Y diweddaraf am fanwerthu ac arlwyo yng nghanolfannau ymwelwyr Cyfoeth Naturiol Cymru
Bydd y ddarpariaeth manwerthu ac arlwyo mewn tair canolfan ymwelwyr a reolir gan Cyfoeth Naturiol Cymru yn parhau tan 31 Mawrth 2025, ac yna byddant yn cau.
Ar ôl iddynt gau, byddwn yn lansio ymarfer cyhoeddus i chwilio am bartneriaid a allai fod â diddordeb i helpu i redeg y gwasanaethau hyn ym Mwlch Nant yr Arian, Ynyslas a Choed y Brenin yn y dyfodol.
Bydd yr holl lwybrau, meysydd parcio, mannau chwarae a chyfleusterau toiled yn parhau ar agor ar y safleoedd dan sylw a byddwn yn cynnal cyfarfodydd cyhoeddus i roi’r diweddaraf i gymunedau ar 25, 26 a 27 Tachwedd.
Dywedodd Elsie Grace, Pennaeth Datblygu Masnachol CNC:
"Rydym yn deall pa mor bwysig yw ein safleoedd i gymunedau lleol ac i ymwelwyr ac rydym yn gwybod bod y penderfyniad i roi'r gorau i ddarparu gwasanaethau arlwyo a manwerthu wedi siomi llawer o bobl.
“Mae ein bwrdd wedi gwneud y penderfyniad mewn ymateb i'r sefyllfa ariannol gyfyng iawn yr ydym ni a chyrff cyhoeddus eraill yn ei hwynebu.
"Byddwn yn chwilio am bartneriaid - yn grwpiau cymunedol ac yn fusnesau - i gofrestru diddordeb i ddarparu’r gwasanaethau hyn wrth symud ymlaen, a byddwn yn darparu mwy o wybodaeth ar sut i gyflwyno datganiadau o ddiddordeb cyn lansio unrhyw ymarfer tendro.
"Yn y cyfamser, bydd ein holl lwybrau, meysydd parcio, mannau chwarae a chyfleusterau toiled yn parhau ar agor a byddwn yn parhau i gynnal ein safleoedd er mwyn sicrhau bod mynediad i'r cyhoedd yn parhau.
“Hoffwn hefyd ddiolch i’n staff am eu gwaith caled a’u hymroddiad yn y cyfnod yma.
"Rydym yn edrych ymlaen at groesawu aelodau o'r cyhoedd a rhanddeiliaid i'n cyfarfodydd yn y dyfodol agos fel y gallwn ddarparu mwy o wybodaeth."
Mae CNC yn sefydliad sector cyhoeddus ac mae ganddo reoliadau a phrosesau caffael llym y mae'n rhaid eu dilyn.
Er mwyn sicrhau tegwch a chydraddoldeb, ni fydd unrhyw gynigion yn cael eu hystyried cyn dechrau unrhyw broses dendro gyhoeddus a byddwn yn darparu mwy o fanylion am y broses hon, gan gynnwys y dyddiad dechrau, maes o law.
Maes o law, byddwn yn defnyddio gwefan GwerthwchiGymru, a gall unrhyw un sydd â diddordeb gofrestru ar y platfform cyn i unrhyw broses ddechrau.
Bydd y cyfarfodydd yn cael eu cynnal yn:
Neuadd Gymunedol y Borth, Stryd Fawr, y Borth, SY24 5LH, 25 Tachwedd, yn dechrau am 7pm.
Neuadd Penllwyn Capel Bangor, Aberystwyth, SY23 3LS, 26 Tachwedd, yn dechrau am 6.30pm.
Neuadd Bentref Ganllwyd, Llafar Y Lli, Ganllwyd, LL40 2TF, 27 Tachwedd, yn dechrau am 6.30pm.
Nid oes angen archebu lle ond byddwch yn ymwybodol y gallai’r lleoliadau fod yn llawn iawn.