Diwrnod Amgylchedd y Byd – gall Cymru arwain y ffordd tuag at gael adferiad gwirioneddol wyrdd
Yn ôl yr hyn a ddywedodd Cadeirydd Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC), Syr David Henshaw heddiw (5 Mehefin 2020), rhaid i adferiad Cymru ar ôl pandemig y coronafeirws fod ar ffurf a all ategu’r ymateb i’r argyfwng hinsawdd.
Wrth i’r byd ddod ynghyd i ddathlu Diwrnod Amgylchedd y Byd 2020, tynnodd Syr David sylw at ymrwymiad CNC i gynorthwyo Llywodraeth Cymru i sicrhau adferiad gwyrdd sy’n rhoi blaenoriaeth i dwf economaidd cynaliadwy ac un a fydd o fudd i’r hinsawdd a’n hamgylchedd naturiol.
Wnaeth Syr David nodi sut y mae’n rhaid i Gymru arwain y ffordd ar hyd llwybr gwyrdd allan o’r argyfwng Covid-19 a sut y bydd ymateb Cymru i’r cyfyngiadau symud yn hollbwysig wrth benderfynu ar ein heffeithiolrwydd – neu ein haneffeithiolrwydd – wrth ymateb i’r argyfyngau hinsawdd a natur.
Medd Syr David Henshaw, Cadeirydd Cyfoeth Naturiol Cymru:
“Mae effaith Covid-19 wedi tynnu sylw at y pwysigrwydd a roddwn ar ein hamgylchedd lleol – yn enwedig pan fo’n rhaid cyfyngu ar ein mynediad iddo er budd pwrpas ehangach.
“Mae hefyd yn cyflwyno achos mwy grymus nag erioed o’r blaen dros fynd i’r afael â’r argyfwng hinsawdd. Mae’r addewidion a wnaeth CNC y llynedd o ran ymateb i’r her honno yn parhau i fod wrth galon popeth a wnawn. Bydd y cysyniad o gael adferiad gwyrdd yn siŵr o ychwanegu momentwm at daclo’r argyfwng hinsawdd, ynghyd â dyfnhau’r ymrwymiad sy’n angenrheidiol i lwyddo.”
Gan edrych ar sut y gellid sicrhau adferiad gwyrdd yn effeithiol, mae CNC yn awgrymu y gallai pecyn cyffredinol ganolbwyntio ar:
- Adferiad sy'n cryfhau ein heconomïau lleol trwy fanteisio ar y cysylltiad sydd gennym bellach â'n cymunedau.
- Datblygu mesurau teithio llesol a fydd yn helpu i ddiogelu ansawdd yr aer rydyn ni'n ei anadlu nawr.
- Sicrhau pecynnau cymorth i fusnesau a sectorau sydd â datgarboneiddio ac atebion seiliedig ar natur wrth eu calon a’u craidd;
- Diwygio a datblygu uchelgeisiau polisi tymor hwy mewn meysydd fel cymorth amaethyddol a rheoli tir ar ôl Brexit, a’r dull o ddatblygu economi fwy cylchol.
Cadarnhawyd Syr David hefyd y bydd y sector amgylcheddol yn gweithio gyda’i gilydd i ddatblygu ymateb cydlynol i agenda adferiad gwyrdd
Medd Syr David:
“Yn ystod Diwrnod Amgylchedd y Byd eleni, mae angen i bawb yng Nghymru – y llywodraeth, y sectorau preifat, trydydd a thwristiaeth, cyrff anllywodraethol amgylcheddol, y sectorau amaethyddol a hamdden a'n cymunedau ledled Cymru – weithio gyda’i gilydd i fynd i’r afael â’r her fyd-eang hon, gan fachu ar y cyfle i arwain y ffordd tuag at adferiad gwirioneddol wyrdd.”