Hwb i fywyd gwyllt ar ôl adfer pwll twyni yn Niwbwrch
Mae gwaith adfer sylweddol ar Bwll Pant Mawr yn y twyni yng Ngwarchodfa Natur Genedlaethol a Choedwig Niwbwrch yn Ynys Môn wedi helpu bywyd gwyllt i ffynnu.
Mae’r gwaith, a wnaed gan Gyfoeth Naturiol Cymru (CNC) gyda chymorth gan brosiect Twyni Byw, wedi helpu i warchod bywyd gwyllt prin, gan gynnwys mathau prin o rawn yr ebol, amffibiaid a gelod meddyginiaethol, ar y safle sydd wedi’i gydnabod yn rhyngwladol.
Cloddiwyd Pwll Pant Mawr yn wreiddiol fel pwll mawr yn y twyni ar ddechrau’r 1960au i gynyddu bioamrywiaeth, ond yn ystod y degawd diwethaf fe lenwodd yn raddol â thywod a byddai’n sychu yn yr haf yn aml.
Yn ystod y gwaith adfer, tynnwyd 21,000 tunnell o dywod o’r ymylon i greu parthau trawsnewid lletach a mwy graddol rhwng cynefinoedd, sydd wedi cynyddu arwynebedd y cynefinoedd sy’n gorlifo’n dymhorol.
Roedd y dyluniad yn darparu ar gyfer amrywiaeth eang o wahanol rywogaethau, gan gynyddu gwerth y pwll o ran bioamrywiaeth.
Mae arolygon cychwynnol wedi’r gwaith adfer wedi dangos cynnydd aruthrol mewn rhywogaethau prin o rawn yr ebol, rhai ohonynt mewn perygl difrifol yn y DU, tra bo’r amodau wedi gwella’r cynefin i’r fadfall ddŵr gribog, gyda chynnydd arwyddocaol wedi’i gofnodi ym mis Mai 2022 gan Brifysgol Bangor.
Mae’r ymylon sydd bellach yn fas yn rhoi cynefin mwy addas i’r ele feddyginiaethol a gobeithir y bydd y boblogaeth yn cynyddu’n aruthrol dros y blynyddoedd nesaf.
Bydd llecynnau o dywod noeth yn cael eu tynnu’n ddiweddarach eleni er mwyn darparu clytiau o wlypdir ar ochr ddeheuol y pwll.
Meddai Richard Berry, Arweinydd Tîm Rheoli Tir CNC yn Niwbwrch:
“Mae Gwarchodfa Natur Genedlaethol a Choedwig Niwbwrch yn safle o bwys rhyngwladol o ran cadwraeth natur, am ei fod yn un o ddim ond llond llaw o systemau twyni o’r fath o’r maint hwn, ac yn cynnal rhai o’r rhywogaethau mwyaf prin yn Ewrop.
“Rydyn ni’n ymgymryd ag ystod o brosiectau arloesol ac uchelgeisiol i warchod a gwella gwerth Niwbwrch o ran cadwraeth natur, ac mae sicrhau bod safleoedd fel y rhain yn iach yn ein helpu i fynd i’r afael â’r argyfyngau hinsawdd a natur.
“Mae CNC hefyd wedi bod yn gweithio mewn partneriaeth â phrosiect Twyni Byw, a fydd yn fuan yn cloddio pwll wrth ymyl Pwll Pant Mawr i gynyddu’r cynefin bridio i’r fadfall ddŵr gribog.
“Byddwn yn parhau i weithio’n agos ag aelodau’r gymuned a rhanddeiliaid o ran ein gwaith rheoli ar y safle pwysig hwn sy’n cael ei gydnabod yn rhyngwladol.”
Mae Twyni Byw yn brosiect wedi’i gyllido gan yr UE ac sy’n cael ei arwain gan CNC, ac mae’n adfer dros 2,400 hectar o dwyni tywod, ar draws pedair Ardal Cadwraeth Arbennig, ar 10 o safleoedd gwahanol yng Nghymru.
Ddysgu mwy am Warchodfa natur Genedlaethol a Choedwig Niwbwrch