Gwaith hanfodol yn dechrau ar gynefinoedd cors prin
Disgwylir i brosiect sy'n cael ei redeg gan Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) greu bron i 40 milltir o gloddiau mawn isel i helpu i amddiffyn ac adfer rhai o gynefinoedd cyforgors prinnaf Cymru.
Bydd bron i 40 milltir (64km) o gloddiau mawn isel yn cael eu creu ar ddau safle cyforgors prin yng Ngheredigion ym mis Awst fel rhan o brosiect Adfywio Cyforgorsydd Cymru LIFE.
Nid oes unrhyw brosiect mawndir yng Nghymru wedi ceisio adfer ardal fwy na hon o’r blaen.
Bydd y cloddiau mawn isel, neu fynds fel y'u gelwir yn aml, yn rhan hanfodol o'r gwaith adfer a wneir gan Brosiect Adfywio Cyforgorsydd Cymru LIFE.
Bydd y gwaith byndio yn helpu i adfer lefelau dŵr naturiol ar y cyforgorsydd, gan eu gwneud yn wlypach a chreu ardaloedd lle gall migwyn (mwsogl y gors) pwysig sefydlu a ffynnu.
Bydd y gwaith yn cychwyn dros y dyddiau nesaf ar ddau safle cyforgors yng Ngheredigion, sef Gwarchodfa Natur Genedlaethol (GNG) Cors Caron a Chors Fochno sy'n rhan o GNG Dyfi.
Mae'r ddau safle wedi dioddef oherwydd hanes cymhleth o reoli, ac o ganlyniad, mae'r corsydd mawn wedi mynd yn sychach.
Mae craciau a thyllau wedi datblygu yn y mawn sych, sydd wedi caniatáu i blanhigion ymledol fel glaswellt y bwla (molinia) a rhododendron gymryd drosodd, gan dra-arglwyddiaethu dros blanhigion pwysig fel migwyn, gwlithlys a hesg prin.
Migwyn yw blociau adeiladu cyforgorsydd ac wrth iddo ddadelfennu'n araf o dan amodau dwrlawn mae'n ffurfio pridd mawn brown tywyll. Mae amrywiaeth o figwyn yn arwydd o gors iach, ac mae'r mawn y mae'n ei greu yn amsugno ac yn storio tunelli o garbon o'r atmosffer yn naturiol, gan helpu yn y frwydr yn erbyn newid yn yr hinsawdd.
Mae cyforgorsydd iach hefyd yn storio dŵr ac yn darparu cynefin gwych sy'n cael ei ddefnyddio gan amrywiaeth eang o fywyd gwyllt gan gynnwys gweirloynod mawr y waun, ehedyddion, dyfrgwn, llygod pengrwn y dŵr, pryfed cop, gweision y neidr a mursennod.
Dywedodd Jake White, Swyddog Prosiect Adfywio Cyforgorsydd Cymru LIFE gyda Cyfoeth Naturiol Cymru:
“Nod ein prosiect yw amddiffyn ac adfer storfeydd carbon pwysig y cyforgorsydd, adfywio twf mawn a chynnal eu bioamrywiaeth ryfeddol.”
“Yn y gorffennol, mae byndio wedi digwydd ar raddfa lai gan brosiectau mawndir ledled y DU, ond dyma’r tro cyntaf i brosiect yng Nghymru geisio gwneud y math hwn o waith ar raddfa o’r fath.”
Bydd y byndiau oddeutu 25cm o uchder ac yn dilyn cyfuchliniau naturiol cromenni’r cyforgorsydd. Bydd hyn yn gwella lefelau dŵr ar gromen y gors gyda'r nod o'i sefydlogi o fewn 15cm i wyneb y gors.
Trwy greu'r byndiau, ailbroffilio byndiau presennol a thynnu prysgwydd a llystyfiant arall, amcangyfrifir y bydd bron i 622 hectar (sy'n cyfateb i 622 o gaeau rygbi!) o gynefin cors yn elwa ac yn cael eu hadfer i gyflwr da.
Mae mawndiroedd mewn cyflwr da yn darparu llawer o'r pethau y mae cymdeithas yn dibynnu arnynt; dŵr glân, amddiffyniad rhag llifogydd, storfa ar gyfer carbon o'r atmosffer, ac maent hefyd yn lleoedd gwych i bobl fwynhau'r awyr agored.
Bydd bywyd gwyllt hefyd yn elwa o'r gwaith adfer hwn, er enghraifft bydd ardaloedd bwydo ar gyfer adar fel y pibydd coesgoch a’r gïach cyffredin yn cynyddu, a bydd creu pyllau migwyn bas yn darparu mannau bridio perffaith ar gyfer infertebratau prin fel y fursen fach goch yn ystod misoedd y gwanwyn a'r haf.
Ychwanegodd Jake:
“Efallai y bydd ymwelwyr â’r safleoedd yn gweld peiriannau arbenigol mawr dros fisoedd yr hydref a’r gaeaf, felly rydyn ni’n ceisio gwneud ymwelwyr yn ymwybodol o’r gwaith ymlaen llaw fel nad ydyn ni’n achosi unrhyw bryder gormodol.
“Mae gan y peiriannau arbenigol draciau llydan i’w helpu i arnofio ar y gors, tra bydd dulliau gweithio o ddefnyddio matiau cors o dan y peiriannau hefyd yn lleihau’r effaith ar wyneb bregus y gors.”
I gael y wybodaeth ddiweddaraf am y gwaith adfer, ewch i'n tudalen Facebook @CyforgorsyddCymruWelshRaisedBogs neu'r dudalen Twitter @Welshraisedbog