Cyfraddau goroesi pysgod ifanc yn cael hwb gan waith gwella Afon Dyfrdwy

Mae pysgod ifanc wedi cael eu gweld yn mynd trwy hollt yng Nghored Caer ddyddiau’n unig ar ôl i waith gwella gael ei gwblhau i helpu pysgod i fudo yn Afon Dyfrdwy.

Mewn partneriaeth ag Asiantaeth yr Amgylchedd, nod y gwaith oedd gwella’r llwybr i lawr yr afon ar gyfer eogiaid a brithyllod y môr ifanc fel rhan o brosiect LIFE Afon Dyfrdwy gwerth miliynau o bunnoedd, dan arweiniad Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC).

Wedi'i lleoli ar derfyn llanw Afon Dyfrdwy, mae Cored Caer yn 150 metr o hyd a 3 metr o uchder. Roedd giât canŵau a physgod a oedd yn bodoli eisoes ar waith ar gopa'r gored nad oedd wedi gweithredu ers dros 20 mlynedd.

Cyn y gwaith, roedd pysgod ifanc yn aml yn cael eu gohirio ar eu taith i lawr yr afon ger y gored, yn enwedig ar lifoedd isel yn y gwanwyn pan nad oedd digon o ddŵr i'w helpu i basio dros yr adeiledd.

Heb y gallu i nofio dros rwystr mor fawr o waith dyn, byddai pysgod yn ymgasglu uwchben y gored, lle roeddent yn fwy agored i ysglyfaethu gan adar a physgod mwy.

Gwnaethpwyd gwaith i ddatgymalu'r giât bresennol a'r adeiledd o'i chwmpas yn ystod llanw isel gan gontractwyr lleol profiadol, gan ddefnyddio pontŵn i gludo deunyddiau ar draws yr afon.

Gosodwyd giât ddur gwrthstaen newydd, wedi'i gwneud yn arbennig, sy'n cael ei gweithredu gan winsh ar y clawdd, gan ganiatáu iddi gael ei hagor a'i chau'n hawdd ar adegau allweddol trwy gydol y flwyddyn.

Dywedodd Gethin Morris, Uwch-swyddog Adfer Afonydd ar gyfer prosiect LIFE Afon Dyfrdwy:

“Mae'n wych gweld bod pysgod eisoes yn canfod eu ffordd drwy'r hollt, gan ddangos y manteision uniongyrchol o wneud y gwaith hwn.
Mae cysylltedd afonydd a gwella mynediad trwy adeileddau fel Cored Caer yn hanfodol ar gyfer mudo pysgod i fyny'r afon ac i lawr yr afon a bydd yn cael effaith uniongyrchol ar lwyddiant silio.
“Bydd y gwaith pwysig hwn yn darparu llwybr diogel i lawr yr afon ar gyfer pysgod ifanc, gan leihau oedi ar bwys y gored a chynyddu eu siawns o oroesi, sy’n hanfodol yn ein hymdrechion i helpu i wrthdroi’r dirywiad byd-eang mewn poblogaethau pysgod.”

Dywedodd Arweinydd Tîm Pysgodfeydd Asiantaeth yr Amgylchedd, Rebecca Marsh:

“Rydym yn falch iawn o weld canlyniadau mor gadarnhaol yn dilyn y gwaith gwella ar Gored Caer. Mae'n hanfodol bod pysgod yn gallu mudo trwy afonydd i helpu i gynnal eu poblogaethau bridio a darparu mynediad i gynefinoedd cynaliadwy.
“Mae Asiantaeth yr Amgylchedd wedi ymrwymo i weithio gydag eraill, gan gynnwys Prosiect LIFE Afon Dyfrdwy, i wella ecoleg afonydd a gwarchod y bywyd gwyllt lleol.”

Mae’r gwaith diweddar ar Gored Caer yn bwydo i mewn i raglen waith fwy'r prosiect ar draws holl ddalgylch Afon Dyfrdwy, sy’n cwmpasu ardal o fwy na 1,800 km².

Mae'r prosiect yn mynd i'r afael â materion megis colli cynefinoedd, tiroedd silio gwael, llygredd a rhwystrau o waith dyn, ac mae canlyniadau cadarnhaol eisoes i'w gweld.

Gyda phoblogaethau dŵr croyw yn dirywio'n gyflym, gan ostwng 83% ar gyfartaledd ers 1970 yn ôl Adroddiad Planed Fyw 2022, mae prosiect LIFE Afon Dyfrdwy yn ymladd i sicrhau y bydd Afon Dyfrdwy a’r ecosystem y mae’n ei chynnal yno er mwynhad cenedlaethau’r dyfodol.

Ariennir y prosiect gan raglen LIFE yr UE, Llywodraeth Cymru, Asiantaeth yr Amgylchedd, Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri a Dŵr Cymru, a bydd yn rhedeg tan fis Rhagfyr 2024.

I ddarganfod mwy am y prosiect, ewch i dudalen we y prosiect, dilynwch @LIFEAfonDyfrdwy ar y cyfryngau cymdeithasol neu anfonwch e-bost at y tîm yn lifedeeriver@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk

Dyma fideo o'r pysgod ifanc yn mynd trwy hollt yng Nghored Caer.