Diweddariad Mai 17: Ymateb aml-asiantaeth i dân i ffatri ar Ffordd Dinbych, Yr Wyddgrug

Mae'r cam adfer aml-asiantaeth bellach ar y gweill yn dilyn y tân mewn ffatri ar Ffordd Dinbych, yr Wyddgrug.

Dywedodd Lyndsey Rawlinson o Cyfoeth Naturiol Cymru:

“Mae ein gwaith samplo a monitro dŵr helaeth ers y digwyddiad wedi dangos bod lefelau llygredd yn afon Alun wedi disgyn yn sylweddol a’u bod o fewn lefelau diogel. Nid oes angen cadw anifeiliaid anwes neu dda byw i ffwrdd o'r dŵr mwyach.
“Mae gwaith monitro hefyd wedi dangos bod yr effaith ar fioamrywiaeth afon Alun wedi’i chyfyngu i’r darn o’r afon sy’n union gerllaw lle roedd y tân yn y ffatri ac mae pysgod bellach yn dychwelyd i’r ardal.
“Bydd y gwaith glanhau a’r cam adfer aml-asiantaeth yn parhau dros yr wythnosau nesaf a bydd ein swyddogion yn parhau â’r gwaith samplu dŵr arferol yn afon Alun.”