Amcanion cydraddoldeb strategol

Mae Dyletswydd Cydraddoldeb y Sector Cyhoeddus (PSED) yn ei gwneud hi’n ofynnol i gyrff rhestredig adolygu eu hamcanion cydraddoldeb cyfredol bob pedair blynedd o leiaf.

Yn unol â’r argymhellion gan y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol (EHRC) a Llywodraeth Cymru, mae’r ddyletswydd yn gyfle i gyrff y sector cyhoeddus yng Nghymru gydweithio i gydnabod a chael effaith ar y cyd mewn perthynas â’r heriau a nodwyd yn ‘Monitro Cydraddoldeb a Hawliau Dynol: A yw Cymru’n Decach?’ (2023).

Mae Partneriaeth Cydraddoldeb Cyrff Cyhoeddus Cymru yn cynrychioli grŵp o gyrff cyhoeddus sydd wedi ymrwymo i weithio gyda’i gilydd i uno y tu ôl i gydamcanion cydraddoldeb. Mae’r dull hwn yn hyrwyddo gweithio’n ddoethach ac yn creu cyfle ymgysylltu, dysgu ac ymyrryd ar y cyd i sicrhau mwy o effaith ar draws y sector cyhoeddus a gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru, gan gyfrannu’n sylweddol at sicrhau cydraddoldeb. Mae Partneriaeth Cyrff Cyhoeddus Cymru’n cynnwys:

  • Ymddiriedolaeth GIG Prifysgol Felindre
  • Bwrdd Iechyd Lleol Prifysgol Caerdydd a’r Fro
  • Addysg a Gwella Iechyd Cymru
  • Chwaraeon Cymru
  • Cyngor Celfyddydau Cymru
  • Gyrfa Cymru
  • Cyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru
  • Amgueddfeydd Cenedlaethol Cymru
  • Cyfoeth Naturiol Cymru
  • Comisiynydd y Gymraeg
  • Awdurdod Refeniw Cymru

Datblygwyd themâu ac amcanion ein Hamcanion Cydraddoldeb Strategol 2020-2024 gyda Phartneriaeth Cydraddoldeb Cyrff Cyhoeddus Cymru (WPBEP) ac maent yn rhan o’n Strategaeth Amrywiaeth a Chynhwysiant 2022-2025.

Yn sgil Covid-19 a’n huchelgais i ddatblygu cynllun gweithredu mwy penodol, sydd wedi’i deilwra i’n blaenoriaethau a’n gwerthoedd sefydliadol, nid ydym wedi gallu gwneud cynnydd gyda nodau ac amcanion ein hamcanion Cydraddoldeb Strategol 2020-2024 am y 4 blynedd lawn. Cafodd ein Strategaeth Amrywiaeth a Chynhwysiant ei chymeradwyo ddechrau Ionawr 2022 a chafodd y Cynllun Gweithredu ei ddatblygu a dod yn weithredol ym Mehefin 2022, felly nid oes digon o amser wedi bod i ni ddechrau gweithredu’r camau a nodwyd yn y cynllun yn llawn er mwyn gallu mesur y newid mewn diwylliant ac amrywiaeth fel y bwriadwyd. Felly, bydd parhau â’r un amcanion gyda chamau gweithredu CAMPUS yn sicrhau ein bod ni’n cydymffurfio â’n dyletswyddau cyfreithiol ac yn unol ag amcanion sefydliadau partner WPBEP.

Cynhaliodd CNC broses ymgynghori rhwng 15 Rhagfyr 2023 a 12 Ionawr 2024 ar ein hyb ymgynghori Citizen Space gan ddarparu cyfle i’r cyhoedd, rhanddeiliaid, partneriaid a staff roi eu barn ar a ydynt yn cytuno â’r amcanion ac a oes angen cynnwys unrhyw beth arall. Rhannwyd yr ymgynghoriad hefyd ag aelodau ein Fforwm Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant, Undebau Llafur, a’n Grwpiau Adnoddau Gweithwyr – Rhwydweithiau Staff.

I grynhoi, roedd 75.3% o ymatebwyr yn cytuno â’r amcanion ar gyfartaledd gyda 17.1% yn dweud nad oeddynt yn siŵr a oeddent yn cytuno â’r amcanion, a 7.6% yn dweud nad oeddent yn cytuno â’r amcanion. Ni chafwyd unrhyw ymatebion Cymraeg. Defnyddiwyd ymatebion yr ymgynghoriad i gadarnhau a chryfhau’r canlyniadau hirdymor a fwriadwyd erbyn 2028. Bydd hyn yn llywio ymhellach y mesurau a chamau y bydd y bartneriaeth yn eu cymryd i gyflawni amcanion bwriedig y Cynllun Cydraddoldeb Strategol a Rennir.

Cydfwriad: ‘Cymdeithas Decach a Chymru Fwy Cyfartal’

Partneriaeth Cydraddoldeb Cyrff Cyhoeddus Cymru – Cydamcanion hirdymor (2024 – 2028)

Bydd Partneriaeth Cydraddoldeb Cyrff Cyhoeddus Cymru yn cydweithio i gyflawni’r canlynol:

Amcan 1: Cynyddu a gwella amrywiaeth y gweithlu a mynd i’r afael â bylchau cyflog.

  • Nod Partneriaeth 1:

Rydyn ni am i sefydliadau fod yn gynrychiadol o’r cymunedau maent yn eu gwasanaethu.

  • Camau Gweithredu
    1. Datblygu mentrau i ddileu rhwystrau i gyflogaeth a chreu cyfleoedd i dargedu grwpiau heb gynrychiolaeth ddigonol, er enghraifft drwy brofiad gwaith, cyfleoedd mentora, prentisiaethau ac interniaethau.
    2. Dileu bylchau cyflog drwy adrodd ac ystyried rhannu data bwlch cyflog nad yw’n ymwneud â rhywedd mewn perthynas â phynciau fel ethnigrwydd ac anabledd.
    3. Creu diwylliant o newid.

Amcan 2: Cynnwys cymunedau a rhanddeiliaid.

  • Nod Partneriaeth 2:

Rydym am fod yn rhagweithiol wrth gynnwys cymunedau a rhanddeiliaid amrywiol yng ngwaith y sefydliad, gan ddileu pob math o wahaniaethu sy’n ymwneud â nodweddion gwarchodedig, lleihau stigma a sicrhau bod pawb yn cael cyfle i gymryd rhan.

  • Camau Gweithredu
  1. Cynnwys rhanddeiliaid a chymunedau i ddatblygu gwasanaethau sy’n diwallu anghenion cymunedau amrywiol, er enghraifft drwy bolisïau a gynhyrchir ar y cyd, mentrau, ac ymchwil defnyddwyr.
  2. Nodi’r cyfleoedd iawn i gydweithio a gweithio mewn partneriaeth ar draws y sector cyhoeddus.
  3. Rhannu arferion arloesol a phrofiadau o ymgysylltu effeithiol.

Amcan 3: Ymgorffori cydraddoldeb mewn caffael a chomisiynu.

  • Nod Partneriaeth 3:

Sicrhau bod gwariant sector cyhoeddus Cymru’n mynd i’r afael ag anghydraddoldebau.

  • Camau Gweithredu
    1. Rhannu arferion da o ran ymgorffori gofynion Dyletswydd Cydraddoldeb y Sector Cyhoeddus, Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015, a Phartneriaeth Gymdeithasol a Chaffael Cyhoeddus.

Amcan 4: Darparu Gwasanaethau Cynhwysol.

  • Nod Partneriaeth 4:

Galluogi pawb i gymryd rhan yn llawn mewn cymdeithas drwy sicrhau mynediad teg i wasanaethau.

  • Camau Gweithredu
    1. Creu cyfleoedd cynhwysol i bawb drwy adlewyrchu anghenion grwpiau sydd â nodweddion gwarchodedig a chroestoriadedd.
    2. Hyrwyddo dysgu a phrosesau cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant o fewn sefydliadau i helpu i ddarparu gwasanaethau sy’n rhydd o wahaniaethu a thuedd, er enghraifft drwy Asesiadau o’r Effaith ar Gydraddoldeb.
    3. Rhannu arferion da a phrofiadau o ddarparu gwasanaethau cynhwysol, er enghraifft gwasanaethau digidol hygyrch.

Gweithredu’r pum ffordd o weithio - Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru)

Atal

Mae’r amcanion wedi’u llunio ar sail ein dealltwriaeth o wybodaeth ar anghydraddoldeb a welwyd drwy ‘A yw Cymru’n Decach?’ - Cyflwr cydraddoldeb a hawliau dynol, sef adolygiad y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol o ddyletswydd cydraddoldeb y sector cyhoeddus yn 2019, a gwybodaeth a gymerwyd gan ein sefydliadau ar y cyd. Roedd y broses ymgynghori yn cynnwys ymgysylltu â phobl o ystod o gymunedau a chefndiroedd gwahanol.

Hirdymor

Cydnabyddir yr amcanion lefel uchel fel amcanion hirdymor a fydd yn bodoli y tu hwnt i gylch pedair blynedd y CCS, bydd sefydliadau sy'n uno gyda'i gilydd y tu ôl i'r amcanion yn cael mwy o effaith ar genedlaethau'r dyfodol wrth fwynhau cymdeithas decach a Chymru mwy cyfartal.

Cydweithio

Bydd Cyrff Cyhoeddus yn uno y tu ôl i amcanion a rennir ac maent wedi ymrwymo i weithio gyda'i gilydd i gyflawni'r amcanion. Mae’r cyrff partner wedi llofnodi ‘memorandwm cyd-ddealltwriaeth’ sy’n amlinellu eu hymrwymiad i weithio ar y cyd.

Integraddio

Mae'r amcanion lefel uchel wedi'u llywio trwy fewnwelediad, maent yn cyd-fynd â nodau cydraddoldeb hirdymor Llywodraeth Cymru ac yn cyfrannu at Gymru fwy cyfartal (DLlCD) a chymdeithas decach (Deddf Cydraddoldeb, 2010). Mae gweithredu’r pum ffordd o weithio wedi ategu’r broses o integreiddio ar draws y dyletswyddau. Bydd pob un o’r cyrff partner yn integreiddio’r cydamcanion yn eu strategaethau a’u gwaith cynllunio.

Cynnwys

Mae rhanddeiliaid a defnyddwyr gwasanaethau cyhoeddus wedi cymryd rhan yn natblygiad amcanion. Drwy wireddu’r amcanion mae’r bartneriaeth wedi ymrwymo i ymgysylltu â phobl a chymunedau wrth gynllunio gwasanaethau a fydd yn sicrhau canlyniadau cyfartal a gwasanaethau sy’n diwallu anghenion pobl.

Cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant

 

Ein Hamcanion Cydraddoldeb Strategol 2024 - 2028

Diweddarwyd ddiwethaf