Diweddariad Ymchwiliad Tirlenwi Withyhedge 12.3.24.

Swyddog rheoleiddio CNC yn arolygu yn safle tirlenwi Withyhedge

Rydym wedi cael nifer fawr iawn o gwynion am arogleuon ers prynhawn ddoe.

Rydym yn gwneud ymholiadau i gadarnhau a oes esboniad am yr adroddiadau o arogl cryfach na'r arfer, ac un sydd wedi ymledu’n ehangach yn ystod y 36 awr ddiwethaf.

Roeddem wedi cofnodi gostyngiad cyson yn nifer yr adroddiadau am arogleuon yn ystod yr wythnosau diwethaf tan nawr.

Hysbysiad Gorfodi

Ar 13 Chwefror 2024 gwnaethom gyflwyno Hysbysiad Gorfodi i'r gweithredwr tirlenwi. Rydym yn dal o’r farn fod y gwaith sy'n ofynnol o dan yr Hysbysiad hwn yn cynrychioli'r ffordd fwyaf effeithiol o gael gwared ar ffynhonnell yr arogl.  

Roedd yr Hysbysiad yn ei gwneud yn ofynnol i RML gwblhau nifer o gamau gweithredu yn ymwneud â màs o wastraff heb ei gapio, a oedd wedi'i nodi fel y ffynhonnell fwyaf tebygol o allyriadau nwyon tirlenwi ac arogleuon. Mae'r Hysbysiad yn cynnwys nifer o gamau gweithredu, y mae angen i rai ohonynt ddigwydd mewn trefn benodol, a adlewyrchir gan derfynau amser cwblhau gwahanol.   

Cam gweithredu cyntaf wedi'i gwblhau

Cwblhawyd y cam gweithredu cyntaf, a oedd yn ymwneud â gwaith paratoi cyn capio, yr wythnos diwethaf, cyn y dyddiad cau, sef 15 Mawrth 2024. Mae hyn hefyd wedi galluogi'r gwaith capio i fynd rhagddo yn gynt na'r disgwyl. Yn ogystal, mae'r holl ffynhonnau nwy yn eu lle ac yn barod i'w cysylltu â'r seilwaith casglu nwy tirlenwi unwaith y bydd y gwaith capio wedi'i gwblhau.

Arolwg nwy

Datgelodd arolwg nwy a gynhaliwyd gan CNC yn ystod arolygiad cydymffurfio yr wythnos diwethaf ar 7 Mawrth 2024 lefelau llawer is o fethan o gymharu ag arolwg tebyg ar 19 Rhagfyr 2023 ar draws llawer o’r ardal sy’n destun yr Hysbysiad. Fodd bynnag, mae ardaloedd o wastraff sydd heb eu capio eto ac mae gan y rhain y potensial i ryddhau nwy.

Gwaith peirianyddol

Mae CNC yn gobeithio y bydd yr holl waith peirianneg ar yr ardal nad oedd wedi’i chapio o’r blaen wedi’i gwblhau cyn y dyddiad cau, sef 5 Ebrill 2024. Fodd bynnag, rydym yn cydnabod y gofid, dicter a rhwystredigaeth a achoswyd gan effaith arogleuon ar gymunedau lleol yn ystod y dyddiau diwethaf. Rydym yn cynnal trafodaethau dyddiol gyda’r gweithredwr tirlenwi ynghylch natur frys y sefyllfa a byddwn yn mynychu’r safle eto yr wythnos hon.

Ansawdd aer

Ddydd Gwener 8 Mawrth 2024, ymunodd CNC â chyfarfod Cell Ansawdd Aer aml-asiantaeth ynghylch monitro oddi ar y safle. Disgwylir canlyniadau o'r set gyntaf o diwbiau tryledu a osodwyd yn y cymunedau o amgylch y safle tirlenwi yn gynnar yr wythnos nesaf. Bydd pob awdurdod gan gynnwys Iechyd Cyhoeddus Cymru yn derbyn y data.

Ffurflen adrodd bwrpasol

Parhewch i roi gwybod am arogleuon trwy ein ffurflen adrodd bwrpasol neu ffoniwch 0300 065 3000.

CAPSIWN LLUN: Swyddog rheoleiddio CNC yn arolygu uniondeb yr ardal gap a'r system rheoli nwy