Diweddariad Safle Tirlenwi Withyhedge 4 Ebrill 2024

Swyddog rheoleiddio CNC yn arolygu yn safle tirlenwi Withyhedge

Ar 13 Chwefror 2024, cyflwynodd CNC Hysbysiad Gorfodi Rheoliad 36 i RML, gweithredwr safle tirlenwi Withyhedge yn ei gwneud yn ofynnol iddo gwblhau nifer o gamau gweithredu mewn ymateb i achosion o ddiffyg cydymffurfio â thrwyddedau a nodwyd a oedd yn gysylltiedig ag allyriadau nwyon tirlenwi ac arogleuon oddi ar y safle.

Rydym wedi ymweld â safle tirlenwi Withyhedge ar sawl achlysur dros yr wythnosau diwethaf i wirio cynnydd mewn perthynas â’r camau a nodwyd yn yr Hysbysiad, ac i sicrhau nad yw’r gwaith wedi creu unrhyw broblemau eraill.

Erbyn diwedd y dydd ar 5 Ebrill 2024, mae'n ofynnol i'r gweithredwr fod wedi cwblhau gwaith paratoi, capio, a gosod seilwaith nwy ar fàs gwastraff heb ei gapio o'r blaen. Pwrpas y gwaith a nodir yn yr Hysbysiad yw cynnwys a chasglu nwy tirlenwi sy'n cael ei gynhyrchu yn yr ardal hon.

Ddydd Llun 8 Ebrill 2024 bydd CNC yn mynychu Safle Tirlenwi Withyhedge i asesu cydymffurfiaeth â’r camau sy’n ofynnol gan yr Hysbysiad, ac i archwilio pob rhan arall o'r safle. Byddwn yn ystyried y canfyddiadau yn fewnol, ac yn trafod gyda Chyngor Sir Penfro ac Iechyd Cyhoeddus Cymru yn ein cyfarfod amlasiantaethol ar 10 Ebrill. Byddwn yn cyhoeddi diweddariad ar y camau nesaf yn ei dro.

Wrth i waith ar y safle fynd rhagddo, roeddem wedi rhagweld y byddai allyriadau yn lleihau ac felly byddai adroddiadau ar arogleuon hefyd yn lleihau.

Fodd bynnag, dros yr wythnosau diwethaf, rydym wedi derbyn nifer fawr o adroddiadau ac mae swyddogion CNC wedi cadarnhau arogleuon oddi ar y safle o’r safle tirlenwi yn achlysurol.

Yn dilyn nifer fawr o alwadau ddydd Mawrth 2 Ebrill, aeth swyddogion CNC i Withyhedge i gynnal asesiad arogleuon ar y safle ac yn y cymunedau cyfagos. Er bod nwy tirlenwi wedi’i ganfod mewn un lleoliad, arogleuon amaethyddol a ganfuwyd yn bennaf ar yr adeg honno. Fodd bynnag, o ystyried pryderon parhaus gan y gymuned, a’r posibilrwydd nad oedd ein hasesiad yn cyd-fynd â’r cyfnod lle’r oedd arogleuon ar eu cryfaf, byddwn yn cynnal asesiadau arogleuon pellach dros y dyddiau nesaf.

Bydd ein presenoldeb rheoleiddio yn parhau ar y safle i gyd-fynd â'n blaenoriaeth i sicrhau bod y safle'n cael ei weithredu a'i reoli yn unol â'r drwydded, yn enwedig mewn perthynas â rheoli allyriadau. Bydd unrhyw gamau gorfodi yn cael eu cymryd yn unol â'n Polisi Gorfodi a Sancsiynau.