Cwblhau gwaith i wella ansawdd dŵr Afon Alun
Mae gwaith hanfodol wedi'i gwblhau ar Afon Alun yn Llandegla, Sir Ddinbych, a fydd yn helpu i wella ansawdd ei dŵr ac yn rhoi hwb amserol i boblogaeth bywyd gwyllt yr afon.
Cynhaliodd swyddogion Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) y gwaith gyda’r nod o leihau gwastraff da byw a gwaddodion glan yr afon rhag mynd i mewn i’r afon. Mae hyn wedi bod yn broblem yn y gorffennol oherwydd bod gwartheg a defaid yn defnyddio'r afon fel ffynhonnell dŵr yfed.
Roedd y gwaith yn cynnwys codi 700m o ffensys gwrth-stoc dwbl i gadw'r holl dda byw allan o'r rhan hon o'r cwrs dŵr. Crëwyd cyflenwad dŵr yfed newydd ar gyfer y da byw gerllaw diolch i bwmp solar oedd newydd ei osod.
Mae rhagfuriau meddal - deunydd pren wedi'i wehyddu gyda'i gilydd - wedi'u gosod ar droadau’r afon i helpu i leihau gwaddod rhag mynd i mewn i'r afon. Byddant hefyd yn helpu i leihau erydiad glan yr afon ac yn cynnig cynefin hanfodol i adar, infertebratau a phoblogaethau pysgod.
Ar ôl cwblhau’r gwaith ffensio, bu swyddogion CNC wedyn yn gweithio mewn partneriaeth â phrosiect Coetiroedd ar gyfer Dŵr Ymddiriedolaeth Natur Gogledd Cymru i blannu 1,500 o goed y tu ôl i linell y ffens er mwyn helpu i atal erydiad ymhellach drwy rwymo priddoedd glan yr afon.
Bydd y coed hefyd yn cynnig cysgod ym mlaenddyfroedd Afon Alun gan helpu i ostwng tymheredd y dŵr a chynyddu gwytnwch yr afon yn ystod yr hafau sychach a chynhesach rydym yn eu profi o ganlyniad i’r argyfwng hinsawdd.
Mae Afon Alun yn un o lednentydd Afon Dyfrdwy. Mae'n codi ym mhen deheuol bryniau Clwyd ac mae Dyffryn Alun yn rhan o Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy.
Dywedodd Rhys Ellis, Arweinydd Tîm Amgylchedd CNC:
“Mae gwella ansawdd dŵr afonydd a helpu i adfer byd natur er lles pawb.
“Mae’r gwaith pwysig ar Afon Alun yn cynnig nifer o fuddion i bobl a bywyd gwyllt, trwy wella ansawdd dŵr, hybu natur a gwella gwytnwch yr afon mewn hinsawdd gynhesach.
“Mae’r prosiect hwn hefyd yn enghraifft amhrisiadwy o waith partneriaeth ar ei orau. Trwy weithio’n agos gyda thirfeddianwyr lleol, Ymddiriedolaeth Natur Gogledd Cymru, gwirfoddolwyr a chymunedau lleol rydym wedi gallu gofalu’n well am Afon Alun trwy ddod o hyd i atebion cynaliadwy a fydd o fudd i genedlaethau’r dyfodol.”