Gwaith torri coed brys yng Nghoedwig yr Hafod
Caiff coed eu torri yng Nghoedwig yr Hafod, Ceredigion, a hynny er mwyn cael gwared ar goed sydd wedi'u heintio ac sydd bellach yn anniogel.
Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) sy’n gwneud y gwaith, a fydd yn dechrau ddydd Llun 9 Hydref 2023.
Bydd y coed yn cael eu torri mewn ardal 6.5 hectar o faint yn y goedwig. Mae hyn yn cynnwys y coed ffynidwydd aeddfed sydd wrth fynedfa'r ystâd wrth ddod o’r maes parcio.
Dywedodd Alan Wilson o Dîm Gweithrediadau Coedwig CNC yn y Canolbarth:
“Mae torri’r coed hyn yn hanfodol gan eu bod wedi’u heintio’n wael ag amrywiaeth o glefydau. Mae’r coed bellach mewn cyflwr gwael, yn dangos arwyddion o ddirywiad cyflym, gyda darnau mawr o risgl yn disgyn oddi ar lawer o’r coed”.
“O gadw’r coed, fe fydden nhw’n mynd yn ansefydlog ac fe allen nhw gwympo - a hynny mewn ffordd afreolus gan beryglu diogelwch cerddwyr a diogelwch y safleoedd treftadaeth sydd gerllaw, megis yr Eglwys.
“Ar ôl i’r gwaith cwympo gael ei wneud, caiff yr ardaloedd eu hadfywio gyda choed llydanddail, drwy gymysgedd o blannu ac aildyfu naturiol. Yn y pen draw, bydd hyn yn helpu bioamrywiaeth i ffynnu drwy sicrhau cynefin mwy amrywiol - coed o wahanol oedrannau, gwahanol rywogaethau ac ati.
“Hoffem ddiolch i aelodau'r gymuned leol am eu cydweithrediad a'u dealltwriaeth.”
Bydd arwyddion yn cael eu gosod a bydd rhywfaint o darfu dros dro er mwyn caniatáu i'r gwaith gael ei wneud yn ddiogel.
Gofynnir i ymwelwyr â’r goedwig gymryd gofal drwy gadw at lwybrau sydd wedi'u marcio, talu sylw i holl arwyddion y safle, a chadw cŵn ar dennyn.
Os oes gennych unrhyw ymholiadau, cysylltwch â 0300 065 3000 neu ymholiadau@cyfoethnaturiol.cymru