(a)
Darparu gwybodaeth anwir neu gamarweiniol mewn perthynas â chofrestru biffenylau polyclorinedig a chyfarpar sydd wedi'i halogi â biffenyl polyclorinedig fel sy'n ofynnol gan Reoliad 6.
Mae ymatebion troseddol safonol ac ymatebion sy’n benodol i drosedd yn cynnwys:
- Rhybudd
- Rhybuddiad ffurfiol
- Erlyniad
Mae sancsiynau sifil y gellir eu gosod yn cynnwys:
- Cosb ariannol newidiol
Sancsiynau sifil o 15 Gorffennaf 2010.
Rheoliad 13(4)(b)
Methiant i ddarparu gwybodaeth sy'n ofynnol gan Reoliad 10(2) wrth ailgofrestru cyfarpar halogedig yn flynyddol. Methiant i ddarparu gwybodaeth fel sy'n ofynnol gan hysbysiad a gyflwynwyd o dan Reoliad 10(4).
Mae ymatebion troseddol safonol ac ymatebion sy’n benodol i drosedd yn cynnwys:
- Rhybudd
- Rhybuddiad ffurfiol
- Erlyniad
Mae sancsiynau sifil y gellir eu gosod yn cynnwys:
- Cosb ariannol newidiol
Sancsiynau sifil o 15 Gorffennaf 2010.
Rheoliad 13(4)(c)
Darparu gwybodaeth anwir neu gamarweiniol, yn fwriadol neu'n ddi-hid, mewn perthynas â Rheoliad 6(1), 10(2) neu 10(4).
Mae ymatebion troseddol safonol ac ymatebion sy’n benodol i drosedd yn cynnwys:
- Rhybudd
- Rhybuddiad ffurfiol
- Erlyniad
Mae sancsiynau sifil y gellir eu gosod yn cynnwys:
- Cosb ariannol newidiol
Sancsiynau sifil o 15 Gorffennaf 2010.
Rheoliad 10
Lle bo gan unigolyn yr hawl i gadw cyfarpar sydd wedi'i halogi â biffenyl polyclorinedig a’i fod wedi'i gofrestru yn unol â Rheoliad 6, dylid adnewyddu'r cofrestriad yn flynyddol (Rheoliad 10).
Mae ymatebion troseddol safonol ac ymatebion sy’n benodol i drosedd yn cynnwys:
- Rhybudd
- Rhybuddiad ffurfiol
- Erlyniad
Gwybodaeth bellach: Nid yw methu ag adnewyddu yn drosedd o dan y rheoliadau. Fodd bynnag:
1. dylid cynghori'r sawl sy’n cadw’r cyfarpar i wneud cais i adnewyddu'r cofrestriad cyn gynted â phosibl a rhoi terfyn amser rhesymol iddo;
2. dylid rhybuddio'r sawl sy’n cadw’r cyfarpar, yn ysgrifenedig, y bydd methu ag ailgofrestru yn arwain at ddiddymu'r cofrestriad a chamau gorfodi posibl.
Os na wneir cais o'r fath erbyn y terfyn amser, dylid diddymu'r cofrestriad gwreiddiol yn unol â Rheoliad 7, ac, os bydd yr unigolyn ynparhau i gadw’r cyfarpar, dylid cymryd camau erlyn o dan Reoliad 13(1) am gadw cyfarpar sydd wedi'i halogi â biffenyl polyclorinedig heb fod wedi’i gofrestru.
Rheoliadau Llygryddion Organig Parhaus 2007
Rheoliad 5
Cynhyrchu sylwedd, ei osod ar y farchnad neu ei ddefnyddio, yn groes i Erthygl 3 Rheoliad (CE) Rhif 2019/1021.
Mae ymatebion troseddol safonol ac ymatebion sy’n benodol i drosedd yn cynnwys:
- Rhybudd
- Rhybuddiad ffurfiol
- Erlyniad
Nid yw sancsiynau sifil ar gael ar gyfer y drosedd hon.
Rheoliad 6(1)
Methu â rheoli pentwr stoc, lle mae'r pentwr stoc hwnnw'n cynnwys unrhyw sylwedd a restrir yn Atodiad I neu II Rheoliad (CE) Rhif 2019/1021, nad oes unrhyw hawl i'w ddefnyddio, fel gwastraff ac yn unol ag Erthygl 7 Rheoliad (CE) Rhif 2019/1021.
Mae ymatebion troseddol safonol ac ymatebion sy’n benodol i drosedd yn cynnwys:
- Rhybudd
- Rhybuddiad ffurfiol
- Erlyniad
Nid yw sancsiynau sifil ar gael ar gyfer y drosedd hon.
Rheoliad 6(2)
Methu â darparu gwybodaeth sy'n ymwneud â natur a maint pentwr stoc o sylweddau Atodiad I neu II, y mae hawl i'w defnyddio, sy'n fwy na 50kg, erbyn y dyddiad disgwyliedig.
Mae ymatebion troseddol safonol ac ymatebion sy’n benodol i drosedd yn cynnwys:
- Rhybudd
- Rhybuddiad ffurfiol
- Erlyniad
Nid yw sancsiynau sifil ar gael ar gyfer y drosedd hon.
Rheoliad 6(3)
Methu â rheoli pentwr stoc, lle mae'r pentwr stoc hwnnw'n fwy na 50kg ac yn cynnwys unrhyw sylwedd a restrir yn Atodiad I neu II Rheoliad (CE) Rhif 2019/1021, y mae hawl i'w ddefnyddio, mewn modd diogel, effeithlon ac amgylcheddol gadarn.
Mae ymatebion troseddol safonol ac ymatebion sy’n benodol i drosedd yn cynnwys:
- Rhybudd
- Rhybuddiad ffurfiol
- Erlyniad
Nid yw sancsiynau sifil ar gael ar gyfer y drosedd hon.
Rheoliad 7(1)
Methu â gwneud pob ymdrech resymol (y sawl sy’n cynhyrchu a chadw gwastraff) i osgoi halogi gwastraff â sylweddau a restrir yn Atodlen IV Rheoliad (CE) Rhif 2019/1021.
Mae ymatebion troseddol safonol ac ymatebion sy’n benodol i drosedd yn cynnwys:
- Rhybudd
- Rhybuddiad ffurfiol
- Erlyniad
Nid yw sancsiynau sifil ar gael ar gyfer y drosedd hon.
Rheoliad 7(2)
Methu â chael gwared ar wastraff, neu ei adfer (y sawl sy'n cynhyrchu neu'n cadw gwastraff), sydd wedi'i ffurfio gan, yn cynnwys, neu wedi'i halogi gan unrhyw sylwedd a restrir yn Atodiad IV yn unol ag Erthygl 7(2) Rheoliad (CE) Rhif 2019/1021.
Mae ymatebion troseddol safonol ac ymatebion sy’n benodol i drosedd yn cynnwys:
- Rhybudd
- Rhybuddiad ffurfiol
- Erlyniad
Nid yw sancsiynau sifil ar gael ar gyfer y drosedd hon.
Rheoliad 7(3)
Gweithredu gwaith gwaredu neu adfer a allai arwain at adfer, ailgylchu, adennill neu ailddefnyddio sylweddau a restrir yn Atodiad IV Rheoliad (CE) Rhif 2019/1021.

Rheoliadau Gorfodi REACH 2008
Rheoliad 11(1)
Mynd yn groes i ddarpariaeth REACH a restrir, neu achosi neu ganiatáu i unigolyn arall wneud hynny.
Mae ymatebion troseddol safonol ac ymatebion sy’n benodol i drosedd yn cynnwys:
- Rhybudd
- Rhybuddiad ffurfiol
- Erlyniad
Nid yw sancsiynau sifil ar gael ar gyfer y drosedd hon.
Rheoliad 11(2)
Mynd yn groes i Erthygl 67 REACH neu achosi neu ganiatáu i unigolyn arall wneud hynny.
Mae ymatebion troseddol safonol ac ymatebion sy’n benodol i drosedd yn cynnwys:
- Rhybudd
- Rhybuddiad ffurfiol
- Erlyniad
Nid yw sancsiynau sifil ar gael ar gyfer y drosedd hon.
Rheoliad 11(3)(a)
Darparu tystysgrif esemptiad amddiffyn anwir, neu gopi anwir, neu achosi neu ganiatáu i unigolyn arall wneud hynny.
Mae ymatebion troseddol safonol ac ymatebion sy’n benodol i drosedd yn cynnwys:
- Rhybudd
- Rhybuddiad ffurfiol
- Erlyniad
Nid yw sancsiynau sifil ar gael ar gyfer y drosedd hon.
Rheoliad 11(3)(b)
Methu â darparu tystysgrif esemptiad amddiffyn, copi o dystysgrif a wnaethpwyd gan yr Ysgrifennydd Gwladol neu gopi o ddarn o'r dystysgrif a wnaethpwyd gan yr Ysgrifennydd Gwladol, pan ofynnwyd amdani, neu achosi neu ganiatáu i unigolyn arall wneud hynny.
Mae ymatebion troseddol safonol ac ymatebion sy’n benodol i drosedd yn cynnwys:
- Rhybudd
- Rhybuddiad ffurfiol
- Erlyniad
Nid yw sancsiynau sifil ar gael ar gyfer y drosedd hon.
Rheoliad 11(4)
Cyflenwi neu ddefnyddio paent â phlwm ynddo yn groes i baragraff 5(b) neu 6 o Ran 1 o Atodlen 5 neu achosi neu ganiatáu i unigolyn arall wneud hynny.
Mae ymatebion troseddol safonol ac ymatebion sy’n benodol i drosedd yn cynnwys:
- Rhybudd
- Rhybuddiad ffurfiol
- Erlyniad
Nid yw sancsiynau sifil ar gael ar gyfer y drosedd hon.
Rheoliad 13(1)(a)
Rhwystro swyddog Cyfoeth Naturiol Cymru yn fwriadol.
Mae ymatebion troseddol safonol ac ymatebion sy’n benodol i drosedd yn cynnwys:
- Rhybudd
- Rhybuddiad ffurfiol
- Erlyniad
Nid yw sancsiynau sifil ar gael ar gyfer y drosedd hon.
Rheoliad 13(1)(b)
Gwneud datganiad anwir neu gamarweiniol yn fwriadol neu'n ddi-hid.
Mae ymatebion troseddol safonol ac ymatebion sy’n benodol i drosedd yn cynnwys:
- Rhybudd
- Rhybuddiad ffurfiol
- Erlyniad
Nid yw sancsiynau sifil ar gael ar gyfer y drosedd hon.
Rheoliad 13(2)(a)(i)
Methiant i gydymffurfio ag unrhyw ofyniad gan swyddog Cyfoeth Naturiol Cymru sy'n arfer ei bwerau o dan Atodlen 6 (pwerau gorfodi) heb esgus rhesymol.
Mae ymatebion troseddol safonol ac ymatebion sy’n benodol i drosedd yn cynnwys:
- Rhybudd
- Rhybuddiad ffurfiol
- Erlyniad
Nid yw sancsiynau sifil ar gael ar gyfer y drosedd hon.
Rheoliad 13(2)(a)(ii)
Methiant i gydymffurfio â hysbysiad a ddisgrifir o dan Atodlen 6.
Mae ymatebion troseddol safonol ac ymatebion sy’n benodol i drosedd yn cynnwys:
- Rhybudd
- Rhybuddiad ffurfiol
- Erlyniad
Nid yw sancsiynau sifil ar gael ar gyfer y drosedd hon.
Rheoliad 13(2)(b)(i)
Methiant i ddarparu cyfleusterau neu gymorth i swyddog Cyfoeth Naturiol Cymru pan ofynnir yn rhesymol amdanynt, neu wrthod gwneud hynny.
Mae ymatebion troseddol safonol ac ymatebion sy’n benodol i drosedd yn cynnwys:
- Rhybudd
- Rhybuddiad ffurfiol
- Erlyniad
Nid yw sancsiynau sifil ar gael ar gyfer y drosedd hon.
Rheoliad 13(2)(b)(ii)
Methiant i ganiatáu, neu wrthod caniatáu archwiliad gan swyddog Cyfoeth Naturiol Cymru pan ofynnir yn rhesymol i'w gynnal.
Mae ymatebion troseddol safonol ac ymatebion sy’n benodol i drosedd yn cynnwys:
- Rhybudd
- Rhybuddiad ffurfiol
- Erlyniad
Nid yw sancsiynau sifil ar gael ar gyfer y drosedd hon.
Rheoliad 13(2)(c)
Rhwystro unigolyn arall rhag ymddangos gerbron swyddog Cyfoeth Naturiol Cymru, neu ateb unrhyw gwestiwn y gallai fod yn ofynnol gan swyddog Cyfoeth Naturiol Cymru gael ateb iddo.
Mae ymatebion troseddol safonol ac ymatebion sy’n benodol i drosedd yn cynnwys:
- Rhybudd
- Rhybuddiad ffurfiol
- Erlyniad
Nid yw sancsiynau sifil ar gael ar gyfer y drosedd hon.
Rheoliad 13(4)
Dynwared swyddog Cyfoeth Naturiol Cymru
Mae ymatebion troseddol safonol ac ymatebion sy’n benodol i drosedd yn cynnwys:
- Rhybudd
- Rhybuddiad ffurfiol
- Erlyniad
Nid yw sancsiynau sifil ar gael ar gyfer y drosedd hon.
Rheoliad 13(5)
Datgelu gwybodaeth a dderbyniwyd gan y Comisiynwyr ar gyfer Cyllid a Thollau, sy'n berthnasol i unigolyn y mae ei hunaniaeth wedi'i phenodi neu y gellir ei chasglu yn y datgeliad, neu ohono, heb ganiatâd ymlaen llaw gan y Comisiynwyr neu'n unol â rhwymedigaeth gyfreithiol.
Mae ymatebion troseddol safonol ac ymatebion sy’n benodol i drosedd yn cynnwys:
- Rhybudd
- Rhybuddiad ffurfiol
- Erlyniad
Nid yw sancsiynau sifil ar gael ar gyfer y drosedd hon.
Rheoliadau Rheoli Mercwri (Gorfodi) 2017
Trosolwg Mae'r rheoliadau hyn yn caniatáu cosbau sifil o 1 Ebrill 2018 ymlaen. Ni all maint cosb sifil fod yn fwy na £200,000.
Rheoliad 41(1)
Methiant i gydymffurfio â darpariaeth a restrir yn Atodlen 1.
- Rhybudd
- Rhybuddiad ffurfiol
- Erlyniad
Daeth y ddarpariaeth hon i rym ar 1 Ionawr 2018. Ni ddylid dechrau dwyn achos yn erbyn unigolyn am drosedd o dan Reoliad 41(1) os yw'r canlynol wedi digwydd:
1. mae hysbysiad cosb sifil wedi'i gyflwyno o dan Reoliad 10(3) ar gyfer y methiant, ac nid yw'r hysbysiad cosb sifil wedi'i dynnu'n ôl;
2. mae'r broses o ddwyn achos sifil wedi'i dechrau yn erbyn yr unigolyn o dan Reoliad 18 mewn perthynas â'r methiant.
Nid oes sancsiynau sifil ar gael ar gyfer y drosedd hon.
Rheoliad 41(2)
Methiant i gydymffurfio â hysbysiad gorfodi.
- Rhybudd
- Rhybuddiad ffurfiol
- Erlyniad
Daeth y ddarpariaeth hon i rym ar 1 Ionawr 2018. Ni ddylid dechrau dwyn achos yn erbyn unigolyn am drosedd o dan Reoliad 41(2) os yw'r canlynol wedi digwydd:
1. mae hysbysiad cosb sifil wedi'i gyflwyno i'r unigolyn o dan Reoliad 10(4) ar gyfer y methiant, ac nid yw'r hysbysiad cosb sifil wedi'i dynnu'n ôl;
2. mae'r broses o ddwyn achos sifil wedi'i dechrau yn erbyn yr unigolyn o dan Reoliad 18 mewn perthynas â'r methiant.
Nid oes sancsiynau sifil ar gael ar gyfer y drosedd hon.
Rheoliad 41(3)
Methiant i gydymffurfio â hysbysiad gwybodaeth.
- Rhybudd
- Rhybuddiad ffurfiol
- Erlyniad
Daeth y ddarpariaeth hon i rym ar 1 Ionawr 2018. Ni ddylid dechrau dwyn achos yn erbyn unigolyn am drosedd o dan Reoliad 41(3) os yw hysbysiad cosb sifil wedi'i gyflwyno i'r unigolyn o dan Reoliad 10(4) ar gyfer y methiant, ac nid yw'r hysbysiad cosb sifil wedi'i dynnu'n ôl. Nid oes sancsiynau sifil ar gael ar gyfer y drosedd hon.
Rheoliad 41(4)
Darparu gwybodaeth i Cyfoeth Naturiol Cymru, mewn cysylltiad â swyddogaethau Cyfoeth Naturiol Cymru o dan, neu yn rhinwedd y rheoliadau hyn, y mae'r unigolyn yn gwybod ei bod yn anwir neu'n gamarweiniol.
- Rhybudd
- Rhybuddiad ffurfiol
- Erlyniad
Daeth y ddarpariaeth hon i rym ar 1 Ionawr 2018. Nid oes sancsiynau sifil ar gael ar gyfer y drosedd hon.
Rheoliad 41(5)
Methiant i gyflwyno dogfen neu gofnod i Cyfoeth Naturiol Cymru yn unol â Rheoliad 6.
- Rhybudd
- Rhybuddiad ffurfiol
- Erlyniad
Daeth y ddarpariaeth hon i rym ar 1 Ionawr 2018. Nid oes sancsiynau sifil ar gael ar gyfer y drosedd hon.
Rheoliad 43(1)
Rhwystro swyddog tollau rhag cyflawni swyddogaeth o dan Reoliad 33(1) yn fwriadol.
- Rhybudd
- Rhybuddiad ffurfiol
- Erlyniad
Daeth y ddarpariaeth hon i rym ar 1 Ionawr 2018. Nid oes sancsiynau sifil ar gael ar gyfer y drosedd hon.
Rheoliad 43(2)
Methiant, heb esgus rhesymol, i roi gwybodaeth i swyddog tollau (sy'n cyflawni swyddogaeth o dan Reoliad 33(1)) sy'n ofynnol gan y swyddog tollau.
- Rhybudd
- Rhybuddiad ffurfiol
- Erlyniad
Daeth y ddarpariaeth hon i rym ar 1 Ionawr 2018. Nid oes sancsiynau sifil ar gael ar gyfer y drosedd hon.
Rheoliad 43(3)
Darparu gwybodaeth i swyddog tollau sy'n cyflawni swyddogaeth o dan Reoliad 33(1) gan wybod ei bod yn anwir neu'n gamarweiniol.
- Rhybudd
- Rhybuddiad ffurfiol
- Erlyniad
Daeth y ddarpariaeth hon i rym ar 1 Ionawr 2018. Nid oes sancsiynau sifil ar gael ar gyfer y drosedd hon.
Rheoliad 43(4)
Methiant i gyflwyno dogfen neu gofnod ar gyfer swyddog tollau sy'n cyflawni swyddogaeth o dan Reoliad 33(1) pan fo'n ofynnol gwneud hynny.
- Rhybudd
- Rhybuddiad ffurfiol
- Erlyniad
Daeth y ddarpariaeth hon i rym ar 1 Ionawr 2018. Nid oes sancsiynau sifil ar gael ar gyfer y drosedd hon.
Rheoliad 44(1)
Rhwystro unigolyn penodedig rhag cyflawni swyddogaeth o dan Reoliad 39 (gosodiadau ar y môr) yn fwriadol.
- Rhybudd
- Rhybuddiad ffurfiol
- Erlyniad
Daeth y ddarpariaeth hon i rym ar 1 Ionawr 2018. Nid oes sancsiynau sifil ar gael ar gyfer y drosedd hon.
Rheoliad 44(2)
Methiant, heb esgus rhesymol, i ddarparu gwybodaeth i unigolyn penodedig sy'n cyflawni swyddogaeth o dan Reoliad 39 (gosodiadau ar y môr), sy'n ofynnol gan yr unigolyn penodedig.
- Rhybudd
- Rhybuddiad ffurfiol
- Erlyniad
Daeth y ddarpariaeth hon i rym ar 1 Ionawr 2018. Nid oes sancsiynau sifil ar gael ar gyfer y drosedd hon.
Rheoliad 44(3)
Darparu gwybodaeth i unigolyn penodedig sy'n cyflawni swyddogaeth o dan Reoliad 39 (gosodiadau ar y môr) gan wybod ei bod yn anwir neu'n gamarweiniol.
- Rhybudd
- Rhybuddiad ffurfiol
- Erlyniad
Daeth y ddarpariaeth hon i rym ar 1 Ionawr 2018. Nid oes sancsiynau sifil ar gael ar gyfer y drosedd hon.
Rheoliad 44(4)
Methiant i gyflwyno dogfen neu gofnod ar gyfer unigolyn penodedig sy'n cyflawni swyddogaeth o dan Reoliad 39 (gosodiadau ar y môr) pan fo'n ofynnol gwneud hynny.
- Rhybudd
- Rhybuddiad ffurfiol
- Erlyniad
Daeth y ddarpariaeth hon i rym ar 1 Ionawr 2018. Nid oes sancsiynau sifil ar gael ar gyfer y drosedd hon.
Rheoliad 46(1)
Os dengys bod trosedd sydd wedi'i chyflawni gan gorff corfforedig wedi'i chyflawni gyda chaniatâd neu ymoddefiad swyddog o'r corff corfforedig, a/neu y gellir ei phriodoli i unrhyw esgeulustod ar ran y swyddog, gellir dwyn achos yn erbyn y swyddog (yn ogystal â'r corff corfforedig) a'i gosbi yn unol â hynny.
- Rhybudd
- Rhybuddiad ffurfiol
- Erlyniad
Daeth y ddarpariaeth hon i rym ar 1 Ionawr 2018. Nid oes sancsiynau sifil ar gael ar gyfer y drosedd hon.
Rheoliad 46(3)
Os dengys bod trosedd sydd wedi'i chyflawni gan bartneriaeth wedi'i chyflawni gyda chaniatâd neu ymoddefiad swyddog o'r bartneriaeth, a/neu y gellir ei phriodoli i unrhyw esgeulustod ar ran y swyddog, gellir dwyn achos yn erbyn y swyddog (yn ogystal â'r bartneriaeth) a'i gosbi yn unol â hynny.
- Rhybudd
- Rhybuddiad ffurfiol
- Erlyniad
Daeth y ddarpariaeth hon i rym ar 1 Ionawr 2018. Nid oes sancsiynau sifil ar gael ar gyfer y drosedd hon.
Rheoliad 46(4)
Os dengys bod trosedd sydd wedi'i chyflawni gan gymdeithas anghorfforedig wedi'i chyflawni gyda chaniatâd neu ymoddefiad swyddog o'r gymdeithas anghorfforedig, a/neu y gellir ei phriodoli i unrhyw esgeulustod ar ran y swyddog, gellir dwyn achos yn erbyn y swyddog (yn ogystal â'r gymdeithas anghorfforedig) a'i gosbi yn unol â hynny.
- Rhybudd
- Rhybuddiad ffurfiol
- Erlyniad
Daeth y ddarpariaeth hon i rym ar 1 Ionawr 2018. Nid oes sancsiynau sifil ar gael ar gyfer y drosedd hon.